Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Mae gennym un, diolch...

Pam troi rhywbeth byw, organig yn sefydliad? Mae’r adolygydd drama DAVID ADAMS yn credu bod blas ffug ar yr ymgyrch am theatr genedlaethol.

Fe’i cawsom adeg Lloyd George, fe’i cawsom tua adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, fe gododd ei phen yn y tridegau helbulus, ac eto yn y chwedegau radical. A ninnau nawr yn y nawdegau ôl-fodernaidd, yn edrych ymlaen at y Mileniwm, mae’r Drafodaeth Fawr gyda ni eto – trafodaeth y Theatr Genedlaethol. Ond tra mae’r byd theatr yng Nghymru yn rhanedig ar y mater, rwy’n amheus a yw’r cyhoedd yn hidio taten.

Y tro yma, y rhai sydd wrthi yw Michael Bogdanov, cyfarwyddwr theatr, sosialydd, poblogeiddiwr a than yn ddiweddar, Julian Mitchell, dramodydd o Sais, rhyddfrydwr adain dde, elitydd. Criw brith yw’r rhai sydd wedi galw ar ryw adeg neu’i gilydd am Theatr Genedlaethol Gymreig – George Bernard Shaw, yr Arglwydd Howard de Walden, Harley Granville Barker, Lloyd George, Saunders Lewis a Richard Burton. Mewn gwirionedd, mae’n drafodaeth am gyflwr Cymru, am genedlaetholdeb a rhyngwladoldeb – er nad yw’r rhai sy’n cymryd rhan yn y drafodaeth yn siarad am ddim ond am theatr.

Lansiodd Michael Bogdanov yr ymgyrch ddiweddaraf gydag araith yn dathlu’r ffaith fod Prifysgol Cymru wedi ei wneud yn Athro Anrhydeddus, ynghyd â maniffesto yn y Guardian rai dyddiau’n ddiweddarach lle roedd yn cwyno am ‘sgandal’ y methiant i sefydlu Theatr Genedlaethol Gymreig. Ymunodd Phil Clark, Cyfarwyddwr Theatr y Sherman a chefnogwr brwd i theatr gymunedol, ag ymgyrch Bogdanov. Neidiodd Neil Kinnock a Dafydd Elis Thomas ar y drol, a daeth Dedwydd Jones, Llundain, sgrifennwr selog yn y wasg a fflangellwr Cyngor y Celfyddydau, yn ôl i’r llwyfan.

Mae sawl rheswm dros fod yn amheus ac yn sinigaidd ynghylch unrhyw ymgyrch am Theatr Genedlaethol. Y rheswm cyntaf, efallai, yw’r amharodrwydd naturiol i gefnogi unrhyw beth yn dwyn yr enw ‘Cenedlaethol’ yn ei deitl, yn enwedig pan nad oes unrhyw draddodiad go-iawn i gynnal y cysylltiad â ‘Theatr’: does gan Gymru ddim rhan mewn hanes theatr yn yr ystyr sy’n cael ei dderbyn yn gyffredin, h.y. y traddodiad llenyddol Gorllewinol bwriadais – dim ond rhyw ddeg ar hugain oed yw’r traddodiad theatr Cymreig presennol. Doedd dim llysoedd nag eglwysi o’r math a esgorodd ar ddrama mewn rhannau eraill o Ewrop, dim dinasoedd i gefnogi dramâu miragl, dim nawdd i gynhyrchu rhywun fel Shakespeare, a hyd 1960 dim darpariaeth theatr broffesiynol ar wahân i’r cwmnïau a ddeuai ar daith o Loegr ac Iwerddon.

A chymryd y gair ‘theatr’ mewn ystyr fwy eclectig, efallai fod yna ddiwylliant perfformio gwerinol, anllenyddol wedi datblygu o ddefodau Celtaidd; efallai nad oedd. Efallai fod yna elfen berfformiadol gref yn y traddodiad barddonol a ffynnodd hyd y canoloesoedd cynnar ac a ddaeth o bosib yn rhan o is-ddiwylliant mwy poblogaidd; efallai nad oedd. Efallai mai arwyddion ysbeidiol o draddodiad cudd oedd y ffrwydrad bychan anachronistig o anterliwtiau a gafwyd gan Twm o’r Nant a’i gyfoedion yn y ddeunawfed ganrif, eisteddfodau drama y can mlynedd diwethaf a gweithgaredd drama amatur y ganrif hon; ond mae yna esboniadau mwy tebygol. Na, am ba reswm bynnag, does gan Gymru ddim hanes go-iawn mewn theatr fel y meddyliwn ni amdani. Felly pam sefydliadoli traddodiad nad yw’n bod yn ‘Theatr Genedlaethol’? Fel y rhan fwyaf o ymdrechion i ddisgrifio a diffinio hunaniaeth ddiwylliannol (ac aeth Gymru trwy ei siâr o’r rheini yn ail hanner y ganrif ddiwethaf), mae’n ffug – mor ffug â’r orsedd, y delyn Gymreig, gwisg genedlaethol, Ogi Ogi Ogi Max Boyce, arwyddlun y daffodil a buddugoliaeth rygbi fawr 1905, lle roedd y capten ac amryw o’i dîm yn Saeson.

A beth am y rhan o’r teitl sy’n dweud ‘Cymru’? Ac aralleirio Gwyn Alf, mae’n rhaid gofyn nid yn unig Pryd ond Lle roedd Cymru? Mae Theatr Genedlaethol Gymreig yn awgrymu unrhywiaeth ddiwyllianol fonolothig; ond does bosib fod cryfder Cymru yn y dyddiau ôl-fodernaidd hyn yn y ffaith ei bod yn gymysgryw, yn rhyngddiwylliannol, yn ddwyieithog, yn gyfoeth ei hamrywiaeth. Asc mae’r cyfan yma’n cael ei adlewyrchu yn ei theatr.

Mae yna broblemau ymarferol hefyd, wrth gwrs. Heb draddodiad o gynhyrchu prif lwyfan, o ble y daw’r sgrifenwyr a’r cyfarwyddwyr(heb sôn am gorff o waith); gyda nawdd i’r celfyddydau brinnach nag erioed, o ble y daw’r arian i gwrdd â chostau parhaus; a chyda chynulleidfa bosib gymharol fach, o ble daw’r cwsmeriaid? Myn yr ymgyrchwyr y bydd Cymry alltud yn tyrru’n ôl, y bydd y Loteri yn taflu ychydig filiynau i mewn ac mai twristiaid (diwylliant twf arfaethedig Caerdydd) fydd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa. Gwlad fechan yw Cymru, gyda phoblogaeth lawer llai na Swydd Efrog, er enghraifft. Nid yw ei phrifddinas fawr mwy na Kingston-upon-Hull ac mae’n llai na Doncaster. Mewn termau Ewropeaidd, mae Caerdydd tua’r un faint â phrifddinasoedd Albania a Slofenia, a chymru yr un faint â Latfia. Efallai fod yr holl weithgaredd theatrig eisioes yn anghymesur â’r boblogaeth, ond mae bron hanner pobl Cymru yn mynd i’r theatr o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae ymgyrch Bogdanov yn anghywir wrth honni bod theatr wedi methu â dod o hyd i gynulleidfa yng Nghymru – y gynulleidfa fwyaf bosib sy’n gymharol fach, dyna’r cwbl.

Yn eironig, daw’r Drafodaeth Fawr ddiweddaraf am Theatr Genedlaethol ar amser pan fo’r theatr yn Lloegr mewn cyflwr enbyd. Mae gwerth canrifoedd o ddatblygiad – o ddramâu crefyddol yr Oesoedd Tywyll trwy ddramâu miragl y canoloesoedd i lawnder cyfnod Shakespeare a’i gyfoedion,o’r ailadeiladu a fu ar y traddodiad ar ôl yr Adferiad i ffraethineb cain y ddeunawfed ganrif, ac o gydwybod gymdeithasol yr Edwardiaid i ddramâu cegin gefn y pumdegau a gwaith prif ffrwd lluosogaethol heddiw – mae’n edrych fel pe bai’r cyfan ar fin chwalu o fewn degawd wrth i gonglfaen y theatr Seisnig, y cwmni ‘rep’ fel y’i gelwir, fygwth diflannu unwaith ac am byth. Tua hanner cant ohonynt sydd ar hyd a lled Lloegr, y cwmnïau hyn sydd ynghlwm wrth adeilad ac sy’n hyfforddi a cyflogi actorion, cyfarwyddwyr, dylunwyr a thechnegwyr, gan gyflwyno gwaith dramodwyr byw yn ogystal â meistri’r gorffennol. Yn awr, mae’n ymddangos y gallent gael eu disodli gan tua dwsin o ‘uwch-gwmnïau’ a fydd yn ailgylchu yr un set o ‘glasuron’ hyd syrffed. Mae’r theatr yn Lloegr yn edrych yn llegach.

Mewn cymhariaeth, mae’r theatr yng Nghymru yn iach. Mae’r traddodiad ‘gwneud’ hwnnw wedi gwreiddio a gwaith yr arloeswyr – y cwmnïau Theatr Mewn Addysg/Theatr Gymunedol, Cardiff Lab, Moving Being – bellach wedi dwyn ffrwyth mewn gwaith cyffrous. Nid yw’r theatr hon yn perthyn o gwbl i draddodiad drama naturiolaidd Lloegr; yn hytrach, mae’n codi o amrywiaeth drawiadol o ffurfiau sy’n rhydd oddi wrth lyffeitheiriau’r traddodiad theatr llenyddol Gorllewinol. Drannoeth ymddangosiad erthygl Michael Bogdanov yn y Guardian, er enghraifft, gwrandewais ar Tower, drama farddonol, wleidyddol, wych Greg Cullen, y dramodydd o Bowys, wedi’i chynhyrchu yng Nghaerdydd a’i darlledu ar Radio 4. Yr un wythnos roedd Volcano Theatre, y cwmni o Abertawe, wrthi’n dadadeiladu Ibsen yn ei cynhyrchiad How to Live, yn Waterman’s yn Llundain. Roedd g_yl sgrifennu newydd Made in Wales, Trouble and Desire, yn cael ei chynnal yn y Point, Bae Caerdydd, ac roedd archwiliad sxyfrdanol Ed Thomas o Gymru’r dychymyg, Song for a Forgotten City (Y Cwmni), yn teithio i Aberystwyth a Llanfair ym Muallt cyn symud ymlaen i’r Royal Court. Yn y cyfamser roedd y cwmni theatr gorfforol a Abertawe, Frantic Theatre, yn cymryd golwg newydd ar Look Back in Anger John Osborne ac yn agor eu cynhyrchiad ‘ailweithio’ egnïol diweddara’, Volpone, yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin. Ym Mharc yr Arfau lansiodd Dalier Sylw gomedi wedi’i gosod ym myd rygbi, i gyd-daro â’r gêm ryngwladol rhwng timau merched Cymru ac Iwerddon. Parhaodd tymor Theatr y Sherman/HTV o ddramâu amser cinio, felly hefyd yr _yl Dawns Anibynnol yn y Chapter, gyda thros ugain o ddigwyddiadau. Yr wythnos gynt, cafwyd teledu cyffrous yn nangosiad S4C O Y Pen Bas/Y Pen Dwfn Brith Gof. Ledled Cymru roedd yna gwmnïau amatur yn perfformio mewn neuaddau pentre’ ac ysgolion. Yn fwy confensiynol, roedd Cwmni Theatr y Sherman yn teithio gyda Romeo and Juliet, Cwmni Theatr Gwynedd wedi cyrraedd Caerdydd gyda fersiynau Cymraeg a Saesneg o Cwm Glo Kitchener Davies a Mrs Warren’s Proffesion Cwmni Theatr Clwyd newydd gychwyn ei daith yn yr Wyddgrug. Y cyfan, bron yn ddieithriad, yn newydd, yn arbrofol, yn wahanol, yn Gymreig neu’n Gymreig ei flas, a hyn oll er gwaetha’ ‘sgandal’ y methiant i greu Theatr Genedlaethol.

Ers yr wythnos honno mae llawer wedi newid yn y byd theatr Cymreig; y mae, wedi’r cyfan yn ddiwylliant organig. Ond rwy’n credu bod yr amrywiaeth y gallaf i ei gweld bron bob dydd o’r wythnos yn cynrychioli gwir theatr genedlaethol Cymru. Heb briflythyren – ac fel arfer heb adeiladau theatr confensiynol.

awdur:David Adams
cyfrol:401, Mehefin 1996

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk