Technoleg Wybodaeth
Sut beth yw dawn gwybodaeth. Mae KATE WOODWARD yn llawn clod i ddrama newydd gan Siôn Eirian sydd yn trafod chwydro gwybodaeth Oes y We Fyd Eang
Trysor o beth i actorion Cymru bellach yw sgript newydd sbon. Galluoga hyn yr actorion a’r cyfarwyddydd i fentro i dir nas troediwyd erioed o’r blaen; rhyw fath o wlad newydd. Ond sgript newydd gan Siôn Eirian? Bron na allaf ddychmygu Tim Baker a myfyrwyr ifanc Coleg Cerdd a Drama Cymru yn glafoerio uwch ei ben, wrth arbrofi gyda’r tir difrycheulyd hwnnw. Mae’n siwr y byddai actorion mwyaf profiadol a phroffesiynol Cymru yn awchu am gael y profiad hwnnw; i archwilio’r amrywiol haenau mewn drama gan _r a ddaeth â Wastad ar y Tu Fas, Elvis, Y Blew a Fi, Epa yn y Parlwr Cefn a Paradwys Waed, i’n theatrau, a chwythu anadl i gymeriadau sydd wedi bodoli ar bapur yn unig.
Dyma’r adwdur nad yw erioed wedi bod ofn peri i ni, y gynulleidfa, anesmwytho. Rhyw eistedd yn anghyfforddus mewn sêt theatr fu’r profiad o wylio dramâu Siôn Eirian erioed, wrth iddo ymarafael â phynciau dadleuol a heriol, a hynod o gymhleth, ac wedi eu trafod yn drylwyr ac uniongyrchol, gyda iaith delynegol, farddonol ar y naill law, a deialog galed, amrwd ar y llaw arall.
Os mai mentro i dir newydd a wnaeth y pum myfyriwr a Tim Baker wrth afael yn y sgript am y tro cyntaf; mentro i dir newydd a wnaeth Siôn Eirian gyda’i ddrama ddiweddaraf hefyd. Pwnc trafod y ddrama yw’r ‘chwyldro newydd’ sydd mor holl bresennol yn ein bywydau bob dydd, a’n hagwedd ni tuag ato. Drama gan ddyn sy’n gofidio yw Cegin y Diafol drama sy’n bair o gwestiynau yngl_n â’n cynnydd a’n datblygiad cymdeithasol fel dynoliaeth yn wyneb newidiadau anhygoel ym myd cyfathrebu. Fe leisia ofnau am ddyfodol ein cymdeithas yn wyneb datblygiad mor enfawr, mor holl-bresennol, mor aml-haenog â’r we fyd-eang. Yr hyn y ceisia’r awdur ei wneud trwy’r ddrama yw ein gorfodi i feddwl am oblygiadau cymdeithasol a ieithyddol ein perthynas â’r dulliau newydd o gyfathrebu, a’r modd y maent yn mynd i newid ein ffyrdd o greu rhyngberthnasau ystyrlon â’n gilydd. Y cwestiwn sy’n ddolef ddiddiwedd trwy gydol y ddrama ydy a yw’’r chwyldro dot.com yma yn ein coloneiddio ni?
Coloneiddio – ie, nid gair sy’n llithro yn rhwydd i sgyrsiau bob dydd, ond gair sy’n boenus o amlwg yn y ddrama hon. Amlyga Siôn Eirian y modd y mae yna beryg i ni gael ein clymu a’n caethiwo gan y dechnoleg newydd; a chanlyniad hyn fydd coloneiddio meddyliol. Y nodwedd amlycaf o’r we yw ein bod bellach bron wedi lledu i’r byd cyfan, ac mae ofnau Siôn Eirian yn amlwg am y canlyniadau i’r ddynoliaeth, yn ogystal â’r goblygiadau i Gymru. Yn y ddrama drwyddi draw, fe geir esiamplau gwahanol o goloneiddio, o ddyfodiad milwrol y Rhufeiniaid a’u gorchestion concwerol, i ddyfodiad y chwyldro printiedig, sydd wedi esgor ar nifer o sylfeini ein cymdeithas.
Gyda’r rhan fwyaf o’n syniadaeth fodern yngl_n â defnyddiau deallusol wedi eu ffurfio gan y gair printiedig, megis ein syniadau yngl_n ag addysg, gwybodaeth, a gwirionedd, ofna Siôn Eirian bod y chwyldro newydd yn mynd i ddadwneud yr hyn a adeiladwyd gan ddyn fel canlyniad i’r chwyldro printiedig.
Yn hyn o beth, y mae meddyliau a phoen meddwl Siôn Eirian yn adleisio ofnau’r Americanwr Neil Postman yn ei lyfr Amusing Ourselves To Death ymdriniai â newidiadau cymdeithasol o ganlyniad i ddyfodiad y teledu. Yr hyn a gred y ddau awdur yw bod yna gysylltiad cryf iawn rhwng ffyrdd dynol o gyfathrebu ac ansawdd ein diwylliant hwnnw, boed yn draddodiad print, yn draddodiad teledu, neu’n draddodiad rhyngrwyd.
Byd llwyd yw Cegin y Diafol ‘byd llwyd lle bu lliw’; byd sy’n llawn cymeriadau caeth yn chwilio am ystyr yn eu byd cyfnewidiol. Llwyddwyd i gyfleu hyn yn effeithiol gan ddisgleirdeb crôm y teclynnau coginio di-ri oedd yn gefnlen i’r set, yn ogystal â’r golau glas oed yn taflu ei gysgod oeraidd ar ei hyd. Cyfarfyddwn â Gwylan (Catrin Mara), dynes sy’n ymddangos yn seicotig, dynes na fentrodd erioed allan o’i byd bach diogel ac sy’n gaeth i gyffur. Yn ogystal â hynny mae hi’n gaeth i ddymuniadau Apple Man, cymeriad na welwn ond sy’n hollbresennol, cymeriad sy’n lliwio ei bywyd. Portreadwyd y cymeriad yn anhygoel o dda gan Catrin Mara, gydag amseru comig llwyddiannus iawn, yn ogystal â’r gallu i ddangos i ni wendid y cymeriad, er ei rhefru a’i sgrechian gwyllt.
Cymeriadau dau-ddeimensiwn bwriadol yn y ddrama yw Sophie a Pam (Katie Jarman ac Ellen Gwynne). Dyma ddwy sydd wedi cofleidio’r chwyldro yn ei holl ogoniant. Ym ffrith o ffonau symudol, ac o jargon cyfrifiadurol, dyma ddwy cyber-babe sydd wedi mopio’n llwyr efo’r Web Master gyda’u ffordd o gyfathrebu eisoes yn drwm o ddylanwad y chwyldro, gyda’u geirfa’n frith o invalid passwords a Web master. Adroddwyd hanes ddiweddaraf ‘seleb’ ar ôl ‘seleb’ i ni, gwybodaeth ddiystyr a leiswyd mewn llais Americanaidd, a amlyga’r diwylliant ‘byd-eang’ a gr_ir gan y We. Edrycha’r ddwy yma tuag at y We gan obeithio cael profiad ystyrlon, ond mewn gwirionedd, gwacter ystyr a geir yno. Roedd egni anhygoel yn nodweddu eu perfformiadau, ac roeddent yn cynnal egni’r ddram gyfan; yn ogystal â’r diosg brofiad eithaf voyeuristic i’r gynulleidfa.
Cymerid hynnod o bwysig, er nad ymddangosodd tan ail hanner y ddrama, oedd Greta (Branwen Davies). Dyma’r cymeriad a rydd oleuni ini ar gymeriad Gwylan, cymeriad sy’n rhoi cyd-destun iddi, yn rhoi gorffennol, ac sy’n gwneud i ni ei gweld hi mewn ffordd gwbl wahanol. Dysgwn am gyfeillgarwch Greta a Gwylan, a’r modd y teithiodd y ddwy y byd. Gwelwn Gwylan mewn golau newydd – dyma rywun sydd wedi ‘byw’ i’r eithaf, wedi gweld rhyfeddodau’r byd. Rhywun a fu gynt yn rhydd ac sydd wedi profi bywyd yn ei holl ogoniant. Er y profiadau lu, a’r gorffennol gwych oedd gan Gwylan, canlyniad hyn yw ei bod hi hefyd yn gaeth i’r cyffur mescalin.
Cymeriad sydd ar drugaredd y merched yw Nimrod (Aled Pugh). Y mae pob un o’r pedair merch yn ei orfodi i gael cyfathrach rywiol gyda hwy, sy’n amlygu’r modd y mae’r weithred gorfforol agosaf bellach bron â bod yn gwbl ddiystyr. Defnyddiant ef i fodoli chwant rhywiol personol hunanol. ‘Hen deip’ yw Nimrod, ac er iddo ymddangos yn ddyn gwan, wrth iddo ildio i orchmynion rhywiol y pedair, dyma ddyn sy’n driw i’w fistres, Gwylan; mwy triw nag y gallai’r ddwy cyber-babe byth fod. Ef hefyd sy’n meddu ar iaith goeth, lenyddol, brydferth, sy’n rhoi rhyddid i Siôn Eirian ddangos yr iaith Gymraeg yn ei holl ogoniant barddonol, wrth amlygu ei ofidiau yngl_n â dyfodol ‘iaith, y crwsâd cyfiawn eithaf, a’r olaf’. A dyma yw hanfod y ddrama, ein bod ni fel pobl, wrth rannu iaith, yn rhannu rhywbeth. Y myd Cegin y Diafol, mae’r enw yn amrywio o ‘Dafol’ i ‘Diafol’ i ‘Criafol’, yn amlygu gwacter ystyr ac erydiad iaith.
Yn anochel, mewn drama sydd â chymeriad o’r enw ‘Greta’ a ‘Gwylan’, fe ddaeth y jôc yn cyfeirio at Leifior, ond er bod eiliadau o gomedi fel hyn yn ysgafnhau’r profiad dwys o wylio drama ingol o’r math hwn, roedd yna arwyddocâd difrifol i’r jôc. Wrth i Siôn Eirian gynnwys jôc am Leifior, roedd yn dibynnu ar ein hymwybyddiaeth Gymraeg ni, ymwybyddiaeth o ddiwylliant ymwybodol rydym yn ei rannu yn ein cymdeithas gyfoes. Yn y chwyldro technegol diweddaraf, rhaid codi’r cwestiwn a fydd hyn yn bodoli o gwbl yn ‘rhannau profiad ond heb rannu profiad’.
Er bod y cast yn ifanc, cafwyd perfformiadau da ganddynt. Roedd cyfarwyddydd mor brofiadol â Tim Baker yn amlwg wedi cael hwyl arni gyda’r cast, gydag egni yn llifo trwy’r perfformiad, a daeth, mae’n siwr, o’i gyfarwyddo sensitif. O ganlyniad i’r egni hwn, yn ogystal â sgript swmpus a dwys Siôn Eirian, rhoddwyd profiad ingol i’r gynulleidfa, profiad a fydd yn sicr yn esgor ar drafodaethau lu. Yn y perfformiad, cafwyd awr a chwarter o ddwyster mewn tonnau, heb roi cyfle, bron i’r gynulleidfa gael gwynt ati.
Braf yw’r ffaith bod gennym ni yng Nghymru ddramodwyr sydd yn hawlio sylw pan mae ganddynt gynnyrch newydd, a bod y peth yn ‘ddigwyddiad’ bron. Mae’n arwyddocaol mai un o’n colegau a gomesiynodd y ddrama hon, dram a fuasai yn rhy ddrud o lawer i’r mwyafrif o’n cwmn_au theatr deithio â hu gyda phum actor. Braf yw gweld hefyd bod y chwyldro newydd hwn yn cael ei drafod yn y theatr yng Nhymru. Felly, y tro nesaf y gwnewch chi logio ymlaen, syrffio’r we neu e-bost yn gyflym, meddyliwch am y gobygliadau ehangach. Fel y dywed Neil Posrman yn Amusing Ourselves to Death:
Our languages are our media.
Our media are our metaphors.
Our metaphors create the
Content of our culture.
awdur:Kate Woodward
cyfrol:458, Mawrth 2001
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com