Beryl – Y Rhyfeddod Prin
Mae DYFAN ROBERTS yn talu teyrnged i’r actoress Beryl Williams a fu farw yn gynharach eleni.
Awst 1970. Eisteddfod Rhydaman. Minnau newydd fy nerbyn fel actor gyda Chwmni Theatr Cymru ac yn mynd i weld eu cynhyrchiad Cofio Cynan mewn ysgol uwchradd yn y dref. A dyna lle’r oedd hi! Beryl Williams, yn eistedd ar wal y tu allan i’r neuadd. Doedd hi ddim ar y llwyfan. Tu allan, ar ei phen ei hun, yn rhyw daflu golwg ar dyrfa a ddylifai i’r cyntedd, yn smocio’n hunanfeddianol, yn dal a hardd a gosgeiddig, a’i gwallt coch yn llachar yn haul yr hwyrnos.
Sut y disgrifiodd Sharon Morgan hi? Y gair oedd ‘ethereal’. Arallfydol. Stewart Jones yntau yn ei gweld am y tro cyntaf pan oedd hi’n athrawes ifanc yn ysgol Dr. Williams Dolgellau, ac yn dal sylw ar y tawelwch yna, yr ‘aura’ o’i chwmpas hi.
Michael Povey yn dweud yr hanes amdano’n mynd am gyfweliad efo Cwmni Theatr Cymru am y tro cyntaf, a’i gael ei hun mewn stiwdio radio ym Mangor lle y gofynwyd iddo ddarllen pwt. Wilbert Lloyd Roberts oedd y dyn a arweiniai bethau yn y cyfweliad. Ond o gornel ei lygaid, yn y blwch rheoli, gwelai Michael bresenoldeb arall. Dynes hardd gwallt coch yn edrych a gwrando arno â ddiddordeb o’r tu hwnt i’r gwydr.
O ble daeth y rhyfeddod prin yma? Pwy oedd Beryl Williams? Holi nifer o gyfoedion, cydweithwyr a ffrindiau Beryl wrth baratoi’r erthygl hon, a chael yr un ateb. ‘Roedd pawb yn ei hadnabod- at ryw bwynt. Ond roedd ‘na ffin na châi neb weld ei ddatgelu. Mae’n eironig bod actores yn berson mor breifat. Osgoi sylw fel y pla â wnai Beryl. Ond o edrych yn ôl wedi ei marwolaeth gynamserol, yn y preifatrwydd yna yr oedd ei chryfder. Roedd y dirgelwch yna, yr ‘enigma’ fel y galwodd John Ogwen o, yn ychwanegu at ddyfnder ac at gryfder perfformiadau a dylanwad actores arbenica’r Gymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.
Felly pam actio? Beth a’i denodd i’r busnes yn y lle cyntaf? Deuai’r ateb gan gan Beryl yn rhwydd, yn ôl ei chyfeilles oes, Gaynor Morgan Rees. ‘Am mai dyna’r peth hawsa fedrwn i wneud, bach’. Hyd y gwyddys, nid oedd traddodiad actio na pherfformio yn amlwg yn y teulu agosaf. Ganed Beryl yn Nolgellau yn 1937, y cyfnod caled rhwng y ddau Ryfel. Teiliwr oedd ei thad. G_r hirgoes ystwyth y’i gwelid weithiau yn eistedd yn ystum traddodiadol y triliwr, wedi plethu ei goesau ar ben y bwrdd, a llond ei geg o binnau. Un distaw, yn debyg o ran pryd y a gwedd i Beryl. Ond roedd iddo un gwendid mawr. Ei orhoffter o’r botel. Pwy a _yr nad oedd y teulu yng nghymdeithas barchus a chapelgar Dolgellau yn y pedwardegau wedi gorfod cuddio llawer oherwydd y clefyd dienw hwn ar yr aelwyd? Tybed a ddaeth actio felly yn elfen bob dydd o fywyd y Beryl ifanc?
Roedd hithau yn blentyn tu hwnt o ddeallus, ac yn ysgol breswyl enwog Dr Williams i ferched nid yn unig fe basiodd y ‘scholarship’ i fynd yno yn rhwydd, ond oherwydd ei gallu fe neidiodd yn syth i ddosbarth h_n na’i chyfoedion. Traddodiad cwbwl Seisnig oedd un Ysgol Dr Williams, gyda nifer o ferched preswyl o Loegr a gwledydd eraill. Naturiol felly i un a ymadroddai yn y ‘school play’ a’r ddrama Saesneg oedd anelu at goleg drama yn Lloegr, ac yn 1957 cafodd Beryl ei hun ymhell o strydoedd culion Dolgellau, yn fyfyrwraig yng ngholeg drama Rose Bruford yn Llundain. Tra yno, cyfarfu ag un a ddaeth wedyn yn un o brif actorion byd theatr Lloegr, Freddie Jones, a datblygodd perthynas ddofn rhyngthynt. Ond nid arhosodd Beryl yn Llundain gyda Freddie wedi gorffen ei chwrs. Daeth yn ôl i Ddolgellau. A roddodd Beryl ei hymlyniad a’i theyrngarwch at ei theulu uwchlaw perthynas bersonol a photensial gyrfa ar lwyfan bydeang? Os do, yna nid hwn fyddai’r unig dro yn ei bywyd.
Mae ei gyrfa broffesiynol yn rhannu’n fras yn dri: cyfnod dramâu’r BBC a Chwmni Theatr Cymru yn y chwedegau, cyfnod distawach y saithdegau gydag ambell gynhyrchiad Saesneg, a chyfnod cyfresi a dramâu S4C yn yr wythdegau. Yn dilyn, bu cyfnod hir o encilio yn y nawdegau hyd at ei marwolaeth eleni.
Bu ffrwydriad creadigol ym myd y theatr a’r teledu yng Nghymru yn y chwedegau, cyffro a ymgorfforwyd i raddau helaeth ym mherson Wilbert Lloyd Roberts. Dawn fawr Wilbert oedd ei dalent fel Galluogwr. Trefnydd. Gwneud i bethau digwydd. Fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr drama gyda’r BBC ym Mangor, daeth Beryl i gysylltiad ag ef yn gynnar yn ei gyrfa, a chafodd rannau ganddo yn amryw o’i gyfresi drama arloesol: A Rhai yn Fugeiliaid, cyfres gan Islwyn Ffowc Elis am fyfyrwyr diwinyddol; gyda Lisabeth Miles a Nesta Harries yn 1961; Byd ar Betws, gyda David Lyn a Gaynor Morgan Rees, cyfres am helyntion gweinidog ifanc mewn tref fechan yng Nghymru, lle chwareiai Beryl ferch ifanc barchus ond trist o’r enw Morfudd Orme-Jones; a Mostyn, cyfres am dditectif canol oed a chwaraewyd gan Charles Williams. Yn anffodus fe gollwyd y perfformiadau hyn am byth wrth i dalpiau helaeth o lyfrgell archifol BBC Cymru gael eu chwalu mewn camgymeriad yn y saithdegau.
Ochr yn ochr â’r dramau teledu, rhannai Beryl hefyd weledigaeth Wilbert o sefydlu cwmni theatr proffesiynol Cymraeg. Mae ei henw yn ymddangos ar raglenni cynyrchiadau cynnar Cwmni Theatr Cymru fel ‘Cynorthwywr’ – Cariad Creulon 1965, Pros Kairon 1966, Saer Doliau 1967, Cymru Fydd 1967. Beth oedd safle Beryl yn y cwmni newydd? Yn ddiamau roedd hi’n graig yn ei hagwedd drylwyr, broffesiynol a gofalgar at bob cynhyrchiad, a hynny yn ddistaw bach, y tu ôl i’r llenni. A gwnaeth yn fwy na’i dyletswydd. Mae Lisabeth Miles yn ei chofio yn cymryd rôl y Cyfarwyddwr ar Cymru Fydd pan oedd rhaid i Wilbert fynd i ryw bwyllgor neu’i gilydd, ac yn gwerthfawrogi meddwl clir dadansoddol Beryl, ei safonau uchel, a’i gallu i roi arweiniad i actor heb darfu arno. Ac ar Saer Doliau, cofia David Lyn ei hun yn cyrraedd o’r Belgrade Theatre, Coventry gydag ychydig iawn o Gymraeg, i chwarae’r brif ran yn nrama arloesol Gwenlyn Parry. Beryl a ddaeth i’r adwy, gan eistedd i lawr gyda David, mynd dros bob un sill o’r ddrama gydag ef, a sicrhau sylfaen un o gynhyrchiadau mwyaf dylanwadol y 60au. A chyda llaw, Beryl a gyfarwyddodd y sioe gabare gyntaf yn y Gymraeg – Deud Ydan ni, yn Eisteddfod y Bala 1967, yn cynnwys act-ddwbwl newydd sbon, Ryan a Ronnie!
Yn nechrau 1968 daeth cysylltiad wilbert Lloyd Roberts â’r BBC i ben, a bu Beryl, gyda Gaynor Morgan Rees a John Ogwen, yn barod i fwrw coelbren gyda Chwmni Theatr Cymru gan ffurfio am y tro cyntaf erioed gwmni o dri actor proffesiynol oedd yn dibynnu’n llwyr ar waith theatr Cymraeg. Bu’r flwyddyn honno yn un anhygoel o brysur. Yn nrama Ionesco Y Tenant Newydd oedd ar daith yn y gwanwyn, cafwyd perfformiad anhygoel ganddi o’r Concierge, gyda cholur trwm, gwallt lliw tân, a llifeiriant geiriol di-stob am ugian munud! Nifer o rannau arbennig yn Under Milk Wood, cyd-gynhyrchiad gyda’r Playhouse yn Lerpwl. Yna’n ôl i greu Sara Roger, gwraig darlithydd ym Mhremière Problemau Prifysgol Saunders Lewis yn Eisteddfod y Barri. Cymeriad suave, soffistigedig, mewn ffrog laes hufen urddasol, a’r ddrama yn troi o’i chwmpas. Wedyn, rhan cwbwl wahanol- Merch y Ffair, goman, rywiol, beryglus, yn ei throwsus a’i chrys T tynn yn T_ ar y Tywod. Ac ar ben hyn i gyd, hyfforddi criw o actorion newydd ifanc dibrofiad- Gwyn Parry, Dafydd Hywel, Grey Evans, Dylan Jones a Michael Povey.
Ymlaen i 1969 a Beryl yn mynd gyda’r cwmni ar daith ysgolion gydag addasiad o waith Twm o’r Nant, Meistr y Chwarae. Yna i Eisteddfod y Fflint i bortreadu’n wych ran Helena, a gynigiai gysur i Jimmy Porter wyllt yn Cilwg yn Ôl, cyfieithiad o Look Back in Anger. Canmoliaeth wedyn am ei pherfformiad ‘gorawenus’ yn y sioe eiriau ysgafn, Dawn Dweud. Ac ar ben hyn, cyfarwyddo a chwarae rhan fach ar 10 wythnos o daith o Y Ffordd, T. Rowland Hughes - o bosib y daith hiraf yn hanes y ddrama Gymraeg. Yn 1970 portreadodd Barbra Bartley seml yn nrama Daniel Owen – gyda’i brawddeg anfarwol ‘Run fath â Tomos...!’ Yn Roedd Caterina o Gwmpas Ddoe gan Rhydderch Jones, cyfarwyddodd Beryl y cynhyrchiad gan roi iddi ei hun ran fechan Nyrs, gyda’i chyfarchiad siriol ‘Oes ‘ma bobol?’ A bu eto’n athrawes ddrama fythgofiadwy i do arall o actorion ifanc - Sharon Morgan, Marged Elsi, Huw Davies, Nia Von a minnau. Pytiog fu’r saithdegau i Beryl. Yng nghanol ymarferion Y Claf Diglefyd yng ngwanwyn 1971, fe dynnodd yn ôl o ran gwraig Argan, a dychwelyd i Ddolgellau, gan adael Iona Banks i lenwi’r bwlch. Argyfwng teuluol oedd y rheswm a gawsom. Mae’n bosib hefyd fod blinder a diflastod yn rhan o’i phenderfyniad. Nid dyma’r tro cyntaf i ni weld Beryl yn orflinedig, yn grynedig, isel, a’i nerfau’n dynn. Mae David Lyn yn argyhoeddedig fod Beryl yn rhannu ei ddiflastod yntau ar y pryd yngl_n â’r diffyg cyfeiriad yn y theatr, wedi’r ewfforia cynnar. Bu Beryl yn gweithio lawer gyda’r BBC yng Nghaerdydd wedi hynny, gan gymryd rhan flaenllaw yn Tresarn, drama gyfres hir 24 pennod, a gyfarwyddwyd gan John Hefin; In Loving Memory, drama 30’au Ewart Alexander gyda Lisabeth Miles, cyfarwyddwr George Owen, a ffilmiwyd yn Birmingham fel un o’r cynhyrchiadau cefngefn Cymraeg/Saesneg cyntaf; penodau cynnar Pobol y Cwm (lle cafodd ‘affair’ gyda Reg Harris!); The Revivalist, drama am Evan Roberts y Diwygiwr, gyda Gareth Thomas; Mrs Trefor yn Enoc Huws; a ddwy drama gyda Stewart Jones – Ifas y Tryc (Bwrdd Ffilmiau Cymraeg) yn portreadu gwraig Ifas, a Dinas, cynhyrchiad HTV o ddrama Wil Sam ac Emyr Humphreys, a fu wedyn ar daith gyda Theatr Cymru. Ymhlith ei gwaith llwyfan roedd Exit The King, Ionesco, gyda David Lyn a chwmni’r Sherman, ac Ynys y Geifr gan Ugo Betti, cynhyrchiad Nesta Harries i Theatr Cymru.
Daeth egni newydd i fyd teledu yr 80au gyda dyfodiad S4C, ac i’r llwyfan gyda chreu Theatr Bara Caws. A hithau yng nghanol ei deugeiniau, cofleidiodd Beryl y newidiadau â breichiau agored. Bu’n hynod o gefnogol i sefydlu theatr boblogaidd safonol Theatr Bara Caws. Cyfarwyddodd sioe hawliau merched, Merched yn Bendant, yn 1979, a chymryd rhan yn Oes ‘ma Bobol, sioe am ddigartrefedd yn 1981, a Iechyd Da, drama am y gwasanaeth iechyd, yn 1986, y ddwy ddiwethaf eto gyda’i hen bartner llwyfan, Stewart Jones. Ond diau mai ar y teledu y gwelwyd Beryl Williams ar ei gorau yn y ddegawd hon, yn ychwannegu disgleirdeb ei hactio at werth pob cynhyrchiad y cymerai ran ynddo. Perfformiad cwbwl unigryw o’r hen ecsentrig Nansi’r Nant yn addasiad BBC o Gwen Tomos. Dwy gyfres gan Ffilmiau’r Nant – Hywel Morgan, ac Annest. Ei phortread clasurol o’r fusneslyd/drist Gwen Ellis mewn pum cyfres o Minafon, Ffilmiau Eryri. Hen drwyn ddoniol wedyn yn Eistedd Dros Dd_r, cynhyrchiad George Owen i’r BBC o stori fer gan Rhys Davies. Ac un o gleifion yr ysbyty meddwl yn Tywyll Heno, nofel Kate Roberts, Ffilmiau Eryri. Coronodd Beryl y degawd mewn steil, gyda dau berfformiad teledu cwbwl ddisglair – y fam yn Sul y Blodaugan Michael Povey, gyda Stewart Jones, i’r BBC, a Nel yn y ddrama o’r un enw, eto gan Povey eto gyda Stewart, a gyfarwyddwyd gan gan Dic Lewis i gwmni Opus yn 1990. Enillodd Beryl wobr BAFTA Cymru am Nel yn y seremoni gyntaf yng Nghaerdydd yn 1991, gyda chymeradwyaeth fyddarol.
Ac yna distawrwydd llethol. Am ddeg mlynedd ola’i hoes, cymerodd Beryl y gyfrifoldeb i ofalu am ei mam orweddiog, a bod yn gefn i’w chwaer drallodus a gweddill y teulu yn Nolgellau. Er i nifer ofyn, yn wir erfyn am ei gwasanaeth unwaith eto i’r byd actio, penderfyniad di-droi’n-ôl Beryl oedd i chwarae rôl y Cynhaliwr. Er y tristwch a deimladai pawb yngl_n â’r hyn a allai hi ei gyflawni eto gyda’i thalent unigryw, nid oedd tycio. Ei phenderfyniad hi oedd hynny, a rhaid oedd ei barchu.
Beth felly oedd cyfrinach crefft Beryl Williams fel actoress? Portreadu’r gwir- dyna’i chryfder yn ôl Michael Povey. Roedd hi’n casáu ffalster. ‘ Dwi ddim yn dy gredu di’. Dyna fyddai ei brawddeg fawr fel cyfarwyddwr, yn ôl Grey Evans. Roedd rhaid cymryd y grefft o ddifri. Roedd hi’n dweud yn gyson wrthon ni’r actorion ifanc i ‘sefyll yn dda....symud yn dda’. Hynny yw, tasg ddechreuol actor oedd disgyblu ei lais, ei gorff a’i ddychymyg. Sgiliau rheolaeth. Cyrraedd stad o niwtraledd. Cynfas lân i’r awdur ac i’r cyfarwyddwr adeiladu cymeriad arno. Sylwodd George Owen fod Beryl yn mynnu deall y cymeriad yn gyntaf, cyn adeiladu. Y pen gyntaf, y galon wedyn. Yn yr ystafell ymarfer, roedd ei darlleniad cyntaf o ddrama newydd yn un hollol niwtral, ddibwyslais. Gweld beth oedd yno, a wedyn mowdio’i pherfformiad i siwtio’r ddrama, y cyfarwyddwr, a gweddill y cast. Ffitio i mewn. Gwneud i’r geiriau berthyn, a graddol adeiladu taith y cymeriad. Mae amryw wedi sylweddoli ar fanylder paratoadau Beryl. ‘Mae tri chwarter dy waith di fel actores yn digwydd adra’, meddai hi wrth Sharon Morgan unwaith. Doedd ‘na ddim lle i siawns ym mherfformiadau Beryl. Roedd popeth wedi ei weithio allan i’r ystym bach lleia’. Dyna oedd y pleser o weithio gyda hi, yn ôl Dic Lewis. Fe ddeuai ar y set wedi paratoi yn gwbwl drwyadl. Cymerai ofal mawr efo gwisg a cholur, gyda thrafodaethau manwl gyda gweithwyr yr adrannau hyn. Gwyddai’n reddfol beth ddylai’r cymeriad wisgo. Gwen Ellis yn Minafon gyda’r got ffedog ‘bri-nylon’ check a wisgai gwragedd t_ yn y pumdegau. Yr union beth iawn. A phwy all anghofio hen gardigan Nel? Elfen arall a befriai o bersonoliaeth Beryl oedd ei diffyg hunanoldeb ar lwyfan, a’i chonsyrn dwfn mai’r ddrama oedd yn bwysig, ac nid unrhyw unigolyn. Pwysleisiai bob amser gyd-chwarae, ac os meddyliai fod yna wendid yn yr olygfa, â’i ati yn amyneddgar i fynd dros linellau, annog, cynghori. Helpu, cynnal a chodi pawb i’r un lefel oedd egwyddorion Beryl wrth greu drama. Gwyddai yn gwbwl gywir mai cydweithredol, ‘collaborative’ yw’r holl broses, ac mai’r ffordd i gyrraedd y nod yw gwaith caled a charedigrwydd.
Ond wedi dweud y cwbwl, actores oedd Beryl yn y bôn. ‘Dangos eu hunain mae actorion, neu fasan nhw ddim yn sefyll ar y llwyfan,’ meddai hi wrthon ni unwaith. ‘Chi pia’r gofod ar y llwyfan. Defnyddiwch o.’ Ac mi ddefnyddiodd hi o. Er yr holl nerfusrwydd, yr holl ddifrïo am ‘yr hen fusnes actio ‘ma’, er gwaetha’r holl ofal a’r pryderon teuluol, ar lwyfan, roedd Beryl fel craig. Roedd yr ‘aura’, y reddf yn ei chario. Yn Eisteddfod y Barri yn 1968, a hithau’n brynhawn cyn perfformiad nos Problemau Prifysgol, daeth newydd erchyll iddi. Roedd ei nai bach Bryn wedi boddi ar draeth y Bermo. Bu’n ddistaw am oriau. Aeth ymlaen ar y llwyfan, gan roi perfformiad cwbwl wych o wraig hunanfeddianol hyderus. Ac wedi’r bow olaf, a’r gynulleidfa’n ymadael, daeth sgrech annaerol o gyfeiriad yr ystafell wisgo.
Yn 1992 yn Eisteddfod Aberystwyth, rhoddais wobr am fonolog i Mary Hughes o Fôn. Roedd George Owen yn Drefnydd Drama ar y pryd, a mawr yw’r clod iddo am ddenu Beryl allan o’i hanner-ymddeoliad i roi perfformiad byw o’r gwaith hwnnw yn Aberystwyth. Monolog hen wreigan mewn ward gancr ydyw. Mae’n gwisgo g_n a chot gotwm i leddfu ôl y radiwm ar ei chroen. Gwêl wylanod gwyn yn chwyrlïo drwy’r ffenest, a fawr ddim arall. Symudodd Beryl bron ddim yn ystod y perfformiad, dim ond eistedd yn hanner-wynebu’r gynulleidfa. Roeddent hwythau yng nghledr ei llaw. Hwn, hyd y gwyddom, oedd ei pherfformiad cyhoeddus olaf. Ddeuddeng mlynedd wedyn daeth hithau’n ôl o ward gancr Ysbyty Wrecsam i d_ gwag yn Nolgellau.
‘Dwi ddim yn licio rhyw hen ffys’. Dyna fyddai ymateb traed-ar-y-ddaear Beryl i unrhyw eiriau o deyrnged iddi. Ond diolch am hyn o ofod i drafod cyfraniad un a fu’n allweddol yn hanes celfyddyd y ddrama yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Aderyn prin oedd Beryl. Cymharol fyr fu ei harosiad yn ein plith. Ond i’r rhai a ddaeth i gyffyrddiad â hi, neu a fu’n dyst i’w chrefft a’i thalent, bydd ei dylanwad byw byth. ‘Ar lwyfan, paid byth â bod ofn tawelwch’. Dyna ei chyngor i Dafydd Hywel unwaith. Ac os ydi Beryl hithau’n dawel erbyn hyn, i’w chyfeillion a’i chydweithwyr mae hi’n parhau i fel y gwelodd Michael Povey hi gyntaf- yn bresenoldeb hardd, ysgogol ac annwyl yn edrych arnom ni â ddiddordeb o’r tu hwnt i’r gwydr.
Mae fy niolch am eu cymorth gwerthfawr gyda’r erthygl hon i’r canlynol: Michael Povey, Grey Evans, Dic Lewis, George Owen, Lisabeth Miles, Gaynor Morgan Rees, Sharon Morgan, Stewart Jones, David Lyn, John Ogwen, Dafydd Hywel a Wyn Meredith.
awdur:Dyfan Roberts
cyfrol:502, Tachwedd 2004
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com