Brwydro gyda Bacci
Mae’r gyfarwyddwraig MENNA PRICE newydd ddychwelyd o’r Eidal lle treuliodd dri mis yn gwylio Roberto Bacci, un o gyfarwyddwyr enwocaf y theatr fodern, wrth ei waith. Un o wersi mwya’r profiad oedd fod theatr go iawn yn frwydr...
Mae’r daith trên rhwng Pisa a Firenze yn cadarnhau’r delweddau sydd gan rhywun o Doscana – hen drefi bychan ar lethrau mynyddoedd Abitane a charreg farmor Carrara i’w gweld filltiroedd i ffwrdd. Ychydig o bobl sy’n sylwi ar orsaf ‘Pontedera – Cascina Termina’ sydd union hanner ffordd rhwng y ddwy ddinas; mae llai fyth yn gwybod bod Pontedera yn feca’r byd theatr hyd yn oed os ydynt yn gwybod bod y dref yn ganolfan ddiwydiannol bwysig.
Dyma gartref y gwneuthurwyr beiciau modur, Piaggo, ond yma hefyd mae’r ‘Centro per la Sperimentazione e la Ricerca Teatrale’, lle bûm i’n ddigon ffodus yn ddiweddar, gyda chymorth Ysgoloriaeth Teithio Emily Davies, i gael treulio tri mis yn dilyn proses ymarfer cynhyrchiad newydd ‘Pontedera Teatro – un laboratorio internazionale’. Yr hyn sy’n dilyn felly yw argraffiadau un cyfarwyddwr yn edrych ar un arall wrth ei waith...
Sefydlwyd y CSRT yn 1974. a thros gyfnod o ugain mlynedd mae wedi tyfu i fod yn un o’r canolfannau ymchwil a theatr arbrofol pwysicaf yn Ewrop ar yn rhyngwladol, diolch yn bennaf i gysylltiad cyfarwyddwr enwog o Wlad P_yl â’r lle. Yn 1984 fe wahoddwyd Gerzy Grotofsci a’i weithwyr i Bontedera, lle rhoddwyd lloches iddynt i barhau â’u hymchwil theatr mewn heddwch gwleidyddol. O ganlyniad fe sefydlwyd ‘Gweithdy Jerzy Grotofsci’ yn Vallicelle, Toscana. Ond er bod y gweithdy yn rhannu yr un adnoddau swyddfa â’r CSRT, mae’n sefydliad hollol annibynnol.
Mae yna sawl cangen arall i’r ganolfan hon. Mae’n sefydliad addysgol lle cynhelir cwrs theatr ymarferol i bobl ifanc dros gyfnod o dri mis. Cynhelir hefyd _yl Ryngwladol Volterra Teatro lle ceir amrywiaeth gyfoethog o gynyrchiadau, arddangosfeydd yn dangos proses waith cwmni theatr, ynghyd â seminarau arbenigol. Mae yna ddau gr_p perfformio yn gysylltiedig â’r ganolfan, dan arweiniad cyfarwyddwr adnabyddus arall, Roberto Bacci. Ar yr un llaw mae ‘Teatro Della 3º Eta’, gr_p o bensiynwyr lleol, ac ar y llaw arall mae ‘Pontedera Teatro’, criw o actorion hunangyflogedig.
Mae yna gysylltiad agos rhwng CSRT a Chymru. Bu yno Gymro, Ian Morgan yn cydweithio â Grotofsci am dair blynedd tan yn ddiweddar iawn. Fe ddaeth cwmni Roberto Bacci i Gymru yn yr wythdegau, gyda chymorth y Ganolfan Ymchwil Perfformio, i berfformio Il Giardino, addasiad o Y Gelli Geirios Tschecof, gan ddywchwelyd yn1994 gyda dwy ddrama arall, Fratelli Dei Cani a Il Cielo per terra.
Nid yw’n hawdd diffinio athroniaeth Bacci. Mae ganddo barch mawr at ei gyndeidiau yn y theatr ac mae’n ymddiddori yng ngweithiau ysgrifenedig ac ymarferol Stanislafsci, Grotofsci a Barba. Yn 1972, fe dreuliodd gyfnod hir yn dilyn gwaith Eugenio Barba ac ‘Odin Teatro’ yn Holstebro, Denmarc. Y profiad hwn a’i symbolodd i sgrifennu ei draethawd ‘Teatro e Alchimia’ ac yna i sefydlu ‘Piccolo Teatro’ (enw gwreiddiol ‘Pontedera Teatro’) yn 1974.
Mae Bacci yn gwrthod rhoi label ar y math o theatr y mae’n ei greu. Yn wahanol i’w ragflaenwyr uchod, nid yw’n dewis diffinio nac ysgrifennu ynghylch y term ‘theatr’ ei hun, er ei fod, fel Barba, yn teimlo ei fod yn nes at y ‘Drydedd Theatr’ nag at ‘Theatr Dlawd’ Grotofsci. Gellid diffinio’r ‘Drydedd Theatr’ fel theatr sy’n digwydd ar y cyrion, y tu allan i ganolfannau diwylliannol cydnabyddedig, gyda’r cwmni yn amlach na pheidio yn gasgliad o bobl hunan-addysgiedig, yn hytrch na phobl sydd wedi cael addysg theatr gonfensiynol – er fod Barba’n prysuro i ddweud nad amaturaid mohonynt o gwbl. I Bacci, mae’r theatr yn gyfrwng gweledol cryf, yn gyfrwng i archwilio ac i arbrofi. Mae’n daith bersonol i bob aelod o’r gynulleidfa, ac iddo ef mae mae’n daith addysgol a gwleidyddol. Mae presenoldeb cynulleidfa yn bwysig iddo, ac yn rhan o’r broses waith. Fe ellid dweud ei fod ddyn carismatig iawn, ac yn wleidydd hynod o grefftus, Ac fel gwleidydd, mae’r hyn mae’n ei ddweud yn llawn amwysedd...
Mae’r un mor anodd disgrifio arddull Bacci. Mae pob prosiect yn cychwyn o bwynt gwahanol, ac yn tyfu a datblygu, dros gyfnod ymarfer o bedwar mis, i gyfeiriad nad yw’n eglur cyn dechrau. Un o luniau’r ffotograffydd Nicephore Niecpce a’r thema ‘amser’ oedd man cychwyn Nostras – Sogno di Itaca, y cynhyrchiad a cefais i ei wylio’n tyfu. Plannwyd yr hedyn yn ôl ym mis Medi 1995, pan fu Bacci, ei ddirprwy-gyfarwyddwr Paola Bea a’r dramaturg, Franços Kahn, yn pendroni – ‘Beth yw amser?’, ‘Ym mha ffordd mae amser yn ‘hedfan’ neu’n ‘llusgo’? ‘Beth fyddai’n digwydd petai amser yn teithio tuag yn ôl yn ein bywydau?’ Penderfyniad naturiol ar ôl hyn oedd archwylio’r thema a’r cwestiynau drwy destun yr ‘Odyssey’ Homer. Mae’r gerdd epig anturus hon yn cynnig gwledd o storïau a digwyddiadau llawn potensial theatrig.
Dull arferol Bacci yw dechrau o ddim, fel petai – hynny yw, rhoi penrhyddid i’r actorion chwilio’r testun am gymeriadau ac elfennau sydd o ddiddordeb iddynt hwy. Y cam nesaf yw creu cyfres o olygfeydd byrfyfyr, yn annibynnol ar y cyfarwyddwr. Pan fydd yr actorion yn barod, maent yn gwahodd Bacci i weld ffrwyth eu gwaith, ac yntau wedyn yn dewis pa elfennau i’w datblygu.
Mewn gwirionedd, bu’r profiad o gydweithio gyda’r actorion yn fwy cyffrous na dilyn gwaith y cyfarwyddwr ei hun. Er mai gr_p o actorion hunangyflogedig ydynt, y maent, fel arfer, wedi gweithio gyda Grotofsci neu un o’i ddisgyblion. Maent yn unedig felly o ran arddull waith – yn ddisgybledig, gweithgar a thawel. Gwnânt ymarferion corfforol a lleisiol yn ddyddiol, ac megis mewn teulu, mae’r rhai h_n, profiadol yn cynghori a helpu’r rhai ifanc.
Bu ail ran y broses ymarfer, adeiladwaith y cynhyrchiad, yn broses araf, dechnegol a llai creadigol. Mae ceisio ei chofnodi ar papur yn troi’r cyfan yn ddeunydd ail-law. Mae’n rhy hawdd cyffredinol a chamddeall. Yn ei hanfod proses oedd hi o roi siâp ac adeiladwaith cryf i’r cynhyrchiad. Fel y soniwyd eisioes, fe arbrofodd Bacci gyda’r syniad o amser megis taith yn ôl mewn bywyd. Gwnaeth hyn trwy archwilio’r prif destun, yr ‘Odyssey’, ynghyd â thestunau eraill megis Ulysses Joyce, Wrth Aros Godot Beckett a barddoniaeth Eliot, ac yn raddol erbyn yr ail fis fe gyflwynwyd sgript.
Bûm yn gwylio’r cwmni yma’n gweithio bob dydd (ac eithrio’r Sul) o un o’r gloch y prynhawn hyd wyth y nos. Roedd hi’n broses hir ac araf ar adegau, ac o safbwynt cyfarwyddo ni wnaed y defnydd gorau o’r amser a’r adnoddau wrth law. Teimlwn ar adegau nad oedd y cyfarwyddwr yn ddigon mentrus. Yn groes i’r awgrym yn nheitl y ganolfan, doedd yma fawr o archwilio ac arbrofi ymarferol. Fe wnaed llawer o waith byrfyfyr canmoladwy gan y gr_p nas datblygwyd ymhellach, tra oedd angen chwynnu’n fwy llym dro arall. Yn hynny o beth, ymddengys nad oedd gan y cyfarwyddwr weledigaeth glir.
Prin hefyd oedd y math o chwarae gyda iaith a geiriau y byddai rhywun yn ei ddisgwyl. Ni fu fawr o arbrofi gydag ansawdd, s_n nac ystyr geiriau. Fel un sy’n dysgu Eidaleg, cawn fod yr ynganu llac yn gwneud y testun cyfoethog yn amhosibl i’w ddeall ar brydau. Credaf yn bersonol na ddylai iaith fod yn broblem yn y cyfrwng hwn. Os yw’r emosiwn a’r weithred yn ddilys, yna mae’r neges yn si_r o gael ei throsglwyddo. I mi, roedd hi’n ymddangos fod y corff o’r llais yn cael eu trin fel dau offeryn annibynnol tra mae’r naill yn llwyr ddibynol ar y llall mewn gwirionedd.
Rhan o’r anhawster oedd fod Bacci’n wynebu sawl problem anghyfarwydd. Ni weithiodd yr arbrawf o gyfuno actorion h_n, profiadol ac actorion ifanc, cymharol ddibrofiad o gefndir theatr mwy traddodiadol, ac fe arweiniodd hyn at raniadau amlwg yn y ‘teulu’ dros gyfnod o dri mis. Yn naturiol, roedd gofynion y gr_p yn wahanol y tro hwn, ac roedd arnynt eisiau arweiniad cryf gan y cyfarwyddwr. Nis cawsant, ac o ganlydiad roedd y broses waith yn gymysglyd a digyfeiriad. Mewn theatr o’r fath ni ellir dibynnu’n llwyr ar y cyfarwyddwr – rhaid i’r unigolion fedru datblygu’r cymeriad yn annibynnol ac o fewn tîm o weithwyr. Mae’n rhaid i’r actor unigol ymladd am olygfa. Rhaid bod yn gryf, yn ddewr ac yn barod i fethu.
Efallai’n wir mai oddi wrth gamgymeriadau’r cyfarwyddwr y dysgais i wersi pwysicaf fy nghyfnod yn Mhontedera. Wrth lunion cynhyrchiad o’r fath, rhaid iddi fod yn broses ddwy ffordd o roi yn ogystal â chymryd. Dylai’r cyfarwyddwr fod yn fodlon cymryd siawns, a chwympo hefyd – mae glynu at y tir saff yn arwain at fwy o broblemau yn ddiweddarach.
Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf ym Mhontedera ddiwedd Ionawr gerbron cynulleidfa o enwogion, yn eu plith Thomas Richards, Jerzy Grotowsci, Dario Fo a Romeo Castellucci. Ychydig yn araf a thameidiog fu’r perfformiadau cyntaf, ond ymhen wythnos roedd wedi datblygu ac aeddfedu’n gynhyrchiad tra gwahanol. Am y tro cyntaf mewn proses ymarfer o bedwar mis, roedd yr actorion yn cyd-deithio’n unedig i’r un cyfeiriad, a’r gwaith caled, yr adeiladu graddol, haen ar ben haen, yn dwyn ffrwyth.
Roedd y ffaith na welais system waith berffaith yn rhan o werth y profiad i mi. Mi fûm hefyd yn dilyn gwaith cyfarwyddwr sy’n wynebu rhai cwestiynau proffesiynol tyngedfennol. Ar ôl ugain mlynedd yn y gr_p, mae un actores o’r to h_n profiadol yn dewis gadael ar ganol y cynhyrchiad, am resymau proffesiynol. Mae Bacci yn cyfaddef felly fod yn rhaid iddo edrych o’r newydd ar ei broses waith. Mae’n sôn am y posibilrwydd o weithio gyda gr_p hollol newydd o actorion proffesiynol yn y dyfodol agos.
Mae’n teimlo bod arno angen her newydd fel cyfarwyddwr. Iddo ef, mae dechrau proses ymarfer yn y theatr fel ailenedigaeth gyda phopeth yn newydd ac yn cael ei weld trwy lygaid newydd. Mae’r profiad o ‘golli’r hunan’, a mynd allan o’i ddyfnder, yn bwysig iddo fel cyfarwyddwr. Mae’n troi o’r Eidaleg i’w Saesneg elfennol wrth egluro: ‘i lose myself... all my capacity to be attentive, to be developed... I will give you an example. If I wake up in Tokyo – I have to survive.’ Mewn iaith symlach, mae’n bwysig iddo ef i greu sefyllfa nad yw’n medru ei datrys yn rhwydd. Yn ail, ac efallai mai dyma’r wers bwysicaf, nid yw’n chwarae’n saff. Efallai nad gwleidydd mohono wedi’r cyfan.
awdur:Menna Price
cyfrol:398, Mawrth 1996
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com