Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Colofn Gareth Miles – Theatr Genedlaethol Cymru

Daeth GARETH MILES yn aelod o Fwrdd Rheoli Theatr Genedlaethol Cymru ers ei gyfraniad diwethaf i theatr.

Mae gan y sefydliad hwn bellach Gyfansoddiad, Bwrdd Rheoli a Chadeirydd. Disgwylir i’r Bwrdd gyfarfod am y tro cyntaf yn ystod mis Mawrth. Bydd aelodau’r Pwyllgor Llywio a roddodd fod iddo yn bresennol ar yr achlysur hwnnw i drosglwyddo’r awenau.

Dyma a ddywedir yng Nghylchlythr Cymdeithas Theatr Cymru am y g_r a ddewiswyd i arwain y Theatr Genedlaethol a’r Bwrdd:

Mae Lyn T. Jones yn berson uchel ei barch o fewn y theatr yng Nghymru. Ef yw Cadeirydd Theatr Bara Caws; Cadeirydd Pwyllgor Llywio Wales ITI Cymru; ac mae’n aelod o Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas hon. Mae wedi gweithio ym myd y theatr a darlledu, yng Nghymru a thramor, ers diwedd y chwedegau. Mae ei brofiad eang yn cynnwys cyfarwyddo, cynhyrchu, golygu ac ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y radio, y teledu a’r llwyfan.

Aelodaeth y Bwrdd Rheoli yw: Linda Brown, Bethesda; Iwan England, Pontypridd; Peter Davies, Morganston, ger Caerdydd;Gwyneth Glyn Evans, Llanarmor, ger Pwllheli; Garry Nicholas, Llanelli; Wynford Ellis Owen, Creigiau, ger Caerdydd; Carys Tudor Williams, Wrecsam; Siôn Clwyd Roberts, Gwaelod y Garth, ger Caerdydd; Elinor R. Williams, Pontarddurlais.

Diau nad ydym ni, aelodau’r Bwrdd Rheoli, heb ein diffygion personol ond credaf ein bod, at ein gilydd, yn gorff cynrychioladol a chytbwys o ran cymwysterau, oedran, cyfartaledd rhwng benyw a gwryw a chysylltiadau daearyddol.

Croesawodd Huw Roberts, Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Theatr Cymru, y penodiadau’n gynnes gyda’r geiriau: ‘Gall Lyn T. A’i gyd-aelodau ddibynnu ar gefnogaeth Cymdeithas Theatr Cymru i’r fenter newydd gyffrous hon y bu hir ddisgwyl amdani.’

Nid oes berthynas swyddogol rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Chymdeithas Theatr Cymru ond mae’r Gymdeithas yn ddolen gyswllt unigryw a phwysig rhyngddo a’r cwmni a sefydlwyd gan Wilbert Lloyd Roberts ac a ddaeth i ben rhyw ddegawd yn ôl. Mae arnom i gyd sy’n caru lles y Ddrama Gymraeg ddyled drom i’r Gymdeithas am gadw’r fflam ynghyn gydol y blynyddoedd oddi ar hynny, yn enwedig yn ystod fagddu’r pum mlynedd diwethaf. Bydd aelodau’r Bwrdd Rheoli’n gwerthfawrogi dymuniadau da’r Gymdeithas ac yn gwneud pob ymdrech i deilyngu ei hymddiriedaeth.

Fel hyn y ddiffinwyd rôl Theatr Genedlaethol Cymru gan y Pwyllgor Llywio a’i sefydlodd:

Cwmni cynhyrchu annibynol dan arweiniad arweinydd artistig â’r wybodaeth a’r profiad eang fel cyfarwyddwr artistig i’w (g)alluogi i gynllunio tymhorau o gynyrchiadau a fydd yn cynnig y canlynol:

Arddull theatr gyffrous a chyfoes wedi ei sylfaenu ar draddodiad theatrig Cymru ac ar ei diwylliant...

Rhaglenni gwaith yn cynnwys amrywiaeth o genres...

Darpariaeth o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad gyrfaol...

Sefydlu enw da i’r cwmni ac i ddrama wedi’i chynhyrchu yng Nghymru ar y llwyfan ddrama ryngwladol.

Meithrin gwaith newydd yn yr iaith Gymraeg.

Sicrhau fod y cynyrchiadau yn hygyrch i’r gynulleidfa ehanga bosib.

Ceir datganiad hwn yn gyflawn, ynghyd â gwybodaeth bellach am Theatr Genedlaethol Cymru, ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru: www.ccc-acw.org.uk

Y Cwmnïau Eraill

Fe gofir mai bwriad ancien régime Cyngor Celfyddydau Cymru oedd sefydlu Theatr Genedlaethol ddi-gwmni a fyddai’n asiantaeth fiwrocrataidd neu’n is-gwango a weithredau ym myd y Ddrama fel y gwna S4C ym myd teledu; bydda’n comisiynu cynyrchiadau gan gwmnïau theatr sy’n bod eisioes neu rai a ddeuai i fodolaeth i fanteisio ar y nawdd ariannol a gynigid. Dadl gryfaf pleidwyr cyfundrefn o’r fath oedd y buasai cwmni cenedlaethol yn dwyn cyllid ac adnoddau oddi ar gwmnïau Theatr Gwynedd, Na n’Og a Sgript Cymru. Ateb llawer, bellach, fyddai nad drwg o beth hynny. Nid myfi’n unig a siomwyd gan gynyrchiadau diweddaraf y tri chwmni.

Yn f’erthygl ddiwethaf cyfeiriais at Blodeuwedd, Theatr Gwynedd a Dosbarth Sgript Cymru fel ‘teledu-ar-lwyfan’. Yng_n â Nia Ben Aur, Cwmni Na n’Og, cytunaf â’r fam a ddywedodd wrth ei merch saith oed ar y ffordd allan: ‘Panto bach neis iawn ynte ‘fe?’

Roedd perfformwyr hynod dalentog ar y llwyfan, eto, ond fel yn y ddau gynhyrchiad arall, nid oedd y rhan fwyaf ohonynt yn gartrefol yno. Haedda Phylip Harries a Rhodri Evan eu henwi fel dau eithriad disglair.

Arwydd o eiddilwch ein theatr yw mai cynyrchiadau o addasiadau o ddrama radio Eingl-Gymreig a drama-gyfres deledu a enillodd y gystadleuaeth am ddau gomisiwn o £100,000 yr un gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Serch hynny, mae gennym hawl i ddisgwyl adloniant theatrig o’r safon uchaf pan lwyfennir Dan y Wenallt, Theatr Gwynedd ac Amdani, Sgript Cymru. Ni fydd dim llai yn ein bodloni.

Awelon gan Aled Jones Williams

Cyflwyniad theatrig a gyfarwyddwyd gan Ian Rowlands ar ran Cwmni Theatr Gwynedd; ffilm a gyfarwyddwyd gan Ifor ap Glyn ar ran Cwmni Da. Neuadd Llanofer, Llandaf, Caerdydd, 30.01.03

Nid yw Ian Rowlands wedi f’argyhoeddi, hyd yn hyn, o’i allu i gyfarwyddo drama hir, gymhleth ei strwythur â chast mawr; ond nid oes ei well, yn fy marn i, fel awdur a chyfarwyddwr monologau dramatig a gweithiau barddonol gyda nifer fechan o gymeriadau.

Ychwaneger at y doniau hynny chwaeth gain a meddylgarwch dwfn a cheir cynhyrchiad yn cyfuno barddoniaeth, theatr, y sinema a’r stafell seminar.

Dywedwyd yr oll a ddymunwn i ei ddweud am y noson eisioes gan Vaughan Hughes a Gwyneth Glyn yn eu hadolygiadau treiddgar a chymeradwyol yn Golwg (05.02.03). Ategaf eu teyrngedau hwy i’r actor, Iwan Roberts, sydd gystal ar lwyfan ag y mae o flaen y camera, ac i gelfyddyd bardd-gyfarwyddwr y ffilm, Ifor ap Glyn, ei ddyn camera, Gareth Owen a’i animeiddiwr, Cinetig. Mae fy nyled i’r artistiaid hyn yn fawr am iddynt f’argyhoeddi fod Aled Jones Williams, hefyd, yn artist ac Awelon yn gerdd nodedig, sy’n ennyn yn y sawl a’i clyw gydymdeimlad at gyd-ddyn dioddefus ac ymwybyddiaeth o’i feidroldeb ef ei hun.

Os tybiais i ac eraill mai ‘jôc’ – a defnyddio ymadrodd y bardd ei hun – oedd pryddest Tyddewi, mae’r bai yn rhannol arno ef am ddewis ffugenw mor wirion ac am osod y gerdd ar bapur mewn modd sy’n peri i’r darllenydd diog neu frysiog dybio mai cerdd i’r llygad a’r ymenydd ydyw.

Fel y dywed Vaughan Hughes am berfformiad Iwan Roberts:

Pam ddaru Iwcs anwybyddu atolnodi ecsentrig Aled wrth fynd ati i lefaru’r bryddest? Nid beirniadaeth ar Iwcs ydi hynny. Iwcs oedd yn iawn. Tasa fo wedi dilyn atolnodi Aled yn slafaidd, fe fyddai’r perfformiad wedi bod yn hollol anwrandadwy. Yn eironig, atolnodi Iwcs, nid atalnodi Aled, a barodd i’r noson fod yn llwyddiant.

Ategwyd y gosodiad ‘Iwcs oedd yn iawn’ gan rai o sylwadau’r bardd ei hum yn ystod y ‘seiat’ a ddiweddodd y noson. Dywedodd fod ei ddull ef o atalnodi’r gerdd yn efelychu anadlu beichus y claf. Camgymeriad esthetig, yn fy marn i; dyfais naturiolaidd, arwynebol yn llyffetheirio’r geiriau ac yn pylu’r realaeth arswydus a gyfleir ganddynt, sef cyflwr seicolegol ac emosiynol dyn ifanc ar ei wely angau.

Soniodd Aled Jones Williams am ddylanwad Beibl Wiliam Morgan a Llyfr Gweddi Wiliam Salesbury arno a’i edmygedd o ddau o feistri modern y farddoniaeth ddefodol, swyngyfareddol T. S. Eliot ac Ezra Pound.

Derbyniaf, heb unrhyw amheuaeth, ddatganiad Aled nad oes ganddo gydymdeimlad o gwbl â daliadau gwleidyddol, asgell-dde Eliot a Pound. O’r hyn a wn i amdano ef ac a ddarllenais am yh ddau arall mae’n ddyn llawer mwy dymunol na hwy ac, o’m safbwynt i, yn llawer mwy dymunol na hwy eu hunain a molawdau eu hedmygwyr ceidwadol. Nodaf hefyd mai fi oedd un o’r rhai cyntaf i gydnabod dawn lenyddol Aled pan wobrwyais ef ar y Ddrama Hir (yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd yn 1994, ‘rwy’n meddwl) yn wyneb gwrthgyferbyniad ffyrnig un beirniad ac ansicrwydd y llall.

Dywedaf hyn oherwydd fod pobl deallus a diwylliedig yn y Gymru sydd ohoni na allant wahaniaethu rhwng sylw beirniadol ac ymosodiad personol.

A chymryd gwaith cyhoeddedig Aled Jones Williams at ei gilydd, nid yw’n anheg dadlau mai awdur adweithiol ydyw. Nid yn gymaint fel Pound ac Eliot ag yn y traddodiad brodorol y mae Saunders Lewis a Gwenallt yn enghreifftiau amlwg ohono.

I egluro’r haeriad, dyfynaf o adolygiad D.Tecwyn Lloyd o Cnoi Cil: Cerddi a Sonedau gan D. Gwenallt Jones a ymddangosodd yn Y Llenor. (Rhifyn Gwanwyn-Haf 1943):

Yn y blynyddoedd diwethaf hyn, miniocáodd y frwydr cydrhwng yr Adwaith a’r adain Aswy yng Nghymru; aeth smartrwydd yr Adwaith yn chwerwedd, a’i chwerwedd yn anobaith. A dau faniffesto mydryddol yr anobaith a’r chwerewedd hwn hyd yn hyn yw Byd a Betws Mr Saunders Lewis a’r llyfryn diweddaraf hwn gan Mr Gwenallt Jones... Hunan-laddiad ysbrydol ydyw’r diwedd a dyna, efallai, yw’r feirniadaeth derfynol ar syniadaeth yr Adwaith a’r condemniad llwyraf ohono; sef nad oes ganddo ynddo ei hun, y nerth a’r ffydd a’r bywioldeb gobeithiol hwnnw a ysbrydola ei ddilynwyr i fyw er ei fwyn.

Pan holwyd Aled Jones Williams yngl_n â’i gredo crefyddol, cyfaddefodd mai ‘ymbalfalu am y gwirionedd’ ydoedd. Cyffes ffydd tipyn mwy diymhongar na’r Gristnogaeth Ewropeaidd uniongred, haearnaidd, awdurdodol a arddelai S. L a Gwenallt ym 1943. Gwelediagaeth adweithiol a gwrthddyneiddiol ydyw, serch hynny, gan mai pesemistaidd yw ei bydolwg a’i hagwedd at y natur ddynol, a’i bod â’i bryd ar ddarganfod rhyw wirionedd metaffisegol a rydd ystyr i fywyd trwy fyfyrdod myfïol, mewnblyg.

Chwistrellwyd yr athrawiaeth unigolyddol hon i feddyliau’r Cymry ers dwy ganrif a mwy ac mae’n esbonio ein diymadferth presennol i raddau pell. Bydd yn dal i’n llesteirio rhag cydweithio a chydweithredu’n effeithiol â’n gilydd ac â phobloedd a mudiadau blaengar i arbed Cymru a’r byd rhag difodiant hyd nes y gall yr ‘Adain Aswy’ herio ei hegomoni’n llwyddianus a chynnig atebion dyneiddiol, democrataidd a chadarnhaol i’r ‘argyfwng gwacter ystyr’.

Y Dramodydd yn ei Weithdy

Mae arna’i ofn fod Sgript Cymru’n ymdebygu’n fwyfwy i gwmni Made in Wales gynt, pan wariai gyfran helaeth o nawdd ariannol hael Cyngor y Celfyddydau ar Gynadleddau, Trafodaethau, Darlleniadau a Gweithdai, gyda’r nod o ddarganfod a datblygu ‘egin ddramodwyr/aspiring playwrights’; yn hytrach nag efelychu Dalier Sylw a llwyfannu cynyrchiadau difyr a ddiddorol a fyddai’n denu cynulleidfaoedd lluosg ac yn ysgogi awduron ifainc dawnus i sgrifennu ar gyfer y llwyfan.

Aeth Sgript Cymru gam ymhellach na’i ragflaenydd gyda gweithdai lle yr hyfforddir awduron i arwain gweithdai i hyfforddi awduron. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd ond rwy’n meddwl mai’r Adran Addysg neu’r DSS a ddylai ariannu’r prosiect ac nid Cyngor y Celfyddydau

awdur:Gareth Miles
cyfrol:482, Mawrth 2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk