Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y fewnfudwraig

Buddugoliaeth cenedlaetholdeb ceidwadol dros ryddfrydiaeth seciwlar yw Blodeuwedd medd DYFRIG JONES, ac roedd dehongliad Theatr Gwynedd o’r cynhyrchiad yn rhannol llwyddianus.

Trwy ei gyfaddefiad ei hun, mae Ian Rowlands, cyfarwyddwr cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Gwynedd o Blodeuwedd, yn eiconoclast greddfol. Yn y llyfryn – mae’n rhy swmpus i fodloni ar gael ei alw’n rhaglen – a werthwyd yn y perfformiadau, mae’n cyflwyno ei ddehongliad o’r ddrama trwy adrodd hanes ei berthynas bersonol gyda gwaith Saunders Lewis. Plentyndod wedi ei dreulio ym mreichiau Salinger a Kerouac a gafodd, meddai, a chafodd Saunders erioed ryw lawer o sylw ganddo. Dim ond trwy bwysau gan ei dad-maeth proffesiynol, pwyllgor artistig y theatr, yr aeth ati i feddwl am geisio dod â Blodeuwedd at gynulleidfa newydd, a hynny gydag eithaf tipyn o anfodlonrwydd. Wedi iddo ailgydio yn y testun fel oedolyn, fodd bynnag, mae’n cyfaddef iddo ddarganfod gwedd newydd ar y ddrama, gan ddod o hyd i themâu y mae’n teimlo sy’n cael eu hadlewyrchu yn ei waith ei hun fel dramodydd.

O ystyried y cefndir yma, tydi o ddim yn sioc mai cynhyrchiad anghonfensiynol dros ben o’r ddrama a lwyfanwyd gan Gwmni Theatr Gwynedd. Amharwyd ddim ar y geiriau eu hunain – neu ddim ddigon i mi sylwi beth bynnag – ond mae hi’n amlwg wrth wylio’r cynhyrchiad fod y cyfarwyddwr wedi ceisio ymbellau cymaint ag y medr oddi wrth y ddelwedd draddodiadol o’r ferch o flodau. Trwy gydol y cynhyrchiad, does yr un blagur i’w weld ar y llwyfan, ac eithrio un tusw bach pitw mewn fâs ar y bwrdd, ar noson y wledd yn yr act gyntaf. Fel Blodeuwedd ei hun, mae’r tusw yma’n teimlo’n gwbl estron, ynghanol llwyfan diffaith, diwydiannol Rhiannon Mathews. Darnau o haearn rhychiog sy’n gwneud y tro fel waliau caer Ardudwy, yn foel a thywyll, ac yn debycach i safle diwydiannol modern na chastell canol oesol.

Gwnaed ymdrech i adlewyrchu’r naws yma yng ngwisgoedd y cymeriadau hefyd, ond mae gen i ofn nad ydy’r un effaith yn cael ei greu. Daw Blodeuwedd (Elin Wmffras) i’r llwyfan wedi ei gwisgo mewn lledr du, a sgert wedi ei siapio fel cawell o’i hamgylch, sy’n cael ei diosg yn y golygfeydd rhyngddi hi a Gronw Pebr (Dyfed Potter). Mae arddull ddigon tebyg i wisgoedd y cymeriadau eraill; tywyll, gydag ambell i fflach liwgar, a’r brethyn wedi ei dorri i gynllun anarferol, ffug-wyddonol. Yn anffodus, tydi’r gwisgoedd ddim hanner mor effeithiol â’r set. Mae lledr Blodeuwedd ei hun yn ddigon effeithiol, gan ei bod yn cyfleu syniad modern yngl_n â nwyd a rhywoldeb eofn, ond yn anffodus mae’r cymeriadau eraill yn edrych yn rhy debyg i aelodau cast Starlight Express i fedru cael eu cymryd o ddifri.

Wrth gwrs, bwriad gosod drama mor gyfarwydd â Blodeuwedd mewn cyfnod gwahanol yw ceisio ein hosgoi i edrych ar y ddrama mewn gwedd newydd. Wrth symud drama i gyfnod arall, mae rhywun yn gobeithio y gwnaiff ymwybyddiaeth o’r cyfnod hwnnw ddylanwadu ar y modd yr ydym ni’n dehongli’r themâu. Mae’n eithaf amlwg pam fod Ian Rowlands wedi dewis gosod y cynhyrchiad yn y dyfodol dychmygol yma. Bod dynol wedi ei greu heb gymorth croth merch ydi prif gymeriad y ddrama, ac er bod yr hanes yn rhan o hanes mwy y Mabinogi, stori Blodeuwedd – yn hytrach na Gwydion, Lleu neu Gronw – ydi’r ddrama. Yn arwynebol felly, mae defnyddio’r dyfodol agos fel cyfnod yn ddeniadol. Hawdd ydy deall pam fod cynhyrchydd yn dewis portreadu byd Blodeuwedd fel dyfodol lle mae gwyddoniaeth yn gadael i ni greu bywyd drwy rym ein gwybodaeth.

Fel yn achos Frankenstein, mae hanes ysgrifennu Blodeuwedd wedi ei gofnodi. Roedd Mary Shelley wedi derbyn her i lunio stori arswyd, ac wrth wrando ar ei g_r, Percy Bysshe Shelley, a Lord Byron, yn trafod Darwiniaeth rhyw noson, penderfynodd ysgrifennu stori a fyddai’n bwydo eu pryderon yngl_n ag ymyrraeth gwyddoniaeth ym myd natur. Ac mae llawer wedi damcaniaethu mai cymylau duon Hiroshima a Nagasaki a ysgogodd Saunders Lewis i fynd ati, ym 1947, i orffen y ddrama a oedd wedi ei chychwyn dros ugain mlynedd ynghynt. Ond nid gwraidd Promethiaidd sydd ‘na i Blodeuwedd. Yn ôl yr hanes, trasiedi Roegaidd Medea, gan Euripides, a oedd yn gyfrifol am ail-danio dychymyg Saunders wedi’r rhyfel, ac mae’r digwyddiad yma yn un sy’n arwyddocaol wrth geisio mynd at wraidd y ddrama. I mi, yr ymweliad â’r theatr, yn hytrach na’r digwyddiadau mawr yn Siapan, sy’n taflu goleuni ar y ddrama, ac sy’n gwneud i mi deimlo fod dewis gosod y ddrama yn y dyfodol yn gam-ddehongliad, i raddau. Mae’n tynnu ein sylw yn ormodol at agwedd Bromethiaidd y ddrama, ac yn cam-bwysleisio’r themâu canolog. Efallai mai Blodeuwedd ydy prif gymeriad y ddrama, ond nid y weithred o’i chreu sy’n gyrru’r stori.

Yn y bôn, drama am wrthdaro ydy Blodeuwedd. Ar y lefel symlaf, mae hi’n ymdrin â’r gwrthdaro rhwng y greddfol a’r gwâr, yr id ar ego. Byd natur wedi ei phersonoliaethu, yn llythrennol, ydy Blodeuwedd, ac mae’r moesau sy’n rheoli byd Lleu yn gwbwl ddieithr iddi, gan ei gyrru i geisio eu dymchwel, trwy ddinistrio’r dyn sy’n deyrn arnynt. Caiff y frwydr rhwng y ddau fyd ei hymladd ar faes cad Gronw Pebr, a gaiff ei dynnu rhwng ei deyrngarwch tuag at y moesau sydd yr un mor bwysig yn llys Penllyn ag yn Ardudwy, a’i chwant tuag at Blodeuwedd, a’r byd naturiol y mae yn ymbleseru ynddo fel heliwr. Wedi i Blodeuwedd ei hudo i’w gwely, a’i wneud yn llofrydd, caiff gyfle i gymodi gyda gwerthoedd ei gyndeidiau. Gronw gwahanol iawn i’r chwedl a gawn yn fersiwn Saunders, yn gofyn am ei gosb yn unol â deddfau bonedd a thraddodiad, yn hytrach nag erfyn am gael cuddio tu ôl i gromlech, fel yn y Mabinogi.

Mae rhoi gormod o bwyslais ar gymeriad awdur yn medru bod yn beth ffôl iawn i’w wneud, gan fod gan bob darn o lenyddiaeth yr hawl i gael ei werthfawrogi yn unigol, heb orfod dadansoddi cymhelliad yr awdur, a’r broses a arweiniodd at ysgrifennu’r gwaith. Ond dyw hi ddim yn bosib gwahanu gwaith Saunders Lewis oddi wrth ei gymeriad, a chalon genedlaetholgar, geidwadol, oedd yn curo ym mron yr awdur yma. Dylanwadodd Medea ar Blodeuwedd mewn dwy ffordd amlwg. Mae’r cymeriadau sy’n ganolog i’r ddwy ddrama yn ferched cryf, sy’n herio awdurdod eu teuluoedd, a chymdeithas o’u cwmpas. Ond yn llawer pwysicach, mae’rr ddwy yn unigolion mewn cymdeithasau estron. Mewn termau modern (gor-syml, efallai), mae Blodeuwedd a Medea yn fewnfudwyr.

Er bod y gwrthdaro rhwng y naturiol a’r gwâr yn rhan amlwg o’r ddrama, mae’r thema yma yn ei thro yn ddyfais drosiadol. Y gwrthdaro rhwng yr hen a’r newydd ydi’r gwrthdaro rhwng Blodeuwedd a Lleu, y gwrthdaro rhwng yr oesol, traddodiadol, a’r allanol, yr anghyfarwydd. ‘Dieithr ac estron’ ydy gwaed Blodeuwedd ei hun, wedi ei phriodi i deulu sydd o fyd arall. Caiff gynnig dod yn rhan o ‘gadwyn cenedl’ Lleu Llaw Gyffes, a rhannu yn etifeddiaeth Ardudwy, ond mae hi’n dewis, yn hytrach, ‘holl unigedd rhyddid’. Ar ddiwedd y ddrama, mae Gronw Pebr yn cael achubiaeth trwy aberthu ei hun er mwyn ei draddodiad. I Saunders, mae hi’n well marw yn enw traddodiad, na byw heb genedl. Buddugoliaeth traddodiadol a chenedl dros ryddfrydiaeth seciwlar, ryngwladol, ydy buddugoliaeth Lleu, yn y pen draw.

Cryfder Saunders fel dramodydd yw ei fod yn llwyddo i gyfleu neges wleidyddol fel hyn, heb bregethu. Efallai mai Blodeuwedd ydy’r gelyn, ond hi hefyd yw’r cymeriad mwya difyr o beth tipyn, ac er ei bod yn cael ei chosbi ar ddiwedd y ddrama, mae hi’n cael digon o gyfle gan Saunders i bleidio’i hachos. Ond trwy osod y ddrama yn y dyfodol – a’r dyfodol hwnnw yn un mor foel – mae Cwmni Theatr Gwynedd yn colli cyfle euraid i fynd i’r afael â rhai o’r themâu sydd â thinc amserol iddyn nhw.

Er bod cyd-destun hanesyddol, ac arddull gweledol, y cynhyrchiad yn gamgymeriad, roedd y perfformiadau a welwyd gan y cast yn gymharol llwyddianus, ac am hyn y mae’n rhaid canmol Cwmni Theatr Gwynedd. Mae gamp o gyfathrebu ystyr yr hyn mae’r cymeriadau yn ei ddweud, heb golli swyn y geiriau yn sialens i unrhyw un. Cafwyd dau berfformiad cryf gan y ddau actor ifanc yn y prif rannau – Elin Wmffras fel Blodeuwedd ac Owen Arwyn fel Lleu Llaw Gyffes – mewn drama sydd yn medru bod yn drwsgwl, yn defnyddio llinellau annisgwyl ac anghysurus i esbonio cefndir y cymeriadau a gyrru’r plot yn ei flaen. I ddweud y gwir, roedd yna egni a bywiogrwydd yn perthyn i’w perfformiadau a oedd ar goll o befformiadau gweddill y cast. Gwnaed ymdrech deg gan Dyfan Roberts, Rhian Cadwaladr a Gwyn Parry, ond roedd yna deimlad mai geiriau Saunders Lewis oedd yn cael eu hyngan, yn hytrach na llais angerddol y cymeriadau eu hunain. Yn anffodus, chafodd y cast ddim help gan gerddoriaeth digywair Pwyll ap Siôn. Ar adegau roedd yn tynnu sylw yn ddi-angen ac yn bwgwth boddi rhai o berfformiadau gorau’r ddrama, yn fwyaf amlwg yn yr olygfa pan leddir Lleu yn y drydedd act.

Nid methiant fu’r ymgais yma i ddehongli Blodeuwedd mewn cyd-destun newydd. Mater hollol wrthrychol ydy dehongli testun, a does yna ddim un gogwydd sy’n gywir. Adeiladwyd ar y testun gwreiddiol gan gast cymwys, a oedd yn disgleirio ar adegau, yn enwedig y to ifanc. Ac er nad oedd y penderfyniad i osod y ddrama yn y dyfodol at fy nant i, mi ydw i’n argyhoeddi fod yna alw gwirioneddol am y math yma o gynhyrchiad. O fewn y theatr yn Lloegr bu peth ddadlau yn y 1990au fod yna ormod o gwmnïau theatr yn dewis llwyfannu cynhyrchiadau gwahanol o Shakespeare ar draul dramâu newydd, ond y perygl yng Nghymru yw ein bod yn tueddi i’r cyfeiriad arall. Efallai fod Ian Rowlands yn iawn fod ‘clasuron Cymraeg yn brinnach na dyddiau heulog o haf’, ond pan mae gennym ni ddrama mor fytholrwydd â Blodeuwedd, mae hi bron â bod yn ddyletswydd ar y theatr i roi cyfle i bod cenhedlaeth gael ei gweld yn cael bywyd ar lwyfan.

awdur:Dyfrig Jones
cyfrol:477, Hydref 2002

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk