Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

A55 Dwy Ffordd

Aeth NIC ROS i weld cynhyrchiad Theatr Gwynedd o ddrama Aled Jones Williams am y mewnlifiad

Ta-Ra Teresa

Mewn tymor theatr hynod o ddiflas, di-ddychymyg, mae drama newydd gan ein barn llwyfan mwyaf heiriol fel gwerddon mewn anialwch. Hyd yn oed gyda Theatr Gwynedd o dan lywyddiaeth un o ffefrynnau (hunan-etholedig) y ras am arweinyddiaeth y Theatr Gymraeg Genedlaethol, gorwedda Ta-Ra Teresa rhwng oferedd Blodeuwedd ac amherthnasedd Dan y Wenallt. Dim ond gyda datblygiad gwaith newydd a pherthnasol y daw cynulleidfaoedd newydd, a thrasiedi yw system gomisiynu sy地 gweld ffordd ymlaen mewn hen ddram穹 radio Dylan Thomas ac addasiadau o gyfresi teledu (Amdani) fel rhagbrofion ar gyfer Theatr Cymru Mk 2. Ac felly, ar ganiad y corn gwlad daw Aled Jones Williams (stage left) gyda drama newydd am y mewnlifiad. Llais unigolyddol ar gyfer amseroedd dadleuol. Ond diolch byth amdano, nid gwleidydd mohono. Hyd yn oed ag yntau地 ficer, nid pregethwrol mo段 farddoniaeth.

Camp fwyaf angenrheidiol Ta-Ra Teresa yw ei chydbwysedd. Ffoadur economaidd yw Johnny sy地 gweld Cymru fel cynfas wag a dechreuad newydd. Fel y dangosodd droeon o池 blaen wrth uniaethu ag elfennau ymylol cymdeithas (Cnawd, Fel Ystafell), nid condemnio gweithredoedd a wna Aled Jones Williams ond ceisio deall cymhellion. Mae ei gydymdeimlad yn amlwg nid yn unig tuag at sefyllfa Johnny a段 debyg, ond hefyd mae地 rhannu ei ganfyddiad o Gymru, yn rhannol o leiaf. Cynrychiolir y Cymry Cymraeg traddodiadol gan Robat Hefin, ymgyrchydd cenedlaetholgar, ond dyma bortread lleiaf diddorol y ddrama. Llwydda Owain Arwyn yn ddiamheuol fel Robat, a hynny er ei fod yn rhy ifanc i池 rhan, ond ni ellir osgoi池 rhagdybiaeth bod y math yma o fabi mam a welsom o池 blaen yng ngwaith Aled Jones Williams, rhywsut yn haeddu段 dynged erchyll. Fel Oidipos, a sawl arwr trasig arall o gyfnod y Groegiaid, ei wendid pennaf yw gwadu段 hunaniaeth eu hyn (yn ogystal � Seisnigrwydd ei gariad), ac ergyd fwyaf y ddrama yw awgrymu ei fod yntau, a地 bod ninnau, wedi tynnu trallod am ein pennau地 hunain.

Mae池 ddyfais cynllwyn sy地 golygu fod Robat Hefin a Johnny yn perthyn i蜘 gilydd yn un sy地 hen het, fel rhethreg yr arwr ifanc, ac yn ymddangosiadol ystrydebol. Wrth ddarllen y testun ymlaen llaw, synnais o weld defnydd ar drobwynt sy地 gymaint o gyd-ddigwyddiad. Ond wedi gweld y cynhyrchiad a chael cyfle i blymio i ddyfnderoedd ystyr y testun daw地 amlwg mai bwriadol yw池 amryfusedd. Ofer yw protestiadau Robat ynghylch ei arwahanrwydd oddi wrth y Saeson, a段 embaras dros syrthio mewn cariad gyda hanner Saesnes, a hynny nid yn unig oherwydd ei fod yn hanner Sais, ond oherwydd, fel y dywed y ddyweddi: 船amwain ydy bob dim... Pa iaith ti地 siarad...Lles ges ti dy eni... Pwy ydy dy rieni di.�

Yn wahanol iawn i P麝 Goch, Wal a Tiwlips, nid delwedd yw dechreubwynt y dramodydd, ond yn hytrach gwagedd. Mae池 cynhyrchiad, fel y fam Eirwen, yn dychwelyd o Lerpwl ar ddiwedd y ddrama yn waglaw, 疎c mi oedd pwysa yr hyn nad oedd yno yn affwysol.� Symbol o池 Gymru sydd ohoni yw池 llwyfan gwag, gyda池 bwlch yn cael ei lenwi, yn llythrennol, gan eiriau池 bardd.Tryweryn yw池 hanes sy地 allwedd i eiconograffeg y cynhyrchiad a池 testun, sy地 nofio mewn cyfeiriadau at dd_r a hylif o bob math., cymaint felly nes fod tywallt damweiniol y champagne ar y noson gyntaf hyd yn oed yn ymddangos yn arwyddocaol.

Ond ni pherthyn y d_r i neb, medd y Cristion o awdur yma, ac yng ngeiriau Johnny heneghan 腺efore I came here I didn稚 even know where Liverpool got it痴 water from. I honestly thought it came from the sky. Stupid eh? I壇 never even heard of Tree Where N. Honest to God.�

Perfformiad grymus ac argyhoeddiadol a geir gan Michael Atkinson fel Johnny, a rhaid canmol y cyfarwyddydd pan fo hi mor anodd i actor beidio deall yn union beth sy地 cael ei ddweud o段 gwmpas. Fe段 cynorthwyir gan yr awdur wrth beidio � defnyddio llawer ar ddeialog ond yn hytrach cyfres o fonologau地 cydblethu. Nid oes amheuaeth mai yn Johnny ac Eirwen y mae diddordeb y gynulleidfa, fel y dramodydd, a池 elfen o Romeo a Jiwliet gyda池 p穩 iau sydd leiaf llwyddianus. Gellir dadlau mai negyddol yw canolbwyntio ar gamgymeriadau池 gorffenol yn hytrach na池 math o obaith a geir ym mrwdfrydedd Robat Hefin, ond trasiedi Cymru yw trasiedi池 fam. Mae hithau wedi gwerthu ei henaid i siopau Lerpwl ymhell cyn mentro i burdan Llandudno am ei hamffyddlondeb symbolaidd. Yn y rhan dyngedfennol hon mae Rhian Cadwaladr yn ymroi ei hun gorff ac enaid, ac erbyn hyn mae gan yr actores hon yr hyder i gario golygfa ar ei phen ei hun, fel y gwna ar y ff�n yn trefnu swper dyweddiad ei mab. Yr unig siomiant ar y noson gyntaf oedd Elin Wmffras a oedd braidd yn undonog, ond mae gwaith gorau池 actores hon i Bara Caws yn brawf o段 gallu, a hwyrach y bydd yn setlo i池 rhan.

Er cystal y perfformiadau a lwyddodd Ian Rowlands i ennyn gan ei gast, gormod o bwdin yw池 cyfarwyddo mewn perthynas 竰r cynllunio, sy地 awgrymu diffyg hyder y cyfarwyddydd yn y testun. Mae yma ffrogiau地 disgyn o池 to, manecins yn ymddangos o池 ochrau, a池 waliau地 dylifo � thestun a delwedd. Hawdd fyddai dod i池 casgliad mai drama radio a ysgrifennodd Aled Jones Williams yma, ac ymgais deg i greu theatr o farddoniaeth a geir. Ond canfyddais fy hun yn ysu am lonyddwch i gael canolbwyntio ar eiriau ysblennydd yr awdur. Mae地 wir nad yw池 cymeriadau yn siarad 竰i gilydd ryw lawer, ac nad oes yna lawer yn digwydd tan y chwarter olaf, ond cymharer, er enghraifft, Faith Healer gan Brian Friel sydd yn gyfres o fonologau o ran ffurf yn ogystal ag arddull. Yn y ddrama gan y Gwyddel, ac mewn cynhyrchiad cofiadwy, eto gan Theatr Gwynedd, llonyddwch oedd prif nodwedd y cyfarwyddo. Mae yna adegau pan fo池 holl weithgarwch yn ennyn cyffro, ac weithiau mae池 cyfarwyddydd wedi llwyddo地 ddigamsyniol i ddefnyddio池 dechnoleg at bwrpas y ddrama: ar diwedd y testun ceir golygfeydd angladdol sy地 anodd iawn eu llwyfannu, ac yma mae池 defnydd o fideo yn gaffaeliad pendant. Ac nid oes modd dadlau bod edrychiad y cyflwyniad yn drawiadol, a chefais fy atgoffa o rai o arbrofion cynharach Ian Rowlands gyda Theatr y Byd. Dyma池 cwmni a lwyfannodd ei gampwaith Marriage of Convenience, ei fyfyrdod ar ddwyieithrwydd cymoedd diwydiannol y De. Hoffais yn fawr symlrwydd llwyfannu yma a adawodd inni ganolbwyntio ar y dawn dweud.

Nod amlwg a chanmoladwy yw池 ymdrech i ddenu cynulleidfa ddwyieithog i池 cyflwyniad, er mai drama Gymraeg yn cynnwys Saesneg yn hytrach na drama dwyieithog yw hi. Ar dystoliaeth y noson gyntaf yn unig, nid oedd y rhagolygon yn dda. Rhaid nodi hefyd fod y nod yma yn faen tramgwydd i fwynhad y gynulleidfa Gymraeg hefyd, oherwydd yn lle trosdeitlau ar waelod neu ochr y llwyfan, mae池 Saesneg yn rhan annatod o池 cynllunio gyda thafluniadau o池 testun yn yr iaith fain ar hyd y wal gefn, gan ychwanegu at y cawl. Yn anffodus felly, mae bwriad canmoladwy yn cael ei lesteirio gan y ffordd o ddweud.

Am y tro cyntaf ers talwm crewyd gwaith o bwys yn Theatr Gwynedd, gan gynnig profiad theatrig dros ben. Y gobaith yw y bydd Aled Jones Williams yn parhau i weithio ar y testun, oherwydd er fod ganddo地 wastadol rywbeth i蜘 ddweud a modd dramatig o段 ddweud, mae �l brys ar Ta-Ra Teresa. Ambell dro mae池 chwarae geiriol sydd mor nodweddiadol o段 waith yn llafurus e.e. 腺ob-digeidfran�, ond hwyrach y dylwn nodi fod sawl un o知 cwmpas wedi chwerthin yma. Yn fwy difrifol, mae clystwr o ddigwyddiadau mawr yn chwarter olaf y ddrama yn golygu ei bod hi braidd yn anghytbwys. Yn sicr mae modd maddau m穗 frychau mewn gwaith sy地 hynod o bwerus, uchelgeisiol a chytbwys, o leiaf o ran ei ymdriniaeth o thema ymfflamychol.

awdur:Nic Ros
cyfrol:479/480 Rhagfyr/Ionawr 2002/2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk