Croesffordd Cymreictod
Cefndir a lleoliad drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr yw... Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr. Ond sut Gymru a sut Gymry sydd yno? Cafodd MENNA BAINES ragflas mewn sgwrs â’r awdur, Geraint Lewis.
Mae Geraint Lewis yn meddwl am theatr fel rhywbeth â’i wreiddiau yn ddwfn mewn defodau, a does dwywaith fod ôl yr ymwybyddiaeth honno ar ei waith. Mae defod o ryw fath neu’i gilydd wedi bod yn ganolog yn ei ddramâu llwyfan hyd yn hyn. Yn Y Cinio, a doedd yn trafod dynion ar eu gwaetha’ rhemp mewn cinio clwb rygbi, roedd yna ddefod ddoniol lle gwelwyd tri dyn yn malu eu bysedd â charreg fawr ar lan afon yn enw gwryw-dod. Llys barn oedd y ddefod yn The Language of Heaven, wrth i’r awdur Caradoc Evans, neu yn hytrach ei ysbryd, gael ei roi ar brawf er mwyn penderfynu ai i’r nefoedd ynteu i uffern yr âi. Ac mae yna ddefod arall ynghanol y ddrama newydd – defod yr Orsedd, gydag un cymeriad yn cael mynediad iddi am y tro cynta’.
Comedi, fel y ddwy arall, yw Y Groesffordd, drama gomisiwn yr Eisteddfod eleni, a berfformir gan Dalier Sylw. Ac mae ei lleoli yn y brifwyl ei hun yn fodd i ddwyn ynghyd ddau gwpwl tra gwahanol. Mae traean y ddrama’n digwydd mewn tagfa draffig yn Trap, ger Llandeilo – lle arall – ac yno mae Huw Gorslas a Lowri yn cwrdd â Gaz a Cheryl. Perchenog garej lleol yw Huw (Dewi Rhys Williams), sydd hefyd yn gyflwynydd rhaglen deledu boblogaidd, ac mae ei wraig Lowri (Mari Emlyn) yn gweithio i’r Bwrdd Croeso. Pâr o’r cymoedd yw Gaz a Cheryl, wedi dod i’r Eisteddfod am y tro cynta’ – Gaz (Ian Rowlands) yn nyrs ac yn ‘born-again Welshman’ a Cheryl (Shelley Rees) yn gweithio’n rhan-amser y tu ôl i’r bar mewn clwb nos. Rydym yn dal y pâr cyntaf mewn cyfnod lletchwith yn eu hanes, wrth i’r cylchgrawn Lol ddatgelu bod Huw yn cael perthynas ag un o staff cantîn Heno y tu ôl i gefn Lowri, ac wrth i Lowri ei hun fynd trwy’r creisis personol o groesi’r deugain oed. Nid yw’r pâr arall heb eu problemau chwaith – mae Gaz, ar ôl breuddwydio cymaint am ddod i’r Eisteddfod, yn gofyn am ddadrithiad ac nid yw Cheryl eisiau bod yna o gwbl. Mae’r pedwar yn treulio’r rhan fwya’ o’r ddrama – a’r Eisteddfod – yn ffraeo.
‘Mae Huw a Lowri yn cynrychioli’r dosbarth canol Cymraeg, proffesiynol, diwylliediga Gaz a Cheryl yn perthyn i’r ‘Gymru newydd’ – cefndir dosbarth gweithiol, wedi bod trwy’r system addysg ddwyieithog,’ meddai Geraint Lewis. Ond wrth iddo brysuro i ddweud nad yw pethau ‘mor ddu a gwyn â hynny,’ mae ei resymau dros ddewis yr Eisteddfod fel cefndir yn dechrau dod yn amlwg. Y ciciwr eiconau sydd wrthi unwaith eto, a does dim prinder o’r rheiny ar faes y brifwyl.
Dyna’r Wisg Werdd i ddechrau, honno y mae Huw Gorslas- Huw o’r Gors – i’w chael yn ystod yr wythnos am ei gyfraniad i adloniant Cymraeg fel cyflwyniad Gwerin Gwalia, rhaglen lle mae’n cyfweld ‘cymeriadau’ y werin briddlyd ar lannau gwahanol afonydd. Ond Gaz – y boi o’r cymoedd sydd wedi gwirioni ar y gynghanedd ac sydd eisiau llofnod Gerallt Lloyd Owen – sy’n cael y wefr fwya’ wrth roi’r wisg amdano. Mae Lowri wedyn yn eicon ar ddwy droed, wedi’i gwisgo fel Siân Owen Ty’n-y-Fawnog (y ddynes mewn gwisg Gymreig yn ‘Salem’, llun Curnow Vosper) i groesawu pobl – yn enwedig tramorwyr swyddoglyd – i stondin y Bwrdd Croeso.
Ond cyn bod neb yn mynd yn agos at y maes, mae yna ddefod Eisteddfodol arall i fynd trwyddi – tagfa draffig. I’r awdur, mae agor y ddrama fel hyn nid yn unig yn ffordd o roi cymeriadau sydd dan straen yn barod dan fwy fyth o straen nes bod gwrthdaro’n anochel, ond yn gyfle hefyd i gyfleu’n weledol y syniad canolog sydd y tu ôl i’r cyfan.
‘Mae e’n drosiad defnyddiol i ofyn y cwestiwn, ‘Ble y’n ni’n mynd, fel cenedl?’ Mae e’n cyfleu’r stâd o fod yn ddigyfeiriad, sy’n adlewyrchu ein stâd ni fel Cymry ar hyn o bryd. Ac mae’r ffaith fod y cyfan yn digwydd ar groesffordd yn cyfleu’r syniad fod pethau ar fin newid, fel y maen nhw ar fin newid yn ein hanes ni fel cenedl, a ninnau ar drothwy mileniwm newydd, newid llywodraeth yn edrych yn fwy a mwy tebygol, a sefydlu cynulliad yn sgil hynny. Mae e’n cyfleu cyfeiriadau a phosibiliadau newydd, a’r elfen o orfod dewis ffordd ymlaen – fe fydd y cyfan yna’n dod yn real iawn i ni, dwi’n meddwl, yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesa’.
Trwy gyflwyno pedwar perspectif gwahanol ar y brifwyl, mae Geraint Lewis yn gobeithio codi cwestiynau ehangach am Gymreictod. Y tu hwnt i’r cecru, mae yna gwestiwn difrifol. Lle mae’r man cyfarfod rhwng Cymreictod newydd y de-ddwyrain – Cymreictod Gaz a Cheryl – a Chymreictod mwy traddodiadol ardaloedd y gorllewin, a faint mae’n rhaid i’r ddwy ochr blygu er mwyn symud ymlaen?
‘Y peryg gwaetha’ yw gwahanu, mynd i wahanol gyfeiriadau a gwanhau. Mae yna optimistiaeth am dwf yr iaith yn y de-ddwyrain, ond mae’n rhaid sylweddoli ein bod ni’n mynd i golli’r bobl yna os nad y’n ni’n cynnig rhywbeth gwell iddyn nhw na ladi fach Gymreig mewn hat.’
Ond os oes yna wneud hwyl am ben teipiau yn Y Groesffordd, mae yna hefyd haenau bwriadol o gymhlethdod a pharadocs i’r sawl a fynn eu gweld.
‘Mae tri o’r pedwar cymeriad yn twyllo’u hunain i raddau. Mae Huw, ar yr wyneb, yn ymddiddori yn y Pethe, ond mewn gwirionedd ffrynt yw hynna, ac mae delwedd yn bwysicach na sylwedd iddo. Mae delwedd yn bwysig i Lowri hefyd, sy’n gwerthu delweddau o Gymreictod yn rhinwedd ei swydd gyda’r Bwrdd Croeso. Mae Gaz wedyn yn gorddelfrydu Cymreictod. Cheryl, mewn gwirionedd, yw’r unig un sydd â’i thraed ar y ddaear. Mae ei pherspectif hi ar y ‘Steddfod yn fwy caled – dyw hi ddim yn disgwyl mwy na chyfle i wneud ceiniog neu ddwy trwy werthu stwff glanhau carpedi...’
Fel gyda’i ddwy ddrama flaenorol, fodd bynnag, mae Geraint Lewis yn gobeithio bod yr hwyl yn amlycach na’r athroniaeth yn Y Groesffordd. Comedi yw ei brif ddiddordeb, ac wrth barhau i arbrofi gyda thechneg comedi, a hynny gyda’r un cwmni a’r un gyfarwyddwraig, Bethan Jones, mae’n teimlo ei fod yn graddol feithrin ei arddull ei hun. Mae’r elfennau swreal a oedd yn nodweddu Y Cinio (bwgan brain) a The Language of Heaven (angylion) yma eto, gyda’r ymdriniaeth ag eiconau ‘yn ddoniol mewn ffordd wyrdroëdig, ond hefyd yn sinestr, gobeithio.’
I lawer o selogion y theatr Gymraeg, mae llais fel un Geraint Lewis yn awyr iach ar ôl realaeth theatr gymunedol y saithdegau a’r wythdegau. Bydd y rheiny’n edrych ymlaen at weld beth sy’n digwydd wrth i begynau Cymreictod daro’n erbyn ei gilydd yn wyneb haul, llygad goleuni ym Mro Dinefwr.
awdur:Menna Baines
cyfrol:401, Mehefin 1996
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com