Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Lyshio

Aeth GWENAN MARED i weld cynhyrchiad Cwmni Bara Caws o ddrama newydd Aled Jones Williams, Lysh, yn yr Eisteddfod.

Drwyr ffenasd maer lleuad fel medalion ar frest bownsar y nos. A tat_s y goleuadau hyd freichiaur ddinas. A ma lysh yn galw. YN GALW....

Gallaf glywed Phil Reed yn dweud y geiriau yn fy mhen, gweld ystym ei gorff sydd rhywle rhwng anobaith a her, a chlywed s_n y tonnaun torri yn fy isymwybod. Trwy gornel llygaid fymennydd gallaf weld Maldwyn John yn igian crio yn ei gwrcwd tu l ir jiwcbocs a Betsan Llwyd ar ei gwallgof orau yn siglo ar ei cheffyl pren. Maer mise en scne grymus wedi ei brintio ar fymwybod, ond y tro yma dwin gallu chwarae mantais.

Yn lle dibynnu ar fy nghof yn unig wrth adolygur ddrama newydd hon, mi ges i rhywbeth gwell. Ac nid am un or video phones ffansi na rydw in paldaruo chwaith, ond rhywbeth llawer mwy defnyddiol. Mi ges i brynu testun Lysh yn lle rhaglen, a mynd fo adref efo fi. Dwin cofio cael gwneud yr un fath yn Stratford rai blynyddoedd yn l, a meddwl mor berffaith fyddair trefniant hwnnw yng Nghymru lle mae cael cofnodi drama newydd ar gof a chadw yn beth mor brin, ar mwyafrif o gynnyrch gwreiddiol y theatr Gymraeg yn mynd i ebargofiant.

Hwyrach mod in swnio dros ben llestri braidd wrth sn am beth mor syml, ond yn achos y ddrama yma, roedd y syniad yn gweddu ir dim. Fe ddywedwn i mai bardd o ddramodydd yw Aled Jones Williams, - er mai teitl a roddwyd i ddramodydd arall oedd dipyn yn rhy hoff oi ddiod oedd hwnnwn wreiddiol- ac maen bleser cael cyfle i weld ei ieithwedd unigryw mewn print. Gellir dweud hyn yn enwedig gan mai drama am eiriau yw hon i raddau helaeth, am y conundrum hwnnw sydd wedi drysu llenorion ers dechrau amser, sef sut mae cyfleu cymhlethdod emosiwn o fewn hualau iaith.

Rhaid i chdi ddeall semantics lysho, meddai Ifor yn y ddrama hon, ac mae Aled Jones Williams wedi troi ei du mewn briwedig am allan mewn ymdrech i wneud yr union beth hynny, - cyfleur profiad o fod yn alcoholig ir gwyliwr, cyfleu artaith ac anobaith y cyflwr, yn ogystal r hyn syn denu ac yn dallur rheswm wrth ddychwelyd dro ar l tro at y botel. Mae on gwneud hynny mewn ieithwedd syn swyno ac yn synnu, yn siocio, yn troir stumog yn aml iawn, ac syn cyffwrdd y man tyner hwnnw yn nwfn ym mherfedd rhywun:

Mae yna geudwll yno-i.

Chwarel yn fy emosiyna-i.

Rhyw dwll Dorothea diafol

Y maen rhaid i mi ei lenwi fo...

Ond peidiwch m camddeall i, dydw i ddim yn awgrymu mai drama eiriol yn unig yw Lysh. Mae yma waith llawn amser ir glust, y llygaid, yr emosiwn ar ymennydd. Gydar cyfan yn chwarae ar ei hyd heb fwlch, does na ddim cyfle chwaith i orffwysor bambocs a thalu sylw am ysbaid fer i bethau mwy syml fel hufen i cornetto neu jin a tonic (os nad ydach chin meddwl fel Ifor am wrth gwrs, bod tonic fatha condom. Ym merwinor gic.) Byddwn in amau mai cadwr momentwm angerddol hwn ar hyd y ddrama ywr sialens fwyaf ir actorion, gan nad oes yma strwythur bendant lle maer stori yn cyrraedd uchafbwynt a thro. Dim ond profiadau y pedwar cymeriad a geir, fel petaent yn llifo yn l ac ymlaen ar y mr syn gefnlun ir ddrama, gyda dim ond cerddoriaeth y jiwcbocs yn aml yn gwahanu un llif meddwl oddi wrth y llall. Nid ywr set yn cynnig atebion, dim ond cliwiau, gyda defnydd cynnil o symbolau bob dydd mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd, ar goleuo ar symud wedi ei cynllunio gyda gofal eithriadol, gan fod arwyddocd ir pethau lleiaf mewn drama amwys fel hon.

Mae cymeriad y ferch, Sandra, i ryw raddau yn egluror digwydd gan weithredu, fel yi labelir yn nhestun y ddrama, fel Corws. Er hynny, mae iddi hithau ei phryderon ai chysgodion ac maen llifo o rl i rl o fewn y digwydd. Byddain hawdd dadlau mai agweddau ar un person mewn gwirionedd yw gweddill cymeriadaur ddrama, sef y tri dyn, gan fod pob un yn cynrychioli cyfnod. Ceir Jona Fodca ym mhresennol cymhleth y clinig rehab, Ifor yng ngorffenol bariau, clybiau a chyfrinachaur alcoholig, a Santa Clos druan ar goll yng ngorffenol pell plentyn na chafodd gariad mam. Digon amlwg bod mwy na chysgod tafod mewn boch or awdur yn y cymeriadau gan fod Ifor yn paratoi i draddodi darlith am ddramu Jonathan Watkin Ellis- neu iw ffrindiau y bosom pals... Jona Fodca!

drama yn ddrych o fywyd yn l Ibsen gynt, a gydar holl ddrychau oedd yn rhan or set swreal, sut brofiad tybed oedd gwylior ddrama hon iw hawdur? Un digon annifyr, maen siwr gen i, ac nid ir awdur yn unig. Full frontal a geir yma ac nid yw Lysh yn ddrama hawdd iw gwylio. Er bod ynddi chwerthin chwithig ar adegau, maer pwnc difrifol yn pwyso ar y gwyliwr, ei realiri cignoeth yn anodd ac aflednais. Dyna g_yn ambell un fu iw gweld ei bod hin rhy drwm a dipresing. Ac er nad ydw in cytuno efor farn honno, efallai y gellid bod wedi cwtogi rhyw ychydig tuar diwedd, tuar adeg y ceir bwrw bol anghynnil Sandra, tuar adeg hwnnw mae pobl yn dechrau gwingo yn eu seddi ac edrych faint or gloch ydi hi, tuar adeg mae pobl yn dechrau meddwl eu bod nhwn ffansi peint. A hwyrach mai dyna grynswth yr anesmwythyd, there but for the grace of God... efallai?

Clywais hefyd y farn gan un gwyliwr mai hon oedd y ddrama orau iddi gweld ers blynyddoedd. Ac maen rhaid cyfaddef bod yma lawer iw ganmol yn y cynhyrchiad. Roedd yr actio yn arbennig, a hynny mewn drama anodd, emosiynol. Llwyddodd y pedwar i ennyn edmygedd a chydymdeimlad, ac roedd Maldwyn John, syn arfer bod mor ddoniol, fel petai wedi llyncu cymeriad Jona Fodca iw enaid. Roedd proffesionoldeb caboledig iw weld yma ym mhob agwedd ar y cynhyrchiad a chlo syml y ddrama lle cyfeirir at y bywyd brau, prydferth hwn yn dod deigryn ir llygaid.

Roedd hin biti nad oedd cynulleidfa fawr yno i werthfawrogir perfformiad ond hwyrach nad oedd y lleoliad ym metropolis Casnewydd yn helpu rhyw lawer; (wel, aeth hi bron yn sgrech ar Mam a Dad wrth i ni chwilio am y theatr yng nghanol y dref, syniad pwy oedd cael family outing ir theatr dwn i ddim!) Er bod yma ddrama ddewr a gonest ni fydd Lysh at ddant pawb, ac mae hynnyn broblem yn y Gymru Gymraeg lle mae adnoddau yn awgrymu y dylai popeth blesio pawb. Ond dyna ln beryg, lle gall amrywiaeth a chreadigrwydd edwino ar fin y ffordd. Hyd y gwela i nid yw Aled Jones Williams yn awdur syn poenin ormodol am farn pobl eraill, mae ganddoi gythreuliaid personol i ymladd nhw a fawr o amser dros ben i ymboeni am gythraul yr adolygydd nar sylwebydd. A pha waeth iddo boeni, gyda chyfoeth yr iaith yn ymsugno drwy ei ddramu ai ymwybod,

Yn Gymraeg dwin yfad.

Brawddegaur iaith fel wiars

Lectrig yn cario shoc byw.

Dyna drydan y dramodydd unigryw hwn, ac mae on sgleinio fel polyn Nebo!

awdur:Gwenan Mared
cyfrol:502, Tachwedd 2004

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk