Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

TEYRNGED

Ddechrau Tachwedd, bu farw Wilbert Lloyd Roberts (1926-1996), sefydlydd Cwmni Theatr Cymru, ac yma mae ein dau golofnydd, y ddau wedi cydweithio ag ef, yn talu teyrnged iddo.

Wilbert – Dadansoddwr

Recordio cynhyrchiad theatr Cwmni Theatr Cymru o Problemau Prifysgol, Saunders Lewis, ar gyfer y teledu yr oedden ni – i HTV yn eu stiwdio ym Mryste. Wilbert oedd wedi cyfarwyddo’r cynhyrchiad llwyfan ond châi o ddim gwneud yr un teledu oherwydd nad oedd yn aelod o’r undeb cywir. (Er hynny lluniodd sgript gamera a oedd yn gweithio’n berffaith.) Ar ôl gorffen gwaith y dydd fe aeth criw ohonom i ymweld â ‘Bowling Alley’ yn y ddinas. Yr oedd y fath le yn ffenomenon newydd iawn ar y pryd ac nid oedd yr un ohonom wedi gweld y ffasiwn beth heb sôn am chwarae’r gêm o’r blaen. Yr oedd Wilbert wedi dod efo ni, ar ein cais, ond gwrthododd ein gwahoddiadau taer i gymryd rhan yn yr hwyl. Fe eisteddodd yn gwylio, ac yn chwerthin yn braf, chwerthin nes oedd y dagrau’n powlio, wrth weld ymdrechion digon di-lun y mwyafrif ohonom.

Daeth yn amser am gêm ola’r noson. Y tro yma ymunodd Wilbert heb ei gymell. A churo pawb.

Rwy’n credu bod y stori bach yna yn dweud llawer amdano. Yr oedd wedi cael dwyawr i astudio’r gêm newydd a’r dechneg a fyddai’n debyg o lwyddo, cyn mentro arni, a ‘blaw ei fod o’n bur sicr y byddai’n llwyddiannus fyddai o ddim wedi codi o’i sêt. Rhoddodd ennill y gêm honno gryn foddhad iddo fel y cofiaf yn dda. Yr oedd, oherwydd iddo baratoi ymlaen llaw, wedi profi ei hun yn feistr ar y sefyllfa. Popeth, felly, dan reolaeth. Un cam ar y blaen.

Yr oedd y ffaith iddo gymryd rhan o gwbl yn bur anghyffredin. Doedd o ddim yn un am gymysgu efo’r ‘hogia’. Hyd braich oedd hi fel arfer. Credaf fod hyn yn gymaint oherwydd rhyw swildod yn ei natur â’r ffaith ei fod yn credu y dylai ‘pennaeth’ fod rhywfaint ar wahân i’w ‘weithwyr’. Ond yr oedd ganddo synnwyr digrifwch a gallai fod yn dynnwr coes hefyd ar brydiau. Digon prin oedd yr adegau hynny, fodd bynnag. Byddai’n cilio yn bur sydyn os dôi’r ochr yma i’w gymeriad yn rhy amlwg. Efallai mai’r swildod cynhenid oedd yn gyfrifol am yr arwahanrwydd. Byddwn yn teimlo’n aml ei fod yn ddyn unig iawn er ei fod yn gweithio ynghanol pobl. Er i mi weithio’n agos efo fo dros nifer o flynyddoedd ddois i erioed yn agos ato.

Ond fyddwn i yn sicr ddim yn y sefyllfa o fod yn actor yn ysgrifennu’r deyrnged hon onibai am Wilbert. Y diwrnod y cefais fy ngradd o Brifysgol Bangor es ato i ofyn am waith. Fo oedd wedi dweud wrtha’ i am wneud hynny. A chefais waith ganddo.

Yr oedd yn gynhyrchydd hynod o graff. Hynod o ofalus. Byddai’n gallu dweud wrthych yn union beth oedd yn dymuno ei weld a’r ffordd orau i chi ymgyrraedd at hynny. Yn _r diwylliedig, gallai ddadansoddi drama, dadansoddi golygfa,a rhoi ichi ddarlun cyfan gam wrth gam. Fe wyddai yn union i ba gyfeiriad y byddai’n mynd. Wedi gweld y diwedd cyn dechrau.

Fel John Gwilym Jones (a byddai’n talu teyrnged i John Gwilym am hynny), yr oedd yn ofalus o’n llefaru. Yr oedd llefaru Cymraeg blêr yn mynd dan ei groen. Byddai’n stopio’r ymarfer os byddai’r llefaru yn merwino’i glust.

Y golled fawr oedd iddo gilio o gynhyrchu a mynd i weinyddu bron yn llawn amser ym mlynyddoedd olaf Cwmni Theatr Cymru. Yn wir chyfarwyddodd o fawr ddim o ganol y saithdegau ymlaen. Yr oedd yn ymwybodol iawn fod i’r cwmni a sefydlodd yn 1968 lawer iawn o elynion ac yr oedd yn ymneilltuo i weinyddu oherwydd bod raid iddo fod un gam ar y blaen i gadw popeth ynghyd.

Yn Gymro i’r carn, yr oedd sefydlu cwmni theatr proffesiynol yn yr iaith Gymraeg yn freuddwyd ganddo. Gwireddodd y freuddwyd honno, a rhoi i ddegau ohonom, yn actorion a thechnegwyr, y cyfle i wneud gyrfa o rywbeth oedd tan hynny yn waith rhan-amser. Nid tasg fechan oedd hi chwaith. Bu’n rhaid iddo wrthei baratoi manwl, ei arwahanrwydd, ei ddycnwch a’i ddyfalbarhad, i lwyddo. Tysteb i’w weledigaeth a’i allu yw ein cwmnïau a’n theatrau heddiw.

awdur:John Ogwen
cyfrol:407/408, Rhagfyr 1996/ Ionawr 1997

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk