Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Dy Daith dy Hun

Aeth MEINIR ELUNED JONES i weld y fersiwn llwyfan o Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy Hun gan Aled Jones Williams.

Criw bychan, dim mwy na rhyw ddeg ar hugain, dyweder, o selogion y ddrama oedd yn eistedd mewn sip cryman yn theatr-stiwdio Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth i weld Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy Hun. Wedi ein cau i mewn yn yr ystafell fach, gron, dywyll, glawstroffobig. Dim ond unwaith y bm i yn y stiwdio honno or blaen, a hynny i weld perfformiad o ddrama Satre, No Exit. Uffern dwin galwr lle byth ers hynny, a dwim yn amau nad effeithiodd y rhagfarn (yn ystyr wreiddiol y gair rhag + farn) honno ar fy mhrofiad o ddrama Aled Jones Williams, er gwell neu er gwaeth. Yn sicr, fe barodd i mi fod yn fwy ymwybodol nar arfer o ddifrodaeth y ddrama.

Sioe un-dyn yw Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy Hun gydag Owen Arwyn yn ein tywys trwy atgofion bachgenaidd plentyndod yng nghefn gwlad Cymru yn y chwedegau, ac angst gwaeledd olaf ei dad wedi iddo dyfu i fyny. Does gen i ddim ond y ganmoliaeth uchaf ir actor am ei berfformiad gwirioneddol wych. Profiad braf yw gwylio drama pan fydd actor proffesiynol wrth ei waith, ac yn amlwg yn rhoi cant-y-cant ir perfformio.

Rhywbeth iw chlywed ac iw chyffwrth yw iaith yn l Aled Jones Williams, ac mae o, fel bardd ac awdur, wedi profi hynny ir eithaf yn ystod y deufis diwethaf. Maen gwbl hysbys i bawb, maen si_r gen i, mai addasiad o lyfr or un enw ywr ddrama Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy Hun, ac fe _yr y rhan fwyaf iw bryddest ddadleuol, Awelon, gymryd cam na chymerodd yr un bryddest arall erioed, maen debyg, wrth gael ei llwyfannu ar ffurf drama yn ddiweddar. Yn y traddodiad Cymraeg, rhywbeth iw datgan yw llenyddiaeth. Ydy, maen bodoli hyd dragwyddoldeb yn farw mewn print, ond am ennyd fer, fe ddawn fyw. Ar y llwyfan, daw haniaeth yn ddiriaeth. Nid yw hynnyn para. Fe lithra fel tywod rhwng bysedd. Ller awdur yw sicrhau bod ei greadigaeth yn cael y cyfle hwn i ddod yn fyw ac i gymryd y cam ychwannegol hwnnw, a ller beirniad yw dal yr ennyd werthfawr honno a gweld y darlun cyfan, fel petai. Mae beirniadaeth lenyddol Gymraeg yn annigonol ac yn anghyflawn, does dim dwywaith am hynny, oherwydd bod seddi gwag yn y theatrau ac oherwydd absenoldeb o dur rhai syn eu galw eu hunain yn awdurdodau yn y maes ac syn cael eu cyflogi am hynny.

Yr hyn a gollodd y bobl anniwylliedig hyn oedd persbectif wahanol ar y stori ir hyn a ymddengys yn y llyfr. Hepgorwydd y darnau a italeiddwyd, hanes y Robert Edward Williams a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn gyfan gwbl, er enghraifft.

Chwaraeir ar baradocsau i raddau helaeth iawn yn y ddrama, ar amlycaf ywr ddau begwn, plentyndod a henaint. Atgofion annwyl a doniol y mab oi blentyndod ac oi berthynas i dad a gawn gan amlaf, ond mae cysgod marwolaeth dros y cyfan. Ni ellir anwybyddu presenoldeb y tad yn y gwely, ar arch sydd ar y llwyfan trwy gydol y ddrama. Ond nid angau anochel y tad ywr unig farwolaeth. Ceir myfyrdod aeddfed ar arogl marwolaeth trwy atgof plentyn ar l golygfa dywyll-ddoniol lle mae criw o hogiaun ceisio siglo arch Daisy Hughes, ac yna Bobdrwsnesa, yr hogyn ifanc, ffraeth, yn marw ar l damwain motobeic, ac yn troin lle gwag. Maer ddau beth, afiaith a marwolaeth, yn gyson daron erbyn ei gilydd, ar un yn cael y gorau ar y llall mewn gwirionedd.

Un cymeriad syn ymddangos, ond trwyddo ef down i adnabod cymeriadau eraill. Cymeriadau sydd i gyd yn gaeth mewn gwahanol ffyrf. Y tad yn gaeth iw salwch, y mab yn gaeth i wynebu realaeth sincio ei dad, y gymuned gyfan yn gaeth iw ffordd o fyw, ac iw hiaith. A iaith ei hun yn gaeth hefyd, Dos na Chymraeg na Saesneg yn mynd i fedruch cyrraedd chi heno. Ond ni ellid ymdeimlo crafangau caethiwed heb ddirnad beth yw rhyddid, ac aiff rhyddid dyn ymhellach nag a ddychmygir go-iawn. Maer cymeriadaun rhydd i benderfynu eu hagwedd at Dduw ar byd, ar ffordd maen nhwn synied am gariad a marwolaeth. Gall iaith fod yn rhydd hefyd, yn ferigorownd geiria, yn inja roc geiria, cyn ymroi i fudandod drachefn.

Gwagedd a Rhywbeth dyna ddau begwn arall a archwilir yn y ddrama (Ltre et le Nant, mynnar ddirfodaeth yn fy mhen atseinio!). Ofni dim byd, syn ddyfnach na llonyddwch mawr T. H. Parry-Williams, gan nad oes yn y dim hwn lonyddwch hyd yn oed. Dim Duw, dim cof, dim iaith, dim ymwybyddiaeth. Ofn pennaf yr agnostig. Ond, wedyn, fen cyflwynir i liwiau ac i hudoliaeth ffydd. Yng nghanol drama lythrennol dywyll, egyr y mab gs ei dad a thu mewn mae golau euraid, fel agor cist drysor mewn cart_n. Trysorau syn perthyn i ddefodau eglwysig sydd yn y cs, ac yn y sesiwn drafod ar l y ddrama, esboniodd Falmai Jones, y cyfarwyddwr, sut y mae pobl yn aml yn cysylltur eglwys hudoliaeth, yn groes i foelni anghydffurfiaeth. Roedd yr olygfa honnon un hardd, llawn gobaith, a chwbl groes ir diddymdra a welsom gynt a wedyn.

Un gair y dylid briodoli i waith Aled Jones Williams yw rhwng. Maer ffin yn denau rhwng y pegynau paradocsaidd, nid ywr naill begwn yn cael y gorau ar y llall. Rhyngddynt mae bodlonrwydd arwynebol iw ganfod, ac yno, yn rhywle, maer rhan fwyaf ohonom ni yn trigo, ond llwyddar artist hwn i gyfleur ffrithiant syn digwydd pan ddawr pegynau i gyffwrdd i gilydd ac i grafu yn erbyn ei gilydd.

Mae ei ymdriniaeth pharadocsau dwfn bodolaeth yn gwbl unigryw, ac wrth godi pontydd rhwng gwahanol genres llenyddiaeth Gymraeg, y maen arloeswr. Bydded ir sawl a fyn anghytuno weld y darlun cyflawn cyn gwneud hynny...

awdur:Meinir Eluned Jones
cyfrol:482, Mawrth 2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk