Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Gwenu Tra’n Gweu Tun o Spam!

Holi David Llewelyn: Yn yr atodiad diwethaf, roedd cyfweliad gydag un o ddau awdur newydd y perfformir eu gwaith yn yr Eisteddfod eleni. Y tro hwn, mae HUW ROBERTS yn holi’r ail, David Llewelyn, yr ennillydd ar ysgrifennu drama ym Mro dinefwr y llynedd.

Sut y datblygodd eich diddordeb yn y ddrama?

Mae gen i ddiddordeb ers pan o’n i’n ddim o beth. Ro’n i wrth fy modd yn cael mynd i weld dramâu yn y theatrau lleol, ac roedd yna gryn brysurdeb hefyd yn y gymuned yn Abergele, y dre lle ces i fy magu, efo unigolion fel Brian Morris a Len Ellis yn weithgar iawn ac yn sicrhau bod criw ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dramâu a ballu. Mi osododd hyn sylfaen imi, ac yn ddiweddarach mi ges i gyfle i astudio drama yn yr ysgol uwchradd, Ysgol y Creuddyn yn Llandudno, ac roedd cefnogaeth ac anogaeth fy athrawon, yn arbennig felly Meinir Lynch, yn gwbl allweddol. Ar ddiwedd fy mlwyddyn gynta’ yn y brifysgol ym Mangor, roedd rhaid dewis pwnc fy ngradd ac mi achosodd hynny gryn benbleth imi. R’on i wedi cael mwynhad aruthrol o astudio hanes polisi cymdeithasol, ac r’on i’n awyddus i astudio’r maes ymhellach. Ond roedd byd y ddrama’n apelio’n fawr ata’i hefyd, cymaint felly fel imi benderfynu ar gyfaddawd a cheisio cyfuno’r ddau bwnc. Roedd yn golygu ‘mod i’n dod dan oruchwyliaeth ofalus y darlithydd drama William Lewis ac roedd y cyfle i gael fy nysgu ganddo fo a chael gweithio efo darlithiwyr gwadd, fel Valmai Jones, Grey Evans ac Alwyn Owens, yn brofiad heb ei ail. O ran gyrfa, wn i ddim a oedd y cyfuniad o bolisi cymdeithasol a drama yn un doeth – does dim llawer o alw am unigolion sy’n gallu rhestru gwerth budd-daliadau gwladwriaethol a rhaffu dyfyniadau o ddramâu Saunders Lewis... Ond y peth mawr ydi imi fwynhau’r cyrsiau’n aruthrol, ac yn fy marn i, dyna’r peth pwysica’.

Rydych ar hyn o bryd yn gweithio yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, yn Aberystwyth. Sut mae’ch gwaith bob dydd yn cyd-blethu gyda’ch hoffter o ddrama?

Dwi’n gweithio ar brosiect sy’n ymchwilio i hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg, ac o’m safbwynt fy hun yn canolbwyntio ar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er bod rhywun yn ceisio ymchwilio’n drylwyr i’r maes ac yn gaeth i ffeithiau, mae’n rhaid wrth elfen o ddychymyg i lawn werthfawrogi natur a hinsawdd Cymru yn ystod y ganrif ddiwetha’, sef yr union ddychymyg sy’n fy nghynorthwyo i lunio deialog a chymeriadau. A phan fo rhywun yn ceisio sgwennu darn o waith, boed yn ddrama neu’n bennod ar gyfer llyfr, mae’n rhaid wrth amynedd a gofal, a bod yn barod i ailgynllunio’r gwaith droeon.

Mae gwaith ymchwyl. Fel sgwennu’n greadigol, yn gallu bod yn orchwyl ddigon unig ar brydiau, ond yn hynny o beth o leia’ mae gen i gydweithwyr sy’n fodlon gwrando a chynorthwyo pan fo angen. Dwi’n credu bod hapusrwydd yn y lle’r gwaith a’r cartre’ yn gymorth aruthrol i alluogi rhywun i sgwennu, ac yn yr ystyr yna dwi’n ffodus iawn, er ‘mod i’n cael fy ngorfodi i olchi llestri yn dragywydd ac yn gorfod rhannu bwrdd coffi gyda chefnogwr tîm pêl-droed Aberystwyth ambell waith.

Be’ sy’n eich ysbrydoli i ysgrifennu?

Pe bai raid imi ddewis un gair fel ateb cryno i’ch cwestiwn yna, mae’n debyg y byddai rhaid imi ddweud ‘mwynhad’. Mae gen i ddeunydd yn y t_ na welith olau dydd fyth, ond dwi wedi cael hwyl garw yn ei sgwennu o, a dyna sy’n bwysica’ imi, sef y mwynhad. Ac eto dwi’n credu bod ateb o’r fath yn gorsymleiddio’r sefyllfa, mae mwy iddo na hynny. Mae’n fodd imi ymlacio, ac i ryw raddau yn gyfle imi gael diengyd i ‘myd bach, lle dwi’nn teimlo’n gartrefol, yn saff ac, yn bwysicach na dim efallai, mewn rheolaeth. Mae’n gyfle imi gael defnyddio fy nychymyg i’r eitha’, a chael hwyl wrth geisio gweu deialog, plot a chymeriadau efo’i gilydd i ffurfio siwmper o ddrama efo gweill o feiros. Yn amlach na pheidio mae’r gwaith gorffenedig yn anghyflawn, mae un llawes yn hirach na’r llall, neu mae’r gwddw’n gam, ond ambell waith mae rhywbeth sy’n ymdebygu i gyfanwaith yn datblygu. Beth bynnag fo siâp y cynnyrch ar y diwedd, yr hyn sy’ bwysica’ yw’r ffaith fod y cyfan yn rhoi gwên ar fy ngwyneb.

Pam defnyddio’r ddrama fel cyfrwng creadigol?

Wn i ddim yn iawn. Mi wnes i ymdrechu i sgwennu barddoniaeth unwaith ar gyfer cystadleuaeth yn yr ysgol, a methu’n drychinebus. Dwi’n mwynhau darllen llenyddiaeth a rhyddiaith yn fawr, ond mae rhywbeth am y ddrama sy’n fy nenu. Alla’ i ddim egluro’r peth yn iawn, ond dwi’n teimlo’n fwy cyfforddus a hyderus efo drama.

Mae eich tad, John Gruffydd Jones, yn hen law ar gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac wedi ennill y Goron, y Fedal Ryddiaith a’r Fedal Drama. Be’ am ei ddylanwad ef ar eich gwaith?

Pe bawn i’n cael punt am bob tro mae rhywun yn gofyn y cwestiwn yma, fyddai dim rhaid imi drio’r loteri! Mae’n debyg ei bod hi’n naturiol i rai geisio creu ryw gysylltiad llenyddol rhamantus rhyngddon ni, ond digon bregus ydi’r ddolen gyswllt mae gen i ofn. Dwi wedi etifeddu sawl peth gan fy nhad, fel clustiau mawr a’r hoffter o bêl-droed, ond dwi’n credu ein bod yn troedio ar dir peryglus wrth gynnwys y ddawn i sgwennu yn ogystal. Ar y cyfan ychydig iawn ydan ni’n drafod ar ein gwaith a hynny efallai am nad ydw i’n gweld fy nhad fel llenor, bardd neu ddramodydd, ond yn hytrach fel fy nhad! Ryden ni’n digwydd bod yn uned deuluol agos, ac yn naturiol mae o wedi dylanwadu arna’i, ond dwi’n teimlo weithiau fod cyfraniad fy mam a’n chwaer ac aelodau eraill fy nheulu yn cael ei anwybyddu o achos awydd rai i greu stori neis.

Petai rhywun ifanc yn gofyn ichi sut i fagu profiad mewn llunio drama beth fyddai eich cyngor iddyn nhw?

Yn anffodus tydi sgwennu drama ddim yn debyg i wneud cacen – er bod rhai cynhwysion elfennol angenrheidiol, does dim ffasiwn beth â chanllawiau pendant sy’n gwarantu gwaith gorffenedig llwyddianus. Mae’n rhaid cyfadde’ nad ydw i’n teimlo’n gyfforddus iawn wrth gynnig cyngor, gan mai megis dechrau dysgu ydw i fy hyn. Yr unig air o gyngor y byddwn yn ei gynnig ydi, os ydi’r awydd i sgwennu yn gryf ynoch chi, yna estynnwch bapur a phensil a cherwch ati. Does dim ots os mai rwtsh ydi’r cyfan i gychwyn, yr unig beth sy’n bwysig ydi bod rhywun yn cael profiad. H efyd, dwi’n gwybod fod rhai’n hoff o ddweud hyd at syrffed pa mor bwysig ydi mynychu cynyrchiadau’n gyson, ond mae o’n wir – mae gweld a chlywed dramâu Cymraeg a Saesneg yn amhrisiadwy.

Fe wnaethoch chi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Nyffryn Nanlle yn 1990 am ysgrifennu comedi – ai dyna’r math o arddull sy’n apelio fwya’ atoch chi?

Mae comedi’n apelio’n fawr ond fyddwn i ddim yn dweud mai dyna’r unig faes sy’n apelio. Mae dulliau theatrig fel bocs celfi y dramodydd, ac mae rhyddid iddo ef neu hi ddewis a newid y celfi fel y mae o neu hi’n gweld yn addas. O’m safbwynt fy hyn, dwi wedi ceisio newid y celficyn yn achlysurol, er mwyn magu profiad yn fwy na dim, ac yn aml iawn dwi’n defnyddio mwy nag un wrth lunio drama. Dwi’n meddwl mai comedi ydi un o’r pethau anodda’ eu creu, gan fod llawer ohono yn ddibynnol ar chwaeth bersonol, ac mae’n anodd tu hwnt i’w gyfleu o ar bapur ac yna ei drosglwyddo fo’n llwyddianus i’r gynulleidfa. Dwi’n credu bod yna ormod o ddadansoddi wedi bod ar y maes yn ystod y blynyddoedd diwetha’, ac mae gennym ni’r Cymry ryw obsesiwn yngl_n â be’ ydi hiwmor, gan honni’n dragywydd nad yden ni’n gallu cynhyrchu comedi cystal a’r Saeson. Y gwir amdani ydi fod cymhariaeth o’r fath yn gwbl afresymol. Mae cymaint o arian ac adnoddau yn cael ei fuddsoddi yn y ddarpariaeth Saesneg, eto i gyd ychydig iawn sy’n taro deuddeg ac yn aros yn y cof. Does ots pa gyfrwng sy’n cael ei ddefnyddio, mae llawer yn dibynnu ar sgript dda ynghyd â’r bartneriaeth rhwng awdur ac actor. Meddyliwch chi am y prif gyfresi comedi Cymraeg ar y teledu; roedd Rhydderch Jones a Gwenlyn Parry yn ‘nabod Ryan a’i arddull mor dda, ac fe gafwyd cyfuniad actor ac awdur yng nghreadigaeth yr anfarwol Wali Thomas. Go brin y byddai cymeriad John Albert yn Pengelli, wedyn, mor fyw oni bai am ystumiau a gwedd unigryw Maldwyn John. Mi all y deunydd ar bapur fod yn ddoniol ond yn gelain ar lwyfan neu deledu oni bai am actor crefftus.

A throi at Spam Man, drama fuddugool Bro Dinefwr, allwch chi roi braslun ohoni?

Drama am hogyn ifanc ar y ffordd i’r seilam, sy’n ceisio asesu ei fywyd, a thrwy hynny yn codi ambell i gwestiwn yngl_n ag anawsterau pobl ifanc i sicrhau cyflwr o annibyniaeth economaidd. Mae methiant y prif gymeriad i sefyll ar ei draed yn annibynol yn arwain at ddirywiad yn ei gyflwr meddyliol a chorfforol, sy’n gwneud y broses o fod yn annibynnol yn fwy anodd byth. O’i ddweud fel yna efallai fod y cyfan yn swnio’n drwm a diflas, ond dwi’n gobeithio bod elfen o hiwmor yn ogystal â thristwch yn perthyn iddi.

Ai ar sail profiad y lluniwyd y ddrama?

Mi ges i gyfnod o fod yn ddi-waith ar ddechrau’r nawdegau, ond rhaid cyfadde’ ‘mod i wedi bod yn ffodus hyd yma o ran cael gwaith, ac felly tydi’r gwaith ddim yn seiliedig ar fy mhrofiadau personol. Mae’n debyg mai’r brif ysbrydoliaeth oedd un o’r cyrsiau wnes i fel rhan o ‘ngradd, cwrs yn dwyn y teitl ‘Cynnal Incwm’, yn trafod y ddarpariaeth wladwriaethol. O astudio’r maes, mi ddes i sylweddoli fwyfwy pa mor anodd ydi hi i rai ifanc fyw’n annibynnol yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Ond ro’n i’n poeni y byddai’r cyfan yn mynd yn bregethwrol a syrffedus, ac felly mi ddois i â themiau eraill i mewn i gyd-redeg â hynny.

Mi dreiliodd y prif gymeriad gyfnod yn yr ysbyty, ac o gofio i chithau brofi gwaeledd pan oeddech yn iau, a gafodd hynny effaith ar y ddrama a’ch awydd i ysgrifennu yn gyffredinol?

O safbwynt y gymhariaeth rhyngdda i a’r prif gymeriad, cyflwr corfforol sydd gen i, tra mae Owen yn dioddef o wendid meddwl – mae yna wahaniaeth dybryd. I ateb ail ran eich cwestiwn, dwi’n credu mai gormodedd fyddai gwneud cysylltiad uniongyrchol rhwng y ddau beth. Dwi o’r farn fod cefndir a phrofiadau mewn bywyd yn chwarae rhan flaenllaw yn y broses o ffurfio syniadau a gweledigaeth unigolyn, ac o’m safbwynt fy hun mae salwch wedi bod yn rhan canolog o ‘mywyd ers imi fod yn ddim o beth. Yn hynny o beth mae’r cysylltiad yn un teg, ond wnes i erioed feddwl tra’n gorwedd yn fy ngwely y dylwn i fynd ati i sgwennu. Mae ambell un wedi nodi iddyn nhw ddechrau rhoi pin ar bapur o ganlyniad i ddigwyddiad trist neu chwerw, ond o’m safbwynt i doedd, a tydi fy nghyflwr, ddim yn rhywbeth du na thrist. Mi oedd yna gyfnodau eitha’ anodd tra o’n i yn yr ysbyty yn Lerpwl, efallai’n fwy felly i ‘nheulu nag i mi’n bersonol, ond roedd yna gyfnodau hapus iawn hefyd. Mi ddysgais i lawer yngl_n â bywyd a phobl yng nghwmni Sgowsars hen ac ifanc yn ystod y cyfnod, ac mi ges i gipolwg ar fywyd nad o’n i ddim yn gwybod am ei fodolaeth o cyn hynny. Mae yna beryg’ gwirioneddol ein bod ni’n stereoteipio Sgowsars fel cymeriadau doniol a ffraeth, ond yn sicr mae gen i ddyled fawr i nifer ohonyn nhw ac mi wnes i brofi caredigrwydd sawl un.

Mae Spam Man yn cael ei llwyfannu yn yr Eisteddfod eleni. Sut fath o gydweithio sydd yna rhyngoch chi a’r criw cynhyrchu?

Yn gynharach eleni mi ges i gyfle i gyfarfod â Tim Baker (Theatr Gorllewin Morgannwg) a Bethan Jones (Dalier Sylw) i drafod y ddrama, ac roedd hi’n ddifyr tu hwnt gweld sut roedden nhw’n dehongli ei chynnwys. Yn ystod y sgwrs mi ddynwyd fy sylw at ystyriaethau ymarferol yngl_n â llwyfannu’r gwaith. Pan dwi’n ceisio sgwennu rhywbeth, dwi’n ceisio gweld y cyfan yn fy meddwl, ac mae gweledigaeth rhywun arall o’r gwaith yn gallu bod yn brofiad cyffrous ac eto’n od, yn yr ystyr eich bod chi’n ystyried y sylwadau yn ymyrraeth ar eich eiddo personol. Dwi’n dal i gredu’n gry’ y dylai’r awdur gael rhan amlwg yn y broses o gynhyrchu ei waith, ond yn deillio o’r sgwrs yng Nghaerdydd mi ges i weld sut mae rôl cyfarwyddwr yn ychwanegu at y gwaith gwreiddiol. Mae profiad fel yna yn amhrisadwy i rywun ifanc sydd yn dal i geisio canfod ei draed. Mewn gwirionedd dyna un o brif rinweddau cystadleuaeth o’r fath, sef y cyfle i weithio efo unigolion proffesiynol yn y maes.

Mae llawer wedi cael ei ddweud yngl_n â chystadlaethau cyfansoddi dramâu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae gwir angen cysondeb a llunio polisi ystyrlon ar gyfer y dyfodol. Mae llawer o’r farn nad ydi’r ddrama yn cael y sylw haeddiannol yn yr Eisteddfod bellach, o gymharu ag adrannau eraill. Pe bawn i’n gwbl onest, mae’r ffaith imi ennill prif gystadleuaeth Cyfansoddi Drama yn y Gymraeg ar fy nghynnig cynta’, yn wyth ar hugain mlwydd oed, yn dweud cyfrolau am safon y gystadleuaeth yn fwy na dim byd arall. Mae angen rhoi mwy o sylw a pharch i fyd y ddrama, a chyflwyno strategaeth fydd yn gwneud adran cyfansoddi drama yn atyniadol, poblogaidd a chystadleuol. Dwi ddim yn credu mai diffyg darpar-ddramodwyr ydi’r broblem, ond yn hytrach diffyg sylw a statws teilwng i fyd y ddrama yn y brifwyl. Dwi’n argyhoeddedig fod cyfle i’r buddugwyr gael gweithio efo cwmnïau proffesiynol yn gam i’r cyfeiriad cywir, ac mi fyddai llwyfannu’r cynnyrch yn yr Eisteddfod ddilynol yn codi proffeil a safon y gystadleuaeth.

Mae bron yn flwyddyn ers i chi ennill ym Mro Dinefwr. Be’ ydi’r cam nesa’?

Mae hwn yn gwestiwn tebyg i’r hyn sy’n cael ei ofyn i gyn-enillwyr Miss World... Wel, mae’r awydd i sgwennu’n dal yn gry’, a dwi’n falch iawn o hynny. Mi oedd yn deimlad braf cael ennill ym Mro Dinefwr, ond mae’r Spam bellach wedi’i fwyta a’i dreulio – mae’n debyg ei bod yn bryd imi dynnu’r gweill allan a chychwyn gweu unwaith eto.

awdur:Huw Roberts
cyfrol:413, Mehefin 1997

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk