Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Colofn Gwyneth Glyn

Hud a Llediaith

Fe gafodd Gwyneth Glyn ei hysbrydoli mewn g_yl theatr yng Ngwlad Belg.

Pum niwrnod, deunaw cynhyrchiad, a chrap go gami ar yr iaith a fyddain gyfrwng ir wledd. Oeddwn in edrych ymlaen? Mais oui, bien sur!

Ond un peth ydi cael A serennog yn gy NhGAU Ffrangeg (h.y gallu dweud celwydd am fy anifeiliaid anwes ac archebu un verre de vin). Peth arall ydi gallu trafod rhagoriaethau dramu Kafta ymhlith academyddion, awduron ac actorion syn anadlu Anouilh, smocio Satre a chael Camus i frecwast (er bod un verre de vin o fudd yn hynny o beth.)

Nid g_yl gyhoeddus oedd Rencontres Thatre Jeune Public chwaith, ond cyfle ir bobl syn ymwneud byd Theatr-mewn-Addysg yng Ngwlad Belg i wylio a thrafod eu cynyrchiadau cyfredol. Rywsut neui gilydd, dan adain eang Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Arad Goch, (ynghyd i deulu annwyl a Ffion Bowen, un o actoresaur cwmni) mi lwyddais i sleifio ir digwyddiad heb i neb sylwi nad oeddwn in Felges na chwaith yn weithiwr Theatr-mewn-Addysg. Gwynfryd yr awdures rydd-gyfrannol!

Cynhelid y cyfan yn Huy; tref wledig go debyg i Llanbed, yn ardal Ffrengig y wlad. Roedd yno bump-ar-hugain o gwmnau yn llwyfanu wyth-ar-hygain o gynhyrchiadau, pob un wedi ei anelu at ystod oedran arbennig; rhai at fabanod o ddwy i bedair oed, eraill at bobol ifanc o dair-ar-ddeg i un-ar-bymtheg. Bu unwaith bwrpas mwy sinistr ir digwyddiad yn Huy, mewn cyfnod pan roddwyd grantiau ir cwmnau ar sail eu perfformiadau yn yr _yl. Bryd hynny, byddai tyndra annifyr wrth ir cwmnau orfod cystadlu yn erbyn ei gilydd am nawdd, a dyfodol pob un yn dibynnun llwyr ar safon eu cynhyrchiad (neun hytrach, ar ymateb y panel beirniaid.) Er bod y rheithgor yn bresennol o hyd yn yr _yl, ymylol yw eu swyddogaeth bellach, ac roedd naws hamddenol a chadarnhaol wrth ir cwmnau bwyso a mesur gwaith ei gilydd.

Cefais fy swynon llwyr gan un cynhyrchiad a anelwyd at y plant lleiaf, ac nid chwaith oherwydd mai hwnnw oedd yr unig ddarn yr oeddwn in deall bob gair (neu bron bob gair) ohonno. Cwmni IOTA oedd y tu l ir sioe un ddynes, a daflai olwg ar ein byd drwy gyfrwng siapiau geometraidd lliwgar. Ar un olwg, dim ond chwarae geiriau a chlustogau am dri-chwarter awr a ddarur actores droednoeth; ar olwg arall, tywysodd ni ar siwrnai o adeiladu a deall a chreu ein byd, gan ein ddangos sut, trwy roi rhwydd hynt in dychymyg, y gellir goresgyn a newid unrhyw sefyllfa a ddaw in rhan.

Ond onid oes elfen or prydferthwch yn llygaid y gwyliwr yn fymateb? Onid barn thesbaidd, ffuantus i gynhyrchiad simplistig ydi hyn? Onid oes modd dadansoddi unrhyw ddrama, unrhyw ddarlun, unrhyw ddarn o gerddoriaeth i olygu unrhywbeth a ddymunwn? Oes, efallai. Ond nid unrhyw ddrama ac nid unrhyw actores all ddal sylw cant o blant ac oedolion am dri-chwarter awr, or edrychiad cyntaf un ir geiriau clo, gan ein cyfareddu ir fath raddau fod sawl wyneb bychan mewn llesmair ar y diwedd (a dychmygwch gyffror rhai hynny pan gawsant y wefr o gael chwarae r clustogau am beth amser wedyn!)

Cyrhaeddais Huy yn barod i gael fy niflasu am hynysu gan iaith, diwylliant ac arddull ddiarth; gadewais wedi fysbrydoli gan afiaith unigryw a hyfdra dramu, neur spectacles, chwedl y Belgiaid. Oedd, mi roedd yna elfen fawreddog, ffantisol ir arlwy; a pham lai? Onid ffantasi ydi mawredd theatr? A pham cyfyngur elfen hudolus, gynhyrfus honno i fyd Theatr-mewn-Addysg? Addysg ydi pob theatr dda; cyfrwng inni ddysgu rhywbeth am y byd ac am y cyflwr dynol. Cyfrwng ir gwirionedd ydi theatr, nid cyfrwng i ffeithiau; ac yn groes ir meddylfryd seciwlar llethol, mae mwy ir gwirionedd na ffeithiau. Weithiau mae angen hud, lledrith a chelwydd noeth i ddod r gwirionedd hwnnw ir golau.

Nes nar hanesydd at y gwir di-goll

ywr dramodydd ffl sydd yn

gelwydd oll

chwedl R. Williams Parry.

Y darn a wnaeth yr argraff gryfaf arna i oedd cynhyrchiad gan Theatre Isocele or enw Lanniversaire dEva. Drama syml iawn oedd hon o ran strwythur, ond fel pob chwedl a dameg oedol, roedd hin gyforiog o arwyddocd dyfnach. Digwyddair cyfan mewn byd iwtopaidd dosbarth-canol lle mae pr priod wedi dianc i roi magwraeth ddiogel iw merch fach, Eva. Drwy ailymweld r teulu ar benblwydd Eva yn saith oed, yn ddeg oed ac yn dair-ar-ddeg, gwelwn sut mae traddodiadau disymud, digwestiwn, yn gallu andwyo datblygiad plentyn; dangosir sut y gall diflastod diogel fod yn fwy niweidiol i blentyn na holl beryglon y byd. Er bod llawer or eirfa tu hwnt i mi, roedd y stori mor glir, mor gryf, nad oedd modd peidio deall a gwerthfawrogir hyn oedd yn digwydd. Amlygid y neges drwy weithred yn hytrach na thrwy eiriau; a dyma gael fatgoffa mor bwerus y gall hynny fod, pan gaiff themar ddrama ei sibrwd drwy ystym, yn hytrach nai chorchlefain o enaur prif gymeriad.

Mae modd perthnasau neges y ddrama honno i gynhyrchwyr Theatr-mewn-Addysg yn gyffredinol. Mae perygl mewn unrhyw faes syn ymwneud phlant ifainc i osgoi unrhyw beth dieithr, dychrynllyd (yn enwedig yn yr oes bidoffilaidd, baranoid sydd ohoni.) Gall y cyfrifoldeb a deimlwn fel rhieni a gwarchodwyr ac athrawon; y reddf naturiol i anddiffyn ein hieuenctid rhag drychiolaethaur Byd Mawr Drwg; gall y reddf honno fygu a mathru dychymyg plentyn; yr union ddychymyg y ceisiwn ei arbed. A chymaint o drais amrwd yn ein cyfryngau, a hithau mor anodd llochesu plant rhag delweddau o ryw, marwolaeth a chyffuriau, mae mwy o angen nag erioed am theatr bwerus, onest i blant, syn mynd i afael r pynciau dyrys yma; neu o leiaf sydd ddim yn eu hanwybyddu.

A minnau bellach yn y broses o ysgrifennu a chyfarwyddo sioe un ddynes ar gyfer Cwmni Arad Goch; sioe wedi ei hanelu at blant rhwng pedair a saith oed, dof wyneb-yn-wyneb r cyfyng-gyngor yma yn gyson. Maen bicil syn gyffredin i unrhyw un a geisiodd difyrru plentyn drwy adrodd stori. Sut mae diddanu heb orddychryn? Sut mae cuddior ych-a-fis heb lastwreiddio a diflasu?

Penderfynais lwyfannu fersiwn o chwedl Grasi- stori syn agos i nghalon ac im bro enedigol yn Llanarmon, Eifionydd. Tynnodd Jeremy Turner fy sylw at y ffaith ei bod hin stori echrydus o ddigalon. Roedd on iawn. Nid yn unig maer prif gymeriad yn colli ei chartref, ei theulu ai holl ffrindiau (h.y popeth syn gyfarwydd iddi) rhaid iddi hefyd fyw hefor euogrwydd mai hi ei hun syn gyfrifol am y drychineb. Fel pe bai hyn oll ddim yn ddigon, cosb Grasi yw cael ei throi yn alarch, yn gaeth iw hadlewyrchiad euog ar wyneb y llyn; y llyn a foddodd ei chynefin.

Fem denwyd at y stori nid yn unig oherwydd bod adleisiau o chwedl Seithennyn a hanes Tryweryn ynddi, ond hefyd oherwydd bod cyfrifoldeb person dros ei weithredoedd ei hun hyn yn themau ddyrys, ac un un syn hollbwysig i fynd ir afael hi yn yr oed dan sylw. Yn her fydd yn fy wynebu i ar actores Ffion Bowen fydd cyflwynor stori mewn modd derbyniol i blant rhwng pump ac wyth oed, heb golli dim oi heffaith ddramatig na grym ei neges. Ond sut bmae ymdrin r ffaith fod Grasin colli popeth ar diwedd y stori?

Diweddglo hapus ydi un tric storol syn caniatu i rywun gael maddeuant am ddatgelu drychiolaethaur fall. Cymerwch chwedlaur Brodyr Grimm, syn ymdrybaeddu mewn poen a galar a cholled; neu manylyn erchyll yn stori Hansel a Gretel, pan ddisgrifir y Wrach yn bwydo Hansel er mwyn ei besgi ai fwyta. Achubir Hansel gan ei chwaer, ac aiff y manylyn canibalaidd yn angof llwyr erbyn y diweddglo hapus. Ond a oes llei i ychwannegur fath ddiweddglo dedwydd i straeon sydd, fel arall, yn gorffen yn ddigalon? Onid twyll yw hynny? Oni fyddai newid chwedl Grasi fel ei bod hi, drwy ei hedifeirwch, yn cael dychwelyd iw stad flaenorol gydai theulu, ei ffrindiau ai chynefin mewn un darn oni fyddai ystymior diweddglo ir fath raddau yn dangos yr un gwendid, yn cyflawnir un drosedd, rhieni Eva yn nrama Theatr Isocele? Os mai un o ddibenion y prosiect yw addysg plant am bwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd, yna byddai gwyrdroir drychineb yn ddiweddglo hapus yn gyrru neges dra chymysglyd: cyn belled ch bod chin difaru digon am eich drwgweithredoedd, gallwch ymddwyn yn hollol anghyfrifol heb ddioddef unrhyw golled dymor-hir!

Bm i a Ffion yn trafod sawl ffordd bosib o oresgyn yr anhawster, ac rydw i bellach yn ffyddiog y gallwn aros yn driw ir stori heb hunllefau dirfodol in cynulleidfa ifanc. Drwy i gymeriad Ffion adrodd, neun hytrach greu stori Grasi o flaen y plant, bydd y golled yr un mor wir, ond yn llai uniongyrchol, a gallant werthfawrogi sut y bu raid i Grasi ddod i delerau hefoi gweithredoedd. Efallai nad person go-iawn mohoni, ond mae ei phenderfyniadau ai dewisiadau yn effeithio ar gwrs ei bywyd hi go-iawn, a dymar elfen o gyfrifoldeb syn hanfodol iw gyflwyno yn y cynhyrchiad.

Os bydd y prosiect yn un llwyddianus, bydd sioe Grasi yn cael ei llwyfannu yng Ng_yl Agor Drysau, a drefnir gan Jeremy Turner yn Aberystwyth fis Mawrth nesaf. Dyma gyfle hefyd i weld goreuon gwaith Theatr-mewn-Addysg o bob rhan o Ewrop. Bu g_yl Rencontres Thatres Jeune Public yn ysbrydoliaeth yn hynny o beth, gan imi ddarganfod, or newydd, bosibiliadau diddiwedd y llwyfan. Cefais fatgoffa gan sawl cynhyrchiad o natur goruwchnaturiol theatr; ei bod yn gyfrwng sydd yn ddibynol ar driciau, gwyrdroadau a syndodau. Maer elfen yma yn hollbresennol yng ngweithiaur mawrion, boed ar lefel emosiynol (Soffocles, Shakespeare, Saunders) syniadol (Tom Stoppard) ymarferol-weledol (Edward Albee) neu ar lefel eiriol (Aled Jones-Williams). Yn nhywyllwch a thawelwch y theatr, mae pob aelod or gynulleidfa yn blentyn unwaith eto; yn ysig am stori, yn aros i gael ei diddannu ai synnu ai gyfareddu. Os na ddeallais chwarter cynnwys ieithyddol y cynyrchiadau, dwin meddwl imi ddysgu rhywbeth pwysig, sef nad rhywbeth iw ddeall ydi theatr fel y cyfriw, ond rhywbeth iw werthfawrogi, yn yr un modd ag y mae plentyn yn gwerthfawrogi stori neu dric neu dda-da; nid fel rhywbeth y mae o neu hi wedi ei ddeall, ond fel digwyddiad cyfrin, tu hwnt i reswm.

Soniar dramodydd ar bardd Ffrengig Antonin Artaud am gyfrinedd theatr, a sut mae unrhyw ymgais iw chyfyngu i dermau deallusol, yn weithred ddiystyr.

Y peth pwysig, meddai, yw bod ein hymwybyddiaeth yn cael ei rhoi mewn std dyfnach, fwy cynnil o amgyffred, a hynny drwy dulliau sicr; sef union amcan hud a defod. Adlewyrchiad o hynny yw theatr.

Nid fod pob consuriwr yn llwyddo, wrth reswm; a dichon ein bod ni i gyd rywdro wedi gorfod anwybyddu cornel y sgarff yn sbecian or boced l, y symudiad amheus cyn ir cerdyn ymddangos; y blew cwningen ar yr esgid. Mae yna driciau da a thriciau gwael; rhai syn gweithio a rhai syn syrthion fflat. Ond mae yna ddewrder yn y weithred o wneud tric; dengys fenter a hyder a ffydd. Maer oedolion yn gofyn sut y gwnaethpwyd y tric, tra maer plentyn yn gofyn am gael ei weld drachefn. Dymar gwahaniaeth sylfaenol; angen yr oedolyn i ddeall, ac angen y plentyn i brofi. Rhaid ir cynhyrchydd Theatr-mewn-Addysg, fel consuriwr slic, fodlonir ddau gyda rhith a rhesymeg. Gwell i minnau ddechrau ymarfer y grefft.

awdur:Gwyneth Glyn
cyfrol:502, Tachwedd 2004

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk