YR IAITH AR WAITH
Natsiaid yn darllen ar y radio mewn Cymraeg croyw a phur. IOAN KIDD sy’n adolygu drama Wiliam Owen Roberts, Radio Cymru
Hanner can mlynedd a mwy wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd ac mae ambell gyfrinach, ambell gymeriad amheus ac ambell hanesyn rhyfeddol yn dal i ddod i’r golwg gan lwyddo i’n syfrdanu a’n cyfareddu. Pan welwn ar y teledu hen ddynion diniwed yr olwg yn crraedd y llysoedd barn i ateb cyhuddediadau am eu rhan mewn erchyllterau yn erbyn eu cyd-ddyn yn y rhyfel hwnnw, teimlwn atgasedd ac anghrediniaeth. Mae’r awydd i weld cymdeithas yn dial ar ei dihirod yn gymysg â pharadrwydd i faddau. Pwy ydym ni i farnu heb wybod y stori’n llawn? Rwy’n cofio clywed y Rabbi Hugo Gryn, un o dystion rheolaidd y Moral Maze ar Radio 4, yn dweud unwaith, wrth gloriannu’r cwestiwn dyrys o roi maddeuant i lofryddion a phoenydwyr yr Ail Ryfel Byd, nad ein lle ni yw gwneud penderfyniadau o’r fath. Hawl y bobl a ddioddefod yn unig yw honno. Ateb nodweddiadol gan un o w_r doeth yr ugeinfed ganrif a rhywun a ddioddefod ei hun dan law’r Nats_aid.
Rhychwant o deimladau cymysg, gwrthgyferbyniol a rhuthrodd i’m meddwl pan glywais gyntaf am hanes Raymond Davis Hughes, prif gymeriad Radio Cymru, drama ddiweddaraf Wilian Owen Roberts. Y peth mwyaf a’m trawodd oedd pa mor anhygoel oedd ei stori. Roeddwn yn methu credu nad oeddwn wedi clywed amdano ac am yr hyn a wnaeth. Bydd enw Lord Haw Haw yn meddiannu lle yng nghoridorau Oriel yr Anfarwolion am byth bythoedd, mae’n debyg, ond go brin y bydd Raymond Davis Hughes, Cymro o’r Wyddgrug a gydweithiodd â Haw Haw trwy ddarlledu propaganda’r Nats_aid yn y Gymraeg i bobl Cymru, yn rhannu’r un sylw. Onid yw’r hyn a wnaeth y Cymro Cymraeg hwn yn ddigon pwysig i ennill lle amlycach yn llyfrau hanes? Roedd y Nats_aiad yn gweld pwysigrwydd ei botensial ac yn ddigon craff i weld pwysigrwydd yr iaith Gymraeg wrth ledaenu eu neges.
Ar ôl cael hyd i hanes rhyfeddol Raymond Davis Hughes, roedd yn rhaid i William Roberts benderfynu beth i’w wneud ag ef yn enw llenyddiaeth yn hytrach na newyddiaduraeth neu hanes. Mae ôl ymchwil fanwl ar y ddrama – gormod ar adegau – fel petai’r awdur yn benderfynol o wthio popeth a wyddai am Hughes i’w waith. Byddai ychydig o olygu wedi bod yn llesol yr hyn a gafwyd weithiau yn y ddrama oedd gorfanylu llethol.
Agorodd Radio Cymru trwy sefydlu cymeriad Hughes; dyn ifanc a gafodd ei eni yn Lerpwl a’i fagu yn yr Wyddgrug. Ymunodd â’r Llu Awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond ym mis Awst 1943 saethwyd ei awyren Lancaster i lawr yn ystod cyrch bomio ar Peenemunde yn yr Almaen. Cafodd ei ddal a’i garcharu gan y r Almaenwyr ac yn ystod y cyfnod hwn fe’u cynorthwyodd trwy ddarlledu propaganda yn y Gymraeg ar Radio Metropole Wansee. Ar ddiwedd y rhyfel fe’i cyhuddwyd dan Ddeddf Frawdwriaeth arbennig ac fe’i anfonwyd i’r carchar.
Lleolwyd y ddrama mewn stiwdio radio foel. Cafodd Raymond Davis Hughes ei wahodd yno, flynyddoedd mawr wedi’i helyntion rhyfel, i gymryd rhan mewn rhaglen am ei fywyd ac i ateb cwestiynau deifiol yr holwraig, Helen Siôn. Rhoes Owen Garmon berfformiad a argyhoeddodd fel yr Hughes ei h_n. Roedd ei anniddigrwydd a’i anfodlonrwydd i’w ‘amddiffyn ei hun’ yn taro i’r dim. Daeth yn amlwg ei fod yno am nad oedd ganddo ddewis a mynnodd gynnal y cyfweliad ar ei delerau ei hun. Yn hyn o beth llwyddodd i ennyn rhywfaint o gydymdeimlad y gynulleidfa. Roedd ei safiad yn erbyn pwysau’r holwraig yn urddasol o leiaf. Roedd y portread o Helen Siôn, ar y llaw arall, yn ystrydebol, ac os cafodd goractio Einir Siôn sêl bendith y dramodydd, yna roedd yn gamgymeriad. Os na chafodd sêl fedndith, roedd yn ddehongliad rhy ddiog ac yn wendid ar ran y cynhyrchiad.
Yn ogystal â’r Hughes h_n roedd ‘na Hughes canol oed a Hughes iau, y naill yn cael ei actio gan Phil Reid a’r llall gan Dylan Roberts, a pherfformiadau digon da a gafwyd ganddynt hwythau hefyd. Trueni, er hynny, fod brwdfrydedd Dylan Roberts wedi’i ddifetha fan hyn a fan draw, gan ei lefaru aneglur. Ar ddechrau’r ddrama roedd y tri actor wrthi’n dehongli gwahanol weddau ar Hughes ac mae’n rhaid dweud bod y cyfan wedi troi’n reit ddryslyd ar un adeg. Roedd yn anodd dweud pwy oedd pwy. Unwaith y daeth hynny’n glir fe ddechreuodd y ddrama setlo.
Teg dweud nad gwledd i’r llygad mo’r ddrama hon. Nid oedd chwaith yn brofiad theatrig ofnadwy o wefreiddiol. Yn union fel stiwdio radio, digon statig oedd y golygfeydd. Roedd hyn yn fwriadol, mae’n si_r, ac yn ymgais i gadw’n driw i’r thema radio. Prin oedd y newid lleoliad, er i rannau o’r ddrama gael eu chwarae trwy bared y stiwdio; techneg ddigon effeithiol heb fod yn wreiddiol. Blinais ar weld yr un set erbyn y diwedd. Roedd yn amser rhy hir i gynnal rhywbeth mor ddisymud hyd yn oed o gofio’r trosiad canolog. Er hynny, gogoniant radio fel cyfrwng yw’r hyn sy’n aros yn y dychymyg wedi i’r rhaglen ddod i ben, a dyma hefyd ogoniant y ddrama hon.
Llwyddodd Wiliam Roberts i godi llawer o gwestiynau. Fel yr awgrymais gynna, y gamp iddo oedd penderfynu beth i’w wneud â hanes Raymond Davis Hughes ar lefel lenyddol. Beth a abarodd iddo wneud yr hyn a wnaeth? Faint o wirionedd sydd ynghlwm wrth yr honnir iddo’i wneud? Ai plentyndod sylfaenol yn ei gymeriad? A fyddai unrhyw un arall yn ei sefyllfa wedi gwneud yr un peth? Ys dywedodd yr awdur yn y broliant ar y daflen hynod ddifyr a gwerthfawr, nid yw ei hanes yn un dyn a gwyn. Dyma hanes dyn ifanc a gafodd ei ddal gan y Nats_aid, un o’r grymoedd mwyaf enbyd a welodd y byd erioed, ac a ildiodd i’w preswâd. Ai felly ‘roedd hi? Ai ildio a wnaeth, ynteu chwarae rôl yr asiant dwbl, a hynny o’i wirfodd? Mae’n bosib taw cyfleustera oedd y cyfan ac ymgais i sicrhau hunanbarhad ar unrhyw gyfrif. Gweithio dros ba ochr oedd ef – y Nats_aid, y Cynghreiriaid, neu drosto’i hun? Mae’n debyg na chawn ni fyth wybod yr ateb ac mae’n debyg nad oes cymaint o ots. Yr hyn a geir yn y ddrama hon yw astudiaeth o’r cyflwr dynol. Trwy ail-fyw ei brofiadau roedd Hughes yn cael ei orfodi i wynebu’r gorffennol a chyfiawnhau ei weithredoedd, a thrwy hynny cafwyd trafodaeth am natur daioni a drygioni.
Roedd y cyffyrddiadau Saunders-ésg yn ogleisiol. Roedd y cyfeiriadau at Lerpwl yn awgrymog ac nid oedd Brad a ‘Gymerwch chi Sigaret? Byth yn bell i ffwrdd. Propaganda’r Nats_aid a ddarlledwyd ar Radio Metropole yn 1944, a hynny yn yr iaith Gymraeg; enghraifft glasurol, os bu erioed, o’r iaith ar waith. Cyfaddawdu ac ildio i’r gelyn, a’r Gymraeg yn lledaenu propaganda trwy rym y cyfryngau torfol. O gofio teitl bwriadus y ddrama, tybed ai dyma sut y gwêl Wiliam Roberts y Radio Cymru go iawn, neu a yw awgrym o’r fath ym mynd â’r cyfan gam yn rhy bell?
Mwynheais y ddrama hon yn fawr a mwynheais y cynhyrchiad. Roedd angen ei thocio a’i thorri yn ei blas ac roedd angen ffrwyno ffrwyth yr ymchwil, ond mae Radio Cymru’n ddrama bwysig a oedd yn haeddu cynulleidfa dda. Fe gafodd hynny yng nghanolfan Chapter yn y brifddinas, lleoliad a welodd ddiwedd y daith, nid yn unig Radio Cymru ond i gwmni Dalier Sylw hefyd. Roedd Dalier Sylw hwythau’n haeddu drama dda ar gyfer eu cynhyrchiad olaf ac fe gafwyd hynny. Ers ei sefydlu yn 1988 mae’r cwmni wedi dod â chynhyrchiadau beiddgar, gwreiddiol i’n theatrau. Yn ystod hirlwm theatrig y blynyddoedd diwethaf Dalier Sylw yw un o’r ychydig rai sydd wedi hhybu ysgrifennu newydd yn y Gymraeg ac sydd wedi cefnogi awduron ac actorion fel ei gilydd. Gobeithio y bydd eu partneriaeth newydd yr un mor llwyddiannus. Dyn a _yr, mae angen egni o rywle i adfywio’r theatr Gymraeg.
awdur:Ioan Kidd
cyfrol:450/451, Gorffennaf/Awst 2000
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com
