Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Bogail- syllu ar lwyfan

Roedd cynnyrch drama proffesiynol yr Eisteddfod eleni yn awgrymu mai archwilio Cymreictod sy’n mynd â bryd ein hawduron a’n cwmnïau y dyddiau yma. A ydi hynny’n theatr gyffrous? Dyna gwestiwn MEG ELIS, wrth i ambell un o’r cynyrchiadau fynd ar daith

Gyda’r Steddfod yn ddim ond angof, a Chymru wedi llithro’n ôl at gyfres newydd o ffraeon, mi fuasai’n ddiddorol edrych yn ôl ac ystyried pam yn union, yng nghynnyrch drama Dinefwr, y cafwyd cymaint o fogail-syllu a seicdreiddio’r hen genedl?

O gymryd golwg arwynebol, hawdd fuasai dod i’r casgliad ein bod ni i gyd fel Cymry naill ai’n seiciatryddion neu’n gleifion iddynt. Ystyriwch: Drama gomisiwn sy’n cymryd fel ei thestun bâr dosbarth canol Cymreig a phâr dosbarth gweithiol Cymreig yn doethinebu ar eu ffordd i Steddfod; golwg yn ôl ar hanes y genedl trwy storïau a phortreadau o’r werin guriedig; golwg yn ôl ar ditto trwy eiriau ac argraffiadau un fenyw, portread o un o eiconau’r genedl, gyda digon o ddôs o siniciaeth a realaeth heddiw; dadansoddiad perfformiadol/corfforol o berthynas cas/cariad Cymry â Chymru; ffug-ddarlith gan entrepreneur Cymreig sy’n clyfar dargedun holl wendidau’r genedl.

Stopiwch, wir! Wythnos ddirdynnol o ddioddef yn enw celfyddyd? Ddim o gwbl. Mewn wythnos a’n siomodd o ran rhyddiaeth, ac mewn Eisteddfod lle bu’r cwffio gwleidyddol, am unwaith, rhwng Radio Cymru a’r gweddill yn hytrach na rhwng Cymdeithas yr Iaith a’r Swyddfa Gymreig, roedd arlwy dramâu Bro Dinefwr yn bleser ac yn llawn addewid.

Trueni na fuasai cynulleidfaoedd ym mhob rhan o Gymru yn medru setlio i lawr i groesawu taith drama Dalier Sylw, Y Groesffordd. Buasai un olwg ar y set yn y Lyric, Caerfyrddin, wedi dangos anawsterau ymarferol teitho’r campwaith clyfar hwn o eiddo Geraint Lewis, ond wedyn, beth sydd o’i le efo tipyn bach o ddyfeisgarwch? Llwytho’r set gyfan yn y garafán, a ffwrdd â chi. Os oedd trol yn ddigon da i Twm o’r Nant...

Dwi ddim yn meddwl y buasai Cheryl yn gwybod pwy oedd Twm o’r Nant; buasai Gaz efallai yn darllen amdano mewn llyfr ail-law na fuasai neb arall yn ei brynu; buasai Huw yn blyffio, a Lowri yn ei hawlio iddi ei hun ac yn ceisio ei wneud yn dramaturg personol neu rhywbeth... Oes, mae gennym ni yma y Teipiau Cymreig Nodweddiadol, i gyd yn anghydnaws styc efo’i gilydd yn yr un lle, pawb (bron) isio bod yn rhywle arall, yn smalio eu bod nhw’n rhywun gwahanol, a dim posib dianc. Na, nid collfarnu ydw i- onid dyna yw’r Steddfod yn ei hanfod? Rhyw hanner ofni yr ydw i fod Geraint Lewis wedi bod yn bry ar y wal mewn llawer cartref Cymreig dros y misoedd diwethaf: mae’r Groesffordd mor ‘true to nature’ nes bod rhywun yn arswydo rhag cael datgeliadau mwy preifat. Oherwydd yr ydan ni’n nabod y cymeriadau.

Mae yna Gymry ifainc, sbonclyd, sy’n fendigedig rydd o’r hang-ups Cymreig – ac y mae Shelley Rees yn portreadu Cheryl yn berffaith. Wn i ddim ai ei dawn naturiol sy’n gyfrifol am hyn, ynte’r rhyddhad o fedru dianc o hualau diddychymyg ei chymeriad yn Pobol y Cwm – diolch amdano, beth bynnag. A wyddoch chi be – mae hi’n iawn: tydi enwau fel Trap a Tymbl ar lefydd yn stiwpid? Nid y basa Lowri (Mari Emlyn) yn cytuno – ond diawch, faswn i ddim yn licio ei chroesi hi, chwaith: hanner tunnell o angst Cymreig, alcoholig dosbarth canol yn landio ar fy mhen i? Dim diolch. Fedra’i ddim meddwl am lawer o bortreadau mwy doniol, crafog na (ie, mi welais hyn yn Y Groesffordd, hefyd) sinistr – na’r hyn a gafwyd ganddi hi a’i chyd-actorion. A tydw i ddim hyd yn oed wedi crybwyll y dynion, sy’n anheg, achos roeddan nhwtha hefyd yn dda...

Caf gyfle eto i ganmol dawn Dewi Rhys Williams: gawn ni aros am sbel efo angst merches? Ddim am ryw hir, chwaith, achos awr yr actorion oedd hi, a monolog Sharon Morgan yn Theatr y Maes. Crud i’r bedd, diniweidrwydd, gorfoledd y ferch fach, wastad, rywsut, yn troi’n surni ac yn ddadrithiad. Crefftus, wrth gwrs – ond sori, rydw i wedi bod yma o’r blaen. Fynna’i ddim bod yn ddioddefwraig am byth.

Mi fûm yn y lle rong, felly, wrth fynd i Cross Hands, a Theatr Gorllewin Morgannwg yn treiddio I’r Byw. Mae cwmni hwn wedi ennill canmoliaeth deilwng am ei gynhyrchiadau. Dysgasant gydweithio ac asio’n berffaith. Mae graen ar eu gwaith, a daeth rhywun i ddisgwyl safon yn ddigwestiwn. Pam, felly, mai’r nodiadau a sgwennais i yn y tywyllwch ar y pryd ydi’r canlynol: ‘Rhy hir, rhy wasgarog, dweud dim byd newydd.’ ‘Darnau benthyg, ail-law.’ ‘Combrogos eto: Cymry as victims.’?

Dda gen i mo ‘Yma O Hyd’. Sori, Dafydd Iawn, ond mae campwaith Hefin Elis yn well – bûm i’n bleidiol nerioed i ‘I’r Gad’, a’r teimladau a gyflëir gan y gân honno. Oes, mae eisiau rhoi lle dyledus i’r camweddau a ddioddefwyd gan ein cenedl, a do, fe bortreadwyd hynny yn wych gan ein llenorion – cyfiawnhad, felly, i ailbobi geiriau Rhydwen Williams, Richard Llewelyn – a Rhys Davies yn anad neb gyda champwaith stori’r Gwn Nos? Yr ydw i wir yn ystyried mynd â’r cwmni i gyfraith dan y Ddeddf Disgrifiadau Masnach am honni bod y perfformiad hwn yn ‘edrych yn ôl er mwyn edrych ymlaen.’ Does yna ddim edrych ymlaen: consuriwyd y gorffenol yn gywrain ddigon, ond gwelsom hyn oll i gyd o’r blaen.

Er hynny, does yna fawr o sail i wir bryder, gan sicred cred rhywun yn Theatr Gorllewin Morgannwg. Gair yng nghlust – gwnewch fwy na sbio i’r dyfodol: ewch iddo fo, perfformiwch yno, oherwydd mae’r cwmni yn rhy dda i drigo yn y gorffenol.

Wedi dweud hynny, dyma fynd wedyn i feistri capel (ow) i weld gwaith ‘arbrofol’ (och, gwae), o flaen cynulleidfa fechan (wrth gwrs). Hynny, a lot o gyfeirio at y gorffennol: a’r hyn gawsom ni oedd perfformiad gorau’r wythnos. Mae arna’i isio sefyll ar fy nhraed a gweiddi hwrê am y perfformiad bywiog, corfforol, ystyrlon – a doniol/ddwys – gan y Gymraes, a roes i ni Mae Siân yn Gadael Cymru. Symboliaeth: digon – pum merch pum enw, a mwy na ddigon o gesus. Be’ sydd yn y cesus: beth yw’r baich cudd y mae pob Cymraes yn ei gario efo hi? Llythyrau, atgofion, hanes trysorau, tsieni, pridd y ddaear... a gwisg Gymreig. A hyn cyn i chi ddwad at faich yr enwau sydd ar y pum merch: Gwenllian, Nia (neis), Rhiannon, Carys, Siân (cliché). Hyn oll, (a’r Ddawns Flodaunorau welais i erioed), a beth am Siân feichiog? Beth yn union yw ein baggage emosiynol ni fel Cymry?

Cawsom gipolwg fymryn cliriach ar gynnwys y cesus yn y feistri hon, a oedd mor fach fel bod yn rhaid defnyddio’r drws allan i’r stryd fel rhan o’r llwyfan; a dyna beth oedd profiad – eistedd yn wynebu’r drws, edrych allan heibio perfformiad llwythog o ystyron gadael/aros, a chlywed ceir yn pasio ar y ffordd brysur, a syllu’n syth at orsaf drenau go-iawn Ffairfach!

Nid y buasai gan ein Wyn Morgan, ein darlithydd gwadd yn Theatr y Maes, fawr i’w ddweud wrth gonset arti-ffarti felly. ‘Meindiwch Eich Busnes’ fasa fo’n ddweud, a dyna, yn wir, destun ei ddarlith. Dewi Rhys Williams eto fyth – ddim mor wahanol o ran persona i Huw Gorlas yn Y Groesffordd, ond mae’n gwneud y cymeriad cystal, crintachlyd fuasai cwyno. A wir, tydan ni i gyd yn nabod y cymeriad? Cymro newydd, ifanc, siwt smart, mewn PR neu farchnata, gwybod y termau Cymraeg newydd i gyd (ac efo Geiriadur yr Academi i brofi hynny). Gwybod digon i ddarlithio ar y pwnc, hyd yn oed – mae’r boi yma wedi cael gweledigaeth. Yn ei eiriau ei hun – Lasarus ar y ffordd i Ddamascus. Ai fi ydi’r unig un a welodd hwn yn ddisgynnydd uniongyrchol i Ifas y Tryc?

At un arall o arwyr Cymru wrth i’r Eisteddfod ddirwyn i ben. Sioe un-dyn yn portreadu John Williams, Brynsiencyn? O ia, jyst y peth i’r gwawdwyr a wêl Gymru’n hen-ffash ac elitaidd, yn byw yn y gorffenol. Wel, sori, Kim Howells a Radio Kymree, ond nid profiad felly oedd Awn i Gwrdd y Gelyn. Yn wahanol i’r perfformiad arall y bu Llion Williams yn ymwneud ag ef yn yr Eisteddfod (I’r Byw), yr oedd y portread hwn a’i wyneb tua’r dyfodol, er yn rhoi syniad clir o’r dyn yn ei gyfnod. (Cofiaf yr argraff o’r angladd am hir). Y peth calonogol oedd y syth-welediad hollol gyfoes, a gododd y portread hwn uwchlaw’r hagiograffi confensiynol yr arferid ei gyflwyno fel profiad theatrig rai blynyddoedd yn ôl. Mae’r diolch yn bennaf i Llion Williams sy’n prysur dyfu yn un o’r actorion mwyaf medrus a meddylgar sydd gennym. Tasa fo’n cael siawns, yntê – wrth i sbloet y Steddfod fynd yn ddim ond angof, ac i’r Cymry setlo’n ôl i’r ffraeo arferol, ein cymhlethdodau seicolegol, a’n darpariaeth ddrama deledol sydd yn rhyfeddol o gofio’r cyfyngiadau, ond sydd er hynny’n dal yn annigonol.

awdur:Meg Ellis
cyfrol:405, Hydref 1996

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk