Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

TEYRNGED

Ddechrau Tachwedd, bu farw Wilbert Lloyd Roberts (1926-1996), sefydlydd Cwmni Theatr Cymru, ac yma mae ein dau golofnydd, y ddau wedi cydweithio ag ef, yn talu teyrnged iddo.

Wilbert – Arloeswr

George Owen

Hanner gwrando ar y radio yr oeddwn i, roedd fy meddwl ar ateb llythyr o’m blaen. Cyfaill i mi, o fyd y theatr broffesiynol, wedi ysgrifennu ataf yn gofyn am fy marn ynghylch prosiect oedd ganddo i lansio cyfres o gynyrchiadau o ddramâu Cymraeg. Yn amlwg yr oedd hefyd yng nghefn ei feddwl gryn anesmwythyd am ddyfodol y ddrama Gymraeg, ac am ffawd yr holl ymgyrchu a fu am Theatr Genedlaethol. Hanner gwrando nes i ddatganiad trist hoelio fy sylw a rhoi llythyr fy nghyfaill mewn perspectif. Fore Mercher, y chweched o Dachwedd, y clywais gyntaf am farwolaeth Wilbert Lloyd Roberts.

Gwibiodd fy meddwl yn ôl ddeugain mlynedd. Yr oeddwn bryd hynny yn un o nifer o ‘wanabees’ a oedd yn dyheu am gael ymuno â chriw breintiedig y ddrama radio – yr agosaf y gellid ei gael at waith theatr proffesiynol. Yn y dyddiau dedwydd hynny byddai’r BBC yn trefnu gwrandawiadau rheolaidd ym Mangor, Abertawe a Chaerdydd. Profiad dieithr oedd sefyll o flaen meic yn Neuadd Penrhyn yn derbyn cyfarwyddiadau dros uchelseinydd o gornel y stiwdio. Yr oedd y panel a oedd yn mesur a phwyso ein cymwysterau pitw yn guddiedig y tu ôl i len dros ffenestr yr ystafell reoli. Yr oedd yr holl broses, er yn gwrtais a bonheddig, yn oeraidd o ffurfiol. Daeth Cadeirydd y panel i mewn i’r stiwdio o’r diwedd. Roedd hi’n anodd cysylltu’r cyfeillgarwch gwresog a’r sylwadau tawel, calonogol gyda dieithrwch hyd braich y gwrandawiad ei hun. Dyna’r tro cyntaf i mi gyfarfod Wilbert. Bychan a feddyliais y byddem, ymhen ychydig flynyddoedd, yn gydweithwyr.

Fe’i hapwyntiwyd yn gynhyrchydd drama radio tua chanol y pumdegau. Yr oedd cnewyllyn bychan o actorion proffesiynol ar gael yn nhair canolfan BBC Cymru, ond amaturiaid brwdfrydig oedd mwyafrif y perfformwyr. Felly hefyd ym myd y theatr. Cyfuniad o actorion proffesiynol ac amatur a lwyfannodd y cynyrchiadau cyntaf o rai o ddramâu Saunders Lewis, ar gomisiwn Cyngor y Celfyddydau. Yn ffeithiol y defnyddid y gair ‘amatur’, nid yn feirniadol. Gwefreiddiwyd cynulleidfaoedd ledled Cymru gan berfformiad Siân Phillips yn Gymerwch chi Sigaret?, ac mae’n dda cofio mai amaturiaid dawnus megis Emyr Jones, Glanffrwd James a Dennis Jones oedd yn cyd-chwarae â hi.

Llwyddodd Wilbert i ddenu cnwd o actorion amatur i weithio ar lwyfan, ar y radio, ac yn ddiweddarach i ymgodymu â sialens newydd y stiwdio deledu. Cawsant eu cyfareddu gan ei feistrolaeth dawel, ddiffwdan o’r cyfrwng. Yr oedd ei baratoadau yn fanwl ac yn drylwyr. Llawforwyn ufudd i’w gynlluniau oedd y cyfrwng. Gallai ganolbwyntio ar ei brif ddiddordeb – y cymeriadu a’r perfformiad. Dysgodd degau o actorion elfennau eu crefft dan ei gyfarwyddyd.

Ffrwyth ei weledigaeth ef oedd y cwmni proffesiynol Cymraeg cyntaf – Cwmni Theatr Cymru, a sefydlwyd yn y chwedegau. Gellid dadlau bod Wilbert y dyn iawn, yn y lle iawn, ar yr union adeg yr oedd ei angen. Gwelwyd cynulleidfaoedd a oedd wedi eu hamddifadu o’r cyfle i weld cynyrchiadau proffesiynol Cymraeg yn heidio’n awchus i’r theatrau. Sy’n dod â mi’n ôl at lythyr fy nghyfaill.

Heddiw, er fod actorion proffesiynol mor niferus â gwlydd tatws, mae’n sefyllfa wahanol. Mae yna ddigon o gwmnïau’n teithio – etifeddion y cwmni cyntaf hwnnw – a digon o amrywiaeth o ddramâu. Ond trist fu gweld cynyrchiadau proffesiynol yn chwarae i theatrau hanner gwag yn y blynyddoedd diweddar. Hawdd digalonni a dod i’r casgliad mai byd y ‘couch potatoes’ ydi hi bellach. Yr ydym mewn perygl o golli’r ymroddiad hwnnw a oedd yn nodweddu’r mudiad amatur – yr ysfa yna i ddod i wybod mwy am y theatr, i wella sgiliau, i fod yn fwy beirniadol o berfformiadau. Sylweddolodd Wilbert werth yr union frwdfrydedd yna ac fe’i defnyddiodd. Llwyddodd i ffrwyno ac addasu elfennau gorau’r theatr amatur i sefydlu theatr broffesiynol Gymraeg.

Yr oeddwn yn bresennol yn ddiweddar yn y cyntaf o’r cyrsiau hyfforddi y soniais amdanynt yn y rhifyn diwethaf. Braf oedd gweld criw o amaturiaid nerfus, swil ac ansicr yn ystwytho ac yn ymlacio dan gyfarwyddyd meddylgar Cefin Roberts. Tua diwedd y prynhawn, a hwythau’n ymdrin â deialog, fe’i clywais yn annog ‘Chwiliwch am air allweddol pob brawddeg. Dwi’n cofio Wilbert yn deud “Go brin y byddwch chi angen pwysleisio mwy nag un gair mewn brawddeg”’.

Pryd clywais i’r cyngor yna o’r blaen! Dyna fi’n ôl lle cychwynnais i. Calondid o’r mwyaf oedd clywed un o’r talentau mwyaf disglair a hyfforddwyd gan Wilbert yn parhau’r traddodiad o hyfforddi’r amatur. Tra pery’r traddodiad hwnnw fe bery’r theatr amatur – a dyna ffynhonnell gyfoethocaf cynulleidfaoedd y dyfodol. Gallaf fod yn fwy hyderus wrth ymateb i lythyr fy nghyfaill.

awdur:George Owen
cyfrol:407/408, Rhagfyr 1996/ Ionawr 1997

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk