Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Cesio’r Canol Llonydd

Siwan, Esther, Bet... mae MAUREEN RHYS wedi bod yn mynd o dan groen gwahanol gymeriadau o ferched, ar lwyfan a theledu, ers deugain mlynedd bellach. Yma, mae’n bwrw golwg yn ôl ar yrfa lawn.

Yn ddiweddar mae’r atgofion wedi bod yn llifo’n ôl i mi. Fe gafodd John a minnau’r fraint o ail-greu dau gymeriad a bortreadon ni gyntaf ddeunaw mlynedd yn ôl yn Eisteddfod Caerdydd. Fe barodd hynny i mi edrych yn bellach fyth i’r gorffenol a sylweddoli ‘mod i wedi bod ymhel â’r byd actio am oleia’ ddeugain mlynedd.

Fe ges i fy magu efo fy nain a hynny yn y pictiwrs – y Majestic yng Nghaernarfon. Degawd yr actoresau oedd y pumdegau – sêr llachar fel Barbara Stanwyck, Bette Davies a Joan Crawford. Yr oeddan nhw’n ddieithriad yn portreadu merched cryf, llawn emosiwn. Bellach mae’r emosiynau hynny i’w gweld bron bob nos ar y newyddion. Tybed ai’r ffaith ein bod yn cael ein boddi mewn realaeth sydd i’w gyfri bod yn hen actoresau, oedd mor wych yn y pumdegau, wedi mynd allan o ffasiwn? Yn ôl erthygl ddiweddar yn y Telegraph mae cynulleidfaoedd y theatrau beth bynnag yn gweld eisiau’r actorion hynny oedd yn llenwi’r lle gyda’u personoliaeth.

Y g_yn, yn amlach na pheidio, ydi bod actorion yn orawyddus y ddyddiau yma i wneud gyrfa ar y teledu cyn bwrw prentisiaeth ar y llwyfan. Y ffaith ydi bod teledu yn gyfrwng costus iawn ac yn anorfod yn cael ei wneud ar frys. O ganlyniad does fawr o amser i ymarfer, heb sôn am arbrofi. Adeiladwaith dros amser ydi hanfod perfformio ar lwyfan. Y lle i fwrw prentisiaeth a magu hyder.

Wedi cyrraedd y coleg ym Mangor ymuno â’r Gymdeithas Ddrama. Perfformio am y tro cynta’ mewn drama oedd wedi’i chyfieithu gan Islwyn Ffowc Elis – arwr i ni gan iddo ychydig flynyddoedd ynghynt roi i ni’r heart-throb cyntaf yn y Gymraeg. Feddyliais i erioed yr adeg honno y byddwn i ymhen amser yn wraig i Harri Vaughan yng nghynhyrchiad BBC Cymru o Lleifior yn 1969. Hwn oedd y tro cyntaf i mi berfformio o flaen cynulleidfa ddiarth. Roedd Neuadd PJ yn llawn, yn fôr o wynebau a rheiny yn mynd a dod o flaen fy llygaid i. O, roeddwn i’n nerfus.

Fe dddaethon i benâ hi rhywsut, diolch i’r cynhyrchydd – Derec Llwyd Morgan. Dwi’n si_r fod y ddrama fer honno wedi mynd yn angof bellach ganddo ond all actor byth anghofio y tro cynta’ yna.

Nerfus neu beidio, roeddwn wedi cael fy nal fel anifail mewn trap. Os ydi person ifanc wedi rhoi’i fryd ar fod yn actor mae’n amhosib bron ei ddarbwyllo i beidio. Ofer ydi sôn am yr ansefydlogrwydd, y siomedigaethau, y diffyg arian ac yn y blaen. Unwaith y mae perfformio wedi mynd i’ch gwaed rhaid mentro.

Rhaid dweud, erbyn heddiw, mae mwy o gyfleuoedd i bobl ifanc nag oedd ar ddechrau’r chwedegau. Yr adeg honno, rhan-amser oedd pob actor bron. Yn y byd teledu byddai’n golygu ymarfer gyda’r nos a thrafeilio o’r Felinheli ar nos Wener, recordio ar ddydd Sadwrn yng Nghaerdydd, a theithio’n ôl dydd Sul. Y cwestiwn mawr oedd ‘Actio, ia, ond be’ ‘di’ch job iawn chi?’

Yn ôl i’r Coleg. Daeth cyfle i gael gwrandawiad ar gyfer cynhyrchiad newydd o ddrama John Gwilym Jones, Hanes Rhyw Gymro. Llwyth o rannau i ddynion on dim ond tair rhan i ferched. Bûm yn ddigon ffodus i gael un o’r rheiny a chael fy swyno’n llwyr gan y guru o Groeslon.

Roedd hi’n fraint cael ein hyfforddi gan John Gwilym Jones. Dechreuai trwy ddweud mai y rheswm am fodolaeth drama oedd i gael ei pherfformio, ei dweud yn gyhoeddus, neu byddai’r awdur wedi sgrifennu nofel. Yn dilyn yn naturiol felly yr oedd y geiriau yn holl bwysig a phob copa walltog yn y gynulleidfa i fod i ddeall pob gair. ‘Mi ddaw y geiriau pwysig yn iawn. Y rhai dibwys sydd raid i ti fod yn ofalus efo nhw.’ Y frawddeg fawr oedd ‘Nid iaith rhaff trw’ dwll ydi’r Gymraeg. Cofia di hynny.’ Dwi’n mawr obeithio fy mod i wedi cofio hynny ymhob perfformiad wnes i ‘rioed.

Celfyddyd geiriau oedd popeth i John Gwilym Jones a ni oedd ei blant o. Roedd o’n esbonio ystyr golygfa yn hytrach na’i chyfarwyddo. Doedd y symudiadau fel y cyfryw o fawr bwys iddo os oedden ni wedi deall y cynnwys. ‘Sdim rhaid i ti fod yn glyfar i fod yn actor ond, a ma’ hwn yn ‘ond’ mawr, ma’n rhaid i ti fod yn ddeallus.’

Yr oedd Mr Jones wedi gweld y mawrion i gyd ar lwyfannau Llundain. John Gielgud, oherwydd ei lais hudolus a’i ddeallusrwydd, oedd y ffefryn. Edith Evans hefyd. Hi ddywedodd ‘Tydw i ddim yn hardd, ond pan dwi ar y llwyfan dwi’n perswadio pobol i feddwl ‘mod i’n hardd.’ Dyna ydi hanfod actio da. Y gallu i berswadio. Pregeth a phedwar pen iddi oedd gan John Gwilym Jones:

1. Yr awdur yn rhoi’r esgyrn.

2. Yr actor a’r cyfarwyddwr yn rhoi cnawd ar yr esgyrn

3. Y colur a’r gwisgoedd yn rhoi’r delwedd allanol.

4. Yn goron ar y cyfan yr actor yn rhoi’r enaid

Yr enaid – y peth anesboniadwy hwnnw sy’n dod oddi wrthych chi, a chi yn unig.

Chwilio am y ‘canol llonydd’ yma a wna pob actor. Mi all fod yn broses ddirdynnol. Fe fu portreadu ‘Bet’ yn Tywyll Heno Kate Roberts, ar y teledu, bron â mynd yn drech na mi. Ceisio cyfleu person yn colli gafael ar bethau a hynny i gyd yn digwydd yn y meddwl, tu ôl i’r llygaid. Mae’n amhosib cyfleu mewn geiriau yr ynni, y dyfalbarhad, a’r rheolaeth oedd ei angen.

Fe fu’n her fawr. Petawn i’n gorfod dewis un peth i aros ar f’ôl, Tywyll Heno fyddai hwnnw. Dwi’n gwybod na allwn i, beth bynnag, byth fod wedi gwneud gwell job ohoni. Dweud mawr, ond mae o’n wir.

Rhaid i bob actor gael cyfarwyddwr da.. Y fo/hi ydi’r angor. (Nid oes digon o’r ‘hi’ hyd yma. Gobeithio y bydd yn y dyfodol.) Mi fûm i’n lwcus iawn i gael David Lyn – Tywyll Heno, Esther a’r T_r (1995); Wilbert Lloyd Roberts – a roddodd ddechreuad da i lawer ohonom, un o linach John Gwilym Jones; Emily Davies – Siwan, lle bu cyfnod yr ymarferion, yr ymchwil i’w theulu a’i chefndir, yn bleser. Cael y cyfle i weld Siwan fel dynes am y tro cyntaf, dynes a roddwyd yn briod i’w g_r yn ddeng oed.

Ond nid gyda’r lledf a’r dramatig y daw’r boddhad bob tro. Mae angen yr un ymroddiad disgyblaeth a rheolaeth crefft i berfformio comedi neu ffars. Does dim byd tebyg i glywed llond theatr yn sgrechian chwerthin. Cefais glywed hyn gyda dwy gomedi Huw Roberts, Hywel A a Pont Robat.

Nid fod pethau wedi bod yn fêl i gyd o bell ffordd. Fe fu siomedigaethau wrth gwrs, fel sy’n dod i ran pawb arall o fewn y proffesiwn anwadal yma. Rhan o grefft yr actor ydi cyflwyno’i hun yn hyderus waeth beth fyddo’r gwir deimladau y tu mewn.

Ond be’ wnewch chi pan fo cyfarwyddwr yn dweud ei fod o’n rhoi gwaith yn gyntaf i actores ddibriod oherwydd ei bod hi angen ennill ei bywoliaeth a minnau â ‘ng_r i ‘nghadw i. Dyma ddigwyddodd i mi ar ddechrau’r saithdegau. Pa gyfarwyddwr o ddyn fyddai’n meiddio meddwl fel ‘na heddiw, heb sôn am ei ddweud o?

Dyfalbarhad pia hi, a bod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Y mae yn natur pob actor i edrych yn ôl ar y rhannau da a fu neu edrych ymlaen at y rhannau gwych sydd i dod, ond mantais bod yn actores ganol-oed, eto yng ngeiriau’r T_r ydi cael dweud,

‘... dyna pam ma rhaid i ni fwynhau rwan ... ti’n dallt ... bob munud ohono fo.’

awdur:Maureen Rhys
cyfrol:398, Mawrth 1996

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk