Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Newyddion ac Ati..

Yn sgil ymosodiadau gwahanol gyrff y Llywodraeth, a phlaid y Llywodraeth, ar ddiwylliant cefn gwlad Cymru, gwahoddwyd EUROS LEWIS i sn am ei brofiadau yn Theatr Felin-Fach, Dyffryn Aeron.

Mae EUROS LEWIS ar fin ymadael r theatr lle y bun ddarlithydd gofal.

Yn ddiweddar, bun gweithio ym maes theatr gymunedol, gan wylio Cymry cynhenid a phlant mewnfuduwyr yn gorfod ymwneud i gilydd mewn dramu sefyllfa.

Am bump wythnos, ddiwedd Ionawr a thrwy gydol mis Chwefror, tra oedd sylwr wasg, y cyfryngau ar gwleidyddion yn hofran o gwmpas y Cynghorydd Seimon Glyn ar ymateb iw sylwadau ar gyflwr argyfyngus cefn gwlad o safbwynt cymuned, iaith a diwylliant, bu yn agos i gant o bobol ifainc rhwng 11 a 14 mlwydd oed ymgynnull bob dydd Sul yn Theatr Felin-Fach dan fanner gweithgareddau a elwir Cwmni Cadw S_n.

Yn ddaearyddol roedd criw ifanc yma yn dod o ardaloedd digon tebyg ir ardaloedd gwledig hynny ym Mhen Ll_n y bu i Seimon Glyn gyfeirio atynt. Byw yn y wlad y mae rhelyw yr aelodau. Os yn nhwn byw ar ffarm neu beidio mae dwndwr yn argyfwng amaethyddol yn s_n cyfarwydd yn eu clustiau. Mae holl broblemau hanesyddol pobol ifanc mewn ardaloedd gwledig anawsterau teithio, a diffyg cyfleusterau sylfaenol heb sn am rai cyffrous yn ogystal r rhagoriaethau amlwg, cyfoeth y dreftadaeth amgylcheddol, ynghyd r rhai llai amlwg, y rhwydweithiau cymdeithasol ar deinamig diwylliannol yn arbennig, yn bresennol yng Ngheredigion fel yn Ll_n.

Yn ddemograffig maer tebygrwydd hefyd yn drawiadol. Gydag arolwg iaith a wnaed yn ddiweddar gan Cered (mudiad datblygur Gymraeg yng Ngheredigion) yn dangos bod ysgolion pentrefol dau-athro (llai na 50 o ddisgyblion) yn Nyffryn Aeron wedi gorfod ymdopi dyfodiad hyd at 14 o ddisgyblion newydd yn ystod y flwyddyn addysgol ddiwethaf, rhwydd yw gweld siwt y maer sawl syn pryderu am effaith y symudoledd cymdeithasol yma ar gymunedau sydd eisoes yn gwegian dan bwysaur argyfwng amaethyddol, yn uniaethun gryf r darlun tywyll a baentiwyd o dirlun demograffig Ll_n ac Eifionydd. Maer winllan dan warchae. Pa obaith sydd bellach o gadwr ffynnon rhag y baw?

Mae cwmni Cadw S_n yn dyst ir ystadegau syn gosod y brodion yn beryglus o agos o fod yn lleiafrif o fewn eu tiriogaeth eu hunain. Ond nid casgliad o ystadegau ywr bobol ifainc hyn. Dyn nhw ddim, chwaith, yn gr_p ohonom ni (darpar etifeddion y winllan) yn edrych arnyn nhw (y chwyn rheibus). Peidiwch m cam-ddeall; nid rhyw gasgliad gwyrthiol sydd yma o bobol ifainc sydd wedi neulltuo eu gwahaniaethau ieithyddol a diwylliannol yn enw delfryd gydryw, ffilanthropaidd. Yr hyn syn gwneud Cadw S_n yn gyffrous yw mai nhw y 97 ohonyn nhw ywr broblem. Yn ei holl gymhlethdod.

Ym mhendrawr ardal waith, yn creu dilyniant o symudiadau i gyfeiliant Limp Biskit brenhinoedd y siartiau Saesneg ar hyn o bryd mae dau gr_p o fechgyn sydd, heb os nag onibai, ac ar waethaf eu dewis o gerddoriaeth, yn Gymry Cymraeg digymrodedd, gydag idiomau eu hiwmor Simpsonaidd yn cyflym ddatblygu yn iaith gomedi gyfrin, iw werthfawrogi gan sawl syn rhannur un delfrydau diwylliant-ieuenctid yn unig. Ac er eu hyder ma nhwn ymwybodol iawn mai perthyn i leiafrif y maen nhw yn nhermaur byd mwy.

Ar ganol y llawr ymarfer mae grwpiau or merched ifancaf gan fwyaf (11-12 oed) yn datblygu cyfres o luniau llonydd er mwyn cyfleu eu dydd Sadwrn delfrydol. Maer gwaith eu hunan yn ddi-s_n, ac fellyn ddi-iaith. Ond maer trafod yn y grwpiau yn amrywion afreolus rhwng Cymraeg a Saesneg. Mewn gwirionedd nid ywr patrwm ieithyddol ddim mor fympwyol hynny oherwydd mae nifer or bobol ifainc hyn o deuluoedd di-Gymraeg, wedi dysgu Cymraeg yn ffurfiol yn yr ysgol, ac nid ydynt wedi cael ond ychydig o gyfle i ddefnyddior iaith mewn sefyllfaoedd torfol anffurfiol fel sesiynnau Cadw S_n. Mae eraill yn hannu o deuluoedd cymysg, lle mae rhiant o fewnfudwr wedi ymbriodi chymar brodorol. O fewn y grwpiau merched ifanc yma hefyd mi glyw-wch chi blant o gartrefi hollol Gymreig yn siarad Saesneg i gilydd, rai ohonynt fel ymateb i bresenoldeb y merched di-Gymraeg hyn, rai ohonynt am ddim rheswm amlwg.

Ar flaen y llwyfan ymarfer yn union o flaen yr ardal y byddwn ni fel tm dysgu yn ei ddefnyddio fel ein prif ardal arsylwi a rheoli mae casgliad o 5 o ferched syn edrych o leiaf yn 14 oed (uchafswm oed Cadw S_n) os nad yn h_n. Mae rhywbeth yn eu hosgo, yn eu dillad soffisdigedig (o ran steil, os nad o ran y label) syn eu gosod ar wahn. Ac yn wir dyna beth yn nhw pobol ar wahn. Pobol ifainc yn nhw sydd newydd gyrraedd yr ardaloedd hyn. Nid tai yn unig syn rhatach yng nghefn gwlad Cymru. Mae costau cynnal rhieni maeth yn yr ardaloedd hyn yn llawer is nar hyn y maer asiantaethau yn gorfod eu talu yn nhrefi mawr Lloegr. Ers dwy neu dair blynedd bellach mae nifer cynyddol or asiantaethau hyn yn troi at gefn gwlad Cymru am ateb rhad iw problemau cyllidol. O ganlyniad mae na lu o bobol ifainc bregus yn cael eu di-wreiddio nid yn unig oddi wrth eu cynefin dinesig, or byd maen nhwn ei nabod, au gosod yng nghanol gwlad syn gwbl ddierth iddynt ymhob ystyr. Dyna pam maen nhwn edrych ddwy flynedd yn h_n nau 12 blwydd yn hen cyn eu hamser. Nid yw eu hysgogi i siarad Cymraeg yn gwestiwn. Neun hytrach nid dymar cwestiwn. Y sialens go-iawn iddyn nhw, ac i ninnau fel gwarchodwyr ac arweinnwyr y gymdeithas un-diwrnod-yr-wythnos hon, yw darganfod ffordd i alluogir pump yma i gyfathrebu yn ystyriol ac yn ystyrlon i gilydd mewn unrhyw iaith.

Creu sioe ieuenctid ar gyfer wythnos G_yl Ddewi yw nod cyhoeddus y gweithgaredd hwn. Ar raglen y sioe fyddwch chi ddim yn gweld logo Cyngor Celfyddydau Cymru na Bwrdd y Loteri Cenedlaethol. Dy nhw ddim wedi cefnogir fenter hon. Dy ni ddim wedi gofyn iddyn nhw, hyd yn oed. Pam? Pam maer ymateb i sylwadau Seimon Glyn o du fas ir ardaloedd traddodiadol Cymraeg wedi bod mor ffyrnig, mor ddigymrodedd? Am yr un rheswm nad yn ni wedi gwneud cais am nawdd at ffynonellau y tu fas ir ardaloedd hyn am nad yw pobol ar y tu fas yn deall; am fod y sefyllfa y tu hwnt iw dirnad; am nad yn ni, mewn unrhyw ystyr, yn siarad yr un iaith nhw.

Fe welsom eisoes fod y byd tu fas yn mynnu nad oes gan Seimon Glyn yr hawl i ddarlunior dinistr maen ei weld oi gwmpas. Yn yr un modd dyw hi ddim yn bosib i ninnau, chwaith, gael cefnogaeth y sefydliad wrth ddweud y gwir am brosiect Cadw S_n: wrth ddatgan ein bod yn ceisio ymateb yn greadigol yn wyneb momentwm cymdeithasol negyddol; ein bod yn ymdrechu i wrth-weithio ffactorau peryglus o ddinistriol; fod hunaniaeth ein pobol ifainc cynhenid yn y fantol, a bod pobol ifainc bregus o bob cefndir yn cael eu gosod mewn sefyllfaoedd annerbynniol. Fedrwn ni ddim crybwyll y pethe hyn ar ffurflen gai soherwydd dywr ffurflenni cais ddim yn caniatu i ni wneud hyn. Dyw ffurflenni Cyngor Celfyddydau a phob cyngor ariannu arall, o ran hynny ddim yn gallu ymdopi r disgrifiadau anghonfensiynol hyn syn darlunio byd nad ywn cydymffurfio diffiniad y sefydliad or hyn syn anghydffurfiol. Pe bawn in gosod sefyllfa ar lwyfan mi fyddwn yn defnyddio dau gymeriad: doctor a chlaf, gydar claf yn achwyn am ei symtomau unigryw wrth ddoctor a fyddai naill ai heb yr amynedd i wrando ynteun rhy annalluog i weld.

Ond dim drama ffuantus ywr sefyllfa. Mae Cadw S_n, ac anghenion yr aelodau ifainc, yn sefyllfa go-iawn, fel ag y maer sefyllfa ym Mhen Ll_n yn salwch go-iawn. Ac os na fu ir claf ddefnyddior termau iawn i esbonio ei ddolur, ai bod hin amlwg nad yw en cael ei gymryd o ddifri gan yr awdurdodau, yna ryn ni mewn peryg go-iawn o dderbyn y prognosis nad yw dolur ni yn un mor ddifrifol hynny; nad ywn cymdeithas yn holliach efallai, ond nad yw hi mewn cyflwr mor ednybus Glyn Ebwy neu Lanwern, gweder. Pa hawl sydd gennym felly i Gadw S_n tra bod pobol syn sl go-iawn angen sylw? A dyna eironi eithaf y ddrama lawn tensiwn hon: ein bod mewn peryg o dderbyn statws eilradd hyd yn oed yn ein difodiant ein hunain.

Ond nid trasiedi yw drama i griw Cadw S_n. Mae adrenalin eu diwylliant-ieuenctid yn sicrhau bod egni creadigol yn treiddio i bob rhan or gymdeithas ma nhwn ei chreu. Yr arwyddion amlwg yw eu paradrwydd i holi, i arbrofi, i beidio derbyn y sefyllfa fel ag y mae, i gamu y tu hwnt ir ffiniau a osodwyd iddynt gan y Nhw hollbresennol ar yr ochr fas.

Mae Coleridge yn awgrymu mai pwrpas diwylliant o fewn cymdeithas yw sicrhau cynnydd o ran elfennau hynny syn cynysgaeddu ein dyneiddiaeth mai ymdrech dyn tuag at wella ei fyd, tuag at wireddu byd gwell, yw craidd y broses o ddiwyllio. Os felly, onid oes gan y claf y modd i wellai hunan? Onid oes gennym ni drwy rym ein cymunedau diwylliannol hyfyw a byrlymus y modd i wellan hunain?

Ar ddiwedd y trydydd dydd Sul o weithio, wrth i ni y tm proffesiynol wylior criw blinedig yn ymadael r theatr ry nin cofio am y datblygiad mawr fu ar ddechraur prynhawn pan gytunodd y newydd-ddyfodiaid i datblygu golygfa fyrfyfyr ochr-yn-ochr gr_p o ferched cymysg eu hiaith o gyffiniau Aberystwyth. Ar ddiwedd y dydd cafwyd sesiwn creu cymeriadau. Y nod oedd creu cymeriad a fyddain gynrychioliadol ou dyheadau nhw fesul gr_p. Mae nodiadau portreadol y merched o Lundain yn disgrifio cymeriad or enw Caz (enw llawn: Cerys Jones), 14 oed, syn byw mewn t_ mawr yn y wlad, ac syn ferch i Dan (Gwyddel di-Gymraeg) a Gwen (Cymraes leol). Dyw Caz ddim yn ferch gosmopolitan o ganol y Ddinas Fawr. Dyw hi ddim, chwaith, yn uniaith Saesneg. Mae hin ferch fach or wlad. Maen siarad dwy iaith Saesneg a Chymraeg. Does dim amau bellach beth yw nod y merched hyn: yr un nod phob aelod or gr_p: perthyn.

Deialog ddaeth r sylw hwn ir amlwg. Y broses greadigol, hanfod diwylliant, a hwylusodd, a ysgogodd, a rhyddhaodd y ddeialog ac a greodd yr iaith wnaeth ganiatu ir neges gael ei ddeall. Rhan or hyn yr yn ni oll, ar yr ochr fewn, am ei warchod ywn diwylliant. Wedi mynegi ein rhwystredigaethsu maen ofynnol i ni roir diwylliant hwnnw ar waith bellach, er mwyn gwellan hunain, gwella cymdeithas, a gwella pawb syn perthyn iddi, boed nhwn ymwybodol o hynny ai peidio.

Wrth fynd tuar bysys mae un or merched estron a greodd Caz yn troi atom gan ddweud yn Gymraeg Diolch. Ond a ddaw hi nl ir sesiwn nesa? Mawr yw ein gobaith.

Wrth sgwennur erthygl hon wythnos cyn dydd G_yl Dewi dydw i ddim yn gwybod a fydd perfformiadau gorffenedig Cadw S_n (Mawrth 2, 3) yn deilwng or broses greadigol a ysgogwyd gennym ni ac a berchnogwyd gan y bobol ifainc eu hunain. Fydden i ddim yn ddiffuant pe bawn in dweud nad yw hynnyn fy mhoeni. (Wedi iddyn nhw gyfrannu a rhannu gymaint o syniadau, a rhoi gymaint o egni creadigol ar waith maen ddyletswydd arnai i sicrhaur amodau gorau posib ar gyfer y cymal olaf yn y gwaith y broses o rannur profiadau r gymuned ehangach.) Yr hyn syn fy mhoeni i nawr yw a fyddan nhw i gyd yno ar gyfer y sesiwn gwaith nesa? Odyn ni wedi llwyddo i gynnal y gymdeithas fregus hon o bobol ifainc yn Gymru Cymraeg hyderus (y lleiafrif), yn siaradwyr Cymraeg rhan-amser, yn l y cyd-destun cymdeithasol (y mwyafrif), ynteun bobol ifainc diwreiddedig ac ansicr (y lleiafrif arall). Go brin y bydd i bawb, o bob un or carfanau hyn, gyrraedd pen y daith. Ein cysur yw y bydd eu cyffyrddiad nhw chymdeithas ddeinamig Cadw S_n wedi ysgogi newid os nad datblygiad ynddynt o ran eu hymwneud i gilydd. Tra fod y broses greadigol yn fyw mae na obaith.

awdur:Euros Lewis
cyfrol:458, Mawrth 2001

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk