Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Mole Vama

Mae Theatr Gwynedd newydd lwyfannu drama newydd gan Aled Jones Williams am y mewnlifiad, Ta-Ra Teresa. Gofynnwyd i JERRY HUNTER gyflwyno dadansoddiad o nod yr awdur, a chyhoeddir fersiwn o’r llith hwnnw yma.

Mae’r golled a ddaw yn sgil torri’r cysylltiad rhwng iaith, tir a phobl yn hydreiddio llenyddiaeth Gymraeg o’r cychwyn cyntaf. Saif ‘Y Gododdin’ ar ddechrau’r traddodiad barddonol yn gofeb i’r hyn a gollwyd yn Yr Hen Ogledd. Colled hefyd yw naws lywodraethol y Brutiau, sef testunau canoloesol hynny sy’n ymwneud â hanes (a ffug-hanes) y Cymru. Ar ddiwedd Brut y Brenhinedd mae’r hen Fryntiaid yn colli ‘coron Ynys Brydain’ ac mae Brut y Tywysogion yn gorffen â chwymp Llywelyn y Llyw Olaf yn 1282. Mae gan hanes unrhyw draddodiad llenyddol ei rym arbennig, ac mae llawer o feirdd a llenorion modern wedi dewis trafod problemau’r presennol yn nhermau brwydrau’r gorffennol gan wneud i Arthur a Llywelyn ymrithio dro ar ôl tro mewn testun ar ôl testun.

Dyfeisiwyd dulliau eraill hefyd. Dyna, er enghraifft, nofel fer R. Gerallt Jones, Triptych. Fe’i cyhoeddwyd yn 1977, ac erbyn y flwyddyn honno roedd yn amhosibl gwadu effaith y cyfuniad o ffactorau economaidd a chymdeithasol a elwir yn ‘fewnlifiad’. Yn 1961 roedd 279 o gymunedau gyda 80% neu fwy o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Erbyn 1981 roedd y nifer wedi gostwng i 66 o gymunedau. Ac felly er mai marwolaeth unigolyn yw prif stori Triptych, mae hefyd yn cyffwrdd â marwolaeth o fath arall. Mae canser yn lladd John Bowen, prif gymeriad y nofel, ac mae’n penderfynu gadael Caerdydd a llechu mewn pentref gwledig. Daw wyneb yn wyneb â’r problemau sy’n tanseilio’r gymuned Gymraeg honno: ‘Mae’r holl ddifrod cymdeithasol a grëwyd mewn pentrefi fel hyn yn dal i losgi ynof yn boen mud, disymud’. Mae marwolaeth y gymuned Gymraeg yn ddrych i farwolaeth John Bowen ei hun; mae torri’r cysylltiad rhwng iaith, tir a phobl yn esgor ar ‘boen mud, disymud’ ynddo sy’n adlewyrchiad ysbrydol o boen corfforol y canser. Dywed R. Gerallt Jones ar ddechrau Triptych mai ‘[p]ortread... o Bobun, 1977’ ydyw; mewn geiriau eraill, mae marwolaeth John Bowen yn cynrychioli marwolaeth pawb. O gofio’r cysylltiad a geir yn y nofel rhwng marwolaeth y gymuned Gymraeg a marwolaeth yr unigolyn, gellid awgrymu ei bod hefyd yn trafod pob cymuned Gymraeg, 1977’.

Erbyn i Angharad Tomos gyhoeddi’i nofel Titrwm yn 1994 roedd ‘y difrod cymdeithasol’, chwedl R. Gerallt Jones, wedi dwysáu. Ar un olwg, mae cyfeiriadaeth wleidyddol y nofel yn amlwg. Mae Awen, prif gymeriad Titrwm, yn fud; hi sy’n cynrychioli’r rhai nad oes ganddynt lais, ac mae Eli Guthrie, mewnfudwr o Sais, yn treisio’r Gymraes ifanc hon. Pe bai’r digwyddiadau hyn yn sail i nofel realaidd, gellid meddwl y byddai’r nofel honno’n ymdrin â’r ‘mewnlifiad’ mewn modd amrwd a gorsyml. Ond nid nofel syml mohoni. Gesyd Angharad Tomos yr hyn sy’n digwydd i Awen a’r Gymraeg oddi mewn i nifer o fframweithiau syniadaethol eraill. Yn gyntaf, nid y Gymru yr ydym yn gyfarwydd â hi yw Cymru’r nofel. Palimpsest ydyw, gwlad fytholegol estron. Yn ail, ceir cyfeiriadaeth Feiblaidd sy’n gofyn inni chwilio am ystyr ysbrydol hefyd. O ystyried enw Eli Guthrie a mudandod Awen, gwelir i Angharad Tomos gymryd genedigaeth y proffwyd Samuel yn sail i’w nofel (gw. I Samuel, 1.9-20). O ddarllen Titrwm fel proffwydoliaeth ynghylch dyfodol y Gymraeg, fe gaiff y darllenydd olwg besimistaidd iawn ar y sefyllfa; anobaith a cholled yn unig a geir ar ddiwedd stori Awen. Eto, mae naws fytholegol y nofel yn gadael nifer o ddrysau dehongliadol ar agor; mae’n trafod posibiliadau a bydoedd posibl, nid ffeithiau.

Gwahanol iawn yw’r ymdriniaeth a geir mewn cerdd ddiweddar gan T. James Jones, ‘Diwrnod i’r Brenin’. Y Gymru gyfarwydd ym lleoliad y gerdd storďol hon, ac mae’r bardd yn cyflwyno’i destun mewn dull hunangofiannol. Perthynas rhwng y bardd-siaradwr a’i dad yw sylfaen y gerdd:

Un ha’ bach Mihangel,

cyn y gaeaf anochel,

roedd ein siwrne’n anorfod,

yn bererindod.

Taith o gwmpas eu bro enedigol yw’r pererindod, ac mae’n gyfle i’r tad drosglwyddo gwybodaeth am yr ardal i’r genhedlaeth nesaf:

O ffarm i ffarm, agor ffordd

â chof pedwar ugain haf

a gaeaf.

Enwi

Pob amlin a ffin a ffos

o’r map ar gefen ei law.

Dyma fap a draddodir ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth; mae T. James Jones yn defnyddio’r ddelwedd drawiadol hon i grisialu’r cysylltiad cymhleth rhwng tir, iaith a phobl. Ar ddiwedd eu pererindod mae’r tad a’r mab yn dod ar draws mewnfudwr. Mae’r Sais yn dechrau sgwrs â’r ddau Gymro, a chan anwybyddu’r ffaith eu bod yn enedigol o’r ardal mae’n awgrymu’n nawddoglyd y dylent weld ‘y castell’ ar eu ffordd adref. ‘Do you know your way there?’ yw cwestiwn y Sais. Ac mae’r tad yn ateb, gan ‘atodi’n hamddenol, wrth wisgo’i gap,/ fod gan ei fab fap.’

Mae’r map yn delwedd amlwg yn Ta-Ra Teresa hefyd. ‘I can always find Wales’ yw geiriau Johnny Heneghan wrth iddo fyseddu’r glôb. Gwelwn y mewnfudwr hwn yn ailysgrifennu map Cymru gan osod ‘Mole Vama’ a ‘Bla-Neigh Vest-Iniock’ yn lle’r enwau Cymraeg. Disgrifia Johnny ei waith mewn modd sydd hefyd yn disgrifio’r hyn a wna â map Cymru: ‘Deconstructing could be another word, I suppose... Dismantling, maybe.... Removing things, you know...’. Gan adleisio’r modd y mae trefedigaethwyr wedi disgrifio gwledydd megis Awstralia, terra nullius yw Cymru i Johnny Heneghan: ‘Wales was just a blank. As if it could be anything you wanted it to be.’ Mae’n gweld y wlad fel llechen lân y gall ysgrifennu stori newydd arni. ‘She has no memories’ yw’r hyn a ddywed am Gymru, gan ychwanegu: ‘She has no past. She has no history.’

Mae’r geiriau y mae Aled Jones Williams wedi’u dewis yn awgrymu y dylem ni ddadadeiladu iaith y mewnfudwr. O graffu ar y dyfyniadau uchod, gwelir i Johnny bersonoli Cymru; mae’r rhagenw benywaidd (‘she’) yn awgrymu ei fod yn meddwl am ferch yn ogystal â gwlad. Mae’r ddrama wedi’i hagor yn fwriadol i ddadadeiladaeth, a gellid meddwl ei bod yn cynnwys cyfeiriadau bwriadol at fath arall o theori hefyd, sef theori ôl-drefedigaethol. Mae nifer o ddamcaniaethwyr ôl-drefedigaethol wedi trafod y berthynas syniadaethol rhwng trefedigaethu a chysyniadau yngl_n â rhyw a rhywoldeb. Gwelir hyn ar waith ym mhresenoliaeth Johnny Heneghan wrth iddo ddisgrifio Eirwen: ‘Naked there. Mod gliani-like. She was a landscape.’ Mae’r arwydd i feddiannu corff y Gymraes yn adlewyrchu’r arwydd i feddiannu Cymru: ‘In the corridor I squeezed her arse. Round like a schoolroom globe, I said. And I can always find Wales, I confided in her. Jabbing my finger into her buttocks. Jabbing. And she whinced.’ Mae cysgod trais ar berthynas Johnny ac Eirwen a cheir adlais felly o gyfeiriadaeth wleidyddol Titrwm.

Er gwaethaf y cyffyrddiadau amlwg hyn, nid yw’r ddrama’n mynd i’r afael â’r pwnc mewn dull pregethwrol amlwg. Gellid dweud mai archwilio’r berthynas rhwng hunaniaeth genedlaethol a hunaniaeth bersonol yr unigolyn yw man cychwyn y ddrama, ac felly caiff yr ymdrech i ddadansoddi hunaniaeth genedlaethol ei danseilio gan broblemau seicolegol y cymeriadau unigol. Yn debyg i weithiau eraill gan Aled Jones Williams, ceir yn Ta-Ra Teresa bortread seicolegol sydd wedi’u gwthio i’r eithafon tywyll, gyda thwyll, hunan-dwyll, trais a llosgach yn rhan o’r holl blethwaith annifyr. Ystrydebau gwladgarol yw llawer o’r hyn a ddaw o enau Robat Hefin, a thrwy gyfuno darlun ystrydebol o genedlaetholwr â chefndir seicolegol cymhleth mae Aled Jones Williams yn sicrhau na fydd neges or-eglur yn cyrraedd ei gynulleidfa.

Yn wir, mae hyn oll yn awgrymu mai drama am ystyr yw Ta-Ra Teresa yn anad dim. Wrth archwilio’r modd yr ydym yn diffinio hunaniaeth genedlaethol, ac wrth archwilio’r berthynas rhwng hunaniaeth genedlaethol a hunaniaeth yr unigolyn, mae’r ddrama’n gofyn inni ystyried y modd yr ydym yn cyfleu a thraddodi ystyr. ‘Nid be’, meddai Robat Hefin am Dryweryn, ‘ond Lle ddaeth yn egwyddor’ (gan felly osod y modd y mae cenedlaetholwr o Gymro yn darllen ystyr ar fap Cymru ochr yn ochr â’r modd y mae’r mewnfudwr yn ailysgrifennu map y wlad). Ceir llawer o sôn am y cysylltiad rhwng allaqnolion a mewnolion; mae Robat Hefin yn tynnu siaced lwch Cysgod y Cryman a gosod copi arall o The Road to Wigan Pier o’i fewn. Dyna hefyd arwyddocâd y botel a’r d_r sy’n ei llenwi. Yn yr un modd, hoelir ein sylw ar wagle ar ôl gwagle. Mae Adrian yn disgrifio arch Siwan fel ‘[ll]e gwag’ gan ragweld yr arch wag a gawn ar ddiwedd y ddrama. A thrafoda Eirwen ‘[b]wysa yr hyn nad oedd yna’. Mae Robat Hefin wedi colli sicrwydd ei hunaniaeth bersonol yn ogystal â’i holl ystrydebau gwladgarol ac felly gwagle’n unig a erys ar y diwedd. Mae Aled Jones Williams yn hoelio sylw ar y cwlwm sy’n cysylltu iaith, tir a phobl drwy dorri’r cyfan a gadael dim ar ôl. Ond mae’r gwagle ar ddiwedd y ddrama yn esgor ar ystyr: rydym yn llenwi’r gwagle wrth ei drafod.

awdur:Jerry Hunter
cyfrol:479/480 Rhagfyr/Ionawr 2002/2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk