LLAIS UNIG YNG NGHANOL ANIALWCH O ANOBAITH
Bu DAFYDD LLYWELYN yn darllen y gyfrol o fonologau Cymraeg sydd newydd ei chyhoeddi.
Gan ein bod fel ‘cenedl’ wedi mynd trwy gyfnod eithriadol o dywyll a llwm yn ddiweddar, dyma feddwl y byddwn yn cynnwys jôc ar gychwyn fy erthygl, mewn ymgais i godi’r felan ryw gymaint (cewch yr ateb ar y diwedd) :
Cwestiwn: Beth sy’n binc, yn feddal ac wedi bod yn llonydd ers tri mis?
Heb amheuaeth, rhwng y naill beth a’r llall mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn hunllefus ac yn llawn straen. Methiant Tim Henman i gipio coron Wimbeldon, ac yntau’n chwaraewr mor amryddawn a thalentog. Methiant ein hogia’ ‘ni’ (geiriau The Welsh Miior) i gipio Cwpan Y Byd a’i dychwelyd i’w chartref haeddiannol. Yn olaf, ac o bosib yr un mwyaf poenus ohonynt i gyd, methiant nifer fawr o ‘principality’ i ymuno yn nathliadau mam ein prins am ei gallu rhyfeddol i deyrnasu’n llwyddiannus ac ysblebnnydd am hanner canrif – anodd yw codi o’r gwely yn y boreau gyda’r wlad mewn ffasiwn argyfwng.
Ond yng nghanol yr anialwch o anobaith, daeth llygedyn o hapusrwydd. Wrth droedio hyd un o drefi’r gogledd yn chwilio am farbwr fasa’n torri ngwallt fel un ‘Becks’, dyma gerdded heibio siop lyfrau Gymraeg a chael ffit biws wrth syllu ar yr adran ‘llyfrau newydd’. Ymhlith y cyfrolau oedd Llais un yn Llefain dan olygyddiaeth Ian Rowlands. Ynddi ceir tair monolog o eiddo Aled Jones Williams, Sharon Morgan a chan Ian Rowlands ei hun – ill tri yn unigolion pwysig o fewn y theatr Gymraeg gyfoes, ac mae cynnwys eu gweithiau’n safonol ac i’w croesawu’n fawr, er bod dwy fonolog eisoes wedi’u cyhoeddi tra’r oeddent ar daith.
O’r tair, monolog Sundance o eiddo Aled Jones Williams yw’r orau, mae’n hynod o gelfydd, ac er i mi weld portread godidog Jonathon Nefydd o’r fonolog, dim ond wrth ei darllen am yr ail a’r trydydd tro mae rhywun yn sylweddoli cymaint o feistr ar eiriau yw’r awdur. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Aled Jones Williams wedi bod yn brysur yn naddu ei enw ar restr ddethol o ddramodwyr gorau Cymru, ac fel y tystia y fonolog hon, mae ei waith yn eithriadol o gymhleth ond eto’n llawn melodi a rhythm.
Un o rinweddau amlwg y gyfrol yw’r nodiadau a chyflwyniadau’r actorion a berfformiodd y monologau hyn yn wreiddiol. Er i mi deimlo bod disgrifiad Sharon Morgan o’r cymeriad Muriel yn adlais o feddylfryd sydd wedi dyddio erbyn hyn: ‘Mae hi ishe bod yn gydradd ac yn wraig. Dyw hi ddim yn sylweddoli bod y ddau air yn anghymarus’, mae cyfraniad yr actorion yn sicr yn cyfoethogi’r deunydd dramatig. Yn yr un modd, mae rhagarweiniad o ysgrifbin Nic Ros ar ddechrau’r gyfrol yn rhoi’r gweithiau yn eu cyd-destun priodol. Fodd bynnag, un peth yr hoffwn fod wedi ei weld yn ychwanegol fyddai sylwadau’r awdur i gyd-fynd â’r gweithiau hyn. Gan mai Sharon Morgan ei hun oedd hefyd yn gyfrifol am addasu stori fer Monologue o eiddo Simone de Beauvoir a’i mowldio a’i siapio i’r Gymraeg, gan ei hail-fedyddio’n Gobeithion Gorffwyll, mae ei chyflwyniad hi’n llwyddo i gyfuno persbectif yr actores a’r awdures yn llwyddiannus. O safbwynt y monologau eraill, yn arbennig felly Sundance, braf fyddai cael cipolwg ar ddehongliad yr awdur ei hun, ac er y llwydda Jonathon Nefydd i daflu ryw gymaint o oleuni ar y modd mae Aled Jones Williams yn mynd ati i lunio ei ‘ddeialog (b)werus’, byddai cael cyfraniad ganddo wedi ychwanegu dimensiwn arall i’r gyfrol. Efallai bod yr absenoldeb hyn yn adlewyrchu rôl a statws yr awdur y dyddiau hyn.
Cyfyd cyhoeddi’r gyfrol hon gwestiwn pwysig iawn yngl_n â’r berthynas honno rhwng y ddrama Gymraeg a’r byd cyhoeddi. Er i gwmni Dalier Sylw gynt fynd ati i gyhoeddi dramâu, dim ond un wasg sydd wedi mentro gwneud unrhyw fath o argraff yn y maes hwn yn ddiweddar, sef Gwasg Garreg Gwalch gyda’r gyfres I’r Golau, ac mae Myrddin ap Dafydd a’i gyd-weithwyr i’w canmol am ymdrechu i ddangos rhywfaint o ymwybyddiaeth o fodolaeth byd y ddrama i ddiwylliant ein gwlad. Ac eithrio’r wasg hon, mae canfod Gymraeg gyfoes mewn print y dyddiau hyn fel canfod harmoni o fewn rhngoedd Plaid Cymru – mae’n rhywbeth prin iawn. Gwelwyd ymdrech i sicrhau bod deunydd Eing-Gymreig yn cael ei gyhoeddi’n gyson dros y blynyddoedd diwethaf, gyda gwasg Parthian Books yn ddygn iawn i sicrhau bod awduron Cymreig a Chymraeg, ond sy’n dewis ysgrifennu yn yr iaith fain, yn cael cyflwyno eu gweithiau i gynulleidfa ehangach na’r rhai sy’n mynychu theatrau’n selog. Fodd bynnag, ymddengys nad oes gweledigaeth gyffelyb yn bodoli i’m hawduron sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg.
Dros y blynyddoedd yr wyf wedi laru ar y sefyllfa anfoddhaol hon. Dadl sy’n cael ei defnyddio yn gyson pan drafodir y maes hwn yw nad oes digon o ddramâu safonol sydd werth eu hystyried ar gyfer eu cyhoeddi. Ffwlbri a nonsens llwyr yw honiadau o’r fath, fel tystia cynnwys y gyfrol uchod.
Esgus tila a ddefnyddir er mwyn ceisio egluro’r sefyllfa anoddhaol hon yw nad oes digon o werthiant ar ddramâu i gyfiawnhau eu hargraffu. Unwaith yn rhagor, rhaid cwestiynu faint o werthu sydd yna ar lyfrau Cymraeg yn gyffredinol erbyn heddiw? O’r hyn a ddeallaf mae sawl llyfr yn cael ei ystyried yn ‘llwyddiannus’, os yw’n gwerthu oddeutu cant a hanner i ddau gant o gop_au. Yn hyn o beth, ni allaf weld bod unrhyw sail i’r ddadl nad oes galw am ddramâu o gymharu â ffurfiau eraill o’n llenyddiaeth. Yn wir, o gofio’r holl sôn sydd wedi bod am dranc y ddrama yng Nghymru, mi fyddai cael polisi cynhwysfawr a chall o gyhoeddi gweithiau newydd a chyfoes y rhoi hwb sylweddol i’r achos. Sharon Morgan sy’n llwyddo i grisialu’r cyfan orau: ‘...o’dd hi’n ddigon anodd yn 1994, ond o leia’ adeg hynny roedd ‘na ddiwylliant Theatr Gymraeg gyffrous. Erbyn hyn mae wedi’i wahanu gymaint nes ei fod yn cropian ar ei bedwar. Heb theatr i ysgogi, adlewyrchu, cwestiynu, diddanu ma’r genedl ar ei cholled yn ddirfaw.’ Ag eithrio’r flwyddyn – mi fyddwn yn honni bod craciau yn llewyrch y ddrama Gymraeg wedi dechrau amlygu eu hunain cyn 1994 – y cwbl y gallaf ei wneud yw amenio geiriau Sharon Morgan. Mae hi’n hen hen bregeth, sydd wedi’i chlywed hyd at syrffed, ond hyd yma mae’r cyfan wedi bod yn ofer. Os ydym o ddifri yngl_n â mynd ati i ddiogelu dyfodol i’r theatr, yna mae’n ddyletswydd cyhoeddi cynllun synhwyrol o gyhoeddi dramâu Cymraeg. Gyda lwc, bydd y gyfrol hon yn dynodi dealltwriaeth newydd rhwng y byd cyhoeddi a’r ddrama Gymraeg, a buan y gwelwn cyfrolau cyffelyb.
Cyn cloi, hoffwn longyfarch yr Eisteddfod Genedlaethol – yr wyf wedi bod yn fwy na pharod i feirniadu’r sefydliad hwnnw yn y gorfennol, ond rhaid canmol tro hwn. Wrth ddarllen testunau Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau 2003, braf oedd gweld cystadleuaeth i gwmn_au amatur lwyfannu un o ddramâu byrion Wil Sam. Yr wyf yn ymfalch_o yn y gystadleuaeth hon am ddau reswm. Yn gyntaf, mae’n cydnabod cyfraniad enfawr yr athrylith o awdur sydd wedi glynu’n ffyddlon i’w wreiddiau a’i gynefin; yn ail, rhydd y wobr y cyfle am gydweithio rhwng y byd amatur a’r proffesiynol. Dyma agwedd sydd wedi bod yn ddiffygiol dros y blynyddoedd diwethaf, mae gormod o snobyddiaeth wedi bodoli yn y gorffennol, ac efallai bod hyn yn gam positif arall ym myd y ddrama Gymraeg.
Er fy mod yn croesawu’r datblygiad hwn ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol, rhaid ceryddu Gorsedd y Beirdd yn ddirfawr am eu rhaglen gyhoeddi Eisteddfod 2003 yn y Trallwng ddiwedd mis Mehefin eleni. Siom enfawr oedd talu punt a hanner can ceiniog am raglen swyddogol a sylweddoli yn ddiweddarach nad oedd llun o’r frenhines yn rhan o’r cynnwys. A hithau’n ymwelydd cyson â’r W_l, ac i’w gweld yn flynyddol yn y maes carafanau ac ym Maes B, mae’n siwr iddi gymryd y fath anfri yn eithriadol o bersonol, yn enwedig a hithau’n dathlu pen blwydd arbennig iawn eleni. Duw a _yr beth mae’n feddwl ohonom fel cenedl, nid yn unig mae rhai ohonom yn gwrthod bwyta jeli i ddathlu ei theyrnasiad, ond mae’n well gennym pin-up o Robin Ll_n na llun ohoni hi. A nawr, yr ateb i’r cwestiwn a osodwyd ar frig yr erthygl: slipar y fam frenhines.
awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:474/475, Gorffennaf/Awst 2002
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com