SAMWELL A’R GYMRU GYFOES
IAN ROWLANDS yw awdur drama gomisiwn yr Eisteddfod eleni. Yma, mae’n sôn am y syniadaeth y tu ôl i’w waith.
Mae wastad yn fy synnu i, pryd bynnag bod ‘na drychineb ym mha bynnag gornel anghysbell o’r blaned, mae’r cyfryngau Cymraeg wastad yn llwyddo i ddarganfod siaradwr Cymraeg i sylwebu ar y digwyddiad. Er nad ydym ni’r Cymry yn genedl o bobl sy’n llywio cwrs hanes, mae ganddom ni’r ddawn i fod yn y fan a’r lle ar yr adegau tyngedfennol. Ystyriwch yr holl enwau Cymraeg ar y Declaration of Independance neu Stanley yn darganfod Livingstone. Mae’n ymddangos i mi, felly, ein bod ni’r Cymry yn genedl o dystion.
Fe ddarllenais i am David Samwell am y tro cyntaf yn The Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1982). Yr hyn ddenodd fi at hanes Samwell, y bardd, llawfeddyg a bon viveur, oedd iddo wasanaethu ar fwrdd y Discovery yn ystod trydedd mordaith fawr Cook. Roedd yn dyst i un o’r digwyddiadau pwysia’ yn hanes yr Ymerodraeth Brydeinig. Yn ystod y blynyddoedd wedi marwolaeth Cook, cyhoeddwyd tystiolaeth Samwell a hwnnw a ystyriwyd yn hanes gwir a manwl am y digwyddiad.
Yn nhystiolaeth Samwell cawn bortread o Cook fel hanner duw yn aberthu ei fywyd er lles ei gyd-ddyn. Propaganda sydd yma, nid gwrthrychedd.
Gofynnais i’r cwestiwn i fi fy hun, ‘Pam fuasai Cymro Cymraeg yn ysgrifennu hanes mor sebonllyd o Brydeinig?’ Gorweddai’r ateb yn y ddwy ganrif sydd yn ein gwahanu ni oddi wrth ei gyfnod e’ – dwy ganrif o frwydro a diffinio hunaniaeth. Roedd Samwell yn ddyn o’i gyfnod, brodor o’r Ynysoedd Brythonig a gredai fod Caer Lludd yn gystal brifddinas i Gymru ag yr oedd Lloegr. Nid oedd Cymru yn wlad yn y modd y’i diffinir hi yn ein dyddiau ni, rhyw freuddwyd hiraethus ydoedd am yr hen Brydain a fu. Ac felly Prydain oedd yn hawlio terynged a gwrogaeth Samwell, nid Cymru. I’r rhelyw o Gymry’r deunawfed ganrif, Llundain oedd eu prifddinas – pentref bach ar lannau afon Taf oedd Caerdydd!
Am ddegawd neu mwy, bu hanes Samwell o ddiddordeb mawr i mi. Nawr ac yn y man, byddwn yn ail-ddarllen ei hanes gan fwriadu creu drama o’i fywyd ond roedd ‘na wastad waith arall i’w gwblhau a bywoliaeth i’w hennill. Yna, ym 1998, cefais fy ngwahodd gan George Owen, ar ran ye Eisteddfod Genedlaethol, i Barc T_ Glas am sgwrs. ‘Ry’n ni ishio i chdi ‘sgwennu’r ddrama gomisiwn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llaneli. Oes gynnach chdi syniad?’
‘Fel mae’n digwydd bod,’ medde fi, gan fyrfyrio’n wyllt, ‘mae gen i syniad am ddrama am David Samwell a fuodd yn hwylio gyda Cook. Trwy wrthgyfrebynnu Cymreictod ei gyfnod e’ â Chymreictod heddiw, gallwn osod ein diwylliant cyfoes ni mewn cyd-destun ar yr un adeg dyngedfennol hon o’n hanes.’ ‘Ewch ati i’w ‘sgwennu hi,’ medden nhw, gan fy nghomisiynu i i ysgrifennu fy nrama gyntaf yn y Gymraeg.
Trois eto at dystiolaeth Samwell o farwolaeth Cook yn ogystal â thystiolaeth a dadansoddiadau mwy gwrthrychol am farwolaeth y dyn a ymddangosodd dros y blynyddoedd. Yn raddol, ffurfiais i ddelwedd o Cook fel rhyw hen ddyn oedd wedi blino ar fywyd. Bu Cook farw yn hanner can mlwydd oed ar y creigiau yn Hawaii, tra bu Samwell farw ugain mlynedd yn ddiweddarach yn ddeugain a saith mlwydd oed yn Llundain. Roeddynt ill ddau yn dost ar ddiwedd eu hoes. Tra roedd Cook yn sâl yn gorfforol, roedd Samwell yn ddiotwr ac yn gaeth i laudanum (opiwm). Fe deimlais i mai iachawdwriaeth Cook oedd cael ei ladd gan drigolion Hawaii. Beth felly oedd iachawdwriaeth Samwell? Fe benderfynais i ysgrifennu drama am oriau olaf Samwell wrth iddo ail-asesu ei fywyd ochr-yn-ochr â bywyd Cook y dyn a‘r duw.
‘Nes na’r hanesydd...’, meddyliais ac Samwell dyfu’n gymeriad sydd, am wn ‘i, yn dra wahanol i’r dyn go-iawn. Fe dyfodd Samwell i fod yn ddyn o’i gyfnod e’, gydag ymwybyddiaeth ein cyfnod ni – rhyw ddyfais theatrig i bontio a gwrthgyferbynnu.
Wedi llanw a thrai’r Ymerodraeth Brydeinig, bellach mae’n bosib i ni ail asesu ei effaith nid yn unig arnom ni yng Nghymru, ond ar drigolion yr Affrig a mannau tebyg. Fe gyfrannodd Samwell at wawrio’r Ymerodaraeth Brydeinig; rhoddais i ei brofiad yntau yng nghyd-destun yr unfed ganrif ar hugain er mwyn dal drych i’n sefyllfa presennol ni mewn gwlad sy’n dal ynghlwm wrth Brydain er bod ein perthynas â’r wlad honno wedi newid.
Prydeinwyr oeddem, am wn i; Albanwyr, Gwynedd a Chymry anghofus wedi ein huno dan fanner Goch Amnesia, Iolo. Duw Gadwo’r Brenin, Cymru am byth, yn y drefn honno.
Dyma gyfraith y cynllwynwyr, fy ffrind. Pa beth bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch iddynt hwy. Parhewch, mawrygwch, anghofiwch; anghofiwch y cam...y cywilydd...gall dyn anghofio gymaint, gymaint...O, f’annwyl ffrind, y gwir yn erbyn y byd, mae fy mhechodau imperialaidd wedi eu hysgythru ar dudalennau dydd fy marn. Mi losgwn fy llyfrau a chychwyn eto, ond mae pob bywyd yn gyfamod efo’r diafol sy’n llechu yn ei galon. Uffern yw’r foment, y cof am bob camgymeriad.
O, mae gen i’r fath chwedl i’w nyddu, Iolo; hanes ein hoes, hanes pob oes; stori Brydeinig o geg Cymro. O Iolo, sut y bu imi gynllwynio efo’r gorau a gormesu efo’r gwaethaf...O na bawn i wedi ngeni yn Ffrancwr neu Americanwr, efo’r dychymyg i freuddwydio ar adennydd rhyddid, ‘feda i ond breuddwydio am hualau a’r storom ‘O tempora! O mores!’ Pechadur wyf, Amen, Amen, Amen! ‘Samwell was a Welshman, Samwell took the shining and buggered off to sea.’ Rwy’n ddyn o ‘nghyfnod, lolo...o ‘nghyfnod, ...o’r cychwyn hwn...rwan! Maddau i mi, fy ffrind, maddau i mi..
A gofi di’r hyn dd’wedaist ti’r diwrnod hwnnw ar Fryn Briallu... Ar Fryn Briallu yn ffau’r llewod, wyt ti’n cofio beth dd’wedaist ti, lolo? ‘Cana, Dafydd Ddu. Cana! Trwy ein caneuon y down ni’n rhydd. Efallai cymer ganrifoedd i ni wneud, ond os cawn ni hen ganeuon anghofiedig gw_r Madog a Dafydd ap Gwilym gynt, yna fe dorrwn ein cadwynau Cana, Dafydd Ddu! Cana gân o ‘Gariad, Cyfiawnder a Gwirionedd’, cana er mwyn rhoi anadl einioes i genedl. Cana ffrind!’ Ond gwae fi, am i mi fethu canu dim ond yr un hen dôn gron, cân y tonnau yn erydu glannau Cymro. Maddau i mi, lolo.
Am nad oedd safbwyntiau gweledigaeth Samwell yr un fath â’n rhai ni, mae’n siwr wnaeth e’ ddim cwestiynu fel yr uchod tra oedd yn fyw. Ond o ystyried ei fod yn gyfaill i lolo Morganwg, mae’n si_r gwnaeth y chwyldroadwr lliwgar hwnnw ddylanwadu ar y llawfeddyg ond i ba raddau, ni allwn ni ond bwrw amcan. Wnaeth Samwell ail-asesu ei rôl yn y broses ymerodraethol cyn iddo farw? A gysylltodd e hanes Cymru â dyfodol y gwledydd rheiny gafodd eu trefedigaeth ganddo fe a’i gyfoeswyr? Cwestiynau o’r fath yma sy’n sail i Môr Tawel. Wrth i ni’r Cymru dyfu’n wleidyddol a darllen ein gweledigaethau i bedwar ban byd ar deledu lloeren S4C neu ar y we, y cwestiwn sydd yng nghefn fy meddwl i yw – a fuasem nu, y genedl sydd wedi profi anghyfiawnder gyhyd, yn ddigon aeddfed, wedi dyfodiad y Cynulliad, i beidio bod yn dystion ac i weithredu’n gyfiawn? ‘Cariad, Cyfiawnder a Gwirionedd’ meddai lolo Morganwg ddwy ganrif yn ôl. Beth yw’n rhyfelgri yn y dyddiau sydd ohoni?
awdur:Ian Rowlands
cyfrol:450/451, Gorffennaf/Awst 2000
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com