Syrthio Rhwng Dwy Stôl
The Time of the Wolf
Gan Gillian Clarke
Theatr Powys
Cyfr. Menna Price
Mae dau rinwedd yn perthyn i sgript Gillian Clarke, The Time of the Wolf. Yn gyntaf, mae’n sgript gwbl Gymreig; yn ail, yn wahanol i lawer o waith Theatr Mewn Addysg, nid yw’n nawddoglyd tuag at y gynulleidfa.
Yr hyn a geir gan yr awdures yn ei sgript ddramatig gyntaf yw rhyng-weithio rhwng hen chwedl Llyn y Fan Fach a’r presennol. Teulu sydd yma yn byw wrth lyn – does dim rhaid mai’r llyn yn y chwedl yw e – a’r tad sy’n ffermwr, a’i ferch sy’n dibynnu ar y fam-gu am ei chynhaliaeth, ill dau wedi’u clymu i’r gorffennol wrth y llyn, gan mai yn hwnnw y boddwyd y fam a chwaer y ferch. Mae’r tad yn ochain ei alar i’r gwynt yn unig wrth alw enw’r ferch farw, Gwenllian, ac yn osgoi siarad am yr hyn ddigwyddodd. O’r herwydd, mae’n analluog i wynebu’r presennol – a’i ferch iach. Mae hi yn – ei thro yn ysu am ei sylw a’i gariad ef, ond yn dewis troi bob amser at ei mam-gu gan ofyn yn gyson, ‘Stori mam-gu’.
Mae’r sgript, yn y ciledrych yn ôl, y defnydd o chwedl i oleuo’r presennol a’r personol, yn gofyn bod holl adnoddau’r theatr o safbwynt gwerthoedd cynhyrchu a sgiliau’r actorion ar eu gorau. Maent felly. Pam, felly, fod y perfformiad yn fethiant?
Yn syml, mae’r nod a osododd y cwmni iddynt eu hunain yn anghyraeddadwy. Ai Theatr Mewn Addysg yw’r sioe, ynteu Theatr Gymuned? Yn Nantymoel, Cwm Ogwr, y gwelais i’r cynhyrchiad. Gyda’r nos – cynulleidfa gymunedol. Yn y prynhawn – dros drichant o blant swnllyd iawn yn disgwyl perfformiad. Mae’r ieuo yn gwbl anghymarus.
Efallai nad bai’r cwmni yw hyn. Mewn gofod bach, agos atoch chi, gyda chynllunio gwahanol a llai o gyfarwyddo ‘arty’, cynulleidfa fach (mae broliant y sioe yn dweud ‘a vibrant and evocative new play for everyone,’ ac yn hynny o beth yn gwahodd cynulleidfa ifanc iawn) gallasai’r cyfanwaith lwyddo’n arbennig. Fel ag yr oedd, mewn hen theatr brydferth o fawr yn Nantymoel – cwbl anghyraeddadwy i gynulleidfa ifanc, a’r gwyliwr canol oed hwn. wrth gwrs bod lle i ddelwedd a syniadaeth mewn perfformiad theatr – cyhyd â bod y cyfryw bethau yn ychwanegu at ein deall a’n canfyddiad o’r cyfanwaith. Y gresyn yw bod cymaint o ddelweddaeth y cynhyrchiad hwn yn ymylu ar yr ystrydebol.
Wrth gwrs, mae Theatr Powys fel yr oll o’r cwmnïau Theatr Mewn Addysg yn cael eu gyrru i gornel gan rymoedd y tu hwnt i’w rheolaeth. Mae’n rhaid iddynt dalu eu ffordd. Wrth ddod mas o’u sir i Nantymoel, roedd yn rhaid codi dwybunt ar bob plentyn – nid arian i goffrau Theatrau Powys, mae’n wir, ond mae’n rhaid talu am yr adeilad.
Ond sut mae modd creu gwaith theatr addysgol o’r safon uchaf, personol ei sail a fydd yn ei dro yn cyfoethogi bywydau’r unigolion sy’n cyfranogi o’r profiad, pan yw grymoedd y farchnad yn gofyn rhywbeth hollol wahanol?
awdur:John A. Owen
cyfrol:407/408, Rhagfyr 1996/ Ionawr 1997
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com