Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

O’r Deifiol i’r Dyddiedig

ROGER OWEN a thri chynhyrchiad diweddar

Tua’r Terfyn (Cwmni Theatr Gwynedd)

Henwalia (Bara Caws)

Y Ffin (Arad Goch)

Wrth drafod tair drama a fu ar daith yn ddiweddar, mae’n naturiol ar un olwg eu cymharu. Mae’r peth yn ddigon syml – gellir cymharu crefft yr actorion, medrusrwydd yr awduron, ymateb y gynulleidfa, ac yn y blaen. Ond a yw cymhariaeth o’r fath yn ddilys, o gofio mai digwyddiad yw noson o theatr yn ei hanfod, ac nid darn o lenyddiaeth? Oni ddylid ystyried pob sioe yn ôl ei rhinweddau a’i gwerthoedd ei hun, yn ôl polisïau’r cwmni a’i cyflwynodd, neu yn ôl disgwyliadau’r math o gynulleidfa a ddenwyd i’w gwylio? Neu yn ôl – rhywbeth arall?

Yn ystod y ddeufis diwethaf, gwelais dair sioe gan gwmnïau Cymraeg. O safbwynt theatraidd, roedd yna wahaniaethau sylfaenol rhyngddynt. Yr unig gyswllt mewn gwirionedd oedd eu bod oll yn y Gymraeg. Ac nid yw hynny’n ddigonol fel sail i’w cymharu – mae fel cymharu car Ferrari, tractor Massey-Ferguson a buwch Henffordd am eu bod oll yn goch.

Cymysgfa hynod iawn oedd cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Tua’r Terfyn gan Iwan Edgar (cyfr. Graham Laker), ond heb fod fawr gwaeth am hynny. Drama i gwmni amatur Llwyndyrys oedd hon yn wreiddiol, wedi’i hadolygu rhywfaint ar gyfer ei chyflwyno ar y llwyfan proffesiynol. Er hynny, roedd cryn dipyn o naws y gomedi amatur iddi o hyd. Hanfod y plot oedd cynllwyn ar ran Alun (Wynford Ellis Owen) i ddwyn perswâd ar ei frawd, y Parch. William Wernolau Williams (Wyn Bowen Harries) i werthu’r capel i asiant Grablot Holding, Dici Hughes (Dyfed Thomas) er mwyn i hwnnw ‘drwsio’r adeilad’, h.y. ei ddymchwel ac adeiladu archfarchnad Tesco ar y safle. Yn y cyfamser, fe geisiodd ladd ei wraig Gwenda (Valmai Jones) er mwyn dianc i Rio gyda gwraig William, sef Ceridwen (Mari Rowland Hughes).

Ta waeth am y plot, fe lwyddodd y ddrama i gynnal diddordeb cynulleidfa trwy greulondeb ei doniolwch wrth ddangos dymchwel byd y gweinidog, a’i freuddwyd am ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn troi’n hunllef Götterdämmerung-aidd erbyn y diwedd, cyn iddo esgyn i’r nefoedd at ei wobr yn hedd y Pethe. Cafwyd newidiadau crefftus yn y berthynas rhwng y cyflwyniad a’r gynulleidfa, gyda’r gomedi weithiau’n caniatáu i ni chwerthin yn braf am ben y cymeriadau o bellter, fel petai, bryd arall yn ein rhwystro drwy awgrymu bod hunllef William, a’i wendid aflunaidd, yn adlewyrchiad o’n cyflwr ni. Felly er gwaethaf, neu hwyrach, oherwydd, ysgafnder y ddrama, roedd yma ddifrifoldeb: roedd y dramodydd yn ymwybodol iawn o ddeublygrwydd y psyche Cymraeg yn y byd cyfoes, ac yn dadlau bod agweddau ar ein hunaniaeth yn anghydnaws â realiti masnachol a diwylliannol y byd hwnnw.

Fodd bynnag, roedd yr un deublygrwydd seicotig i’w weld yn y cyflwyniad ar y llwyfan hefyd. Nodweddayd y sioe gan anghysondeb yn arddull perfformio’r actorion gwahanol. Roedd fel petai rhai ohonynt wedi penderfynu bod galw’r sioe yn ffars yn golygu mai dwli oedd y cyfan, tra oedd eraill yn godro’r gwaelod o farilau’r dechneg amatur, ac eraill eto yn dilyn arddull grotesg. Er bod cryn ddiddordeb hanesyddol yn hyn i mi – roedd fel gwylio gwahanol lefelau yn esblygiad actio proffesiynol yng Nghymru yn ymaflyd â’i gilydd am ddwyawr – roedd yn wendid anffodus yng ngwead y sioe. Chwerthin pytiog a glywyd ymysg cynulleidfa Theatr y Werin, a hynny’n adlewyrchiad o’r anghysondeb hwn, yn ogystal â llwyddiant delweddaeth hagr, swrealaidd y sioe. Wedi dweud hynny, rhaid imi ychwanegu bod dehongliad Valmai Jones o gymeriad Gwenda yn fendigedig (digon hawdd efallai pan fo cymaint o linellau gwych yno i’w hysbeilio), a Buddug Povey fel Sioned, merch y gweinidog, yn hyfryd ddigywilydd mewn rôl y gellid bod wedi ei diystyru.

Yn anffodus, gallwn fod wedi diystyru’r rhan fwyaf o gyflwyniad Bara Caws, Henwalia (cyfr. Gruffudd Jones). Oedd, roedd pwnc y sioe yn un pwysig, a sensitifrwydd y cyflwyno yn briodol ar gyfer drama gymuned, ond roedd hwn yn gynhyrchiad gorofalus, diddrwg-didda. Tipyn o siom, yn enwedig ar ôl gwychder digymysg dramâu Wil Sam, Y Wraig a Bobi a Sami, y llynedd.

Stori Hubert (Trefor Selway) a gafwyd, athro wedi ymddeol a oedd bellach yn gaeth i gadair olwyn. Er yn anabl, roedd ymhell o fod yn fusgrell, ac yn reit ddiwylliedig. Ei bleserau beunyddiol oedd y llyfrau a gludid iddo o’r llyfrgell gan ei hame help, Magi (Morfudd Hughes), a’r platiau gwerthfawr a grogai ar ‘henwalia’ (han waliau, geddit?) ei gartref. Yn annisgwyl, fe dyfodd cyfeillgarwch rhyngddo a merch ifanc leol, sef Tracey (Caren Brown). Er i Magi ei rybuddio bod y cyfryw gyfeillgarwch yn berygl iddo, gan fod Tracey a’i chariad ‘Snake’ yn ddi-waith ac yn gaeth i gyffuriau a.y.b., mynnai Hubert weld yr ochr orau. Yn eironig ddigon, Magi a geisiodd ddwyn ei eiddo yn y pen draw a Tracey a arhosodd i’w warchod wedi iddo syrthio’n anymwybodol ar ddiwedd y ddrama.

Fe lwyddodd rhai agweddau ar y cynhyrchiad – roedd perfformiadau’r actorion yn ddi-fai ar y cyfan; a chymeriad Hubert yn bortread di-sentiment o henoed. Ond nid oedd gafael yn y peth o gwbl. Roedd y digwydd ar y llwyfan wedi’i gyfyngu’n ofnadwy, fel y gellid disgwyl a’r prif gymeriad mewn cadair olwyn, ond yn ddiflas o ganlyniad. Roedd diffyg hygrededd yn awydd Hubert a Tracey i sgwrsio. Roedd popeth, hyd yn oed yr effeithiau sain, yn fach ac yn dawel, dawel – fel petai ofn ar y cynhyrchiad darfu ar synwyrusrwydd y gynulleidfa o gwbl.

Hwyrach mai label y sioe, ‘drama gymuned’, a roddodd y farwol i stori drist Hubert a’i blatiau yn y pen draw. Nid oes amheuaeth fod bwriad y peth – sef ysgogi trafodaeth ar bwnc o bwys i’r gymuned leol – yn un cwbl deilwng. Ond a oes rhaid defnyddio dull dramataidd er mwyn gwneud hyn? I’m tyb i buasai’r noson gymaint yn fwy llwyddiannus pe bai Mari Gwilym – y dramodydd – wedi cyflwyno’r peth ei hun ar ffurf sgwrs neu sioe unigol, gan ddefnyddio’i ddawn dweud ddiamheuol yn llawn, a heb orfod gwthio’r cyfan i ffurf cymeriad-a-sefyllfa.

Go brin fod angen rhyw lawer o ragymadrodd ar gynhyrchiad Arad Goch o Y Ffin Gwenlyn Parry. Mae’n ddrama gymhleth, gyfoethog, yn her i gwmni ac i feirniad fel ei gilydd. Mae’n glasur Cymreig, ac yn ôl cyfaddefiad y cyfarwyddwr, Jeremy Turner, yn anodd i’w haddasu neu’i diweddaru. Cyflwyniad lled agos i’r disgwyl a gafwyd, felly, a’r senario draddodiadol yn datblygu’n raddol i’w huchafbwynt rhyfedd, anghysurus. Fe welwyd eto yn y ddrama hon, fel yn Tua’r Terfyn, dueddiad ar ran yr actorion i leddfu poen abswrd y ddrama trwy chwarae’r peth fel dwli, ond prif anhawster technegol y cyflwyniad oedd yr iaith. Profwyd pa mor anodd yw llefaru deialog Gwenlyn Parry yn llwyddiannus, anhawster sydd ganmil gwaeth o gofio nad oes neb yn hyfforddi actorion cyfoes i wneud hyn. Mae angen naturioldeb tafodieithiol yn ogystal â dawn i droi rhythmau’r Gymraeg lenyddol yn gerddoriaeth gain. Ac er mai bratiog yn unig oedd llwyddiant actorion Arad Goch (Alun Elidyr, Gwion Huw a Lowri Steffan) yn hyn o beth, mae’n werth llongyfarch y cwmni am fentro mynd i’r afael â’r testun o gwbl.

Yr hyn sy’n taro dyn wrth wylio Y Ffin y dyddiau hyn yw’r ffaith syml nad oes neb yn ysgrifennu dramâu fel hyn yn y Gymraeg bellach. Er mai prin ugain mlynedd sydd ers ei chyflwyno am y tro cyntaf, mae’r theatr yng Nghymru, i’m tyb i o leiaf, wedi’i thrawsnewid. Mae’n galetach, yn fwy sinicaidd a hunan-ymwybodol. Bellach nid oes le i theatr gelfyddydol yn llinach Gwenlyn Parry. Fe berthyn i gyfnod pan oedd cwmpas y theatr Gymraeg yn ehangu, a’i statws fel cynrychiolydd diwylliant cenedl yn uchel, yn bennaf oll oherwydd gwaith Cwmni Theatr Cymru a gweledigaeth y diweddar Wilbert Lloyd Roberts (y mae’n briodol talu teyrnged iddo yn y fan hon). Erbyn heddiw, mae’r berthynas rhwng theatr a chenedligrwydd y Cymry yn ansefydlog, os nad mympwyol, a’i rôl fel cyfrwng llenyddol parchus bron yn ddi-ddim.

Ar un olwg, dyma drasiedi’r theatr Gymraeg, ond ar olwg arall mae gobaith eto i’w gael. Bu’r ymdrech i warchod Cymreictod trwy gyfrwng theatr yn esgus dros gyflwyno a chyfiawnhau gwaith dienaid yn ddigon hir. Os yw parhad theatr yn y Gymraeg i fod o unrhyw werth i’r genedl, yna rhaid iddi ddatblygu fel theatr, ac nid fel agwedd (gostus) ar ein hymson diwylliannol.

awdur:Roger Owen
cyfrol:407/408, Rhagfyr 1996/ Ionawr 1997

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk