Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Cloddio Haenau’r Co’

Gyda phum drama lwyfan wedi dod o’i law ers dechrau’r nawdegau, chweched ar y ffordd yn y flwyddyn newydd a dwy arall yn ei ben, MEIC POVEY yw awdur mwyaf cynhyrchiol y theatr Gymraeg ar hyn o bryd. Bu’n sôn wrth Menna Baines am yr hyn sy’n ei ysbrydoli.

Gwaith teledu sy’n cadw to uwch pen Meic Povey, ond theatr sy’n ei gynhyrfu. Yn ei gartref ym Mhontcanna, Caerdydd, lle bydd yn ysgrifennu o saith y bore tan amser cinio bob dydd, doed a ddelo, mae’n sôn am y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfrwng.

‘Mae’n rhaid i rywun gyfaddawdu lot wrth sgwennu i deledu, hyd yn oed wrth sgwennu rhywbeth gwreiddiol yn hytrach na sgriptio ar sail synopsis. Ac mae’r cyfle i sgwennu pethau gwreiddiol, unigryw yn llai nag yn y theatr. Mae S4C – ac nid eu beio nhw ydw i – yn sianel canol y ffordd sydd ar y cyfan eisiau rhaglenni canol y ffordd, achos ein bod ni’n genedl ganol y ffordd ... Felly mae be fedri di’i ddeud ar y sgrîn yn gyfyngedig. Mi fedri di ddeud llawer mwy yn y theatr.’

Mae ‘deud mwy’ i’r awdur hwn yn golygu mwy na’r gwahaniaeth rhwng araith dair tudalen – o’r math a gafwyd yn ei ddrama lwyfan ddiweddaraf, Fel Anifail – ac araith dri munud mewn drama deledu. Mae’n golygu’r cyfle i ddatblygu themâu, i dyrchu’n ddyfnach i fyd profiad a syniadau. Mae hefyd yn golygu mwy o reolaeth dros ei waith, yn enwedig ers iddo ddechrau cyfarwyddo rhai o’i ddramâu ei hun – Bonansa, y flwyddyn nesaf, fydd y drydydd. Petai theatr yn talu’n well, does gan Meic Povey ddim llawer o amheuaeth pa gyfrwng fyddai’n hawlio ei amser.

Fel mae pethau, mae wedi sgrifennu digon o ddramâu ers dechrau’r nawdegau – un bob blwyddyn, fwy neu lai – i fedru cellwair am ei ‘blue period’. Ar ôl Bonansa, mae’n gobeithio gweld llwyfannu dwy arall, gan yr un cwmni, Dalier Sylw, erbyn diwedd y ganrif.

Mae cip yn ôl ar y dramâu diweddar yn dangos bod y ddwy brif ffrwd sydd wedi bod i’w waith o’r dechrau yn dal i lifo’n gryf. Ar un llaw, ceir y dramâu modern eu gogwydd sydd wedi mynd i’r afael â phynciau penodol fel gwrwygydiaeth ac AIDS (Wyneb yn Wyneb, 1993) a sgitsoffrenia (Yn Debyg Iawn i Ti a Fi, 1995), fel yr oedd Perthyn, drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog yn 1987, yn ymdrin â llosgach. Ar y llaw arall, ceir y rhai sy’n tynnu mwy ar gefndir personol yr awdur, boed hynny mewn modd uniongyrchol, fel yn Diwedd y Byd (1992), portread o’i blentyndod ei hun, neu anuniongyrchol, fel yn Fel Anifail (drama gomisiwn Eisteddfod Bro Colwyn, 1995), lle mae’r co’ am fore oes wedi’i weithio i mewn i stori am gwpwl oedrannus.

Mae’r awdur yn cytuno bod rhai dramâu wedi dod o’r ‘pen’, chwedl yntau, a’r lleill yn fwy ‘o’r galon’. Ond mae’n gyndyn o dynnu ffin rhy bendant.

‘Dwy ffrwd yn llifo i’r un afon ydyn nhw. Er enghraifft, yn Wyneb yn Wyneb, er mai dyn yn diodde’ o AIDS sydd ynghanol stori’r ddrama, stori’r fam hen-ffasiwn sydd yma mewn gwirionedd – sut mae hi’n ymdopi. A ‘nghefndir i ydi hwnna i gyd – y rhagfarnau a’r gwerthoedd oedd yn rhan o’r gymdeithas ges i fy magu ynddi. Dyna Gwaed Oer, wedyn. Er mai drama fodern ydi honno, mae ei henaid hi ym Mhorthmadog yn y chwedegau. A dweud y gwir, mae enaid bob dim dwi wedi’i sgwennu yn y gorffennol.’

Y gorffennol i Meic Povey yw’r pumdegau a’r chwedegau. Yn un o ddeg o blant, roedd yn byw hyd nes oedd yn unarddeg oed mewn fferm anghysbell yn Eryri, wrth droed y Cnicht.

‘Roedd y ffordd roeddan ni’n byw yn hen-ffasiwn ac yn gyntefig hyd yn oed yr adeg hynny. Doedd yna ddim trydan, ac roeddan ni’n dal i weithio efo ceffyl a throl. Erbyn hyn, mae o’n ymddangos fel rhyw fyd arall, oes arall. Ac eto, mae o’n fyw i mi o hyd. Roedd yna chwech o’r brodyr a’r chwiorydd eraill wedi’u magu yno efo fi, yn Nant Gwynant, rhai ohonyn nhw’n h_n na fi, a phrin iawn ydi’u co’ nhw am y cyfnod. Ond mae ‘ngho i’n glir ofnadwy, a fel dwi’n mynd yn h_n, mwya’n byd dwi’n gofio.’

Er iddo dreulio chwe blynedd ar ôl hynny yng Ngarndolbenmaen – y cyfnod pan ddechreuodd ymwneud â gweithgaredd drama’r Gegin yng Nghricieth – dychwelyd at gyfnod Nant Gwynant y mae o hyd, fel dramodydd. Yno y cafodd y cefndir amaethyddol, ynysig, sy’n amlwg mewn dramâu fel Diwedd y Byd a Fel Anifail, ond yno hefyd y cafodd ei brofiad cynharaf o fyd a diwylliant gwahanol. Mae’n cofio ‘fusutors’ yn dod i aros mewn tai ha’ cyfagos neu’n dod i fynydda,yn siarad iaith ddieithr, ac mae diffyg cyfathrebu rhwng y brodorion a phobl dd_ad yn un o brif themâu ei waith.

‘Nid rhyw ramantu am Gymru uniaith ydi sgwennu am y busnes iaith yma. Doedd rhywun, fel plentyn, ddim yn siarad Saesneg, er ein bod ni’n dod i gysylltiad efo lot o Saeson. Do’n i ddim yn adnabod Saesneg fel iaith, dim ond fel s_n aflafar, diarth iawn a bygythiol.’

Ac yntau wedi gadael cartre’ – Garn erbyn hynny – yn 1968, ac wedi symud i Gaerdydd ddwy flynedd yn ddiweddarach, i weithio yn y BBC, mae’n cyfadde’ bod yna adeg pan oedd yn teimlo’n euog am droi cefn.

‘Roedd hyn yn y saithdegau, cyfnod Adfer a sôn am y fro Gymraeg ac yn y blaen. Roedd rhywun yn meddwl “Dwi fan hyn yn gyfryngi ac yn byw yn fras, ac mae’r iaith yn marw yn Rhoslan.” Dwi ddim yn meddwl fel’na rwan, er bod mynd yn ôl adra a gweld pethau wedi newid cymaint yn fy ngwneud i’n ddigalon. Ond dwi yn dyfalu’n aml sut sgwennwr fyswn i wedi bod petawn i wedi aros yn Eifionydd. Dwi’n gwbod y byswn i’n sgwennwr gwahanol iawn.’

Fel ag y mae, mae ei waith yn llawn pobl sydd wedi gadael eu cynefin, rhai ohonynt yn dychwelyd, eraill yn sôn am wneud. Mae un o’r ddwy ddrama newydd sydd yn ei ben yn portreadu plant Diwedd y Byd wedi tyfu, dau wedi aros gartref a dau’n byw i ffwrdd.

Fodd bynnag, mae’r awdur o’r farn mai’r ddrama ddiweddaraf, Fel Anifail, yw’r mwyaf bersonol o’r cwbl hyd yn hyn. Sylw annisgwyl, efallai, o gofio mai cymeriadau’r ddrama yw g_r a gwraig oedrannus yn disgwyl angau heibio. Ond sôn am emosiynau sylfaenol y mae Meic Povey.

‘Y llinyn cryfa’ yn y ddrama ydi marwolaeth, ac mae hynny’n adlewyrchu un o ‘nheimladau cryfa’ i fel plentyn. Ond dwi’n licio meddwl fod Fel Anifail yn mynd yn ddyfnach i ‘mhersonoliaeth i o ran be ydw i r_an hefyd, a minnau’n nesu at yr hanner cant ...’

Roedd yr arddull yn sicr yn wahanol. Gyda’r iaith yn pendilio rhwng y llafar cryno a’r barddonol, geiriog, a’r ddau gymeriad hwythau’n llithro i mewn ac allan o wahanol stadau o ymwybyddiaeth, roedd y ddrama’n cefnu ar realaeth naturiolaidd gwaith cynharach.

‘Dyma’r tro cynta’ i mi arbrofi efo arddull fel yna. Dwi’n meddwl ei fod o’n ddyletswydd ar sgwennwr i chwilio am ffyrdd newydd o’i fynegi ei hun, neu mae peryg iddo sefyll yn ei unfan. Roedd y ddrama yma’n galw am arddull wahanol oherwydd ei bod hi’n ymwneud cymaint â’r ffin denau rhwng realiti a cho’ a dychymyg ...’

Mae Bonansa, a lwyfannir, unwaith eto gan Dalier Sylw, yn y flwyddyn newydd, yn addo bod yn wahanol eto – drama am deulu yng nghyffiniau Caernarfon sy’n ennill y Loteri.

‘Mae hi’n ymwneud â’r ffordd mae pobl yn meddwl fod ennill arian mawr yn mynd i ddod â hapusrwydd iddyn nhw. Yn y rhan fwya’ o achosion, hyd y gwela i, dydi hynny ddim yn digwydd – mae ennill miliynau yn rhwygo teuluoedd ac yn tynnu’r gwaetha’ allan o bobl. Math o gomedi ddu ydi Bonansa, yn mynd yn fwy trwm a bisâr fel mae hi’n mynd ymlaen.’

‘Fydd hi’n gamp i unrhyw un ddod o hyd i ddim byd sy’n tynnu ar brofiad personol yn hon,’ ychwanega gan chwerthin.

awdur:Menna Baines
cyfrol:407/408, Rhagfyr 1996/ Ionawr 1997

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk