Once Upon a Time in the West
Dramateiddio Tirlithiad – gan Emyr Edwards
Eddie Ladd
Min nos yn nechrau Hydref a ninnau’r gynulleidfa mewn awditoriwm dros dro yn yr awyr agored yn Amgeueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, yn wynebu maes eang agored wedi ei osod ar ffurf llwyfan actio. Arno y mae lleoliadau actio niferus yn ymestyn draw tuag at gylch o adeiladau hynafol Cymru a chlystyrau o goed. Dyma safle perfformio gwaith arbrofol diweddaraf Eddie Ladd, yr actores a’r ddawnswraig sef Once Upon a Time in the West, safle priodol ac ystyried amgylchfyd gwledig y ddrama ei hun.
Mae’r teitl yma’n cyfuno dwy ffynhonnell, sef ar y naill llaw, problemau tirlithiad ar lethrau Llandudoch oddi ar 1993, ac ar y llall, ffilm Hollywoodaidd Alan Ladd (pethynas pellennig o bosib) sef Shane. Mae’r ddwy ffynhonnell yma’n cael eu gweu ynghyd wrth i Eddie Ladd, gyda chymorth nifer o gynorthwywyr gwrywaidd, ddatblygu’r gwaith dramatig trwy ei sgiliau meimio a’i symud celfydd a’i llefaru a’i chanu byrlymus.
Symudir o olygfa i olygfa, rhai’n rhoi cefndir hanesyddol, daearyddol, daearegol, cymdeithasol a theuluol cylch Llandudoch ac argyfwng y tirlithiad, eraill yn atgynhyrchu golygfeudd pwerus o’r ffilm Shane. Wrth i’r perfformiad ddatblygu fe welir y cyswllt brau rhwng un ffynhonnell a’r llall yn dod yn amlwg, gan greu arwyddocâd symbolig i’r ddrama.
Gyda thâp sain cymhleth ond effeithiol a defnydd o gamera fideo, theatr amlgyfryngol oedd yma. Cawsom ein bombardio gan ddelweddau, llawer yn eiconig, a oedd yn cynhyrfu’r dychymyg a’r emosiwn, a hyn oll yn fwrlwm ar hyd ac ar draws y llwyfan chwarae eang, lle roedd darnau o offer a dodrefn wedi eu gosod at bwrpas y sefyllfaoedd dramatig. Roedd effaith hyn yn atgoffa dyn o ddelweddau Salvador Dali, lle gosodir symbolau arwyddocaol ac argraffiadol ar feysydd eang sy’n ymestyn tua’r gorwel. Wrth symud yn ystwyth o un ffurf ar fynegiant i’r llall gydag egni eithriadol, fe ddangosodd Eddie Ladd mor amryddawn ydyw fel perfformwraig.
Un o’r elfennau y mae hi wedi eu datblygu yw’r defnydd o fideo i dynnu llyniau byw ar y pryd wrth iddi berfformio. Y mae’r gynulleidfa yn ei gweld hi’n actio a dawnsio, ac ar yr un pryd yn gweld lluniau clos ohoni ar sgrîn fideo. Y mae hyn yn creu’r effaith o ganolbwyntio ac ar yr un pryd yn creu effaith dieithrio, sy’n rhwystro’r gwyliwr brhag cael ei feddiannu gan emosiynau ar draul y ddeall. Dyma dechneg ddogfennol a thechneg theatr epig yr ugeinfed ganrif. Yn y sioe arbennig yma mae’n sicr yn gymorth i ganolbwyntio ar y llifeiriant o ffeithiau ac argraffiadau sy’n byrlymu o’r llwyfan.
Mae’r gwaith yn crynhoi o gwmpas delweddau grymus megis d_r a thân, sy’n cynrychioli bygythiad a dinistr, ac yn uno rhamant storïol syml, orffenedig ffilm Shane a realiti digyfaddawd, anorffenedig tirlithiad Llandudoch. Gwelir yn glir pwy oedd ar fai yn argyfwng Shane, ond yng nghyswllt Llandudoch fe guddiwyd y gwir dan beth wmbreth o adroddiadau swyddogol sych.
Mae’r ddeuoliaeth yma, y rhamantus a’r real, y dihangol a’r presennol, y gwir a’r gau, yn gweu trwy holl elfennau’r perfformiad, gan ymestyn hyd yn oed i’r defnydd o ddwy iaith, y Gymraeg i olygfeydd y tirlithiad, a’r Saesneg i olygfeydd Shane.
Fe fydd delweddau cyfansawdd grymus y perfformiad hwn yn aros yn y cof – lluniau clos o’r berfformwraig yn ymateb i oblygiadau emosiynol y tirlithiad, llosgi’r model o d_ yn cynrychioli dinistr, ac Eddie Ladd ar y diwedd yn disgyn i bydew o dd_r, gweithred yn cyfeirio’n ôl at fedydd yn ei theulu ynghynt yn y ddrama mewn eglwys fach yn y dyffryn, ac ar yr un pryd yn adlewyrchu dinistr y d_r sydd i bob golwg yn gefndir i achos y tirlithiad.
Mae Once Upon a Time yn ysgytwad i’r meddwl a’r dychymyg. Gobeithir perfformio’r gwaith drachefn mewn mannau eraill yng Nghymru. Rwy’n annog pawb i’w weld.
awdur:Emyr Edwards
cyfrol:405, Hydref 1996
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com