Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y PERFFORMIADOL

CERI SHERLOCK yw ymgynghorydd y Cynulliad yng nghyd-destun yr archwiliad i ddyfodol y Celfyddydau yng Nghymru. Ar gais Barn, cytunodd i lunio ychydig o nodiadau ar y traddodiad theatrig yng Nghymru.

‘Y Perfformiad’ 2010: testun/cyd-destun a chreu traddodiad (nodiadau ymyl dalen ar weithgaredd theatr yng Nghymru)

1.

Cyd-destun:

‘Ar un olwg, mae’n bosib y bydd dylanwad y Cynulliad yn osgoi’r Cymry i chwennych theatr a fydd yn gyfrwng trafod a dathlu eu cenedligrwydd, ac y cr_ir sefydliadau cenedlaethol pwrpasol at y diben hwnnw. Mae’n bosib hefyd y bydd dylanwad y Cynulliad yn annog arbrofi drachefn ym maes y theatr, ac yn dileu’r angen am theatr a fydd yn trafod ac yn ymchwilio beunydd i Gymreictod. Ond y mae un peth yn gwbl sicr, sef bod sefydlu Cynulliad ynddo’i hun yn si_r o effeithio ar statws Cymru fel “national quasi-state”...ac yn si_r o effeithio ar statws Cymru o fewn y Deyrnas Unedig. Anodd credu na fydd hynny ynddo’i hun yn effeithio’n sylweddol ar statws a swyddogaeth y theatr Gymraeg.’

1.1

Pan y’m gwahoddwyd gan y Golygydd i gyfrannu tuag at yr atodiad hwn, fe gytunais nid oherwydd bod gennyf y weledigaeth bersonol y ceisiodd efallai, ynghylch theatr yng Nghymru ac yn arbennig y theatr yn yr iaith Gymraeg, ond oherwydd y byddai’n gyfle imi gasglu at ei gilydd rai nodiadau a wneuthum yn ddiweddar ar ymyl tudalennau, perfformiadau ac ar fyfyrdodau ynghylch ‘y perfformiadol’ a hanfod yr hyn a elwir yn ‘fyw’ yn y traddodiad hwnnw, hynny yw, ‘celfyddyd byw’.

Mae’r ffaith fy mod i, yn ystod y chwe mis diwethaf, wedi gorfod ystyried ‘y diwylliant sydd gennym yn gyffredin’ – ‘the common culture’ (term Raymond Williams) – yng Nghymru, a rôl y celfyddydau o fewn deinameg hwnnw, wedi dod â llawer o’m pryderon a’m syniadau personol i’r amlwg ynghylch y maes hwn yr wyf wedi gweithio ynddo, yn dal i weithio ynddo ac wedi ymroi iddo.

1.2

Yr wyf yn teimlo’n freintiedig am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae’n fraint cael gweithio i’r Cynulliad Cenedlaethol a gyda Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant dros 16 oed ar eu harolwg o Ddiwylliant a’r Celfyddydau yng Nghymru, a heb fod yn ffuantus, fe roddodd imi’r cyfle i weithio gyda Cynog Dafis A.C. sydd â’i weledigaeth a’i ymwybyddiaeth o draddodiad wedi fy atgoffa o’r cyfrifoldeb a osodwyd ar y sawl ohonom sydd yn gweithio ym maes y celfyddydau. Mae ef, y pwyllgor a’r archwiliad, wedi fy atgoffa hefyd o ddylanwad y celfyddydau ar ein bywydau oran ein safonau byw, addysg, ffyniant cymdeithasol, sgiliau, iechyd, rheswm, cynhwysedd cymdeithasol, ein syniad o hunaniaeth, economeg ein cymunedau a’n cyd-destun global-ddiwylliannol.

Yn ail, mae’n rhoi cyfle i mi dynnu llun polaroid sydyn o’r sin celfyddydol yng Nghymru sydd yn gyffredinol dra fywiog - yn enwedig ym meysydd celf cymunedol, canolfannau celf, cerddoriaeth ac yn enwedig cerddoriaeth roc, llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol. A chyfle hefyd i mi brofi’r maes yma yn ei holl gymhlethdod ac arloesi. Bûm yn gwrando ar feddyliau ac yn darllen sylwadau rhai cannoedd sy’n gweithio ym maes y celfyddydau - a’r rheini sy’n mwynhau’r celfyddydau - yng Nghymru, ac mae nifer fawr o’r sylwadau hyn yn feiddgar ac yn ysbrydoledig, ac i’w gweld ar wefan yr arolwg.

Yn drydydd, y mae wedi atgyfnerthu fy nheimladau parthed y newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu, a’r posibiliadau anhygoel a rydd hynny inni o weld cenedl wedi ei hatgyfnerthu yn gymdeithasol, amlddiwylliannol, unigryw, yn rhydd o ragfarnau parthed rhyw a rhywioldeb, yn llwyddiant economaidd ac wedi ei ddiffinio’n fwy craff. Ond serch hynny, tyfu y mae fy mhryderon yngl_n â chyfyngder pwerau’r Cynulliad ac y mae fy edmygedd a’n cydymdeimlad yn fawr tuag at yr ymgyrch cynnil y mae’n rhaid i’r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas ei chynnal yn ddyddiol yn erbyn ceidwadaeth sefydliadol yr hen ffordd o lywodraethu.

Ond yn fwy na hyn oll, rydw i’n fwyfwy ymwybodol o’r ffaith fod diwylliant yn ganolog i ‘Prosiect Cymru’ a bod y celfyddydau yng nghalon y cyfrifoldeb diwylliannol hwnnw.

Buaswn i mor hy â dweud bod ein traddodiad ‘perfformiadol’ yng Nghymru - y mae’r theatr yn rhan o honno ond nid yr unig gydran yn ei dro yn ganolog i ffyniant ein ‘diwylliant cyffredin’. Wedi’r cwbwl, y mae Cymru yn ei hanfod yn ddiwylliant ‘perfformiadol’ - sylwer ar ein hadrodd, pregethu, areithio, ein chwaraeon, canu, barddoni, canu cerdd dant, canu roc, dawnsio o bob math (o’r traddodiadol i’r cyfoes), gosod, pensaernïaeth, canu opera, codi celf gyhoeddus, gwneud theatr, protestio a chreu pob math o gynulliadau.

1.3

Serch hynny, nodiadau ymyl dudalen yw’r sylwadau a ganlyn; esboniadau byrion, efallai, ar waith arfaethedig, rhan o broses diderfyn (na fynnwn iddi derfyn ychwaith) a ymddengys ar y naill law yn anniben ac annhaclus ac, ar adegau, yn embaras llwyr ond sydd ar y llaw arall yn gwbwl angenrheidiol.

1.4

Gwadiad!

Nid oes gan y nodiadau yma unrhyw awdurdod ond am yr hyn a fynegant ond am y mae cywrain iddynt, sef sylwadau a chwestiynau dyrys David Ian Rabey yn ei ragymadrodd i Arguments for a Theatre gan Howard Barker:

Do we have the theatre we want?

Do we have the audience we want?

What is th meaning of ‘we’ in

those two questions?

By what rights do ‘we’ ‘want’

Anything? On whose terms? In

Whose interests?

The definitions inherent in these

questions should be re-examined

and reassessed constantly as

part of the pulse of a vital culture.

2.

Bûm yma o’r blaen...Hen ddadleuon...Gorwelion a thirwedd y dyfodol...

Mae ‘na rhyw fath o déjà vu yn perthyn i ddadleuon presennol y theatr yng Nghymru, nid mewn ffordd adeiladol ac adfywiol megis yng ngwaith Eliot neu Waldo Williams ond mewn ffordd sydd efallai yn adlewyrchu’r sefyllfa a geir yn y ffilm Groundhog Day. Amrywiaethau bychain, diderfyn ar undonedd heb unrhyw fodd i ddianc, a’r prif gymeriad yn hollol ymwybodol o’i sefyllfa drasig.

Mae tipyn o’r drafodaeth ynghylch y theatr yn hen, wedi pydru ac ymhell wedi ei dyddiad sell by. Dadl sy’n cael ei chynnal mewn rhyw fydysawd gyfochrog. Rwy’n teimlo’n gryf fy mod i wedi bod yma o’r blaen a bod y ddadl wedi’i hennill. Ond yn awr oherwydd bod yna chwaraewyr estron, newydd wedi ymddangos, sydd â’u bryd ar anwybyddu’r traddodiad cynhenid, mae’n rhaid inni eto ddechrau chwilota’r cypyrddau am rywbeth nad oedd erioed yno. Ar adegau mae’r chwaraewyr yma’n frawychus yn y ffordd y maent yn anwybyddu cyfoeth ac amrywiaeth cywrain yr hyn sydd yn bodoli o’u cwmpas.

Mae’n ymddangos i mi mai’r peth pwysicaf ydyw’r dyfodol. Hynny yw, creu cyfleoedd i’r ‘perfformiadol’, i’r celfyddydau byw ac i’r theatr greu argraff ar ein pobol ifanc. Dyna yw sine qua non cymdeithas sydd wedi’i nodweddu gan y ‘perfformiadol’ ac sy’n darganfod ynddo, ac yn y ‘dramatig’, ffurf naturiol a chyfoethog o fynegiant. Mae’r ffaith fod gennym rwydwaith ragorol - er yn anwastad ei safon - o weithgaredd ‘perfformiadol’ a theatr ar gyfer pobol ifanc, yn gorau, cerddorfeydd, theatr ieuenctid, theatr mewn addysg, drama gymunedol a drama yn y gymuned - yn gychwyn ac yn sylfaen i adeiladwaith y dyfodol.

Mae’r ffaith nad yw hyn yn flaenoriaeth mewn unrhyw strategaeth, i mi, yn gwbwl annealladwy. Ein pobl ifainc yw hanfod tirwedd gelfyddydol a gorllewin diwylliannol ein dyfodol. Ond mae’n bosib ceisio dirnad yr anwybyddu hyn, efallai, o’i weld o fewn cyd-destun Prydeinig, hynny yw, fod y celfyddydau bellach i’w gweld fel tlws neu addurn cymdeithasol ac yn arwyddo cymdeithas neu unigolyn sydd wedi ei ddyrchafu i fod yn ‘waraidd’ a ‘diwylliedig’. Gwareidd-dra a diwylliant pwy? Gwareidd-dra a diwylliant pa haen o’r gymdeithas?

2.1

Gwerth y celfyddydau ‘byw’...hanfod perfformiad?

Mae Euryn Ogwen Williams yn ei ddadansoddi astrus o’r Gymru Gyfoes wedi’n hatgoffa ein bod yn byw ynghanol chwyldro, mewn ‘tesseract’. Ein bod ynghanol chwyldro cyfathrebu. A gyda hwnnw daw newidiadau patrwm (paradigm shift). Mae yn peri newidiadau mewn gwerthoedd cymdeithasol, mae’n annog isddiwylliannau i gwffio yn erbyn y diwylliant cryfaf neu ddominyddol, ac i gwestiyni’r sefydliadau cysurus sy’n tra-arglwyddiaethu. Yn y cyfnodau hyn mae cyfathrebiaeth a thechnoleg yn cyflymu’r broses ac yn ymddangos ar adegau fel pe bai’n dwyn yr agenda. Fe ddigwyddodd hyn gydag argraffu a sefydlu’r gweisg, gyda darganfyddiad ffotograffiaeth, ffilm, technoleg y teliffon, teledu, y cyfrifiadur ac yn awr gyda thechnoleg ddigidol.

Mae pob datblygiad technolegol yn creu yn ei dro - ac ambell waith mewn math annisgwyl o’r symbiosis arteffactau newydd, ffurfiau newydd ar gyfathrebu symbolaidd. (Mae ffurf ddominyddol ym myd drama ‘y theatr destunol’ yn gynnyrch o nifer o ‘desseractiau’.)

Yn ystod cyfnodau fel hyn mae ystod y celfyddydau yn ehangu, yn cael ei gyfoethogi a’i finiogi fel arf i’r gymdeithas gael cyfathrebu, hunan-adlewyrchu, fel meddyliau, arloesi a’i fynegi ei hun. Mae’n naturiol i rai ffurfiau ar gelfyddyd gael eu gwasgu ond ni ddylai hyn ddigwydd i’r ‘perfformiadol’ ac i’r theatr os yw darogan adroddiad yr Henley Centre ar ddiwedd y Celfyddydau 2010 (wedi’i pharatoi ar gyfer Cyngor Celfyddydau Lloegr) yn gywir. Yn yr arolwg y mae’n nodi ‘encouraging trends’ mewn byd cynyddol ‘virtual’ lle mae diddordeb yn yr hyn sy’n unigryw, yn wreiddiol, yn ‘fyw’ ar gynnydd.

....the authentic, original and live

will prosper...the most intense

relationship between performer and

public is always at a live event...

live performance is like a perfect

moment; that is what people are looking for.

Beth mae’r adroddiad yma yn ei amlygu yw pa mor bell mae’r ddadl a wëid symud ynghylch y celfyddydau byw a’r hyn sy’n werthfawr am ‘y perfformiadol’ mewn cyd-destun byw. Ond mae’r arolwg hefyd yn codi cwestiynau treiddiol, cyfoes megis ac ydyw perfformiad sydd wedi ei gyflwyno trwy gyfrwng yn llai byw, llai cysefin, llai gwreiddiol, llai gwerthfawr? Ydy e’n llai o ‘foment berffaith’? Hefyd, pa werth arbennig y mae gwreiddioldeb, neu’r hyn sy’n ‘fyw’, neu’n ‘real’, yn ei gyfleu? Ydyn ni’n gwneud ffetis o’r hyn sy’n fyw ac yn real? Ydi’r virtual, ydi metaffiseg, ydi breuddwydion, neu’r ffuglennol yn llai ‘real’?

Yn yr un modd, pam ydyn ni’n dal i siarad am sgriptiau ac am ddramâu, ac yn diffinio y ‘theatr destunol’ mewn ffordd mor gul? Beth yw traddodiad yn y cyd-destun yma; sut y dylai gael ei gyfathrebu a’i drawsgyweirio, neu ei ail-adeiladu efallai? Ble’r ydym yn gosod cyfesurynnau lle, cymuned, tirwedd ac amser o fewn y weithred ‘berfformiadol’. Dyma gwestiynau’r foment, y tesseract. Dyma’r cwestiynau presennol ddylai fframio ein trafodaethau beirniadaethol.

2.2

Theatr destunol...y traddodiad dehongli...

Mae trosglwyddo traddodiad i’r genhedlaeth nesaf yn hanfodol mewn diwylliant dynamig. Mae’r gorffennol yn effeithio ar, ac yn lliwio’r presennol, ac yn treiddio trwy ei iaith, ieithwedd, arfer, adwaith a’i atsain. Yn hanes diweddar ‘y perfformiadol’, y theatr destunol sydd wedi’i ddewis fel yr un mwyaf amlwg neu flaengar, sy’n tra-arglwyddiaethu ac yn ddominyddol (o leiaf yn ein diwylliant gorllewinol).

Mae diwylliannau Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn yr ieithoedd gan amlaf. Rydym ni’n cymryd rhain fel ein diwylliannau dominyddol. (Wrth gwrs yng Nghymru, fel pob man arall, y mae yna ieithoedd a lleisiau diwylliannol lleiafrifol, sydd yr un mor bwysig wrth greu ‘diwylliant cyffredin’). Yng Nghymru felly, mae yna ddiwylliannau cyfatebol (‘corresponding cultures’ i ddefnyddio term addas yr Athro Wynn Thomas). Ond, d ein canon o destunau yn y theatr destunol mor fechan, mae ei draddodiad yn ddamweiniol, annisgwyl, yn ddarniog ac wedi’i ddatblygu’n annigonol, ac y mae’n anodd dilyn unrhyw lwybr neu g_ys clir yn ei yrfa. Serch hynny, mae yna rai sy’n rhoi stôr ar y datblygiad testunol ym myd y ddrama. Nid ydwyf i, wrth reswm, ymysg y bobol hynny. Mi fuaswn i’n dadlau ei fod yn ffals ac yn ofer ceisio chwilio am wir wreiddiau y theatr destunol yng Nghymru, yn arbennig yn y Gymraeg, ac yn annoeth ac anoddach fyth ceisio gwreiddio’r traddodiadol o destunau. Mae gwreiddiau’r ‘perfformiadol’ yn ddyfnach na hynny.

Yn yr iaith Gymraeg, y traddodiad barddol llafar a esgorodd ar ‘y traddodiad’ ac os mynnir chwarae’r gêm, y mae wedi ei wyro a’i guddio, ei newid a’i arallgyfeirio o dan weledigaeth ddrwgdybus crefydd - yn gyntaf mewn ffordd gwmpasog (sef Catholigiaeth) ac yna mewn ffordd ddinistriol a thwyllodrus (Anghydffurfiaeth). Esiamplau wedi eu dewis ar hap fyddai: Y Gododdin, Canu Llywarch Hen a Heleddd, y cyfarwydd. Tri Brenin Gwlen, Anterliwtiau Twm o’r Nant, y traddodiad cyfrin - sy’n blodeuo mewn cerddi ac emynau defosiynol aflonydd megis rhai Ann Griffiths a William Williams - gwaith Kitchener Davies, J.O Francis, Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry, Wil Sam, Gareth Miles, Wiliam Owen Roberts, Siôn Eirian, Michael Povey a.y.b. (Er hynny, mae’n rhaid nodi bod yr awdur Gareth Miles wedi ceisio amlinellu traddodiad diddorol gwahanol yn yr araith a draddododd yn Theatr Felin-fach ym Mis Ebrill eleni.)

Yn y ganrif ddiwethaf fe syrthiodd theatr destunol i fod yn eilradd i radio a theledu, a daeth yn ffordd barchus, academaidd o Reithaidd o gyflwyno ‘diwylliant dramatig’. Ond mae theatr destunol yn fwy na geiriau, actorion a chyfathrebiad. Mae theatr yn tarddu o’r ‘perfformiadol’ ac wedi’i wreiddio yng nghyd-destun y gymuned. Nid yw theatr testunol byw yn medru anwybyddu pwerau cyfryngau cyfathrebu eraill ac ni all ychwaith anghofio fod y patrwm ar y theatr destunol yn rhydd ac yn amlochrog - y mae’n free radical. Nid oes rhaid i’r cyfrwng fod yn rhwymedig o anghenraid i ffurf dderbyniol ein cymdogion cyfagos, nac ychwaith ddilyn patrwm a osodwyd gan brif ffrwd theatr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef naratif llinellol a chyd-destun domestig. Wrth gwrs, mae drama radio a theledu - sy’n ffynnu o’r radio ta beth ac sydd yn cyflwyno drama naratif llinellol trwy gyfrwng geiriau a’r stori yn dod o enau’r cymeriad - wedi drysu pethau ymhellach.

Nid ffurf ar theatr destunol yw ein traddodiad ni - neu’n hytrach y traddodiad rwyf i’n dewis ei gyflwyno. I mi, traddodiad mwy cwmpasog ydyw sy’n dangos i ni gwys ffrwythlon sef y barddonol a’r naratif aml-linellol. Yr hyn rwy’n dewis ei alw yn ‘berfformiadol’. Mae’r Athro Mike Pearson, mi hyderaf, o’r un farn, ac y mae’n archwilio’r maes ‘perfformiadol’ gydag arsylwed aroesol ar ‘brydyddiaeth perfformio’ (poetics of performance). Mae Dr. David Rabey yn cloriannu rhai o’r syniadaethau yna mewn ffordd gyfleus pan mae’n sôn am amrywiaeth cyd-destun ‘theatr destunol’ (yn y gwreiddio, roedd yn sôn am waith Howard Barker ond y mae'r un mor berthnasol yn y cyd-destun yma yn fy nhyb i).

Here, contary visions of purity are necessarily and permanently at war with each other,as are different levels of self-knowlaedge and hope.Here, polarization fracture,stability dissolves, and love and ruthlessness co-exist in the same, person, in the same action. Authority and profanity split open against each other, exposing in each, both fears and anticipations of possible regeneration.

2.3

Theatr wedi’i seilio ar yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr...

Mae’n ymddangos yn gyson mai’r hyn sy’n digwydd yw bod patrwm Lloegr yn cael ei wasgaru ar Gymru ‘i wneud i bethau weithio’. Nid ydy’n syndod i mi nad yw hyn ond yn drysu a chymylu’r sefyllfa. Lloegr, wrth gwrs, sydd gyda Theatr Genedlaethol - sylwer nad oedd hwnnw’n ddigonol yn ddiweddar ac fe newidiwyd yr enw i’r Theatr Genedlaethol Frenhinol. Lloegr, wrth gwrs, sydd gyda tharddodiad theatr destunol ac y mae ganddi ddiwylliant treftadaeth cryf a llwyddiannus. Ond bellach nid oes fawr o waith arbrofol, arloesol, ‘newydd’ yn digwydd tu allan i’r theatr destunol - a dydy Mark Ravenhill, Patrick Marber a’r ddiweddar Sarah Kane ddim yn arloeswyr cyfrwng theatr nac ychwaith ‘y perfformiadol’. Meddyliwch am waith Heiner Muller, Botho Strauss, Bernard Marie Koltes, Mac Wellman, Michael Tremblay i’w gosod mewn cyd-destun ehangach. Mae yna nifer o fodelau posibl eraill yn Ewrop ac yn y Amerig (i feddwl am y diwylliannau Gorllewinol yn unig) , ar fodel Saesnig yw’r un mwyaf anaddas ar ein cyfer am nifer o resymau, nid o leiaf am ei bod wedi’i gragennu drosto â’r syniad fod diwylliant yn rhywbeth ar gyfer y breintiedig, y deallusol élite.

2.4

Theatr Genedlaethol y Ffederal - yr un hen gân...?

The effect is to privilege certain practices involving auditourium, script, character, plot; to wind back the clock, to a world of ‘proper practice’ – which of course has never existed in Wales. So we are presented with a ‘new Welsh theatre’ which constitues a kind of ‘simulacrum’ – a perfect replica of something that never existed in the first place...no where did I discussion of the apropriateness of particular conventions of staging, of styles of expositions. All is presented as a ‘given’ , as a set of shared and mutual understandings about the rightness of certain forms of theatrical expression...perhaps best to reflect that the only other National Theatre created in Europe in reason years is in Serbia.

Mae’r Athro Mike Pearson uchod yn ein hatgoffa o gwmpawd y ddadl mewn papur diweddar pellgyrhaeddol. Mae’n wir dweud fod yr hyn y mai Dai Smith yn ei alw yn ‘The Balkan Question’ yn cuddio’n ddirgel rhywle tu cefn i’r syniad o theatr genedlaethol, boed yn adeilad neu’n ffederasiwn. Mae gennym theatr genedlaethol ac y mae o’n gwmpas. Mae'r ystod o weithgareddau theatr a'r ' perfformiadol' eisoes yn chwarae eu rhan ynddi. Gan fod ffederasiwn yn bodoli, pam creu corff hierarchaidd iddi?

Y mae dadl y theatr genedlaethol yn drysu arian cyhoeddus (subsidy) gyda nawdd (patronage) – ond gyda grym moesol crefydd. ‘Mae rhaid iddo gael ei ariannu, mae’n rhaid i hyn gael arian cyhoeddus - neu rydych chi’n ddirywiedig, yn anwar, yn anniwylliannol.’

A ydym ni wir yn credu hyn? Rwy’n cofio rhyw erthygl, efallai ddeng mlynedd yn ôl, pan fu Mike Baker, Cyfarwyddwr Drama Cyngor y Celfyddydau y pryd hynny, yn dadlau fod gennym theatr genedlaethol yng Nghymru a bod y cwmn_au i gyd yn ei chynrychioli yn ei chyfanrwydd. Awgrymodd y dylid ei chlodfori am ei hamrywiaeth a’i nodweddion unigryw. Yn od iawn, ceisiais ddod o hyd i’r erthygl, ond methais, efallai bod y cof wedi ei rwygo’n gareiau?

2.5

Lleoliadau a gofod... Rhan o’r traddodiad...

Yn allweddol i rhyngwyneb y ‘perfformiadol’ a chymdeithas mae’r rhwydwaith o leoliadau, theatraidd, canolfannau celf, eglwysi, capeli, meysydd chwarae a chanolfannau cymunedol. Nid yw’r rhain bellach yn gweithredu fel cartrefi dros dro i ‘gynnych’ ar daith, yn cynnig gwaith a gweithgareddau i’r ‘defnyddiwr’, ond y maent yn hytrach yn rhan annatod o gadwyn y broses o ryngwynebau ar gyfer theatr, y dramatig a’r ‘perfformiadol’, yn gweithredu megis ‘pyrth’ neu blatfformau dosbarthu i’r ‘cynnwys perfformiadol’.

Mae rhai o’n Lleoliadau - ac mi fuaswn i’n cyfrif llyfrgelloedd, orielau, amgueddfeydd a’n treftadaeth adeiladol fel rhan o’r ystod yma - eisoes yn gweithredu yn y modd yma. Pam felly y dylid disgyn eto yn ôl i hen ffordd o feddwl ac at fodel ‘y t_ cynhyrch’ sy’n achosi cymaint o boendod i’n cymdogion agos yn Lloegr. (Mae adroddiad astrus Peter Boyden yn ddiweddar wedi mesur dyfnder y broblem.)

Oni ddylai’r lleoliadau yma gymryd eu lle fel pyrth i ryngwynebau cyfoethog ac amrywiol ar gyfer diwylliant yn ei gyfanrwydd ac fel platfformiau ar gyfer creadigrwydd artistig oddi mewn i’w muriau, y tu allan, y tu hwnt iddynt, neu trwy gysylltiadau virtual neu ddigidol (ond wastad wedi ei gysylltu a’r ‘perfformiadol’ ac ynghlwm wrth y gymuned?)

2.6

Actorio, awduron, cyfarwyddwyr – crewyr cynnwys...hyfforddiant...

Er bod gennym ni draddodiad clodlyw o berfformiwyr - per capita digon o gantorion opera i gystadlu â’r Eidal - rydym ni’n gyndyn i gydnabod ein cyfoeth o dalent ‘perfformiadol’. Yn wir, mae rhai wedi torri drwy’r cwys digon disglair yn y maes ond nid oes lawer ohonynt. Yw hyn oherwydd atyniad teledu yn yr iaith Gymraeg, neu swyngyfaredd y llwyfan yn Llundain i eraill, neu hwyrach ai’r ‘West End’ neu ffilm cynnig y cwndid mwyaf amlwg ar gyfer cydnybyddiaeth ehangach. Sut y medrwn ni feithrin rhagor o dalent ‘perfformiadol’ ar gyfer tirwedd celfyddydol y dyfodol? Yr ateb, yn y proffesiwn, mewn ymwybyddiaeth dramatwrgaidd a sensitifrwydd tuag at y profiad cyffredin hwnnw sy’n clymu perfformiwr, cynulleidfa, ‘testun’ a gofod, a gyd pharch tuag at y ‘perfformiadol’ ym mha bynnag ffurf - agweddau ar weithred y dylsid eu miniog a’u puro. Ni olygaf wrth hyn hyfforddiant yn y traddodiad testunol a’r ‘canon clasurol’. Mae yna nifer o fathau o hyfforddiant. Mae’r cyfarwyddwr athro, Anatoli Vasiliev, yn enghraifft, yn gofyn i’w actorion ymarfer Dialogau Platon, a myfyrio a’r ddistawrwydd fel rhan o’u hyfforddiant ‘perfformiadol’. Mae’n rhaid cael yr hyfforddiant sy’n briodol i’r cyd-destun, a’n cyd-destun ni - Cymru.

Mae Peter Brook yn mynegi hyn wrth iddo sôn am ‘Pam?’ theatr...

...this search is animated by an undying sense of Why? in relation to ever-changing human experience. The search is made real by the need of an appropiate craft, and this means recognizing constantly changing means. And because the means if theatre are always changing there can be no systems or schools that lasts for ever.

Rhaid felly inni gychwyn drwy archwilio'r math o hyfforddiant sy’n addas ar gyfer ‘perfformiadol’ yng Nghymru.

2.7

Rhybudd gorsymleiddio...

Mae Richiard Gough, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Ymchwil Perfformiad, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn amserol iawn yn ei rybudd yn erbyn polareddau simplistig, ysgarol a gwrthbleidiol yn y maes cymhleth hwn.

However- whether these opositions be: traditional/contemporary; inward-looking/ outward-looking; home made art/visiting art; professional/amateur; participatory/ presentational; ‘high’ art/‘low’ art; artisanship/artistry; conservation/invention; indigenous/‘foreign’; pure/hybrid - there is a clear relationship, continuum and interdependency between the two. At best the ‘edges’ between the two are ever-evolving, constantly being re-defined and should be entirely symbolic, abrasive where useful, together defining visions of the past, present and virture.

2.8

Gorwel orenaidd...

Fe ddylai’r ‘perfformiadol’ wedi ei gyfathrebu trwy gyfrwng technoleg, yn enwedig technoleg ddigidol, fod yn flaenllaw yn ei hystyriaethau yn ystod y tesseract, y foment yma o newid diwylliannol, o lithro, symud, cyffro, adfywiad ac o adeiladu o’r newydd. Oherwydd yn y cyffyrdd amser yma mae hen ffurfiau yn cael eu dodi ar dechnolegau newydd, mae arbrofion croesrywiaeth yn digwydd, ond fe ddaw ffurfiau newydd i’r amlwg maes o law. Edrychwch ar y ffordd y gwnaeth y ffilm fud gyflwyno theatr eiriol destunol yn ei dyddiau cynnar fel gweithredoedd ‘perfformiadol’. Sylwch ar sut y gwelwyd ffilm fel gobaith y vaudeville a ffordd o gadw’r theatrau ar agor pan oedd y cynulleidfaoedd wedi colli diddordeb. Meddyliwch am y llithrad yn ôl i undod amser, undod lleoliad ac i’r naratif llinellol a ddigwyddodd nes i George Méliès deithio i’r lleuad gyda’i ffilm gynnar, nes i Edwin Porter feistroli techneg golygu ac Eisenstein ddylanwadu gyda ffurf y montage a rhyddhau’r cyfrwng newydd oddi wrth lyffethair traddodiad amhriodol. Beth wnaethant oedd rhyddhau’r hyn a oedd yn guddiedig y tu fewn i’r dyheadau i greu delweddau symudol. Gwrandewch ar y weithred ‘berfformiadol’ honno, y sgwrs dros y teliffon. ‘Y perfformiadol’ wedi’i gyfathrebu trwy gyfrwng technoleg, gynt yn analog, nawr yn ddigidol. Beth y mae hyn yn ei olygu yn effaith ar y ffordd y mae’r gymdeithas yn mynegi ei hun?

Yn 1936 yn ei draethawd ar y celfyddydau byw mewn oes o atgynhyrchu mecanyddol honnodd Walter Benjamin mai rhin neu ‘awra’ yr arteffact byw oedd ei fod yn unigryw ei iaith. Ydi hyn yn wir nawr? Beth yw rhinweddau celfyddydau byw wedi eu cyfathrebu trwy gyfrwng technoleg mewn oes ddigidol - Live Aid ne Gwpan y Bencampwriaeth yn cael eu darlledu o Stadiwm y Mileniwm ar deledu ac ar y we? Beth yw gwerth simulcast o’r Cyngherddau Promenâd? Neu gerddoriaeth ar CD? A oes ganddynt lai o werth diwylliannol? Ydy gwasanaeth Cristnogol yn llai effeithiol os ydyw’n cael ei gyfathrebu trwy dechneg digidol? A beth os ydyw’r ddefod yn rhyngweithiol, ydi hynny’n well?

Dyma gywair presennol ‘y perfformiadol’ a’r celfyddydau byw, a dyma’r cwestiynau y dylsem eu hwynebu mewn oes ddigidol. Mae sôn am golled ac elw, am ail-adeiladu sefydliadau’r gorffennol ac anwybyddu’r presennol, yn osgoi’r newid patrwm (paradigm shift) sydd wedi digwydd ac yn llwyr anwybyddu symudiad yr awen. - ‘Hic et ubique!’ ys dywed Hamlet.

3.00

Casgliadau?...proses...

Nid oes canlyniad na diweddglo – dim proses. Mae’n rhaid parchu’r ddadl, gwerthfawrogi’r ddeialog, parchu’r ‘dramatig’ a’r amryw o theatrau sy’n ei fynegi. Ond yn bennaf, rhaid edrych tuag at orwelion y dyfodol, a thirwedd celfyddydol 2010 a thu hwnt. Efallai, erbyn hynny bydd plant ein hysgolion cynradd yn ymarfer ‘y perfformiadol’, ac yn gwerthfawrogi arlliw ei lais yn enwedig felly o fewn cyd-destun Cymreig.

awdur:Ceri Sherlock
cyfrol:450/451, Gorffennaf/Awst 2000

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk