Marx ym Maztoca
Gareth Miles yn ysgrifennu drama i’w pherfformio gan gwmni a hyrwiddir gan fudiad Cymorth Cristnogol: dyna’r bartneriaeth annisgwyl a wnaed yn bosib gan gynhyrchiad Cwmni Rigoberta, Byd y Banc.
Gareth Miles yn ysgrifennu drama i’w pherfformio gan gwmni a hyrwiddir gan fudiad Cymorth Cristnogol: dyna’r bartneriaeth annisgwyl a wnaed yn bosib gan gynhyrchiad Cwmni Rigoberta, Byd y Banc. Roedd yn brosiect unigryw, yn ei ddefnydd o eglwysi cadeiriol fel canolfannau perfformio, a’i ddefnydd o gorws lleol ochr yn ochr â pherfformwyr a thîm proffesiynol. Adlewyrchir natur gyffrous ac unigryw’r cywaith gan faint y grant: hyd yn oed gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ynghanol yr helbul o geisio achub Theatr Clwyd, sicrhaodd Rigoberta ddwywaith y swm arferol ar gyfer grant prosiect.
Gyda phrosiect mor uchelgeisiol, mawr oedd y gobaith am gywaith a fyddai’n llenwi eglwysi cadeiriol Bangor, Tyddewi a Llandaf gyda chynulleidfa a chast. Y siom gyntaf, felly, ym Mangor, oedd cyn lleied y ddau. Trafferthion gweinyddol oedd yn rhannol gyfrifol am faint y corws o oddeutu dwsin a gymerodd ran, gyda’r cyfarfod cyntaf prin bump wythnos cyn y perfformiad. Fe elwodd y rhain yn fawr, fodd bynnag, o’r cyfle i weithio gyda chast a chriw proffesiynol, gan gyflawni eu gwaith yn effeithiol a llyfn. Dim ond yn y golygfeydd torfol y teimlwyd dirfawr angen am gorws mwy: gresyn bod yna gymaint o olygfeydd felly. Anos esbonio nifer siomedig y gynulleidfa: rhyw 80 a fynychodd y Gadeirlan a hynny ar nos Sadwrn. Doedd y poster ddim yn ddeniadol, a hwyrach bod angen priodoli rhywfaint o’r bai i ddiffyg profiad Cwmni Rigoberta a Chymorth Cristnogol wrth hyrwyddo prosiect theatr.
Roedd y ddrama a’r cynhyrchiad fel ei gilydd yn adleisio Hunllef yng Nghymru Fydd (drama Miles i Dalier Sylw) ond heb fod mor llwyddianus. Y broblem gyda Byd y Banc oedd y cynllun yn hytrach na’r ddeialog. Roedd cyd-destun a chyfiawnhad i’r areithio gwleidyddol; roedd cymhelliad y cymeriadau i gyd yn wleidyddol ond fe lwyddodd yr actorion i sefydlu eu hunigolyddiaeth. Ond roedd digwyddiad chwarter olaf y cynhyrchiad mor aqnghredadwy nes bygwth troi alegori yn ffars wleidyddol à la Dario Fo. Fel Hunllef yng Nghymru Fydd, roedd Byd y Banc yn honni bod yn gynhyrchiad promenâd, ond mewn gwirionedd yr hyn a gafwyd oedd perfformiad mewn sawl man mewn gwagle mawr a ddigwyddai fod yn eglwys. Dim ond yn yr olygfa a oedd yn eithriad i’r duedd yma, a ddigwyddai mewn capel bychan, y defnyddiwyd yr eglwys yn bwrpasol. Mewn mannau eraill cafwyd cyferbynnu digon effeithiol rhwng yr areithio rhagrithiol a’r awyrgylch defosiynol.
Fe fwynheuais i, a’r mwyafrif helaeth o’r gynulleidfa, anffurfioldeb y noson, gyda’r gynulleidfa fwy neu lai yn cael sefyll o gwmpas y digwyddiadau lle bynnag y mynnent. Dyma benderfyniad tyngedfennol gan y gyfarwyddwraig Menna Price: doedd y profiad ddim fel theatr na chwaith eglwys. Ategwyd yr argraff hon gan agoriad annodweddianol y cynhyrchiad wrth i gr_p cerddorol o Maztoca ein diddanu gyda chaneuon gwerin y wlad ddychmygol (a seilir yn amlwg ar El Salvador). Camp fwyaf y gyfarwyddwraig a’i thîm oedd llunio noson a oedd yn adloniadol heb ddiystyru oblygiadau difrifol y sgript. Dim ond wrth geisio llunio diweddglo taclus i danlinellu’rneges yr aeth sgript Miles yn drech na’r actorion a oedd tan hynny wedi cydweithio’n effeithiol. Syndod braidd yw gorfod nodii bob un o’r cast ifanc ond profiadol faglu dros ei eiriau rywbryd yn ystod y cynhyrchiad, ac nid nerfau noson gyntaf oedd yn gyfrifol, gan mai hwn oedd yr ail berfformiad.
Dyma brosiect anarferol a oedd yn sicr yn werth ei weld (ac yn werth ei ariannu), a diddorol fuasai cymharu’r perfformiad hwn â rhai’r lleoliadau eraill. Yn y pen draw, efallai fod diffyg graddfa fawr y prosiect, oedd yn siom cychwynnol, yn gymorth i hyrwyddo’r teimlad cymunedol a gafwyd, a mae’n si_r bod hyn wrth fodd Cymorth Cristnogol.
awdur:Gareth Miles
cyfrol:401, Mehefin 1996
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com