Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Newyddiadur y Byd Theatr

Prif ffynhonnell newyddiadura, adolygu a thrafod theatr yng Nghymru (yn yr iaith Saesneg, o leia) yw gwefan annibynnol yng ngofal y ffotograffydd Keith Morris. Mae Kate Woodward yn bwrw golwg ar ei chyfraniad ir theatr yng Nghymru.

Maer we a datblygiadau digidol yn gallu bod yn fygythiad neu yn her, bygythiad yn y ffordd mae cymaint o stwff mas yna syn gallu ein boddi, ond maen her i ni ddefnyddior we fel modd o ddarlledu ein neges ni. Dyw pobl ddim yn gweld ein sefyllfa ni yng Nghymru fel rhywbeth plwyfol Cymreig; mae yna wersi nin gallu dysgu ir byd.

Maen debyg mai fel y ffotograffydd uchel-ei-gloch byddair rhan fwyaf o Gymry yn adnabod Keith Morris. Ond pan nad ywn sbo trwy lens ei gamera, maen sbo ar sgrin sgwr arall. Pan nad ywn tynnu lluniau, maen gwisgo mantell rl gwahanol, sef gwefeistr www.theatr-cymru.co.uk. Sefydlwyd y wefan ganddo nl ym 1995 er mwyn talu rhywbeth nl ir diwydiant ar diwylliant theatr, ar l bod yn gweithio am 15 mlynedd fel ffotograffydd i nifer o gwmnau theatr yng Nghymru, a mynd ar y We fy hunan er mwyn dosbarthu fy lluniau i fy nghleientiaid. Wrth feddu ar y gallu technolegol r awydd i gychwyn menter newydd, penderfynodd fynd ati i sefydlu safle gwe am y theatr yng Nghymru. Digon syml, yn y bn, oedd y bwriad gwreiddiol, sef sgerbwd, fframwaith, ymbarl ar gyfer jyst cael gwybodaeth crai am lle oedd y cwmnau, lle oedd y neuaddau, lle oedd y theatrau, ac ychydig o wybodaeth am ambell i dechnegydd neu actor, dim byd lot. Ond dros gyfnod o flynyddoedd, dechreuodd y wefan ehangu ac esblygu, wrth i bobol gysylltu ag ef a chynnig mwy o wybodaeth. Rhoddwyd ychydig o gig ar yr esgyrn sychion dechreuol, wrth gynnig newyddion, adolygiadau, straeon, gwybodaeth am gwmnau a pherfformwyr, a fforwm i bobl drafod agweddau amrywiol ar y theatr yng Nghymru.

Catalydd a fun allweddol i ddatblygiad y safle oedd yr ymateb o fewn y gymuned theatrig i Strategaeth Ddrama fondigrybwyll Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn 1999. Dyma annus horribilis ym myd theatr Cymru os bu un erioed. Roedd yn strategaeth a ofynnodd i gwmnau amrywiol gystadlu yn erbyn ei gilydd am arian ac am eu bodolaeth; strategaeth fethedig a esgorodd ar lawer o ddrwgdeimlad rhwng cwmnau, a rhwng y cwmnau eu hunain a Chyngor y Celfyddydau. Wrth i nifer o gwmnau weld bod eu dyfodol o dan fygythiad, dechreuwyd defnyddior safle fel gofod ar gyfer ymgyrchu cyhoeddus yn erbyn y strategaeth: nath nifer o gwmnau theatr anfon datganiadau i mi, pytiau o newyddion a sibrydion, rodd pobl o fewn y sefydliad ei hun hefyd yn anfon pytiau o newyddion i mi, ac yn sydyn roedd yna ffocws ir holl wrthwynebiad yn erbyn y strategaeth. Dyma pryd nath y cyfan grisialu, a nes i feddwl, mae pobl mas na yn cymryd hyn o ddifrif, ac maen gallu cael effaith ar y byd go-iawn. Nid dim ond rhywbeth mas yn yr ether yw e. Teg yw dweud i Gyngor y Celfyddydau gael sioc wrth weld bod y fath deimlad yn bodoli, ar modd y defnyddiwyd y safle fel fforwm ar gyfer ymgyrchu, ac hefyd wrth ddod wyneb-yn-wyneb ag angerdd a ystyfnigrwydd Keith wrth gyhoeddi straeon ar ei wefan. (Ceir straeon am gwmnau theatr yn mynychu cyfarfodydd gydar Cyngor gan ddal dyrnaid o print-outs or safle i gefnogi eu safbwyntiau.) Cyfaddefa iddo fod yn ddraenen yn ystlys y Cyngor rhwng 1999-2000, ond erbyn hyn, mae or farn bod y Cyngor wedi trawsnewid yn gyfan gwbl, mae agwedd llawer mwy positif yna.

Er gwaethaf y datblygiadau positif a gafwyd o fewn y Cyngor Celfyddydau Cymru, maer safle yn dal i chwarae rl ymgyrchol. Cafwyd sn yn ddiweddar am y posibilrwydd o ddiddymu y grantiau gan Gyngor Sir Powys syn cynnal Cwmni Theatr Powys a Dawns Powys. Wrth ir newyddion dorri, aeth nifer ati i ddefnyddior safle fel rhyw fath o sffr cyhoeddus i ddechrau ymgyrch a magu cefnogaeth.

Elfen bwysig o safbwynt y wefan yw ei fod yn annibynnol. Er i Keith gyfaddef ei fod, unwaith, yn anffurfiol, wedi holi ynglŷn r phosibilrwydd o gael nawdd or CCC, bellach mae yn erbyn y syniad: dwi am gael y rhyddid i allu dweud beth ydw in meddwl or hyn syn digwydd yng Nghymru a chael pobl eraill i gyfrannu at hynny, yn hytrach na gorfod cydymffurfio meddylfryd corfforaethol. Mae arwyddocd hyn yn ddyfnach fyth wrth ystyried y posibilrwydd y gallai Cyngor Celfyddydau Cymru fod wedi cael ei thaflu ar goelcerth cwango Rhodri Morgan.

Un o brif wendidaur wefan ywr diffyg trafod, adolygu a sylwebu ar theatr iaith Gymraeg, nad ywn adlewyrchu swmp na safon y sn gyfredol. Er gwaethaf adolygiadau yn y Gymraeg syn ymddangos o dro i dro, prin iawn ywr deunydd Cymraeg, er gwaethar ffaith fod y cwmnau syn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg yn defnyddior safle yn aml i hysbysebu teithiau a swyddi. Fel ym mhob maes cyfrwng Cymraeg, mae safon a nifer y bobl sydd ar gael i adolygu yn broblem ddirfawr. Gwl Keith newid hyn yn allweddol i ddyfodol y wefan. Gyda nawdd oddi wrth yr Athro Ioan Williams or Adran Theatr Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, maen gobeithio cryfhau rhai agweddau, wrth gomisiynu erthyglau, cyfweliadau, traethodau ar theatr Gymraeg ei hiaith yng Nghymru. Mae digonedd o bobl syn fodlon sgwennu yn Saesneg, syn gweld ei bod yn fath o ysgol yrfaol. Maen nhwn gallu dechrau ar y wefan a wedyn symud ymlaen i rywbeth mwy. Ond dywr math yna o agwedd ddim yn bodoli, hyd yma, yn y Gymraeg. Ac felly, wrth fod yn pro-active a derbyn y nawdd, dwin gallu mynd allan a dechrau meithrin to newydd o awduron, sgrifennwyr, pobl syn gallu mynegi barn deallus am y sefyllfa. Maen rhan o broblem ehangach yng Nghymru, a dwin teimlo ein bod nin ddiwylliant eithaf bregus ei sylfaen oherwydd hynny.

Erbyn hyn, mae gan y wefan dros 1,000 o ddefnyddwyr y dydd, a cheir dros 1,000 o eitemau newyddion, 800 o adolygiadau, a gwybodaeth am oddeutu 100 o gwmnau proffesiynol yng Nghymru, yn ogystal dros 100 o gwmnau amatur. Nodwedd boblogaidd iawn ywr fforwm, ond fel pob fforwm ar y we, mae cymedrolir fath beth, yn enwedig wrth gadw golwg ar unrhyw faterion yn ymwneud ag enllib, yn allweddol. Cyfaddefa Keith ei hun fod pobl theatr yn gallu bod yn bitchy tu hwnt, ond maen well gen i fod y fforwm yn fywiog, a phobl yn cyfrannu iddi hi, na mynd yn segur. Dwin gobeithio bod y fforwm yn rhywle aeddfed i gyfnewid syniadau, ond weithiau maen cwympo mewn i ryw fath o slanging match. Maen fforwm yn fywiocach o lawer na gwefan www.britishtheatreguide.info. Testun un or trafodaethau difyrraf ar fforwm www.theatr-cymru.co.uk oedd cynhyrchiad Sgript Cymru yn 2002 o Francos Bastard, drama gan Dic Edwards, a seiliwyd, i raddau, ar fywyd Cayo Evans. Bur drafodaeth, oedd yn cwmpasu bron pob un elfen or ddrama, yn danbaid o ffyrnig, ir fath raddau bod y dramodydd ei hun, merch Cayo Evans, yn ogystal ag aelodau or gynulleidfa yn cyfrannun angerddol. Esgorodd y safle ar drafodaeth pwysig a gwerthfawr ar y cysyniad o genedligrwydd Cymraeg a Chymreig, a rl y theatr o fewn y drafodaeth hynny. Ond yn aml, maer postio anhysbys yn cynnal chwerwder. Digwydd hyn ir fath raddau nes ei fod, yn l Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch, yn tanseilio gwerth y peth. Maer safle wedi mynd yn ormod o beth ac fe fyddain elwa pe bain ceisio gwneud un peth, yn hytrach na cheisio bod yn bopeth i bawb. Ond yn l Keith Morris, mae angen edrych ar y darlun ehangach, gan fod ganddo bobl o bedwar ban byd yn ymweld r safle, yn enwedig pobl o ddiwylliannau lleiafrifol syn straffaglu i gyd-fyw ochr yn ochr diwylliant mawr.

Po fwya nin gweld bod ein diwylliant ni fan hyn yn rhan o ddiwylliant mawr byd-eang, dylwn ni godi ein pennau dipyn bach, dangos bod gennym nir hyder ar cryfder, a digon o gred yn ein gwaith i fynd fe i unrhyw le. Os ywr wefan yn gwneud un rhan bach o hynny, dwin ddiolchgar tu hwnt. Dyw e ddim yn mynd i ateb pob cwestiwn, ond dwin meddwl efallai ei fod yn rhan or atebion.

Noder yr erthygl hon yr anawsterau gyda diffyg deunydd Cymraeg sydd ar gael ar-lein ar y wefan hon. Er mwyn ceisio annog mwy o ysgrifennu beirniadol yn Gymraeg am ddrama, bydd Barn yn cyfrannu rhai o hen erthyglau yr atodiad theatr ir safle. Bydd Barn yn cadw hawlfraint ar yr erthyglau hyn, ac yn derbyn cydnabyddiaeth amdanynt ar y wefan.

awdur:Kate Woodward
cyfrol:503, Rhagfyr 2004

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk