Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y Cam Glanaethwy

Ydyr beirniadu ar broffesiynoldeb Ysgol Glanaethwy yn enghraifft o bla plwyfoldeb, gofynna DAFYDD LLYWELYN

Pam ym gwahoddwyd yn gyntaf i gyfrannu ir rhifyn cyfredol hwn, y bwriad gwreiddiol oedd trafod y diflastod am gyflwr y theatr yng Nghymru. Fodd bynnag, yn gynharach heno, darlledwyd rhaglen Y Byd ar Bedwar, a oedd yn crynhoir cyfan or hyn oeddwn am ei ddweud yn llawer cliriach. Testun y rhaglen oedd Ysgol Glanaethwy, a thrafodwyd y gred sydd wedii lleisio gan rain ddiweddar ynglyn hawl yr ysgol honno i gystadlu yn ein heisteddfodau. Mynegwyd pryder ar sawl lefel, a chanlyniad y cyfan oedd i sylfaenydd yr ysgol, Cefin Roberts, ddatgan mai Eisteddfod yr Urdd 2002 fydd yr _yl olaf ir ysgol ei mynychu.

Pan drafodir Ysgol Glanaethwy, y geiriau a gyplysir gan amlaf r sefydliad hwnnw hyd yn oed o dur beirniaid yw proffesiynoldeb a llwyddiant. Er hynny, ymddengys bod carfan gref o Gymry Cymraeg yn fwy na pharod i lambastior lle a dilornir arweinydd ar lefel bersonol. Wn i ddim am unrhyw genedl fyddain ceisio llyffetheirior fath sefydliad, ac maer holl ymgercu hyn yn dweud cyfrolau amdanom ni.

Mae ystod yr arbenigedd a gyfyngir i ddisgyblion Ysgol Glanaethwy yn eithriadol o eang, ac oherwydd bod yr ysgol yn canolbwyntion benodol ar y celfyddydau gweledol ar clywadwy yn unig, bernir mai annheg yw caniatu iddi gystadlu yn erbyn ysgolion traddodiadol. Maer fath feirniadaeth yn dangos nafrwydd or radd flaenaf, ac ymddengys nad yw rhain deall ystyr y gair cystadlu. Yn ddelfrydol, braf fyddai gweld pob cystadleuydd yn brwydro eu cyfoedion dan amodau cwbwl gyfartal a theg; ond yn realistig nid ywr fath sefyllfa yn bodoli. Mae cymaint o ffactorau allanol a mewnol yn dylanwadu ar y broses gystadlu, fel nad ywr tegwch yn ddim ond coel gwrach. Fuodd yna erioed degwch yn aros at y syniad o gystadleuaeth, ac nid yw dyfodiad Ysgol Glanaethwy ir byd cystadleuol wedi newid dim ar hyn, ond yn hytrach, efallai ei fod wedi amlygu eiddigedd plwyfol sydd yn bla o fewn ein diwylliant. Yn eironig ddigon, cri nifer o athrawon y dyddiau hyn yw eu bod yn cael eu llethu gan bwysau gwaith, etoi gyd, maent yn cwyno pan fo sefydliadau fel Glanaethwy yn darparu gwasanaeth syn ysgafnhau rhywfaint ar y cyfrifoldebau hynny.

Sylw arall syn cael ei wneud dro ar l tro yw bod Ysgol Glanaethwy yn rhy ddrud, elitaidd, ac yn rhy ddosbarth canol, a dyma sydd yn dangos rhagrith ar ei orau. O safbwynt y ddadl economaidd, a yw cost yr hyfforddiant a gynigir yng Nglanaethwy mor afresymol o ddrud, mewn cymhariaeth dyweder deugain punt a godwyd ar rai i weld gm rygbi rhwng Cymru ar Eidal yn ddiweddar? Mewn perthynas r elitiaeth, mae gennym yng Nghymru ryw obsesiwn yn y myth or werin fondigrybwyll hyn, ac yr ydym yn parhau i gael ein cyfareddu gan y ffantasi o berthyn ir dosbarth gweithiol. Maen arwyddocaol bod nifer or cyfresi teledu diwedder yn y Gymraeg ar Saesneg wedi eu lleoli yn y cymoedd neu ardaloedd yr hen ddiwidiannau trwm. Parhar dosbarth gweithiol i chwarae rhan amlwg a phwysig yn ein diwylliant, ond rhaid hefyd sylweddoli bod symudoledd cymdeithasol yn ystod y degawdau diwethaf wedi trawsnewid ein cymdeithas, ac o ganlyniad, maer dosbarth gweithiol wedi crebachun enbyd erbyn hyn, ac yn y Gymru gyfoes sydd ohoni, y dosbarth canol yw cynhaliaeth yr iaith Gymraeg. Wn i ddim pam bod y syniad o elitiaeth mor wrthun gan rai, mae iw weld ym mhob diwylliant arall, ac yn wir, mae angen yr agwedd honno er mwyn sicrhau cydbwysedd cymdeithasol. Ai arwydd on gwaseidd-dra fel cenedl, yw ein bod yn ddilornus ein hagwedd tuag at unrhyw beth syn ymylu at broffesiynoldeb? Y gwir amdani yw hyn, oni bai am sefydliadau fel Ysgol Glanaethwy, yr ydym yn mynd i barhau i fyw dan gysgod amaturiaeth a bodloni ar safon nosweithiau festri capel.

Yn ystod y mis diwethaf, gwelwyd tri pheth arwyddocaol iawn ym myd y pethe yng Nghymru, sydd yn gysylltiedig r maes. Yn dilyn noson wobrwyo Brits 2002, bu sn am y cysyniad o C_l Cymru, gyda rhain pryderu nad oedd cynrychiolaeth gref o Gymru yn bresenol yng ngweithgareddaur noson honno. Aed ati i ddadansoddir huawdl pam y bu ir holol fomentwm chwythui blwc mor sydyn. Fe allair gwybodusion fod wedi arbed coed ac inc pebaent wedi sylweddoli mai ystrydeb gwag a di-synnwyr ywr fath ffwlbri. Ysywaeth, dyna sail llawer or hyn a elwir yn ddiwylliant Cymreig a Chymraeg erbyn hyn, sef dynwarediad gwael o ddiwylliannau Eingl-Americanaidd. Yr ail-ddigwyddiad oedd cyhoeddi tranc Eisteddfod Llangwm. Gydar fath ddatganiad, daeth cyfnod o lafur cariad nifer o unigolion ymroddedig i ben, ond efallai y bydd yn gic yn nhn ambell un syn mynnu byw mewn paradwys ff_l. Mae diwedd yr eisteddfod honno yn dystiolaeth pellach o erydiad sylweddol sydd wedi, ac syn parhau i ddigwydd, yn yr ardaloedd hynny a ystyriwyd, yn y gorffenol, fel cadarnler Gymraeg. Yn olaf, ac yn baradocsaidd efallai, o fewn cwta byddefnos ir stori am Eisteddfod Llangwm, cynhaliwyd cyfarfod ym Mlas Tan y Bwlch, Maentwrog i drafod rl a phwysigrwydd y celfyddydau yn y gogledd, gydar pwyslais ar gyd-weithio rhwng gwahanol sefydliadau er lles a budd pawb. Mae syniad or fath iw groesawu, ond pan mae Ysgol Glanaethwy yn ceisio trwythor cenhedlaethau ifanc yn nhraddodiadau a diwylliant brodorol, ymddengys bod rhain mynnu taflu d_r oer ar y cyfan. Mewn oes pryd y cyfeirir yn gyson at y ffaith bod plant yn gwneud drygau a drygioni, gan nad oes dim iw diddanu, maer holl feirniadu hyn yn chwerthinllyd o drist.

Fel y cyfaddefodd Cefin Roberts ei hun ar ddiwedd y rhaglen deledu, ni all Ysgol Glanaethwy ennill y naill ffordd neur llall. Pe na baent yn cystadlu, yna byddai rhain pwyntio bys ac yn eu cyhuddo o fod wedi troi cefn ar eu diwylliant brodorol. Ond o gystadlu cnt eu beirniadu am fod yn rhy broffesiynol. Trist o beth yw gweld rhywun yn gorfod amddiffyn ei hun yn erbyn cyhuddiad o fod yn llwyddianus, oherwydd bod culni a phlwyfoldeb yn parhau i deyrnasu yn y Gymru gyfoes.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:470, Mawrth 2002

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk