Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

DAU GYMERIAD – A MWY

Dawns y Dodo (Theatr Gorllewin Morgannwg) Cyfarwyddwr: Tim Baker

Fe fydd un o emynau enwocaf David Charles yn sicr o ddo i’r cof wrth weld y berl o ddrama gan Theatr Gorllewin Morgannwg, oherwydd ‘O fryniau Caersalem ceir gweled / Holl daith yr anialwch i gyd, / Pryd hyn y daw troeon yr yrfa / Yn felys i lanw ein bryd’.

Dyna yn union sy’n digwydd i’r ddau gymeriad sef Idris a Cissie. Rhywsut gyda’r ddau ‘yn nofio unwaith eto y tu draw i’r llen. Cawn ail-fyw ei gorffennol, a buan y gwelwn nad gwynfyd mohonom ond stormydd ac ofnau.

Wrth iddynt edrych yn ôl, caiff y ddau gyfle i edrych ar eu hymddygiad. Dyma ble cwyd yr hiwmor wrth iddynt weld eu hunain am y tro cyntaf. Gallwn gyd-chwerthin â’u camau gwag, cyd-dosturiol wrth i ffaeleddau’r natur ddynol ymddangos. Cawn weld eu hagwedd at ei gilydd yn newid â threigl y blynyddoedd. Nid yw breuddwydion y ddau yn cael eu cyflawni; ac o ganlyniad mae’r gwynfyd dechreuol, wrth i’r ddau gytuno i ddawnsio, yn ymbellhau, nes nad oes amser nac awydd i gyd-ddawnsio. Rhwygir y rhamant gan realiti rhigolau bywyd. Y mae’r ddau yn euog o ddyheu a hiraethu, ac yn gweld bai ar ei gilydd ac arnynt eu hunain, wrth iddynt fethu â chyrraedd pinaclau eu breuddwydion.

Gwibia’r ddwy awr heibio fel fflach eiliad. Y mae’r actio yn rymus gan Manon Eames a Ioan Hefin, sy’n llwyddo i gyfleu afiaith ac asbri ieuenctid gan heneiddio’n gredadwy. Llifa’r ddeialog yn esmwyth, a phleser yw cylwed y llefaru, gyda’r Gymraeg yn rhywiog a glân.

Er mai cyfres o ôl-fflachiadau yw’r ddrama, nid oes yma gymysgwch na dryswch. Nid oes perygl i’r gynulleidfa golli llwybr y ddrama, gan fod iddi ffrâm gref. Fel yn y stori fer ar ei gorau, mae eiliad yr agor ac eiliad y cloi yn rhai agos iawn, ond cawn ddarlun crwn a chyfoethog o fywyd rhwng y ddau bwynt.

Y mae’r cymeriadau yn rhai diddorol. Perthyn rhyw elfen stwbwrn i Idris. Tebyg mai un o’r rhesymau am fethiant perthynas yw anallu dyn i gyfaddef ei fod ar fai. Gwelir yr elfen hunangyfiawn yn Idris yn creu stomp o bethau. Ei bechod yw ei dyheadau. O ganlyniad try’n anystyriol o’i gymar. Efallai bod cariad yn ddall, ond mae’r carwr ifanc yn sensitif ac yn llwyr ymwybodol o deimladau ei wraig. Tra mae priodas yn agoriad llygad, â’r g_r yn ddall i’r defyllfa. Dioddefa’r wraig, a’n gadael ninnau’n cydymdeimlo, hyd yn oed yn ysu am i’r ddau gofleidio ac ailfeddiannu’r dedwyddwch gynt. Ond trwy’r dioddef daw Cassy i’w adnabod ei hun. Materoliaeth y byd modern yw’r bwystfil sy’m rhwystro twf perthynas y ddau.

Gan mai neges bositif yw sail y ddrama, sef cariad yn concro’r anawsterau, perthyn melyster i’r holl chwarae wrth i gryfder eu cariad dywys y ddau drwy’r crio a’r chwerthin.

Defnyddir y llwyfan yn effeithiol, gyda’r llenni a’u lliwiau meddal yn creu awyrgylch o ddedwyddwch. Soniarus ac effeithiol yw’r gerddoriaeth, a wna gyfanwaith di-dor o’r golygfeydd.

Ar ddiwedd y perfformiad gafaelgar hwn, gallwn dyngu fy mod wedi cwrdd â llawer mwy na dau gymeriad. Roeddwn yn ymwybodol o’r bobl drws nesaf, gwelais y mab Gareth yn tyfu ac gwrthryfela yn erbyn ei dad a chyflogwr Idris.

Tybed a oes yna gwestiynau y dylid ei gofyn? Er enghraifft, a oes yma adleisiau i ddramâu eraill? Ai dyma’r ddrama Gymraeg gyntaf i’w gosod yn yr oes a ddêl? Wn i ddim. Ac _yr neb arall i sicrwydd, nes i ni gael Cydymaith I’r Ddrama Yng Nghymru. Ac y mae’n ddyletswydd ar rywun i gyhoeddi’r ddrama hon. Y mae ar ein hysgolion angen dramâu a Chymraeg yn falch o’i chael. Fel athro gallaf gadarnhau bod yna ddigon o nofelau ar y silff bellach, ond fawr ddim dramâu. Tybed beth a ddigwyddodd i ddramâu cystadlaethau’r Eisteddfod dros y blynyddoedd? Yr holl a gyfieithwyd, yr holl gyfoeth. Perthynant i fyd y Dodo. Ond dwi’n falch crwydro. Yn ôl at Dawns y Dodo.

Dyma seren ddisglair ym mhennod ddi-fflach a thywyll y ddrama lwyfan yng Nghymru heddiw. Dyma ddrama y medr pob ysgol hebrwng eu plant i’w gweld heb ofni iddynt golli diddordeb. Pwysaf ar i bawb fynd i weld y gomedi dywyll hon a ysgrifennwyd gan Tim Baker, Manon Eames ac Ioan Hefin. Y mae’n sicr o wefreiddio.

Bydd Dawns y Dodo ar daith yn ystod yr wythnos nesaf.

Athro Cymraeg yn Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri, yw Ion Thomas

awdur:Ion Thomas
cyfrol:362, Mawrth 1993

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk