Agit-prop – Theatr fel Arf
Lladaenu propeganda a chynhyrfu pobl yr un pryd – fel yr awgryma’r enw, dyna swyddogaeth theatr agit-prop. Mae’n ffurf sydd wedi’i defnyddio gan wladwriaethau ac yn eu herbyn, fel cyfrwng protest. Y cyn-ddarlithydd drama EMYR EDWARDS sy’n edrych ar ei dat
Gwelais berfformiad disglair o ddrama agit-prop yn theatr Coleg Oldham yn ddiweddar. Roedd hi’n ymdrin â phwnc llosg, sef carcharu mewnfudwyr i Brydain am fisoedd bwygilydd cyn eu gorfodi, fwy neu lai, i ddychwelyd i’w mamwlad. Cwmni cymunedol proffesiynol o Fanceinion, y Banner Theatre, oedd yn perfformio, cwmni cymunedol a chanddynt dros ugain mlynedd o brofiad o fynd â gwaith deinameg, aml-gyfryngol ar daith. Seilir eu dramâu ar gyfweliadau gydag aelodau o’r cyhoedd yn trafod pynciau llosg y dydd. Yn 1995 teithiodd y cwmni trwy Brydain, Iwerddon a Denmarc, gan berfformio i rai cannoedd o Gynghorau Masnachol, canolfannau ar gyfer y di-waith, ysgolion a grwpiau gweithwyr cartref.
Mae Redemption Song yn portreadu byd Janine, myfyrwraig un ar bymtheg oed o’r Traeth Ifori, mewn cell lle mae’n gwrthod bwyta. Mae hi wedi teithio miloedd o filltiroedd i ddianc rhag trais, artaith a mwy na thebyg farwolaeth, dim ond i gael ei charcharu mewn Canolfan Gadw Brydeinig sy’n llawn on swyddogion gwyn didrugaredd a chamerâu yn ei gwylio bob awr o’r dydd. Gwęl y dyddiau’n troi’n wythnosau ac yna’n fisoedd wrth iddi ddisgwyl i glywed beth fydd ei thynged – cael aros ym Mhrydain neu gael ei hanfon adref i’w gwlad ei hun, lle mae’r gangiau lladd yn rhemp.
Drwy gyfrwng cyfuniad o theatr gorfforol, sgript farddonol, tafluniadau, lleisiau wedi’u recordio. Miwsig a chân, roedd y ddrama’n archwilio polisi mewnfudo Prydain, sefyllfa pobl groenddu yma a hanes streic Doc Lerpwl. Roedd yn cysylltu hiliaeth ym Mhrydain â gormes llywodraethau ar draws y byd. Ond roedd hefyd yn portreadu dewrder y bobl sy’n gorfod wynebu’r fath ormes.
Roedd ffurf a chynnwys y perfformiad yn ei osod yn dwt yn llinach y math o theatr sy’n cael ei alw’n agit-prop. Er fod drama ar hyd yr oesoedd wedi defnyddio propaganda i gynhyrfu cynulleidfaoedd, dechreuad ffurfiol y math yma o theatr oedd ymdrechion gweithwyr dros y Chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia ddechrau’r ganrif hon i ledaenu propaganda. Mewn dramâu a oedd fwy neu lai yhn ddogfennau moel, canolbwyntient ar gyflwyno ‘ffeithiau’ eu chwyldro i’r proletariat, a’u hargyhoeddi o gyfiawnder polisďau Marcsaidd. O’r ffurf yma ar theatr bropaganda ffeithiol yn y pen draw y tyfodd drama ‘swyddogol’ Rwsia dan y Comiwnyddion am drigain mlynedd, sef theatr realaeth gymdeithasol. Craidd theatr agit-prop oedd y neges. Sefydlwyd yn gynnar bwysicrwydd cadw’r arddull yn syml, gyda chyn lleied o baraffernalia theatr ffuglennol â phosib. Lledanodd theatr agit-prop drwy wledydd eraill yn Ewrop, yn enwedig yr Almaen, lle dylanwadodd ar Piscator ac yna Brecht. Roedd Piscator am i’r gynulleidfa, ar ôl clywed neges ei ddramâu, fynd allan a chreu chwyldro yn y strydoedd. Roedd ei ddisgybl, Brecht, dipyn yn fwy pwyllog yn ei amcanion. Am i’r gynulleidfa wrando ar ei bropaganda dros newid cymdeithas, ac yna feddwl yn ddwys cyn ymgymryd ag unrhyw weithred chwyldroadol, yr oedd ef. Gwelir ffurf ar theatr agit-prop yn y Lehrstücke, ei ddramodigau cynnar sy’n cyflwyno gwersi Marcsaidd.
Ond yn yr Unol Daleithiau y blodeuodd y ffurf yn bennaf yn y Gorllewin, a hynny yn ystod dirwasgiad y tridegau. Roedd y wlad mewn argyfwng gwleidyddol ac economaidd, ei hamaethyddiaeth a’i phobl yn diodde’n enbyd. O ganol y cyni tyfodd math o theatr agit-prop a oedd i roi cyfrwng mynegiant i broblemau’r Americanwyr cyffredin. Sefydlwyd y ‘Living Newspapers’, fel y’u gelwid – cwmnďau bychain o weithwyr mewn ffatrďoedd a gweithdai a chymunedau. Âi’r rhain ati i gasglu ffeithiau a gwybodaeth am effaith y dirwasgiad ar bobl mewn amaethyddiaeth a diwydiant, a gweu’r cyfan i mewn i sgriptiau theatrig i’w perfformio. Un o’r cynyrchiadau enwocaf oedd One Third of a Nation, yn trafod cyflwr slymiau dinasoedd America, ac addewid y llywodraeth i’w dileu. Daeth eraill fel Power, Ethiopia a’r deifiol Triple-A Plowed Under, yn ymwneud â phroblem amaethyddol enfawr y bowlen lwch. Cefnogwyd y gwaith hwn ar y dechrau gan y llywodraeth, sefydlodd Roosevelt y ‘Federal Theatre Project’ gyda’r bwriad o roi gwaith i filoedd o’r di-waith yn creu adloniant. Ond yn y man cafwyd gwrthwynebiad ffyrnig i’r gwaith o du rhai eithafwyr a gredai ei fod yn tanseilio democratiaeth ac yn hybu Marcsiaeth, a diddymwyd y nawdd. Beth bynnag am hynny, magwyd dramodwyr fel Arthur Arent, Elmer Rice, Clifford Odets ac Arthur Miller ynghanol bwrlwm y cyfnod hwn.
Teimlwyd dylanwad y theatr wleidyddol hon ym Mhrydain y tridegau hefyd, gyda rhai unigolion a grwpiau o actorion yn gafael yn y ffurf. Un o’r cynyrchiadau mwyaf gwefreiddiol oedd Busmen, a berfformwyd gan yr Unity Theatre yn 1937. Olrhain streic bysus Llundain a wnâi’r ddrama hon, mewn cyfres o olygfeydd byrion deifiol yn cyflwyno ffeithiau’r streic, ei hachosion, ei heffaith ar y bobl a’i chanlyniadau.
Gwelwyd y dylanwad yn treiddio i fyd y ffilm hefyd. Yn nwylo rhai o fawrion yn sinema, fel Grierson, Rotha a Jennings, tyfodd y ffilm ddogfennol i bortreadu problemau cymdeithasol mewn modd dadansoddol, gan arwain yn y pen draw at y ddrama-ddogfen a’r rhaglen ddogfenol ar radio ac ar deledu. Perthyn i’r traddodiad yma y mae ffilmiau dogfennol fel Cathy Come Home. Meithrinwyd doniau’r arloeswraig theatr Joan Littlewood yn ethos agit-prop y tridegau, ac roedd dylawad y ffurf i’w weld yn glir ar ei gwaith diweddarach yn y pumdegau a’r chwedegau yn y Theatre Royal, Stratfford East, Llundain. Tyfodd Oh What a Lovely War yn uniongyrchol o’r math yma o theatr.
Gwelwyd defnydd i theatr agit-prop, boed i ledaenu propaganda neu i leisio protest, mewn gwahanol rannau o’r byd ynghanol yr ugeinfed ganrif. Yn China, yn ystod teyrnasiad Mao, roedd cannoedd o grwpiau theatr bychain yn teithio i bentrefi’r wlad i gyflwyno propaganda Comiwnyddol a gwrth-Imperialaeth Americanaidd i’r werin. O ffurff theatrig a elwid yn ‘Happening’ fe dyfodd theatr stryd rymus yn yr Unol Daleithiau yn ystod Rhyfel Viet Nam. Ymhlith dramodigau byrfyfyr eraill, perfformiwyd y ‘Napalm Plays’ ar hyd strydoedd dinasoedd America, er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at erchyllterau’r rhyfel.
Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf datblygodd y traddodiad yn nwylo g_yr fel Dario Fo, Julian Beck ac Augusto Boal, unigolion a ddioddefodd yn enbyd dan lach gwladwriaethau totalitaraidd oherwydd eu beiddgarwch yn y theatr.
Beth am Gymru? Gwelsom yn ystod y ganrif ddigon o sefyllfaoedd a oedd yn gweiddi am gael eu cyflwyno trwy gyfrwng y math yma o theatr. Does dim ond rhaid meddwl am losgi’r Ysgolion Fomio, boddi Tryweryn, llosgi tai haf, carcharu cenedlaetholwyr. Ond aeth neb i’r afael â’r pynciau hyn o ddifri yn y dull dogfennol, uniongyrchol a fu mor effeithiol mewn gwledydd eraill. Theatr di-asgwrn-cefn, ganol y ffordd, lenyddol fu ein theatr ni erioed.
Efallai mai Twm o’r Nant, dros ddwy ganrif yn ôl, yw’r unig ddramodydd agit-prop yn hanes y theatr Gymraeg. Mae ei anterliwtiau yn llawn beirniadaeth gyllellog ar sefydliadau a chymdeithas ei ddydd. Heddiw, ar wahân i Bara Caws ambell waith, dim ond grwpiau Theatr Mewn Addysg sy’n ymhel â’r math yma o theatr, ond nid gyda’r bwriad o gynhyrfu ac annog eu cynulleidfaoedd i weithredu. Gyda’r theatr Gymraeg mor ddibynnol ar grantiau, ac efallai ar sefydliadau, mae’n anodd creu gwaith ag unrhyw fin gwleidyddol go iawn arno. Roedd gweld y Banner Theatre yn Oldham yn dangos y math o beth sy’n bosib, ac mae’n amlwg oddi wrth dudalennau y Tulane Drama Review fod theatr agit-prop yn fyw ac yn iach yng ngwledydd gorthymedig De America a De Affrica. Byddai chwistrelliad o’r peth yn gwneud byd o les i’n theatr ninnau.
awdur:Emyr Edwards
cyfrol:413, Mehefin 1997
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com