Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Rhialtwch Meddylgar

Stâd o dai mewn cwm deheuol yw Maes Peryddon. Ar eu ffordd sha thre un noson daw tri ffrind (Rhodri Evan, Maria Pride a Richard Harrington) ar draws Steve Brace (Jeremi Cockram) yn llechu’n ddiymadferth ar lawr. Mae’n feddw. Neu’n farw. Y ddau, o bosibl.

Rhialtwch Meddylgar

Aled Islwyn

Un Nos ar Faes Peryddon

Gan Ian Staples

Theatr Spectacle

Cyfr. Menna Price

Stâd o dai mewn cwm deheuol yw Maes Peryddon. Ar eu ffordd sha thre un noson daw tri ffrind (Rhodri Evan, Maria Pride a Richard Harrington) ar draws Steve Brace (Jeremi Cockram) yn llechu’n ddiymadferth ar lawr. Mae’n feddw. Neu’n farw. Y ddau, o bosibl.

Dyna fan cychwyn y ddrama feddylgar hon, sy’n gorchuddio difrifoldeb ei chraidd o dan haen drwchus o hiwmor, ffantasi a dychan. Yn raddol, datgelir fod mwy i’r berthynas rhwng y ddau ddyn a’r ferch nag a dybiai neb ar y dechrau, tra mae Steve Brace yn ferw o ddryswch. Y pennaf rheswm am hyn yw fod ‘Brodyr Branwen’ wedi cael gafael arno – brawdoliaeth ffantasïol a’i bryd ar gadw hanfod Cymreictod yn fyw. (O ystyried y byddai teulu Branwen y Pedair Cainc yn cael ei gategoreiddio fel un disfunctional iawn gan weithwyr cymdeithasol cyfoes go brin fod yr enw yn un addawol iawn ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am ein goroesiad fel cenedl. Os nad ydych yn gyfarwydd â Brân ac Efnysien, yna ddychmygwch y Brodyr Mitchell yn cymryd arnynt y dasg o warchod treftadaeth Lloegr ac fe ddaw’r eironi’n glir.)

Y mae’r ddrama hon yn llawn o lamu dychmygus tebyg, gan greu hiwmor sy’n amrywio o’r ffaeth i’r carlamus. Ar brydiau, yr oedd perygl i rym y rhialtwch hwn foddi’r ffaith fod i’r ddrama galon ddwys a bod rhywun a chanddo feddwl craff wedi ei chreu. Pwy a beth yw cynheiliaid ein hunaniaeth bellach?

Sut a pham y caiff chwedlau eu cadw’n fyw? Nid Ian Staples yw’r awdur cyntaf i ofyn y cwestiynau hyn, ond mae ganddo atebion posibl i’w cynnig sy’n gyffrous ac efallai’n annisgwyl. Brodor o Ferndale yw ef. O gymoedd a threfi cyfagos iddo y daw’r rhan fwyaf o’r cast hefyd a chwmni addysgol a chymunedol o’r Porth, y Rhondda yw Theatr Spectacle a gomisiynodd ac a gynhyrchodd y ddrama. Hwn yw ei gynhyrchiad Cymraeg cyntaf. Nid cyd-ddigwyddiad, siawns, yw hyn oll.

Yn ogystal â gwreiddioldeb heintus y syniadau a drafodwyd yma, dangosodd yr awdur (yn y drydedd ddrama o’i eiddo i’w chynhyrchu’n broffesiynol) fod ganddo grebwyll theatrig aeddfed a chlust fain am ddeialog. Amrywiodd honno o fratiaith wachul y stryd i sgyrsiau dwys a ymylai ar fod yn farddonol. Yr oedd un olygfa, lle y dadansoddodd Billy ef ei hun a’i gynghreiriaid yn nhermau lliwiau, yn orchest o gynildeb.

Y mae Ian Staples yn enw a ddylai addurno ein posteri theatrig am flynyddoedd i ddod, dim ond iddo beidio â chymryd ei lyncu gan fyd y sgriptio teledu; byd nad oes ganddo fawr o barch at weledigaeth unigryw awdur ac sy’n rhoi mwy o bwys ar gyflenwi gofynion fformat na rhoi cyfle i lais unigol ddweud ei ddweud.

Gwnaeth cyfarwyddo Menna Price i’r llwyfannu ymddangos yn rhwydd, er nad oedd, mae’n si_r gen i, mewn amgylchiadau mor gyfyng ag a gafwyd yn yr Eglwys Norwyeg yng Nghaerdydd. O’r pedwar actor, Jeremi Cockram a Richard Harrington oedd â’r cymeriadau mwyaf diddorol i’w portreadu, gan i Billy a Steve ddatblygu a thyfu trwy gyfrwng y ddrama, ond roedd y perfformiadau oll yn egnïol a disybledig, er i eglurdeb y geiriau gael eu haberthu weithiau i ruthr y cynhyrchiad.

Rhaid canmol y goleuo cyn cloi. Wn i ddim pa effaith a grewyd ganddo yn yr ysgolion a’r neuaddau eraill yr ymwelwyd â hwy, ond ar furiau pren a ffenestri eglwysig y ganolfan hon, rhoddwyd arwyddocâd arbennig i’r cysgodion a grewyd – rhai cwbl berthnasol i’r ddrama. Yr hyn a gollwyd yn llafar a adenillwyd yn weledol.

awdur:
cyfrol:407/408, Rhagfyr 1996/ Ionawr 1997

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk