Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Nid Chwarae Plant

Mae gwyl theatr sydd i’w chynnal yn Aberystwyth ddiwedd y mis yn canolbwyntio ar anghenion un o’r cynulleidfaoedd anodda’ eu plesio. Stori: Menna Baines.

‘Dyma Lloegr, a dyma Gymru, mae yna wahaniaeth...’

Mae Jeremy Turner wedi colli cyfrif faint o weithiau y mae wedi gwneud map o Brydain ar gefn mat cwrw mewn tafarndai a thai bwyta ledled Ewrop a thu hwnt. Ond nid gwastraff fu’r cyfan: erbyn diwedd y mis bydd amryw o’r tramorwyr a gafodd wers ddearyddol gan y cyfarwyddwr theatr yn ystod ei deithiau wedi cyrraedd Aberystwyth, lle cânt wybod mwy.

Yno, diwedd y mis, bydd g_yl theatr ryngwladol yn cael ei chynnal i ddangos a thrafod gwaith ar gyfer plant a phobl ifanc. Ennyn diddordeb yn y gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru yw un o’r prif amcanion, gyda saith cwmni Cymreig yn perfformio, gan gynnwys Arad Goch, y trefnwyr. Yno i’w gwylio, fel sgowts mewn gêm bêl-droed, bydd cyfarwyddwyr, trefnwyr gwyliau diwylliannol a hyrwyddwyr theatr pobl ifanc o bob rhan o Ewrop. Nid ar chwarae bach y denwyd hwy i Aberystwyth, yn ôl Jeremy Turner, cyfarwyddwr artistig Arad Goch.

‘Fe ddôn nhw i Lundain, fe ddôn nhw i’r _yl fawr i blant yng Nghaeredin bob mis Mai. Fe ddôn nhw weithiau i Gaerdydd, ar ôl lot o berswâd. Ddôn nhw ddim, fel arfer, mas i gefn gwlad Cymru...’.

Rhaid oedd meddwl am abwyd – gwneud sbloet iawn ohoni, a throi’r hgynhadledd Theatr Mewn Addysg flynyddol, arferol yn _yl bedwar diwrnod, gyda sawl cwmni o dramor yn perfformio sioeau hefyd. Mae’r _yl wedi’i threfnu fel y gall pawb a ddaw yno, gyda thipyn o stamina, weld pob un o’r 16 cynhyrchiad a fydd i’w gweld mewn amrywiol ganolfannau yn Aberystwyth ac ysgolion cyfagos.

Ond mae drysau’n agor ddwy ffordd, a llawn cyn bwysiced â chynnig golwg i mewn i’r maes yng Nghymru yw rhoi cyfle i edrych allan. Mae mawr angen hynny ytm marn Jeremy Turner, sy’n credu bod ymdrech fwriadol cwmnïau yng Nghymru i osgoi dylanwad Lloegr yn gallu peri iddynt fod yn ynysig, a hyd yn oed yn fewnblyg.

‘Ryden ni mor amddiffynnol, mor frwd dros achub rhywbeth neu’i gilydd o hyd – ond dwi ddim yn credu bod modd achub na datblygu dim byd os ydi’r peth hwnnw’n sefyll ar ei ben ei hun. Mae angen dangos fod y gwaith yn digwydd nid dim ond yn y fan a’r lle nawr, ond fel rhan o rywbeth ehangach sydd â hanes a pharhâd iddo. Mae’r _yl yn fodd inni roi’n gwaith mewn cyd-destun dearyddol, ieithyddol, diwylliannol.’

I’r perwyl hwn bydd yno gynrychiolaeth o ddiwylliannau lleiafrifol eraill o Lydaw, Occitan yn Ne Ffrainc a Chatalonia. Ond gyda phobl wedi’u gwahodd hefyd o lefydd fel yr Almaen, Norwy, Iwerddon ac israel, y gobaith yw y bydd y cydbwysedd yn sicrhau na fydd trafod yn troi’n gwyno a hunan-dosturi.

Ond beth am y plant a’r bobl ifanc eu hunain ynghanol yr holl drafod? Yn ôl Jeremy Turner, eu hanghenion hwy ddylai fod flaenaf wrth ystyried unrhyw gyd-gynhyrchu a chydweithio. Mae’n cyfadde’ nad yw’n hawdd diffinio theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Pan fydd Arad Goch yn gwneud sioe ar gyfer yr arddegau, fydd eu taflenni byth yn nodi hynny, yn gyntaf rhag bod yn nawddoglyd ac yn ail rhag cadw pobl h_n draw. Ar yr un pryd, meddai, mae’n rhaid ei gydnabod fel math arbennigol o theatr.

‘Yn rhy aml, dyw e ddim yn cael ei dderbyn fel theatr go iawn – mae pobl yn meddwl mai rhywbeth bach i ddifyrru plant yw e. Ond mae e’n fwy na hynny – mae e’n ymdrin â’r holl rychwant o destunau a phynciau a themâu â theatr i oedolion. Ryden ni’n trio gwneud hynny mewn ffordd sydd â pherthnasedd i fywydau a meddylfryd pobl ifanc, ond heb gyfyngu’n hunain i sôn dim ond am y pethau amlwg fel rhyw, drygs a roc a rôl. Wrth gwrs, mae’r pethau hynny yn aml yn rhan o’r sioeau, ond o dan hynny mae yna bethau difyrrach, dyfnach i’w trafod.’

Wrth wneud ‘Theatr, Rhyfel a Phlant’ yn un o’r themâu, mae’r _yl ei hun yn adlewyrchu’r angen i wynebu pynciau anodd. Bydd gan Asrad Goch sioe amyr Holocost a Theatr Powys un am Bosnia, tra bydd siaradwraig o Iwerddon yn rhannu’r profiad o wneud gwaith theatr yn ymwneud yn annuniongyrchol â Gogledd Iwerddon. Bydd rhywun arall o’r Almaen yn trafod y modd y mae theatr, ers dymchwel Wal Berlin, wedi chwarae rhan mewn dod â phobl o’r ddwy ochr at ei gilydd, hanner can mlynedd wedi’r rhyfel a’u gwahanodd.

Mae Jeremy Turner yn disgwyl y bydd yna lawn cymaint o drafod ar wahaniaethau ag ar brofiadau cyffredin. Mae hefyd yn weddol sicr na fydd g_yl Aberystwyth yn wahanol i rai eraill y bu ynddynt mewn un peth: bydd y trafodaethau gorau yn digwydd ar ôl y rhai ffurfiol, wrth i bobl gornelu ei gilydd yn y bar. Ond o leia’ fydd dim angen map y tro yma.

awdur:Menna Baines
cyfrol:398, Mawrth 1996

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk