Wil Sam
Gyda’r cynhyrchiad Fel Hen Win ar ddiwedd ei daith, TWM MORYS sy’n sôn am Wil Sam.
Mi fydd pob mathau o adar diarth yn landio yn Llanystumdwy i nythu dros dro yn Nh_ Newydd, y Ganolfan Sgwennu. Rai blynyddoedd yn ôl, mi ddaeth pladras o ddynes hardd o’r enw Louise Halfe, bardd o lwyth y Crî, o Saskatchewan yng Nghanada i ddarllen ei gwaith i lond lle o bobol. Ei henw arall hi ydi ‘Skydancer’, sef enw’r Crî ar y dreigiau’r ydan ni’n eu galw’n Oleuni’r Gogledd, a’u henw nhw hwfyd ar rywyn sydd â dawn dweud y cyfarwydd. Yn Saesneg, neu yn Americaneg, roedd hi’n siarad, ond roedd gynni hi acen oedd yn amlwg yn perthyn i iaith ac i fyd cwbwl wahanol:
Our feet were free
Before da walk of da white skin.
I can’t dell you where I waz born.
In a dent somewhere,
Maybe in da bush. Mudder
Squat an push...
Magwyd hon ar ‘dir cadw’ Llyn y Cyfrwy yn Alberta, lle na wydda’r hen bobol ond eu heniaith eu hunain. A’i phwnc hi ydi chwalfa’r byd brodorol, neu Canadian colonization of the people of the First Nations and its immediate impact on the psyche, chwedl hithau. Sôn y byddi hi am y modd y gorfodwyd y plant i dorri eu gwalltiau, i gymryd enwau call fel Marie a Pierre yn lle Dynes Arth Fechan, a Dyn Osgói Ceffylau, ac i ddysgu iaith a chrefydd y dyn gwyn yn yr ysgolion cenhadol. Mi adawodd hi’r ysgol yn un ar bymtheg oed, a mynd i wneud gwaith cymdeithasol ymhlith ei llwyth clwyfus. ‘Dem Jezuits’, meddai, ‘had it in dem to make da savage holee, didn’t like dere wild chantin’. Smokin’ dem grass an makin’ dere moses speakin’ to dem bushes an round rocks...’
Ar ôl y darlleniad mi aeth pawb, yn ôl yr arfer, i’r Ffeddars, lle bydd croeso cynnes bpb amser i feirdd a llenorion. Roedd pawb â’i benelin yn sennau’i gilydd isio siarad efo’r Skydancer. Ond o’r eiliad y trawodd ei llygad hi ar yr hen _r mwyn yn y gornel, efo hwnnw y mynnai fod. Roedd ei ên fel corn lleuad. Roedd ei lygaid fel llygaid jac-y-do. Roedd o’n chwerthin fel llwynog yn coethi. Wiliam Samuel Jones oedd o.
R_an, mi welais ambell i fardd, a’i ddiadell myfyrwragedd o’i amgylch, yn anwybyddu’r hen _r mwyn yn y gornel: lle na wêl Sais ddim byd mae holl synwyr pen Cymro ynghyd. Ond roedd y ddynes o lwyth y Crî fel tasai hi wedi cael hyd i ewyrth oedd wedi mynd i nôl plu drwy flynyddoedd maith yn ôl, a heb ddychwelyd i’r gwersyll. A dyna lle buon nhw ill dau fraich-ym-mraich drwy’r nos yn rhaffu chwedlau, ac yn tynnu’r iaith Saesneg drwy’r melinau rhyfedda’n fyw. A châi neb o’r criw oedd ar bigau isio holi am y ddiod gadarn ymhlith ieuenctid y Brodorion, ac am le’r ferch ar y tiroedd cadw, neu am ragenwau personol dyrys iaith yr Ayisinyiwok, ei big i mewn. Mi ddywedodd cyfaill imi wedyn ei fod yn gwybod y rheswm am y ffasiwn dân ar aelwyd newydd: mai Indian Coch ydi Wil Sam hefyd!
Yr un adeg yr oedd y cenhadon yn sgwennu eu hadroddiad hurt am anwybodaeth ac alladrwydd y Crî, ac yn gwneud eu gorau glas i grafu’r saim arth oddi arnyn nhw yn eu hysgolion, nes eu drysu nhw’n llwyr, y cyhoeddwyd y Llyfrau Gleision yng Nghymru.Ryw dri chwarter canrif wedi hynny, dyna Wil Sam yn gorfod adrodd y Credoau yn Saesneg yn ysgol eglwys Llanystumdwy, heb ddeall dim arnyn nhw. A phan aeth bron yn uniaith i’r Cownti Sg_l i Port, roedd Seisnigrwydd y lle yn gymaint o fwrn arno nes iddo benderfynu crogi ei hyn. Ddaru o ddim, fel y gwyddoch chi. Ond mi fu’n waldio ei ben-glin am hydoedd efo mwrthwl lwmp.
Wedyn, pan ddaeth hi’n amser listio, mi aeth Wil a thri arall i beintio YMWRTHYD CYMRU Â RHYFELOEDD LLOEGR ar wal yr hen gapel, a hithau’n Saboth arnyn nhw’n gorffen. Coniche Village y bedyddiwyd Llanystumdwy yn y wasg Saesneg (Lloyd George Village erbyn hyn, wrth gwrs). Mae golygfa yn Fel Hen Win am heddychiaeth teulu Ty’n Llan sy wedi plesio Wil yn arw.
Drwy ei oes i gyhd, er mynd weithiau ar gyrch i Ddulyn, Ynys Manaw neu Gaerdydd, bu’n well gynno fo fod yn ei Dyddyn nag yn unlle; ond dydi o’n cael yr enw o hyd o hyd o fod yn ‘awdur ei filltir sgwâr’?
Mi fydd o’n cnoi dail mieri at ddolur cylla. Mae o’n goblyn am hel achau. A chyfieithwch rai o enwau cyfeillion a chydnabod ei oes hir o i Saesneg, yn ôl yr arfer yn America a Chanada: Grey from the Hill, Robin Red Field, Wil Small House, Morus Little Land, Jac Star Point.
Ac os ydach chi’n amau priodoldeb galw eifionydd yn ‘dir cadw’ darllennwch yr erthygl ddiweddar yn Dail-y-Post am ‘Wil’s wonderful Welsh world’; am ei ‘rural anecdotes’, a’r modd mae o wedi llwyddo i ‘seduce country folk with his naïve ways’. ‘Os ydi Wil yn naïve,’ meddai un arall o’r plwy, ‘dwi yn gath-fôr’. Ond wedyn hogan o’r ddinas bell honno, Porthmadog, sgwennodd yr erthygl.
Ond llawn gwaeth ydi bod Cymru Wil Sam fel tasai hi’n wlad ddiarth erbyn hyn i’r cyfryngau a’r colegau Cymraeg hefyd. Mi glywais alw’r dyn yn ‘elitaidd’ ryw dro gan un o’r cyfryng-gwn. Beth ydi ystyr hynny? Nad ydi Wil Sam yn rhan o’r sefyllfa o ddwyieithrwydd tymor-hir mae i gyd ohonyn nhw yn? Bod ei Gymraeg o yn ‘fwy Cymraeg nag unrhyw Gymraeg a siaredir heddiw’? Ei fod o’n hen? Mi wn hefyd am diwtoriaid ifanc sy’n dweud wrth eu disgyblion na fydd Wil Sam yn cymryd ei ddeunydd o’r fro o’i gwmpas o gwbwl, a Wil ei hun yn dweud bod arno fo bod un dim i’r fro.
Isio iddyn nhw ddod i’r fro sydd, efallai, neu o leia’ siarad efo Wil. Mae ‘na lonydd go lew ar y reservation, a ffôn yn y rhan fwya’ o’r pebyll.
awdur:Twm Morys
cyfrol:477, Hydref 2002
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com