Mwnci Nel!
Aeth GWENAN MARED i Glwb Cymdeithasol Bangor i weld y cynhyrchiad o sioe ddiweddaraf Theatr Bara Caws, Mwnci Nel.
Ydych chi’n cofio’r rhaglen gwis Penawde efo Gareth Roberts? Os ydach chi’n ticio’r bocs oed 25-35 mae’n si_r bod y rhan fwyaf ohonoch yn cofio bod yn gystadleuydd ar y rhaglen (ac yn dal efo’r teledu llaw, da i ddim, a wnaethoch chi ennill yno i brofi hynny). Ar y rhaglen honno roedd yna gyfres o gliwiau yn gweithredu’n debyg i hyn:
Am: 1. (£500) ‘Dio’m yn ffycin Shakespeare nac ‘di?
2. (£250) Mwy enllibus na Lol
3. (£100) Mor sicr o ymddangos o gwpas y ‘Dolig a’r Flwyddyn newydd â chur pen ar ôl noson fawr.
Ydych chi wedi datrus y cliwiau eto? Wel, ‘nul point’ a dim tegan fflyffi i chi y tro yma os nad ydych chi wedi deall fy mod i, wrth gwrs, yn sôn am Sioe Glybiau Bara Caws. Mwnci Nel oedd yr arlwy eleni, a’r lle, fel arfer, dan ei sang o aelodau o’r clwb dethol ‘o dan 35’ a ddisgrifwyd eisioes. A da o beth hynny, gan fod y metamorffosis rhyfedd hwnnw sy’n digwydd ar ôl cyrraedd rhyw oed (rhyw bryd ar ôl symud o’r maes pebyll i fod yn aelod o’r Clwb Carafanwyr hwyrach) yngolygu na fuasai na fawr o neb yn cynnig mynd â’i fam, na’n sicr ei nain, i weld y sioe arbennig hon. Mae hi’n llawn rhegfeydd, rhyw a hiwmor toiledau, gyda digon o fronnau a phidlenni anferth i gadw’r gynulleidfa yn ei dyblau. Mae’r fformiwla wedi gweithio yn y gorffenol ac nid yw’n arddangos unrhyw arwydd o fethu â dal i wneud hynny. Fe ddywed y Sais rhywbeth sy’n cyfieithu’n fras i ‘os nad ydi o wedi malu, peidiwch â’i drwsio fo’, ac yn sicr mae’n ddywediad perthnasol iawn yn y cyd-destun hwn. Gwelir yn amlwg iawn bod yr hen gefndir Piwritanaidd Cymreig hwnnw yn dal yn gryf yn y gwaed, gan ein bod i gyd yn dal i ddychryn a phiffian chwerthin, fel plant ysgol, wrth glywed y fath eiriau anweddus yn dod oddi ar y llwyfan.
Roedd y ‘plot’ (os mai hwnnw ydi’r gair cywir) eleni yn ‘bisâr’ â dweud y lleiaf. Mae Mwnci Nel, sef John Walter, yn byw mewn caets yng Ngwesty Cymru. Rydan ni’r gynulleidefa’n deall y mwnci yn siarad ond nid yw gweddill y cast, felly caiff Mwnci Nel fod yn dyst i bob drygioni. Daw hi’n wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ac, yn sgil hynny, daw llu o enwogion i aros yn y gwesty. Yn eu plith mae cyflwynydd radio amheus a’i gymar bronnog, Tracey, sy’n ceisio twyllo Nel a’i theulu a dwyn eu harian prin. Ar yr unfed awr ar ddeg daw achubiaeth o du’r mwnci clyfar, John Walter. Ar yr un pryd, mae Tracey yn geni mwnci efo pidlan anferth (ia, wir yr) ac yn penderfynu ei bod hi’n caru Wil, mab lloaidd Nel. Diweddglo hapus felly, hyd yn oed i Caleb sy’n penderfyny dechrau darlledu rhaglenni pornograffi ar S4C digidol gyda ‘Wancio’, ‘Ffwcside’ a llu o rai eraill yn eu plith. Dyma brif gryfder a chlyfrwch y sgript, sef gallu yr awdur (Derec Tomos) i chwarae’n ddiddiwedd ar eiriau, idiomau a chyfieithiadau llythrennol o’r Saesneg i’r Gymraeg. Ar ben hynny, mae defnyddio wythnos yr Eisteddfod fel cefndir yn golygu bod rhywun sy’n rhywun yn Gymru gyfoes yn cael ei watwar a’i ddilorni yn ddidrugaredd. O ddiddordeb arbennig i olygydd Barn, mae’n siwr, oedd y cyfeiriad at rhyw ‘Simone o’r Glyn’ a’i fudiad newydd ‘Corcyn’ fydd ‘cadw’r cachu o Gymru’! A pha arwydd gwell eich bod yn llygaid y cyhoedd na chael eich gwatwar yn y sioe glybiau? ‘Does na ddim o’r fath beth â chyhoeddusrwydd sâl, meddan nhw, ac yn sicr roedd criw Glanaethwy, wrth fwrdd cyfagos, yn cymryd y cyfeiriadau cyson tuag atynt mewn hwyliau da iawn.
Sioe gymunedol Gymreig i’r carn, felly, yn blwyfol tu hwnt o’r cyfeiriadau at y ‘steddfod, i’r rhai am y Glôb ym Mangor, y cwrw ‘piso mwnci’ a’r stiwdants sy’n ei yfed. Ac mi glywais sôn, wrth gwrs, am ‘ganwrs coch Sir Fôn’ ond doeddwn i ddim wedi disgwyl eu clywed ar y llwyfan dros yn lli ym Mangor chwaith, (a’r gân ‘Mwnci Nel’ sy’n agor a chloi’r cynhyrchiad yn mynny troi a throi yn fy mhen drwy’r diwrnod wedyn). Wedi dweud hynny, roedd yr actio yn egnïol ac yn hollol dros ben llestri fel sy’n gweddu’r sioe, gyda Dewi Rhys yn arbennig yn dal cynulleidfa (anodd, a rhyfeddol o ddi-ymateb ar adegau) yn nghledr ei law.
Yn bersonol, dwi wedi cael gwell blas ar sioe glybiau yn y gorffennol, ond roedd yna ddigon o genod yn y ciw toiled (hirfaith) yn ystod yr egwyl yn sgwrsio’n frwdfrydig am y sioe ac yn amlwg wrth eu boddau efo’r arlwy. Dwn i ddim a fyddai drama yn Theatr Gwynedd yn tynnu chwarter cymaint o gynulleidfa, yn enwedig y to ifanc, ac yn hynny o beth mae Bara Caws yn llwyddo yn eu raison d’être dro ar ôl tro, sef dod â theatr at y bobl, yn y gymuned. Peint, ffag, cnawd noeth a gwatwar y sefydliad – be arall mae rhywun ei angen? (Llonydd, air filter a nofel swmpus hwyrach, ond mae’n siwr mod i’n dechrau dangos fy oed!!)
awdur:Gwenan Mared
cyfrol:470, Mawrth 2002
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com
