Colofn Gareth Miles – Dramâu a’u Hawduron
Treuliodd GARETH MILES y mis diwethaf yn theatrau Cymru
Past Away, gan Tracey Harris, Theatr y Chapter, Caerdydd, 17.09.02
Wedi imi ddarllen adolygiad beirniadol iawn Davis Adams o gynhyrchiad Sgript Cymru o ddrama Tracey Harris, addunedais ymatal rhag ysgrifennu dim byd mor gas am ddrama gyntaf awdures ifanc 22 oed.O’i gweld ar lwyfan, gwyddwn ymhen pum munud na allwn gadw ‘ngair.
Becket, Pinter ac Orton yw’r dylynwadau amlycaf ond nid oes yma rhithyn o ing a direidi dirfodol y cyntaf, yr un sill o farddoniaeth yr ail, na’r mymryn lleiaf o anlladrwydd doniol, digywilydd y trydydd. Beth wmbredd o’r rhegi a’r bytheirio sydd mor nodweddiadol o ddramodwyr Saesneg cyfoes Cymru.
Os oes deunydd dramodydd yn Tracy Harris ni wnaiff y sylwadau hyn ei llesteirio. Gallent eu helpu trwy ei hannog i lunio dramâu ag iddynt naratif eglur, ieithwedd ffraeth, cymeriadau diddorol a chyd-destun cymdeithasol pendant. Peidied â gwrando ar froliant Simon Harris, Cyfarwyddwr Artistig Sgript Cymru, a ddeil fod hon yn ‘extraordinary play’ sy’n datgan ‘that rare thing – a trully uncompromising and unique voice’; na gwrando ei sylwadau dilornus yngl_n â ‘conventional story-telling, craft and the well-made play’. Awdur rhyfygus sy’n hepgor yr elfennau hynny heb eu meistrioli.
Nid gwastraff amser llwyr fu’r noswaith. Gwelsom Nia Roberts yn dawnsio i gyfeiliant llais melfedaidd Nat King Cole yn canu yn Sbaeneg ac fe’i clywsom hi’n rhoi hygrededd i gymeriadau di-ddima bywyd i linellau ystrydebol.
Welais i mo gynhyrchiad blaenorol Sgript Cymru, Franco’s Bastard gan Dic Edwards ond adwaen feirniad craff a wnaeth. Yn ôl y rhieni, arwynebol yw adnabyddiaeth yr awdur o’r Mudiad Cenedlaethol ac o feddylfryd ‘eithafwyr’ y chwedegau; ‘roedd y cyfarwyddo’n llipa, meddent, a’r goleuo’n ogofaol. Cafwyd perfformiad gorau’r noson, meddai un cyfaill o ddramodydd, gan Gethin ap Iestyn (FWA, ret’d), a neidiodd ar y llwyfan i brotestio’n erbyn yr amarch ar ei gymrawd, y diweddar Caeo Evans.
Sgript. Cymru. Nid fi yw’r unig un sy’n meddwl nad yw’r Cyfarwyddwr Artistig yn gwybod cymaint amdanynt â’i ragflaenydd.
Perthyn gan Meic Povey, Theatr y Sherman, 26.09.02
Yn yr un theatr, oddeutu bymtheg mlynedd yn ôl, gwelais berfformiad o ddrama am losgach gan yr un awdur wedi ei chyfarwyddo gan yr un cyfarwyddwr. Fe’i cofiaf fel un o brofiadau theatrig diflasaf fy mywyd: sgript chwerw, amrwd a dichwaeth, cyfarwyddo trwsgwl a set mor naturiolaidd â dodrefn mewn ffenest siop.
Byddaf yn cofio’r cyflwyniad hwn o Perthyn gan yr actorion dawnus, Bryn Fôn, Iola Hughes, Christine Pritchard a Sue Roderick, wedi eu cyfarwyddo’n feistrolgar gan Dafydd Hywel, fel un o’r profiadau gorau. Wn i ddim am bwnc anos i awdur ymdrin ag ef na chamdrin plant yn rhywiol. Llwyddodd Meic Povey yn rhyfeddol, gan sobreiddio ac addysgu’r gynulleidfa wrth ei diddanu.
Sut mae esbonio digwyddiad mor lwyr a syfrdanol? Gyda dau air, ‘rwy’n tybio: aeddfedrwydd a phrofiad. Dyma brawf digamsynol fod y Theatr Gymraeg yn meddu adnoddau y gallwn ymfalchďo ynddynt fel cenedl.
Excelsior gan Saunders Lewis, Theatr Gwynedd, mis Mawrtg 1992.
Ddeng mlynedd yn ôl, ychydig cyn Etholiad Cyffredinol 1992, gwahoddwyd fi gan y diweddar Graham Laker i fod yn aelod o banel o dri a fyddai’n agor trafodaeth ar Excelsior ar derfyn perfformiad o’i gynhyrchiad ef o’r ddrama. Dafydd Glyn Jones a’r diweddar Arglwydd Cledwyn fyddai’r ddau arall; Dafydd Glyn – pwy well? – i osod y ddrama yng nghyd-destun bywyd a gwaith yr awdur, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ymdrin â’i gwleidyddiaeth, a minnau i gloriannu’r cynhyrchiad.
Yn anffodus, bu raid i Arweinydd y Blaid Lafur yn Nh_’r Arglwyddi dynnu’n ôl a chymerwyd ei le gan Dafydd Elis Thomas, heb deitl o flaen nac ar ôl ei enw ar y pryd. Pan holais beth fyddai ganddo at ei gynnal yn awr atebodd ei fod yn bwriadu darlithio, newyddiadura a gweithio i ryw asiantaeth amgylcheddol a sefydlwyd ganddo.
Traethodd D.E.T ei farn am y cynhyrchiad gyda’i huotledd arferol heb sôn fawr ddim am wleidyddiaeth y ddrama. Gwnes i hynny trwy awgrymu mai gwendid canolog Excelsior oedd dirmyg llwyr yr awdur at Huw Huws, yr A.S Llafur a ddyrchefir i D_’r Arglwyddi, a’i Asiant, Dic Sarc. (Difethir Gymerwch Chi Sigaret? Yn yr un modd oherwydd mai diniweityn yw Marc, heb nag argyhoeddiad na deallusrwydd a’i galluogi i herio dadleuon Iris a Phugas).
Dywedais mai bradwyr, ffyliaid neu sinicaidd oedd arweinwyr y Blaid Lafur, ym marn S.L.; dynion diegwyddor yn cael eu gyrru gan uchelgais, materoliaeth fas a blys am awdurdod. Ceir pobl felly ym mhob plaid ond gall y rhan fwyaf o wleidyddion ddatgan gyda R.Williams-Parry a’r rhelyw ohonom: ‘Rwy’n wael, ‘rwy’n wych, ‘rwy’n gymysg oll i gyd...’.
Serch hynny, fel y llefarwn, gwyddwn yng nghefn fy meddwl fod rhethreg Huw Huws yn f’atgoffa o ddatganiadau gwleidyddol go-iawn. E.e: ‘Trafod egwyddorion moesol gwleidyddiaeth yw fy maes i. Traddodiad Burke ac Engels. Rhaid bod lle i hynny? Mae llywodraeth heb egwyddorion moesol yn amhosib.’
Fedrwn i yn fy myw gofio pwy oedd y boi nes i clywed rai wythnosau’n ddiweddarach am urddo Dafydd Ęl.
Blodeuwedd gan Saunders Lewis, Theatr Gwynedd, 02.10.02
Nos Fercher, Hydref 2il, cymerais ran mewn seiat gyffeleb yng nghwmni’r Athro Branwen Jarvis ac Ian Rowlands, cyfarwyddwyr cynhyrchiad diweddaraf Theatr Gwynedd ac olynydd Graham Laker. Ysgogwyd y sylwadau canlynol gan y gorchwyl pleserus o ddarllen y ddrama a Phedwaedd Gainc y Mabinogion unwaith eto.
Ystyr cyffredin y gair ‘myth’ yw disgrifiad o’r gorffenol nad oes bellach sail iddo. E.e., ‘Cymru Gwlad y Gân... Gwlad y Menyg Gwynion... Gwlad y Breiniau Mawr’. Yng nghud-destun y drafodaeth hon golygir mynegiant celfyddydol cynnar o groestyniad cymdeithasol ac iddo arwyddocâd hanesyddol o bwys.
Diau mai’r croestyniad cynharaf a’r mwyaf sylfaenol yw’r broses y gellir ei galw’n ‘Ddarostyngiad Hanesyddol y Fenyw’, sef, y dirywiad yn statws y ferch o gydraddoldeb â’r gwryw mewn cymdeithasau hela a chasglu. Digwyddodd hynny fel y datblygodd hwsmonaeth, amaethyddiaeth, diwydiant a masnach, ac yn eu sgîl, eiddo preifat a’r wladwriaeth. Chwalwyd undod cyntefig y llwyth wrth i rai unigolion, teuluoedd a dosbarthiadau ymgyfoethogi trwy filwriaeth neu drachwant ar draul y mwyafrif. Daeth menywod a’u plant yn eiddo i’w gw_r a’u tadau.
Dyma un o brif themâu chwedlau’r Groegiaid a thrasiedďau a chomedďau’r cyfnod clasurol, megis Medea, Antigone, Bachai, Oreisteia a Lysistrata. Mae’r gweithiau hyn yn cofnodi ac yn cywasgu proses hanesyddol faith. Hynny a geir yn y chwedlau am Rhiannon a Branwen, ill dwy’n dduwiesau a iselhawyd i lefel tywysoges, gwraig briod, mam, caethforwyn.
Ceisia Clytemnestra, gwrth-arwres yr Oresteia, droi’r cloc yn ôl trwy lofruddio ei g_r, y Brenin Agamemnon, a llywodraethu Argos ar y cyd â’i chymar Aegisthws. Cyffelyb yw amcan Blodeuwedd wrth annog yr heliwr, Gronw Pebr i lofryddio’r g_r pendefigaidd y rhoddwyd hi’n wraig iddo. Ofer fu ymgais y ddwy. Anorfod yw llwyddiant y drefn wladwriaethol newydd a’i duwiau newydd, fel y pwysleisia awduron yr Oresteia, Math fab Mathonwy a Blodeuwedd, Aeschylws, Anhysbys a Saunders Lewis.
Menywod yn gwingo yn erbyn symbylau’r gorthrwm gwrywaidd fu un o brif destunau’r ddrama o’r Dadeni Dysg hyd heddiw. ‘Roedd Shakespeare yn bendant iawn o blaid eu cadw’n israddol gyda’r Iddewon, y cyfalafwyr a’r unigolion egotistaidd a heiria’r drefn ffiwdal, dirfeddiannol a gysegrwydd â sęl bendith yr Eglwys Lân Gatholig. Serch hynny, myn athrylith ddyneiddiol y dramodydd fawrygu glewder gelynion ideolegol fel Shylock yn The Merchant of Venice, Katherine, yn The Taming of the Shrew a’r bastard, Edmund, yn King Lear.
Dichon fod rhesymau dilys dros feirniadu’r Undeb Sofietaidd ym 1930, ond go brin y buasai hyd yn oed Martin Amis yn fflangellu’r cymrodyr am wneud ‘gwryw a benyw yn llwyr gydradd â’i gilydd yng ngolwg y gyfraith’, fel y gwnaeth Llywydd Plaid Genedlaethol Cymru mewn ysgrif ar Y Teulu a gyhoeddwyd yn Y Ddraig Goch y flwyddyn honno.
Ym mlynyddoedd ffurfiannol Saunders Lewis, cofnodwyd a chlodforwyd Dyrchafaid Hanesyddol y fenyw yn nramâu Henrik Ibsen a’i ddisgyblion. Dyna un rheswm pam fod S.L. yn casáu Ibsen. Nid da ganddo ei ddulliau chwaith, fel y dengys erthygl a gyhoeddwyd yn Y Darian ym 1920: ‘Ni ddywedaf nad oedd athrylith y g_r hwnnw yn fawr, eithr mi a ddywedaf yn hyderus mai Ibsen ydoedd y dylanwad mwyaf anghelfgar a niweidiol a esgynnodd orsedd celf erioed, ac yr ydys heddyw yn dechrau gweled mai cam â’r ddrama a fu pob rheol gelfyddol a ddyfeisiodd.’
Cyfeirio y mae S.L. at naturiolaeth a realaeth mewn drama. Mae ganddo bwynt, fel y cytunai cyfoeswyr fel Bertolt Brecht a Fredrico Garcia Lorca. Paradocs hynod a haedda ei hastudio’n drylwyr yw’r modd yr ymwrthododd Saunders Lewis â’i gyngor ef ei hun a sgrifennu dramâu sy’n wrth-Ibsenaidd eu neges ond mor naturiolaidd o ran ffurf a ieithwedd â T_ Dol a Hedda Gabler. Drama felly yw Blodeuwedd. Drama ddeallusol. Drama’r parlwr mewn gwisg ffug-hynafol, fel Siwan, a’r rhywioldeb egniol, peryglus sy’n byrlymu drwy’r Bedwaredd Gainc wedi ei ddistyllio’n ymadroddion coeth ac yn ymresymu cywrain.
Er i Saunders Lewis ddatgan ei hoffter a’i edmygedd o Blodeuwedd, moeswers ddigamsyniol y ddrama yw fod rhaid i gymdeithas wastrodi, disgyblu a chosbi merched drwg a dichellgar fel hi a’i chwiorydd – Efa, Jesebel, Delila, Elen Caerdroea et al. – sydd, trwy arwain dynion da ar gyfeiliorn, yn tanseilio cymdeithas ac yn bwgwth gwareiddiad.
Ni fuasai’r argyhoeddiad hwnnw ynddo’i hun yn ddigon i rwystro’r awdur rhag troi’r chwedl yn ddrama ysgytwol. Efallai mai’r maen tramgywydd oedd y biwritaniaeth haearnaidd a waharddai i Saunders Lewis groniclo carwriaeth dd-ddyfodol Gronw a Blodeuwedd rhwng geiriau teg Gronw ar ddechrau’r berthynas: ‘Dy wedd, dy ffurf, dy gerdded,/ A’th gorff fel fflam yn llosgi trwy dy wisg’ a’i felltith, tua’r diwedd: ‘Mae gwenwyn dy gusanu yn fy ngwaed...’. Wrth imi ddarllen ‘Ond yn y nos bu s_n adyn o’i go’/ Yn udo ar fronnau cryfion yn y tywyll,/ Brathu budreddi a chrechwen gwdihw...’ clyw-wn Woody Allen yn gofyn ac yn ateb cwestiwn a flinodd y Ddynoliaeth ymhob oes: ‘Is sex dirty? Only if you do it right.’
O.N Ar ôl gweld cynhyrchiad Theatr Gwynedd, teimlaf reidrwydd i liniaru’r feirniadaeth uchod.
Mae Blodeuwedd yn werth ei llwyfannu. ‘Roedd greddf artistig Saunders Lewis ar y trywydd iawn pan aeth i’r cynfyd i chwilio am ddeunydd drama. Petai amgylchiadau wedi caniatáu iddo sgrifennu cyfres o ddramâu yn ystod y dauddegau a’r tridegau, a gweld llwyfannu’r rheini gan gwmnďau proffesiynol, ‘rwy’n meddwl y buasai wedi dryllio’r hualau seicolegol ac ideolegol a gaethiwai ei awen a dod, mewn gwirionedd, yn ddramodydd Ewropeaidd o bwys.
awdur:Gareth Miles
cyfrol:477, Hydref 2002
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com