COLOFN GARETH MILES
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU Mae gan GARETH MILES lond côl o newyddion da.
Collais y rhifyn hwnnw o’r rhaglen Y Celfyddydau ar Radio Cymru pryd yr holwyd ‘Pa ddiben sydd i sgrifennu yn Gymraeg’ ond addaowodd y Cynhyrchydd anfon recordiad ataf. Gobeithiaf glywed ambell i ateb cadarnhaol. Pa ddiben sydd i sgrifennu nofel ar gyfer cymuned ymhle mae anllythrennedd yn yr iaith frodorol ar gynnydd ac ansawdd ei llefaru yn dirywio’r un mor gyflym? Neu ddrama mewn gwlad heb theatr? Neu lith newyddiadurol nad yw’n ennyn ymateb negyddol na chadarnhaol?
Amheuais werth y drafferth o lunio’r golofn hon sawl gwaith yn ystod y misoedd diwethaf. Anogaeth y Golygydd yn unig a’m cymhellodd i ddal ati. Yn dilyn dau gyfarfod o’r Pwyllgor Llywio a gynullwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i oruchwilio sefydlu ‘Cwmni Drama Cenedlaethol’, ‘rwy’n falch iawn imi gydsynio.
Yn y cyfarfod hynny darganfûm dri pheth calanogol. Yn gyntaf, fod cynllun CCC i sefydlu cwmni a ddisgrifiwyd yn fy erthygl, fis Fawrth, fel ‘Cwango Theatrig gydag impressario neu entrepreneur yn tra-arglwyddiaethu drosto’ yn gelain. Yn ail, nid oes modd i ddyfeiswyr y ‘Producer Model’ bondigrybwyll ddylanwadu ar y ddrama Gymraeg mwyach. Yn drydydd, mae rhywrai eraill yn meddwl yr un fath â fi. ‘Roedd pawb ond un o aelodau’r Pwyllgor Llywio o blaid y ‘model traddodiadol,’ sef, yng ngeiriau’r erthygl y cyfeiriwyd ati uchod, ‘cwmni sefydlog, ac iddo gartref mewn adeilad pwrpasol yn y Gymru Gymraeg, gyda chnewyllyn o actorion dawnus ac ymroddedig yn cael eu harwain gan Gyfarwyddwr Artistig sy’n meddu ar ddiwylliant eang a gweledigaeth theatrig glir.’
Ymddeiswyddodd yr aelod yr oedd yn well ganndi bolisi blaenorol C.C.C. Dymunai hi weld y cwmni newydd yn cael ei arwain gan Uwch-gynhyrchydd a fyddai’n comisiynu cynyrchiadau ecletig ac amrywiaethol ac fe ymddengys na wêl hi nad yr un peth yw ‘theatr gyffrous a chyfoes wedi ei sylfaenu ar draddodiad theatrig Cymru ac ar ei diwylliant’ ag un a fyddai’n pregethu Cenedlaetholdeb.
Yn yr ail gyfarfod tele-gysylltiedig, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd a Bae Colwyn, ddydd Sadwrn, Mehefin 22ain, penderfynwyd mai ‘Theatr Genedlaethol Cymru’ fydd enw’r cwmni, a dewiswyd panel i benodi cyfreithiwr i lunio cyfansoddiad iddo, yngh_d â chanllawia Nolanaidd ar gyfer penodi Cyfarwyddwr Artistig, Bwrdd a Chadeirydd.
Am ragor o fanylion yngl_n â Theatr Genedlaethol Cymru, ymweler â gwefan CCC: www.ccc-acw.org.uk
ITI Cymru
Mwy o newyddion da!
Ymgartrefodd WalesitiCymru yma ym Mhontypridd. Ym Mhrifysgol Morgannwg, Trefforest, a bod yn fanwl. ITI yw’r International Theatre Institute/ Sefydliad Rhyngwladol y Theatr, ac mae’n un o is-adrannau UNESCO. Credaf mai Hazel Walford Davies biau’r diolch fod Jenny Randerson, Gweinidog Diwylliant y Cynulliad, wedi penderfynu ariannu cangen Gymreig y Sefydliad.
Wele ddyfyniad o’r cais llwyddiannus a anfonwyd at y Gweinidog:
‘Sefydliad anlywodraethol yw Sefydliad Rhyngwladol y Theatr. Fe’i sefydlwyd ym Mhrâg ym 1948 gan UNESCO a chymuned rhyngwladol y theatr. A’i ganolfan ym Mharis, bellach mae ganddo ganolfannau cenedlaethol mewn 90 o wledydd, ac mae’n arbennig o gryf mewn gwledydd sy’n awyddus i sefydlu corff i fynegi eu hunaniaeth ddiwylliannol a chreu cyswllt â chenhedloedd eraill. Hyn sy’n egluro ei bwysigrwydd yng ngwleddydd llai Ewrop a enillodd annibyddiaeth yn ddiweddar.’
‘Mae ei amcanion yn cynnwys hybu cyfnewid gwybodaeth ac arferion yn y celfyddydau perfformio rhwng gwledydd, codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r angen i ystyried creadigrwydd celfyddydol ym maes datblygu; hynu cyd-ddealltwriaeth a heddwch rhwng pobloedd; gwrthwynebu pob math o gamwahaniaethu cymdeithasol a gwleidyddol.’
‘Mae WalesitiCymru wedi ymrwymo i raglen a fydd yn cychwyn, yn cefnogi ac yn tynnu sylw at weithgareddau perfformio sy’n gwneud pobl yn gyfranwyr yn hytrach nag yn ddefnyddwyr...cefnogi a dathlu traddodiad perfformio Cymru o fewn y wlad ac y tu allan iddi fel y gall cenhedloedd eraill werthfawrogi’n well dreftadaeth ddiwylliannol Cymru...hyrwyddo ymchwil i’r berthynas eraill a datblygu hynny...datblygu agoriadau addysg a hyfforddiant mewn gwaith perfformio...sicrhau cyfraniad pobl iafainc ym mhob agwedd ar y gwaith...’
Cawn glywed rhagor am amcanion a chynlluniau ITICymru mewn Cynhadledd, neu Fforwm ar y Theatr, yr arfaethir ei chynnal ym Mhrifysgol Morgannwg yn yr Hydref. Trefnir yr achlysur gan y Sefydliad ar y cyd ag Undeb yr Ysgrifenwyr (WGGB). Gwahoddir siaradwyr o Theatr Genedlaethol Cymru, Clwyd Theatr Cymru, Sgript Cymru, Cymdeithas Theatr Cymru etc.
Yn ôl i Rwmania
Eleni eto, treuliodd Wiliam Owen Roberts a mi ychydig o ddyddiau ym mis Ebrill yn Neptûn, at lan y MôR Du, fel gwesteion yr Unionea scriitorilor din România, mewn Cynhadledd Ryngwladol ar lenyddiaethau ieithoedd lleiafrifol. Cynrychiolem Undeb yr Ysgrifenwyr (WGGB) a Tara Galior (Cymru Rwmaneg). Arwynebol ac ystydebol oedd y rhan fwyaf o’r anerchiadau; y siaradwyr yn canmol cyfriniad amhrisiadwy lleiafrifoedd diwylliannol i Wareiddiad a champau lenorol, daeth rhai yno’n unswydd i frolio eu hunain.
Rhybuddiodd y ddirprwyaeth Gymreig y Genhadledd o’r bygythiadau a ddeillia o oruchafiaeth y Farchnad Rydd a hegemoni wleidyddol, economaidd, filwrol a diwylliannol yr Unol Daleithiau i bob iaith ac eithrio’r un Engl-Americanaidd. Dywedasom fod ‘pawb yn Gymry heddi’, h.y., yn gorfod cyd-fyw â’r Saesneg, sydd nid yn unig yn traflyncu peuoedd ieithoedd eraill y byd ond yn eu llygru’n fewnol yn ogystal, trwy ystumio cystrawen a difwyno geirfa. Er bod dros 400 miliwn yn siarad Sbaeneg – 35 miliwn ohonynt yn yr Unol Daleithiau – clywir ysgolheigion yn Sbaen ac America-Ladin yn achwyn fod eu hiaith yn cael ei Saesnigo’n feunyddiol.
Cymeradw-wyd ein sylwadau ond nid ennynwyd trafodaeth. Hyd at gwymp yr Undeb Sofietaidd a’i chynghreiriaid, arferai deallusion Dwyrain Ewrop weld y byd trwy un o ddwy ffenestr ideolegol, Cenedlaetholdeb a Sosialaeth Sofietaidd, neu, weithiau, drwy’r ddwy yr un pryd. Ymddangosant yn ddiymadferth ac ddigyfeiriad ar pan drechwyd yr ideolegau hynny gan Neo-ryddfrydiaeth y Gorllewin.
‘Roedd rhai o’r sgyrsiau anffurfiol a gawsom gyda chynadleddwyr o Orllewin a Dwyrain Ewrop yn hynod ddifyr ac addysgiadol. Digyffro fu’n hanes ni Gymry, yn hanner-byw ar ddau benrhyn llwm dan gesail Lloegr, o’i gynharu â rhawd cenhedloedd a phobloedd Balcanaidd, a wasgwyd gan imperialaethau cystadleuol, a ddarniwyd, yn ffigurol ac yn llythrennol gan ryfel a galanas, ac a arweiniwyd i brofedigaethau creulon gan wleidyddion ffôl a chrefyddwyr ffanticaidd.
Ychydig o sôn am y theatr a fu yn y Gynhadledd ond cawsom brawf o ddoniau thespaidd criw o Rwmaniaid Ifainc. Gofynasom i Gynrychiolydd y Cyngor Prydeinig ym Mwcarest – y corff hwnnw dalodd am ein tocynnau awyren – a allem ymweld â choleg neu brifysgol, am ein bod yn awyddus i gyfarfod â myfyrwyr a’u hathrawon. Trefnodd hi inni roi gwers ddrama i ddisgyblion 15-16 oed mewn ysgol uwchradd ddwyieithog – Rwmaneg a Saesneg – yn y Brifddinas. Dim ond plant â chrap go lew ar y Saesneg a dderbynir i’r ysgol hon ac fel ym mhob sefydliad addysgol ‘dethol’, deuai’r disgyblion o gefndiroedd breintiedig.
Nid yn ofer y treuliodd fy nghyfaill flwyddyn yn cael ei hyfforddi i fod yn athro. Cofiodd am lyfr o ymarferion theatrig a ddefnyddiai i baratoi gwersi a bu’r sesiwn yn llwyddiant ysgubol. Roedd y myfyrwyr yn bobl ifainc hyfryd ac afieithus. Atgoffwyd fi o wynebau plant o ysgolion Syr Thomas Jones, Morgan Llwyd a Dyffryn Nantlle, sydd yn awr yn ganol oed.
Cafodd y bechgyn a’r merched hwyl a budd, a minnau gyda hwy, wrth ddilyn cyfarwyddiadau’r athro. Siaradent Saesneg Americanaidd yn gywir ac yn rhugl. Dymunai nifer dda ohonynt ymfudo i’r Unol Daleithiau.
Wedi inni ddychwelyd, darllenais ar anogaeth fy nghydymaith, Ddyddiadur* Mihail Sebastian, nofelydd, dramodydd, beirniad llenyddol a merchetwr. Iddew oedd Sebastian – Iosif Hechter, ei enw gwreiddiol – ond ni olygai ei dras nemor ddim iddo hyd nes i gyfres o unbeniaethau gwrth-Iddewig lywodraethu Rwmania (1934-1944). Bryd hynny, trodd cyfeillion a noddwyr yn ei erbyn, wedi eu halogi gan Wrth-Iddewiaeth gynhenid Rwmania a’u hanfydu gan Genedlaetholdeb eithafol. Lladdwyd cannoedd o filoedd o Iddewon yn ystod yr Holocost Rwmanaidd, erchylltra na fu raid i’r Nats_aid ei annog. Goroesodd Sebastian yr erlid, y cyni a’r tlodi a ddaeth i’w ran ef a’i deulu yn ystod y blynyddoedd enbyd hynny. Fe’i lladdwyd yn 1945, ac yntau’n 38 oed, gan lori, wrth iddo groesi’r stryd, ar frys i draddodi darlith ar Balzac. Yn ôl Philip Roth, fy hoff nofelydd Americanaidd ar hyn o bryd, haedda Dyddiadur Mihail Sebastian ‘le ar yr un silff â Dyddiadur Anne Frank a denu cynifer o ddarllenwyr’.
Soniaf am Sebastian oherwydd iddo amau bron yn feunyddiol werth ymroi i sgrifennu nofelau, dramâu a beirniadaeth lenyddol. Dydd Sul, Mai 25 1941, meddai: ‘Petasai gennyf weledigaeth fanylach o’r sefyllfa yn 1929, pan adewais Paris, a phenderfynu mynd i’r Almaen, Prydain neu’r Unol Daleithiau, neu Ffrainc, hyd-yn-oed, ac yn lle dilyn cyrsiau di-fudd dysgu un o’r ieithoedd mawrion hynny, gyda’r bwriad o weithio ynddi yn hytrach na bod yn awdur Bwcarestaidd, efallai y buaswn yn awr yn rym creadigol ym Mhrydain neu America, yn sgrifennu nid i dair mil o ddarllenwyr ond i ddeng mil ar hugain.’
Ond dal ati wnaeth Sebastian, hyd y diwedd, er gwared amgylchiadau na allem ni eu dychmygu heb gymorth llenyddiaeth dystiolaethol fel ei eiddo ef.
Clwyd Theatr Lloegr
...Theatr Clwyd is to be applauded for its ambition. But then Clwyd is virtually the RSC-in-exile these days...
Alfred Hickling, yn The Guardian (21.05.02) wrth ganmol cynhyrchiad Theatr Clwyd o An Enemy of th People.
*Mihail Sebastian Journal 1935-44 (William Heinemann: London)
awdur:Gareth Miles
cyfrol:450/451, Gorffennaf/Awst 2000
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com