Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Actorion vs Awduron – Pwy Bia’r Sgript?

Wrth i fwy a mwy o actorion droi eu llaw at sgriptio, mae yna bryder fod dyddiau’r awdurn unigol yn dirwyn i ben, a bod sgrifennu fformiwla’n disodli creadigrwydd. Stori: MENNA BAINES.

Prin ei fod yn beth newydd. Mae’n debyg fod actorion wedi bod yn sgrifennu dramâu o’r cyfnod Groegaidd ymlaen. Actor oedd Shakespeare, actor oedd Molière ac mae digon o enghreifftiau mewn cyfnodau yn nes atom ni, gan gynnwys pobl fel Harold Pinter ac Edward Bond heddiw. Ar wahân i rai a aeth dros y ffin fel Emlyn Williams, mae’n fwy anodd meddwl am enghreifftiau Cymreig, gan mai difyrrwch amser hamdden ac nid bywoliaeth fu ymwneud â’r ddrama tan ddyddiau Cwmni Theatr Cymru. Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Huw Lloyd Edwards, Gwenlyn Parry – doedd yr un ohonynt yn actio, ac eithriadau hyd yn oed heddiw yw pobl fel Michael Povey, Geraint Lewis neu John Glyn Owen sydd wedi gwneud eu marc yn y ddau faes.

Ac eto, mae actorion wedi bod yn sgrifennu i’r theatr Gymraeg ers y saithdegau. Efallai nad yw eu henwau wedi ymddangos ar bosteri, ond frwyth cyd-sgrifennu rhwng actorion oedd sioeau cynnar, cofiadwu Bara Caws. Er fod y cwmni hwnnw bellach wedi troi fwyfwy at awduron unigol, mae Theatr Gorllewin Morgannwg a Brith Gof yn dal i gynnal y traddodiad o gyd-sgrifennu yn y stafell ymarfer.

Yn awr, mae symudiad tebyg ym myd y ddrama deledu – oddi wrth yr awdur unigol tuag at yr actorion eu hunain. Mae hanes cyfres fel Pris y Farchnad yn enghraifft ddiweddar. Er mai’r awdur Wiliam Owen Roberts a ysgrifennodd y cyfresi cyntaf o’r ddrama hon am gymuned amaethyddol ariannog yn y Gorllewin, roedd yr un ddiweddaraf wedi’i sgrifennu gan rai o’r actorion eu hunain ar y cyd â’ cyfarwyddwr, Tim Lyn. Mae cyfres ddrama arall sy’n dechrau fis nesaf hithau wedi’i sgrifennu gan ddau o’r actorion, Bryn Fôn a Bethan Dwyfor.

COLLI AWDUR, COLLI CREFFT?

Mae chwalu’r ffin rhwng dwy grefft yn poeni amryw o bobl, yn eu plith awduron sy’n ceisio gwneud bywoliaeth o sgrifennu. Er nad oes neb yn gwadu na all ambell actor sgrifennu a bod cyd-sgrifennu’n gallu gweithio mewn rhai amgylchiadau, mae yna bryder y bydd ffasiwn yn troi’n norm. Os digwydd hynny, mae yna ofn y bydd sawl peth yn cael ei aberthu.

‘Mi fasa’n well petai pawb yn cadw at ei grefft ei hun,’ meddai Eigra Lewis Roberts, awdur Minafon a’r addasiad teledu diweddar o’r Wisg Sidan. ‘Dwi’n poeni fod yna ryw agwedd yn datblygu mai dim ond geiriau ydi sgript, ac y gwneith rhyw efylychiad o sgwrs ochr ffordd y tro. Ond mae o’n fwy na geiriau – mae eu cyfuno nhw, eu cydio nhw yn ei gilydd yn gyfanwaith, yn grefft.’

Mae’r dramodydd a’r darlithydd William Lewis yntau’n gweld y dramodydd unigol yn mynd yn llai a llai pwysig ac yn gweld rhai o’r hanfodion yn mynd ar goll wrth wneud yr hyn y mae’n ei alw’n ‘sgwennu trwy bwyllgor’.

‘Mae yna beryg cymysgu arddulliau, peryg colli golwg ar thema a gweledigaeth ganolog, a pheryg hefyd fod pethau cymhleth yn cael eu symleiddio – mae hynny’n digwydd yng ngwaith ambell gwmni theatr Cymraeg heddiw. Pwrpas theatr, i mi, ydi dangos cymhlethdod pethau.’

Sgrifennu fformiwla, ar y llaw arall, yw’r rhan fwyaf o sgrifennu teledu. Yn ôl Gareth Miles, awdur cnwd o ddramâu llwyfan a ffilm, ni ellir disgwyl dim byd arall pan fo cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ac actorion yn sgrifennu trwy’i gilydd.

‘Nwydd, cynnyrch ydi sgript i bobl yn y cyfryngau, ac mae’n rhaid cydymffurfio â fformiwla. Mae hynny’n ffurf ar sensoriaeth – sensoriaeth anweledig y Gorllewin. Un enghraifft o’r peth ydi’r rheidrwydd i gael diweddglo hapus, y feelgood factor. Mewn drama ac mewn sgript fel mewn unrhyw lenyddiaeth, mae angen y feelbad factor hefyd, neu mae awdur yn dweud celwydd am y byd. Mae unrhyw awdur gwerth ei halen yn ymwybodol o’r sensoriaeth yma, ac yn dod o hyd i ffyrdd heibio’r peth. Ond mae actorion, cyfarwyddwyr, a chynhyrchwyr yn cydymffurfio’n hollol ddigywilydd â’r ‘status quo’.

Mae rhai o bleidwyr cyd-sgrifennu rhwng actorion wedi dweud ei bod yn ffordd newydd, arbrofol o greu. Ddim o gwbl, meddai’r awdur o Bontypridd.

‘Pres sy’n rheoli – awch y farchnad elw a’r pwysau i wneud rhaglenni rhad. Mae gwneud heb awduron yn rhatach. Mae’r elfen greadigol yn mynd yn llai ac yn llai.’

Fel y ddau arall, mae Gareth Miles yntau’n credu bod ysgrifennu’n galw am ddoniau gwahanol i eiddo’r actor neu’r cyfarwyddwr. Mae gwaith diweddar yn dangos rhai o’r problemau sy’n codi wrth geisio gwneud dwy job ar unwaith, meddai.

‘Mae gwaith cyfarwyddwyr fel Tim Lyn, Endaf Emlyn a Karl Francis yn dechnegol wych – mae ganddyn nhw lygad arbennig. Ond mae gwaith y tri ohonyn nhw’n dioddef o diffyg strwythur, diffyg cydbwysedd cymeriadau a diffyg amrywiaeth goslef.’

O’R LLIFOLAU AT Y DDESG

‘Nabod Llwyfan – profiad Mari Gwilym

I Mari Gwilym, mae actio wedi arwain at sgrifennu yn ddigon naturiol. Bu’n actio gyda Theatr Bara Caws am flynyddoedd ac yn awr mae’r cwmni’n llwyfannu ei drama gyntaf i oedolion.

‘Efo Bara Caws ddechreuais i actio, dwi wedi gweld bob dim maen nhw wedi’i wneud, a fan hyn ydi’r lle gorau i mi ddechrau sgwennu, os am sgwennu.’ Nid awydd sydd wedi cydio ynddi dros nos yw hwnnw – bu ynddi erioed, meddai, ac ers blynyddoedd bu’n creu deunydd ar gyfer plant, yn sgriptiau teledu, radio a llwyfan. Mae’n cyfadde’ mai ofn methu sydd wedi ei rhwystro hyd yn hyn rhag derbyn gwahoddiadau Bara Caws i droi ei llaw at ddrama i oedolion. Yn awr mae hi wedi mentro, a’r canlyniad yw Henwalia, a fydd yn teithio yn ystod y mis nesaf - drama am hen ddyn sydd dan fygythiad yn ei gatre’ ei hun mewn tref Gymreig.

Ffactor allweddol wrth fynd ati oedd ei hadnabyddiaeth hi o’r cwmni yr oedd yn sgrifennu ar ei gyfer.

‘Rydw i wedi ystyried hanfod bodolaeth Bara Caws, sef drama gymuned. Rydw ni wedi sgwennu hon efo’r gymuned yma yng Ngwynedd mewn golwg, ond dwi’n gobeithio y bydd pobl yn gweld ei bod hi’n berthnasol i gymunedau ym mhob man.’ Roedd y profiad ymarferol o weithio i gwmni prin ei adnoddau technegol hefyd yn pennu natur y ddrama.

‘Mae unrhyw un sy’n actio i Bara Caws hefyd yn gorfod dod yn gyfarwydd ag agweddau eraill y gwaith o lwyfannu drama – yn gorfod helpu i lwytho a dadlwytho’r set ac yn y blaen. Mae gan rywun syniad felly lle mae’r ffiniau – er enghraifft, mae’n rhaid cadw’r cast yn fach, a phenderfynu ar un lleoliad a set sydd ddim yn newid.’

Mae’rn profiad o greu cymeriadau yn fantais arall i’r actor sy’n troi at sgrifennu, meddai. ‘Pan mae actor yn creu cymeriad, mae o’n meddwl am y cymeriad yna mewn termau ehangach na be sy’ yn y sgript ei hun. Mae rhywun yn dyfeisio byd cyfan i’r cymeriad y tu hwnt i’r geiriau eu hunain.’ Ond mae’n ymwybodol y gall yr union gryfder hwnnw droi’n wendid, wrth i’r actor feddwl gormod am gymeriad ar draul y cynllun cyfan.

‘Mae gan actorion lot i’w ddysgu, fel pawb arall, ac mi fydda i’n chwys doman ar y noson gynta’ – os medra i ddod yno o gwbl!’

Cerdded y Lôn Goed – profiad Bryn Fôn a Bethan Dwyfor

Lôn Goed yw enw drama gyfres newydd a fydd yn cael ei dangos ar S4C yn ystod Tachwedd a Rhagfyr. Mae’n ymdrin â chymhlethdodau perthyn trwy ddilyn hynt a helynt aelodau o ddau deulu sydd ynghlwm wrth ddarn o dir. Mae’r Lôn Goed yn rhedeg drwy’r tir, ac yma y daw rhai o’r prif gymeriadau i feddwl ac ystyried a gwneud penderfyniadau.

Byddai’r awduron eu hunain wedi gallu gwneud gyda thipyn o’r ‘llonydd gorffenedig’ y canodd R.Williams Parry amdano. Ond wrth gydweithio am y tro cyntaf ar sgript, fe ddysgodd Bryn Fôn a Bethan Dwyfor fod ‘brys’ a ‘phwysau’ yn eiriau mwy perthnasol.

Fel yn achos Mari Gwilym a Bara Caws, fe ddeilliodd y prosiect o gysylltiad y ddau actor â chwmni cynhyrchu. Bryn Fôn – awdur y gyfres i bobl ifanc Rhew Poeth a sgript ffilm Y Beicar – gafodd y syniad gwreiddiol.

‘Ro’n i eisiau gwneud rhywbeth efo cefndir amaethyddol, lle roedd un digwyddiad yn lluchio pawb oddi ar eu hechel ac yn eu gorfodi nhw i ailedrych ar eu bywydau. Y peth pwysica’ o’n i eisiau ei drafod oedd y syniad o berthyn – i le a ffordd o fyw arbennig.’

Ac felly datblygodd esgyrn moel stori am gasgliad o bobl sydd â theimladau gwahanol iawn am eu gwreiddiau gwledig. Roedd gan Siôn Humphreys o Ffilmiau Bryngwyn ddiddordeb, a dyma roi Bryn a Bethan ar waith i sgrifennu. Yna dechreuodd y trafod, uwchben paneidiau diddiwedd ac yn ystod cyfnodau o ffilmio gwaith arall.

‘Mi fuasen ni wedi trafod hyd Ddydd y Farn petaen ni wedi cael llonydd,’ meddai Bethan, a oedd yn sgriptio am y tro cyntaf. ‘Ond yn y diwedd roedd yn rhaid cael rhywbeth ar bapur.’

Aed ati i greu synopsis, ac wedyn sgrifennu golygfeydd ar wahân. Ond dim ond y dechrau oedd hynny. Bu’n rhaid ailfeddwl am siâp y gyfres ar ôl i S4C ddweud eu bod eisiau chwe phennod hanner awr yn hytrach na thair pennod awr. Yna roedd cyfyngiadau’r gyllideb yn mynnu bod yn rhaid gwneud ambell beth mewn ffordd wahanol. Hyd yn oed ar ôl gorffen, doedd hi ddim yn fater o ollwng y sgript yn nwylo’r cyfarwyddwyr ac anghofio amdani, gan eu bod ill dau’n actio yn y ddrama.

Mae Brynyn disgrifio’r profiad o actio yn ei waith ei hun fel ‘artaith’, a doedd Bethan, hithau, ddim yn awyddus i ddechrau – roedd hi am weld actores arall yn dod â’i gogwydd newydd ei hun i’r gwaith. Ond yn y diwedd, ac amser yn brin, bu’n rhaid cytuno. O leiaf roeddent eisioes yn ‘nabod y cymeriadau, ac wrth law pan oedd angen ailysgrifennu ambell ddarn. Ac fe ddaeth ambell ysbrydoliaeth yn ystod y cyfnod ffilmio ei hun.

Ddwy flynedd ar ôl rhoi’r gair cyntaf ar bapur, mae Bryn yn gobeithio bod cnewyllyn y ddrama a oedd ganddo yn ei ben wedi goroesi pob drafft a newid.

‘Yn y diwedd, galwad sydd yna ar bobl ddod yn ôl i’w hardaloedd i sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg. Mae’n rhaid derbyn fod cefn gwlad wedi newid, ac mae’n rhaid derbyn fod cefn gwlad wedi newid, ac mae’n rhaid derbyn rhai datblygiadau newydd, mae’n rhaid arallgyfeirio. Ond beth sy’n bwysig ydi mai ni fel Cymry sy’n rheoli’r pethau yma.’

Job anodd, job i un – profiad Michael Povey

Fel sgrifennwr sy’n actio y mae Michael Povey yn meddwl amdano’i hun.

‘Mi fuaswn i’n sgwennu beth bynnag, hyd yn oed pe na bawn i’n actio,’ meddai. ‘Dwi wedi poethshio efo sgwennu ers pan o’n i’n tua pedair ar ddeg, ond os dwi’n sôn am rywbeth ag unrhyw werth iddo, dwi ddim ond yn cyfri’r deng mlynedd dwytha, gan ddechrau efo’r ddrama deledu, Sul y Blodau. Honno oedd y trobwynt i mi.’ Ond er gwaetha’i brofiad – daeth pum drama lwyfan o’i law yn ystod y pedair blynedd ddiwetha’, heb sôn am waith teledu – mae’n dal i gael sgrifennu’n anodd. Ac felly y dylai fod, yn ei farn ef.

‘Mae rhywun yn dysgu mwy am yr ochr dechnegol, ac mae profiad actio yn help o ran hynny, ond mae yna fwy na hynny iddo. Dwi’n meddwl fod yna lot o actorion yn penderfynu sgwennu heb sylweddoli mor anodd ydi o. Cymeriadau, a stori – dyna sy’n gwneud drama. Hynny, a chlust i ddeialog – ac yn anffodus, yn aml iawn dydi hynny ddim gan actorion Cymraeg heddiw.

Er ei fod ar hyn o bryd yn cyd-sgrifennu cyfres gomedi gyda Mei Jones, nid yw’r gredwr yn yr egwyddor o gyd-sgrifennu cyn belled ag y mae theatr yn y cwestiwn.

‘Os oes gen ti syniad yn dy ben, dim ond ti fedar ‘i sgwennu o. Yn y pen draw, dwi’n meddwl fod y bobl sydd eisiau dweud rhywbeth personol trwy ddrama yn mynd i’w wneud o beth bynnag. Y gwir ydi fod angen mwy o sgriptwyr o bob math – y rhai sy’n gallu cynnal yr holl stwff teledu sydd ei angen ar S4C, a’r rhai sydd â’u gweledigaeth arbennig nhw’u hunain. A ninnau’n genedl mor fach, allwn ni ddim disgwyl mwy na dyrniad o’r ail fath mewn unrhyw gyfnod.

awdur:Menna Baines
cyfrol:405, Hydref 1996

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk