Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

BIG BROTHER A GWLAD FFRIS

LISA JEN syn bwrw golwg yn l ar ei chyfnod fel actores yn Skylke, Gwlad Ffris yn gweithio ar y cynhyrchiad amlieithog Salted.

Mae yna dros wythnos bellach ers i mi ddychwelyd o Skylke, ynys fechan yng Ngwlad Ffris, Gorllewin yr Iseldiroedd, lle bm in perfformio mewn cyd-gynhyrchiad Ewropeaidd or enw Salted. Roedd on brosiect theatr unigryw, ac yn creu hanes gan ei fod yn gyd-gynhyrchiad rhwng saith o gwmn_au theatr Ewrop sydd yn gweithio mewn ieithoedd lleafrifol. Nid wyf yn credu fod cynhyrchiad oi fath wedi digwydd or blaen.

Mi oeddwn in teimlon freintiedig dros ben yn ystod fy chwe wythnos ar ynys Skylke, yn cynrychioli dau gwmni theatr o Gymru, sef Bara Caws a Clwyd Theatr Cymru yn y cynhyrchiad cynhyrfus hwn. Maer ddau gwmni yn perthyn i gymdeithas Offspring, sef gr_p o gwmn_au theatr o ddiwylliannau lleafrifol Ewrop.

Drwy ffawd y des in rhad or prosiect bod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Digwyddais ymweld G_yl yn Nmes ddwy flynedd yn l, ler oedd gweithdy yn cael ei gynnal gydag actorion ifanc, er mwyn hel ac ysgogi syniadau am gyd-gynhyrchiad. Roedd actor ifanc o Bara Caws wedi ei ddewis i gymryd rhan yn y gweithdy ond oherwydd amryw o resymau dewisiodd beidio dod, ac roeddent yn brin fel canlyniad o un actor Cymraeg! Wel, wrth reswm fe wirfoddolais i, heb unrhyw syniad y byddair peth yn mynd dim pellach. Yn dilyn y gweithdy yn Nmes, bm yn ffodus iawn, gan ir awdur ar gyfarwyddwraig, Judith De Rijke, fy ngwahodd i fod yn un or wyth actor yn y cynhyrchiad.

Yn dilyn bron i bum wythnos o ymarfer caled, cafodd y sioe Salted ei pherfformio yn ystod wythnos G_yl Theatr Oreol, g_yl syn enwog iawn am lwyfannu sioeau syn benodol berthnasol ir safle (sight-specific) ac syn denu 60,000 o bobol bob blwyddyn. Roedd mynd o ffilmior gyfres deledu Dipyn o Stad yng Nghaernarfon un dydd Gwener, i gychwyn cyfnod ymarfer Salted ar ynys bell yng ngogledd yr Iseldiroedd y Dydd Llun canlynol, yn ychydig o sioc ir sustem. Roedd y Sul cyntaf yn gyfle ir criw ar cast ddod i adnabod ei gilydd 30 ohonom i gyd. Roedd hi ddydd Sul olaf y cynhyrchiad cyn i mi ddod yn hyderus gydag enwau pawb. Roeddwn i wrth fy modd pan agorodd Ekko (y dyn saith troedfedd oedd yn rheolwr y cynhyrchiad) ddrws cefn lori anferth, an cyflwyno ni i feics mynydd newydd sbon! A dyna lle y treuliais i bob munud sbr pan oeddwn i ddim yn ymarfer ar gefn y beic yn darganfod yr ynys.

Yn dilyn hynny cawsom ein cyflwyno i Ellis hi oedd yn gyfrifol am ein cadwn nin fyw ac yn iach efo bwyd anhygoel am chwe wythnos. Dwn i ddim sut roedd hin llwyddo i goginio bwyd mor flasus ac iachus i griw mor enfawr mewn portocabin ynghanol traeth anghysbell.

Am y pythefnos cyntaf reoddem nin byw mewn chalets, neu garafan fel yr oeddwn in eu galw nhw. Cefais ir fraint o rannu fy ngharafan hefo Leire o Wlad y Basg, ac or munud y cawsom ni ein rhoi efon gilydd, roeddem nin anwahanadwy am weddill ein cyfnod ar yr ynys. Un peth wnaeth fy nharo i oedd pa mor wych oedd y trfniadau i gyd. Roedd Cwmni Tryater, yr unig gwmni theatr syn gweithio yn yr iaith Ffris, ar cwmni a ddechreuodd y prosiect Offspring yn y lle cyntaf, (ar cwmni a wnaeth y ceisiadau am yr arian sylfaenol i greur cynhyrchiad) yn gwybod yn iawn sut i edrych ar l eu gweithwyr. Mi odden nhw hyd yn oed wedi medr gosod llinell ffn a chyrifiadur gyda safler We yn un or portocabins oedd yn ystafell werdd i ni, yn ogystal ag ystafell wisgoedd/coluro a chantn ar y traeth drwy redeg y wifren o dan y ddaear am 2km ir pentref agosaf! Efallai nad yw hynnyn swnion wyrthiol, ond mi oedd on nefoedd o gysidro ble roeddem ni.

Roeddem ni fel un teulu mawr or cychwyn cyntaf, doedd ganddon ni ddim dewis a dweud y lleiaf. Mae hin gamp fawr ceisio byw, gweithio, bwyta ac ymlacio efor un un wynebau drwyr dydd, pob dydd. Felly, fe allwch chi ddychmygu, daeth pawb i adnabod ei gilydd yn sydyn iawn, ac roedd hin teimlo fel y rhaglen Big Brother ar adegau, yn enwedig pan symudom ni or maes carafanau ar l pythefnos, a symud i d_ anferth yn y pentref bychan or enw Hoorn.

Gan mai pedair wythnos a hanner oedd y cyfnod ymarfer roedd y broses yn un ddwys iawn. Roedd on brofiad hollol newydd i mi hefyd, cael cymryd rhan mewn cynhyrchiad theatr yn hytrach nag actio mewn cyfrs deledu. Roedd yr arddull actio hefyd yn gwbwl wahanol. Roeddwm nin defnyddio delweddau a thechnegau Theatr De Soleil ym Mharis a Comedi DAthalarte, yr Eidal, ac mi oedd y gyfarwyddwraig wedi gofyn i ni gadw arddull y ffilmiau enwog Monty Python mewn cof hefyd fel y gellwch ddychmygu, roedd y cynhyrchiad yn abswrd iawn.

Fel actores ifanc, roedd hyn yn rhoi cymaint o ryddid i mi. Am wythnosau, roeddwn in teimlo fel hogan fach yn gwneud dim ond chwarae ar y traeth. Roeddwn in arbrofi, yn dysgu, ac yn mwynhau. Roeddwn i hefyd yn ymfalch_o yn fy iaith. Dangosodd cymaint o fy nghydweithwyr ddiddordeb a brwdfrydedd tuag at yr iaith Gymraeg. Roedd y ddraman cychwyn gyda chefnaur actorion i gyd wedi troi oddi wrth y gynulleidfa, ac yna fy llais i yn agor y ddrama, yn canur gn werin Trafeiliais y Byd. Wel, roedd pawb wedi gwirioni hefor gn ar ffordd roedd iaith yn swnio, ac ar l chwe wythnos roedd yr actorion eraill yn medru canu brawddegau cyfan or gn, air am air yn berffaith!

Felly ar l pedair wythnos a hanner o ymarfer ar leoliad, roedd hin amser cyflwynor sioe ir gynulleidfa frwdfrydig. Ni allaf ddechrau egluror sioc, ynghyd ag edmygedd oedd gen i tuag at y gynulleidfa, pan oeddwn yn troi o fy safle ar y llwyfan rhyw hanner awr cyn ir perfformiad gychwyn, i weld 600 o bobol yn rhedeg ar draws y traeth yn eiddgar i weld ein cynhyrchiad. Gadewch i mi egluro, roedd y sioe wedi ei lwyfannu ar draeth melyn hardd, rafft mawr haearn oedd y set, a dim ond milltiroedd o fr glas, awyr glir (weithiau!) a thwyni tywod gwyn oedd yn gefndir. Ond, i goronir cwbwl, roedd y cast yn gymysgedd o actorion o 8 gwlad wahanol, a phawb ohonom yn perfformio yn ein hiaith ein hunain!

Meddyliais, beth fyddair posibilrwydd fod yna unrhyw un or gynulleidfan siarad Cymraeg, Basg, Gaeleg, Slofein, Ocsitan, iaith y Sami a Ffris? Dim llawer, dybiwn i, ac eithrior iaith Ffris efallai, gan ein bod ni yng Ngwlad Ffris. Mae ei sefyllfa yn debyg iawn i Gymru, gyda llai nag 20% o drigolion yn siarad yr iaith. Maen debyg mai cynulleidfa or Iseldiroedd y maer W_l yn ei denu fwyaf.

Ond, roedd y cynnwrf ar diddordeb ymysg y gynulleidfa, a oedd wedi cythru i brynu tocynnau ar gyfer Salted ddiwrnodau o flaen llaw, yn amlwg! Hyn roddodd y wefr fwyaf i mi gweld cymaint o frwdfrydedd/eiddgarwch i weld darn o theatr. Maddeuwch i mi am ddweud hyn, ond alla i ddim llai na meddwl mai hyn sydd ar goll ymysg ein cynulleidfa ni heddiw yng Nghymru. Efallai fy mod yn meddwl fel hyn, ond dydw i ddim wedi profi cynnwrf fel hyn erd i mi fynychu cynhyrchiad theatr pan oeddwn in blentyn, ac yn wir roeddwn in teimlon eiddigeddus iawn nad oeddwn in medru bod yn rhan or gynulleidfa a ddaeth i weld Salted. Nid wyf yn ceisio dweud mair ddrama yma ydyr peth gorau sydd erioed wedi digwydd yn hanes y Theatr yn Ewrop. Ceisio cyfleur naws ar teimlad cynhyrfus cyffredinol tuag at y Theatr yng Ng_yl Oreol ydw i, iw chymharu r teimlad fflat yr ydw i yn dueddol oi deimlo bellach yn y theatr yng Nghymru.

Ar ail noson y cynhyrchiad mi feddyliais yn siwr y byddai rhaid canslor perfformiad oherwydd y gwynt ar glaw. Ond, er syndod, roedd y gynulleidfa yn hollol fodlon eistedd drwy unrhyw hinsawdd. Roedd hyn eto yn brofiad newydd i mi, ac mi feddyliais tybed a fyddai cynulleidfa yng Nghymru yn bodloni ar hyn? Rwyn cofio meddwl, tra roeddwn yn eistedd yn fy safle ar y llwyfan ychydig o funudau cyn cychwyn y sioe ac yn wlyb diferol oherwydd y glaw, ein bod nin methu llenwi ein theatrau yng Nghymru i wylio clasur Cymraeg, ond o fy mlaen i gwelwn 600 o bobol yn eistedd mewn tywydd difrifol.

Sylweddolais hefyd nad yw prinder arian yn gorfod atal neb rhag creu theatr roedd cwmni Theatr Antzerkola Imaginarioa yng Ngwlad y Basg yn cael cymorth pitw, ond roedden nhwn cario ymlaen i greu a pherfformio, boed o ar y stryd, mewn ysgolion, neu unrhyw safle fyddain denu cynulleidfa.

Wyth actor ifanc oeddem ni, yn cymryd rhan mewn cynhyrchiad a oedd yn ymwneud gorthrwm a ieithoedd lleiafrifol. Er hynny i gyd, doeddem ni ddim yn teimlon isel ein hysbryd anaml iawn oedd y sgwrs yn troi at bynciau gwleidyddol. Roeddem ni i gyd yn yr un cwch, a dathlu yn hytrach na chwyno oedd y tueddiad, ac ymfalch_o yn y ffaith ein bod mor ffodus o fedru siarad, gweithio a byw yn ein mamiaith.

awdur:Lisa Jen
cyfrol:474/475, Gorffennaf/Awst 2002

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk