Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Yn ôl i Dir Na n’Og

Mae IWAN LLWYD yn cofio llwyfaniad cyntaf Nia Ben Aur.

1974. Yr haf hwnnw o stydio a phrotestiadu. Pan nad oedd Cymru yn ildio i neb ond y Crysau Duon; cyn i Wynfor a’r ddau Ddafydd gyrraedd y sêr. Haf Muhammad Ali a Nixon, papurau bro a Phobol y Cwm, streic y glowyr ac wythnos dridiau, Edward Heath a Bangladesh, Ac yn llys y Fali, ‘ar ôl paentio tai haf, pan ganwyd yr anthem, fe gododd pob heddwas ei het’ (Helen Greenwood).

Roeddwn i’n un ar bymtheg oed, newydd orffen fy lefel ‘O’. Yn gwrando ar Radio Luxembourg yn y dirgel dan gynfasau’r gwely, ac yn tiwnio i mewn i Hywel G ar fore Sadwrn i glywed caneuon diweddaraf Meic Stevens ac Edward H. Dyna fyd cyn-Sianel, cyn-Radio Cymru. Byd y Gymru Gymraeg answyddogol pan oedd modd breuddwydio, pan oedd ‘pob dim yn bosibl’. Pan oedd popeth yr ydan ni’n sinigaidd amdano rwan yn y dyfodol. Pan nad oedd rhaglenni gwael ar y Sianel na rhaglenni gwael Radio Cymru wedi eu dychmygu heb sôn am eu gwreiddu. Oni fyddai’n braf mynd yn ôl i fan’no a chychwyn eto? Falle ‘mod i’n delfrydu. Yng nghanol haf delfrytgar 1974 roedd hadau haf chwerw 1979 yn dechrau aeddfedu.

A dyna fi, efo ‘mrawd bach, yn cael mynd i gyngerdd mawr Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin efo Wncwl Lyn ac Anti Mair. Cael aros yn hwyr i weld yr ‘opera roc’ go-iawn gyntaf yn y Gymraeg, a sêr fel Heather Jones a Cleif Prendelyn (ar y pryd), Dewi Pws a Caryl Parri Jones (oedd yn iau na fi!), yn troi hen hen chwedl yn stori newydd, a phob dolen yn y chwedl honno yn cydio o’r newydd.

Er y byddai bron i ddegawd yn mynd heibio cyn i’r sîn roc Gymraeg gyrraedd ei hanterthj, roedd pawb oedd yn rhywun yn rhan o’r sioe. Cyfansoddwyd y caneuon gan gerddorion a sgwenwyr geiriau amlwg fel Tecwyn Ifan, Phil Edwards, Hefin Elis, Geraint Jarman, Cleif Harpwood a Caryl Parri Jones, ac roedd grwpiau Edward H, Hergest, Ac Eraill a Sidan i gyd yn rhan o’r cynhyrchiad. ‘Roedd y pafiliwn cyfan yn dyheu am lwyddiant y fenter wrth i oreuon cerddorol ieuenctid y genedl ddod at eu gilydd i ddangos eu doniau. Hon oedd eu hawr fawr ar ôl cyflwyno nifer o sioeau ar y cyrion yn ystod y blynyddoedd cynt. Y gobaith oedd i profi nad oedd yn angenrheidiol i gantorion ieuanc fynd i’r West End yn Llundain i gymryd rhan mewn miwsical. Gallai’r cyfan fod yn gynhenid,’ meddai Hefin Wyn yn ei gampwaith Be-Bop-a-Lula’r Delyn Aur.

Gydag unigolion gwleidyddol ymroddedig, fel Tecwyn Ifan a Hefin Elis yn rhan o’r fenter, roedd hi’n anorfod fod yna elfen wleidyddol, ymgyrchol yn rhan o’r sioe. Mae llawer wedi dweud mai y ‘70au oedd ‘60au Cymru, ac mae ‘na elfen hipïol i chwedl Osian a Nia. Mae tywysog Erin yn dianc rhag diflastod gwleidyddiaeth ei wlad ei hun, er mwyn byw gyda Nia yng ‘ngwlad y bythol hud’. Ac roedd yna gyffyrddiadau o operâu roc poblogaidd fel Jesus Christ Superstar drwy’r sioe, gan gynnwys ymddangosiad Elfisaidd Dewi Pws fel y Brenin Ri. Ond fel y byddai rhywun yn disgwyl gydag un mor ymroddedig â Thecwyn Ifan yn rhan o’r sioe, roedd ‘na elfen fwy miniog a chrafog yn rhai o’r caneuon.

Gwrando Osian ar gynghorion

Doethion gwlad dy febyd di;

Tyrd i ymblesera lle mae bellach

Ddiddordebau’n dosbarth ni;

Daeth amser newid tacteg

Ac anghofio pob egwyddor

s’gennyt ti;

I raddau roedd 1974 yn drobwynt. Roedd Plaid Cymru ar fin ennill tair sedd am y tro cyntaf, ac yn sgîl hynny yr oedden nhw am fod mewn sefyllfa i ddwyn pwyasau ar lywodraeth leiafrifol Harold Wilson. Yn y pen draw un o ganlyniadau hynny oedd y byddai’r Blaid Lafur yn cynnig mesur o Ddatganoli i Gymru.

Roedd yna leisiau yn awgrymu bod cyfnod protestio uniongyrchol ar ben a bod angen ‘newid tacteg’ er mwyn gwireddu’r freuddwyd mewn dulliau cyfansoddiadol.

Yr un pryd roedd rhwyg yn digwydd rhwng Cymdeithas yr Iaith, oedd am sicrhau dyfodol i’r iaith drwy Gymru gyfan, a mudiad Adfer oedd am warchod y Gymraeg yn ei chadarnleoedd, y ‘fro’ Gymraeg. Mae’r tensiynau hynny hefyd i’w teimlo yn y sioe. Yr hyn a ddigwyddodd yn y chwedl wrth gwrs oedd fod Osian, er y medrai fyw heb heneiddio yn Nhir Na n’Og, yn hiraethu am gwmni ei hen gyfeillion. Yn groes i rybudd Nia mae’n dychwelyd i Erin, yn cyffwrdd â’r ddaear, yn heneiddio ac yn marw. Ond mae’n gwneud hynny oherwydd nad yw am fyw mewn paradwys ddiddiwedd, oherwydd ei fod am wynebu realiti (neu rialtwch, fel y dywedodd rhywun rhywbryd). Mae yma adlais o hanes Heulyn ap Gwyn yn agor y ‘drws ar Aber Henfelen’ ar ddiwedd chwedl Branwen, pan oedd gweddill milwyr Brân yn mwynhau eu hunain yn gwrando ar adar Rhiannon ac yn gwledda yng Ngwales. A dyna bob gofid a fu erioed yn llifo trwy’r drws.

Wrth i mi eistedd yng nghanol y miloedd ym mhafiliwn Eisteddfod Caerfyrddin, roeddwn i wedi fy hudo i ryw Dir Na n’Og lle’r oedd fy arwyr roc i mor wefreiddiol â’r rhai oedd yn rocio ar Top of the Pops neu Radio Luxembourg. Roeddwn i mewn rhyw Dir Na n’Og fy hun, lle’r oedd popeth yn bosibl, a hynny yn Gymraeg. I raddau dyna neges obeithiol yr opera hefyd. Yn y gân olaf mae’r criw i gyd yn canu-

A minnau a’th ddilynaf di

Hyd lwybr haul y dydd,

I godi inni Dir Na n’Og

Ar feysydd Cymru Fydd...

Go brin y byddai neb yn sôn am Gymru Fydd heddiw. Mae’n sêr ni yn perfformio yn operâu roc y West End. Mae gynnon ni senedd yng Nghaerdydd, ac mae ffigyrau’r Cyfrifiad yn galonogol. Efallai ein bod ni wedi cyrraedd Tir Na n’Og, y paith di-orwel heb gwmwl i darfu ar yr awyr las.

awdur:Iwan Llwyd
cyfrol:482, Mawrth 2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk