Prynwch Fuwch, rhag ofn
Prynu buwch yw cyngor DAFYDD LLYWELYN ar gyfer 2003, ac yntau’n bwrw golwg yn ôl dros gynnyrch 2002 ym myd theatr Cymru.
A hithau’n agosáu at ddiwedd tymor y Nadolig, y twrci bellach wedi’i gladdu, y botel sheri’n wag a’r bag Marks & Sparks yn llawn i’r ymylon o sanau a thronsiau, ynghyd ag anrhegion eraill na blesiodd, mae’n briodol edrych yn ôl ar yr hyn a fu yn ystod y deuddeg mis diwethaf, a cheisio edrych ymlaen at y flwyddyn a ddaw.
Eleni cafwyd ystod eang o gynyrchiadau Cymraeg ac Eingl-Gymreig, yn amrywio o ran cynnwys a safon, gyda nifer ohonynt yn perthyn i’r categori ‘uffernol: os nad gwaeth’. Yn bersonol, pinacl y rhai a’m plesiodd oedd cynhyrchiad Bara Caws o deyrnged Valmai Jones i Wil Sam, Fel Hen Win. Cynhyrchiad cynnes, actio da a sgript dynn. Pethau a ddylid eu hystyried yn nodweddion digon elfennol mewn cynhyrchiad ond, yn anffodus, maent wedi bod yn rhy brin o lawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Doedd dim ymgais at fod yn rhy glyfar, nawddoglyd na thrahaus yma, ond yn hytrach, canolbwyntio ar gymeriad a stori syml ond effeithiol. Mae’n arwyddocaol mai dyma’r cynhyrchiad a ddefnyddiwyd gan y cwmni i ddynodi chwarter canrif o fodolaeth, a chyda Tony Llywelyn bellach wedi cymryd yr awenau yno, awgryma’r cynhyrchiad diweddaraf fod y cwmni wedi dychwelyd at ei wreiddiau; does dim ond gobeithio bydd y cwmni’n parhau i gyflawni ei swyddogaeth hollbwysig am y chwarter canrif nesaf.
Er gwaethaf absenoldeb Russell Goodway (rhy brysur yn dysgu pedair iaith ar ddeg arall y brifddinas si_r o fod), gwelwyd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, ac yn ôl yr arfer rhoddwyd bri a sylw cydradd i seremoni’r Fedal Ddrama fel pob seremoni arall. Bu i Jeremy Turner, un o feirniaid y gystadleuaeth, ddefnyddio’r llwyfan i roi cic yn nhîn Cyngor y Celfyddydau, a dweud y dylent fuddsoddi mwy yn ein dramodwyr ifanc, ac atgyfnerthwyd ei safiad gan safon y dramâu a ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth. Braf yw gweld Radio Cymru yn meddu ar ddigon o weledigaeth i ddarlledu’r gweithiau hyn, ond oni ddylid gweld y gweithiau hyn ar lwyfan yn ogystal?
Ym mis Awst, ennillodd dramodydd mwyaf cynhyrchiol y blynyddoedd diwethaf, Aled Jones Williams, goron Eisteddfod Genedlaethol T_ddewi, ond tra roedd yr Archdderwydd yn rhoi’r het grand am ei ben, tynnodd y ficer o Borthmadog lawer yn ei ben o ganlyniad i gynnwys a ffurf ei gerdd. Ni fu erioed yn un i barchu confensiwn, ac mae hynny’n rhywbeth hynod o iach, ac mae’n haeddu y wobr petai ond am y ffaith iddo ysgogi trafodiaeth ac ysgwyd ychydig ar y sefydliad; llongyfarchiadau mawr iddo, a gobeithio y bydd yn parhau i ‘sgwennu a chythruddo. Wedi blynyddoedd o weld beirniaid cynnyrch yr adran ddrama yn chwilota’n ofer am iot o greadigrwydd a safon, cafwyd mwy o lewyrch eleni, a rhaid croesawu hynny’n fawr. Braf gweld dau sydd wedi llafurio a gweithio mor galed a di-flino ym myd y ddrama dros y degawdau diwethaf yn dod i’r brig yng nghystadlaethau’r ddrama hir a’r ddrama fer. Fodd bynnag, pedwar mis yn ddiweddarach, yr wyf yn parhau i aros i Cefin Roberts ac Emyr Edwars gael y sylw haeddianol am eu gweithiau. Ymddengys bod llunio lwmp o rwtsh – sy’n ymdebygu ymhob agwedd i’r hyn a ddaw o ben ôl buwch - a’i alw’n ‘gelfyddyd weledol’ yn arwain at fri a pharch, ond lluniwch ddrama ac ni chewch unrhyw fath o glod. Felly, chwi ddarpar gystadleuwyr yr adran ddrama, gwnewch adduned blwyddyn newydd i chi’ch hunain: gwerthwch eich cyfrifiadur, a phrynwch fywch yn ei le.
Yn ystod y mis diwethaf gwelwyd hysbyseb yn y wasg Gymraeg yn chwilio am rywrai i fod yn aelod o banel Theatr Genedlaethol Cymru. Nawr, mae’r egwyddor dros gael Theatr Genedlaethol wedi bod yn rhygnu ymlaen ers degawdau, a thra bod pawb yn rhoi’u pig i mewn i bair y dadleuon, mae byd y ddrama Gymraeg wedi bod yn dirywio. Er i lawer godi amheuon yngl_n â’r cysyniad o Theatr Genedlaethol, ymddengys bellach mai dyma fydd prif ffocws y maes yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac o’r herwydd mae gwaith Cadeirydd a phwyllgor y Bwrdd Rheoli yn allweddol. Does dim diben gwyngalchu’r sefyllfa, mae niferoedd y cynulleidfaoedd wedi crebachu i nemor ddim, prin yw’r ddiddordeb ym myd y ddrama, ac mae perygl gwirioneddoln i’r maes gael ei ystyried fel un amherthnasol i’r diwylliant Cymraeg. Yn syml, bydd gofyn i aelodau a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli lunio a meithrin cynllun a pholisi a fydd yn ceisio ail-addysgu trigolion ein cymunedau Cymraeg i fynychu’r theatr unwaith yn rhagor, ac ni ellir gwneud hynny drwy lwyfannu cynyrchiadau cul eu hapêl yn unig. Nid wyf am eiliad yn dibrisio pwysigrwydd yr elfen artistig, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gormod o gynyrchiadau wedi cael eu llwyfannu sydd wedi apelio at lond dwrn o bobl yn unig. Yn sicr, rhaid cael theatr arbrofol, er mwyn herio traddodiad a thorri tir newydd, ond mae’n rhaid cydnabod hefyd bod nifer wedi defnyddio hyn yn y gorffenol fel esgus tila dros lwyfannu deunydd gwael a nawddoglyd. Mae gormod o snobyddiaeth wedi bod yn ddiweddar tuag at symlrwydd a’r sgiliau elfennol sydd ynghwlwm â’r ddrama. Drwy bleidio achos ‘rhyddid creadigol ac artistig’ yn goeth a gwybodus, mae ambell unn wedi dangos diffyg dealltwriaeth sylfaenol o’r gynulleidfa Gymraeg. Dyna pam yr wyf yn gobeithio y bydd ystod eang o unigolion yn eistedd ar Fwrdd Rheoli Theatr Genedlaethol Cymru – rhaid iddynt fod o gefndir a safbwynt amrywiol, ac nid yn gyfeillion mynwesol sydd yn ymhel â’r maes o ddyletswydd proffesiynol neu bersonol yn unig.
Bydd rhaid aros hyd ddechrau 2003 cyn y datgelir pwy fydd Cadeirydd ac aelodau’r Bwrdd Rheoli, ond pwy bynnag y bônt, dymunaf bob llwyddiant iddynt hwy a’r Cyfarwyddydd Artistig a benodir maes o law ganddynt. Yn sicr, mae ganddynt gyfrifoldeb enfawr o’u blaenau: dyma o bosib y cyfle olaf i achub y ddrama yng Nghymru.
Os na fydd yr unigolion hyn yn effeithiol yn eu gwaith, mae perygl gwirioneddol na fydd y wlad yn meddu ar theatr Gymraeg o gwbl. Pan ddaw hi’n bryd i Hywel Teifi y 2050au gloriannu digwyddiadau 2002 a 2003, does dim ond gobeithio y bydd ef neu hi yn nodi’n fuddugoliaethus mai dyma ddechrau pennod newydd a llewyrchus yn hanes y theatr a’r ddrama Gymraeg, yn hytrach na nodi tranc y dramodydd ar draul gwartheg.
awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:479/480 Rhagfyr/Ionawr 2002/2003
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com