Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Cyrraedd Croesffordd

Ar l gadael cwmni Made In Wales llynedd mewn rhwystredigaeth, maer gyfarwyddwraig Gilly Adams yn ystyried ei dyfodol a dyfodol theatr yng Nghymru. Bu HELEDD WYN HARDY yn ei holi.

Wrth edrych yn l ar fwy na deng mlynedd o ymroddiad i ddrama yng Nghymru mae Gilly Adams yn wynebu croesffordd. Rhaid iddi nawr greu synthesis oi phrofiad theatrig a bwrw iddi ar ei liwt ei hunain.

Yn wreiddiol o Loegr, mae Gilly Adams wedi byw yn Ne Cymru ers pan oedd hin blentyn. Ac eithrio dilyn cwrs prifysgol yn Leeds, a hyfforddiant gweinyddol yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr, mae Gilly Adams wedi treulioi gyrfa yng Nghaerdydd yn hybu a datblygur ddrama yng Nghymru. Ar l gweithio yn y theatr yn Colchester daeth i Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1973 i weithio yn yr Ddrama, mewn cyfnod pan oedd yna fwy o arian nag o waith fel bod rhaid arianau trenau nwyddau gan ddisgwyl ir express gyrraedd chwedl Bill Duffton, y cyfarwyddwr ar y pryd.

Penodwyd Gilly yn swyddog Dramar Cyngor cyn iddi gyrraedd ei deg ar hugain, ac fe ddysgodd siarad Cymraeg cam a agorodd ddrysau newydd iddi. A hithau yn dod o gefndir theatr geidwadol, doedd ganddi fawr o brofiad or avant-garde ar arbrofol, ond roedd hin fwy na pharod i ddysgu. Fe ges i fysgwyd gan y meddylfryd radical a oedd wrth wraidd gwaith theatr ar y pryd, meddai wrth gofioi hymateb cyntaf i gynyrchiadau cwmnau fel Paupers Carnival, Cardiff Laboratory Theatre, Moving Being a Theatr yr Ymylon. Roedd hi wedii hamgylchynu gan frwdfrydedd theatrig ac fei tynnwyd i bob cyfeiriad, gan gynnwys Theatr Mewn Addysg. Yna, wrth ir cynnwrf dramatig gynyddu ar ddechraur wythdegau, ciliodd yr arian. Yn sgl y diffyg cefnogaeth gadawodd Gilly Gyngor y Celfyddydau.

Arhosodd yn y byd drama, fodd bynnag, a dechrau gwneud ei chyfraniad ymarferol ei hun. Y man cychwyn oedd trefnu gweithdy preswyl yng Ngregynog yn 1981. Bun llwyddiant, a byth ers hynny mae Gilly wedi rhoi pwyslais ar weithdai. Gweithdai a datblygu syniadau ywr ffordd i ddarganfod dramodwyr da, meddai, palur chwyn a rhannu profiad i greu dramu llwyddiannus.

Daeth cyfle i gynnal gweithdai i ddramodwyr newydd trwy Gymru benbaladr wrth iddi ymuno Hugh Thomas, Gareth Armstrong, Alan Vaughan Williams a Dic Edwards i ffurfio Made In Wales yn 1982, fel rheolwr prosiect. Wrth i Hugh a Gareth symud ymlaen yn 1987, daeth Gilly yn Gyfarwyddwraig Artistig ir cwmni Ei bwriad oedd creu cwmni a fyddain rhoi llwyfan i ysgrifenwyr profiadol, yn ogystal ddarganfod a meithrin rhai newydd.

Creu corff o waith pwrpasol ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, fel sydd gan yr Alban ac Iwerddon dyna oedd prif amcan Made In Wales tra bu Gilly Adams y tu l ir llenni yn prysur droir olwynion i ddarparu gwasanaeth darllen sgriptiau, trefnu gweithdai yn ogystal threfnu G_yl Ddrama flynyddol Write On gan gynyrchu hyd at bymtheg o ddramu newydd. Erbyn yr _yl olaf yn 1993 roedd Made In Wales wedi llwyfannu 26 o gynyrchiadau y flwyddyn honno yn unig. Cafwyd llawer o weithdai ond llai o ddramu cofiadwy. Y broblem yn l Gilly oedd fod gan Gyngor Celfyddydau Cymru fwy o ddiddordeb bellach mewn llenwi theatrau chynulleidfaoedd syn mwynhau cynyrchiadau canol-y-ffordd nag yn natblygiad tymor hir y ddrama yng Nghymru. A hithau ar fin bwrw iddi i holl egni i gynnal un _yl arall (a welwyd yn Y Point y llynedd) roedd hin teimlo nad oedd wedi llwyddo i gael y canlyniadau yr oedd hi wedi gobeithio amdanynt, a bod angen cyfeiriad newydd ar y cwmni. Ar l degawd o weithion ddygn i agor drysau i ddramodwyr newydd, fe adawodd Gilly Adams Made In Wales gan adael Jeff Tier yn dal yn awenau.

Mae mwy o angen nag erioed am leisiau theatrig cryf syn gwthior ffiniau, ond maen ymddangos mai cau y maer drysau ar greadigaethau newydd. Mae angen cymuned artistig gryfach yng Nghymru, medd Gilly, ac iw chael rhaid gwrando ar ein gilydd, cydweithio a chydanelu am safon theatrig uwch.

Maen credu ym mhurdeb ysbrydol y theatr, yn ei barddoniaeth hi, boed hynny ar lwyfan neu ar y ddalen. A hithau wedi cyrraedd carreg filltir yn ei gyrfa, mae hi mewn dau feddwl yngl_n i pherthynas r theatr. Y dewis nawr, meddai, yw un ai gadael ir theatr lithro ir std Americanaidd gan adael ir creadigrwydd theatrig frwydro o dan y gwter, neu ddal i gredu bod gan theatr y gallu i adlewyrchu angen cymdeithas am gymun theatrig, am antur a pherygl, am ddirgelwch, ac yn bennaf oll am hunanfynegiant.

awdur:Heledd Hardy
cyfrol:398, Mawrth 1996

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk