Chwilio’r Corneli Tywyll
Epa yn y Parlwr Cefn gan Siôn Eirian Cyf. Eryl Phillips Dalier Sylw
‘Sleaze’ ydi gair mawr y nawdegau. Lle’r oedd yr wythdegau yn croesawu menter ac entrepreneuriaeth, lle’r oedd yr unigolyn yn frenin a’r cwsmer yn rheoli. Lle’r oedd rhyddid yn dod ar ffurf ffôn car a siâr yn BT, dechreuwyd talu’r gost yn y nawdegau. Dechreuwyd siecio’r biliau ac olrhain galwadau. Mae’r ‘sleaze factor’ yn dechrau gorfodi aelodau seneddol a dynion busnes i ll’nau eu cypyrddau a llosgi’u cyfrinachau. Mae peirianwaith Thatcheriaeth yn dechrau dod i’r golwg, a dan y wyneb hi-tech, mae yna hen olwynion a phistynnau digon rhydlyd, cyn hyned â materoliaeth a thrachwant dynoliaeth.
Gwreiddyn y ‘sleaze’ yw y modd y ceisiodd y llywodraeth yn ystod yr wythdegau guddio eu trachwant hwy a’u cefnogwyr dan ryw haen o foesoldeb a pharchusrwydd – ‘gwerthoedd y teulu’, ‘y mwyafrif moesol’. Mae’r datguddiadau diweddar yn dangos mai dim ond haen artiffisial oedd y ‘moesoldeb’ bondigrybwyll yma. Fel yn yr oes faterol fawr arall honno, oes Fictoria, yr oedd Thatcher am ei gweld yn cael ei hailorseddu a hi’n ben arni, o dan wyneb ffyniannus y chwyldro technolegol roedd pob math o anghyfiawnder a thrueni yn llechu – sawl epa mewn parlwr cefn. Edrych ar ein byd ôl-fodern, ôl-Thatcheraidd o safbwynt cynrychiolwyr yr isfyd hwnnw a wna drama ddiweddaraf Siôn Eirian.
Tair putain, a pherchennog y fflat, lle maent yn gweinyddu eu gwasanaeth yw cymeriadau’r ddrama, ac un o lwyddiannau mawr y ddrama oedd creu byd cwbl gredadwy, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. ‘Dwn i ddim ai arwydd ein bod yn aeddfedu fel pobl yw ein bod o’r diwedd yn ddigon hyderus i bortreadu byd a chymeriadau o’r fath drwy gyfrwng y Gymraeg – bod ein Cymreictod bellach yn cwmpasu byd merched y nos yn ogystal â gweinidogion y goleuni – neu ai arwydd arall o gyflwr y Gymru gyfoes yw ein bod yn gwbl greadadwy bellach bod yn rhaid i Gymry ifanc hefyd werthu eu cyrff er mwyn mynd trwy goleg.
O ddewis edrych ar gymdeithas o safbwynt y puteiniaid roedd yn rhaid medru gwneud hynny yn gwbl gredadwy. Dewisodd yr awdur ddefnyddio iaith front pobl y stryd er mwyn ein gorfodi i wynebu hylltra eu bywydau. Mae rhai wedi dweud bod gormod o regi yn y ddrama. Yn fy marn i roedd y cyfan i bwrpas. Ar ôl ychydig funudau doeddwn i ddim yn sylwi ar y rhegfeydd aml – mwy nag y mae rhywun yn sylwi mewn gêm bêl-droed neu ynghanol criw swnllyd mewn tafarn adeg yr Eisteddfod. Mae’r rhegfeydd yn rhan o’r llifeiriant geiriau. Ond trwy ddefnyddio rhegfeydd aml, caled, roedd yr awdur yn gwneud pwynt o bwys, sy’n ganolog i’r ddrama. Pan fo rhegfeydd yn digwydd mor aml, tydi rhywun ddim yn ystyried ystyr y geiriau – beth maent yn ei olygu go iawn. Mae clustiau rhywun yn cael ei disensiteiddio. Ond yn awyrgylch y theatr mae’r rhegfeydd yn galed, yn brifo – ac yr oedd disgrifiadau’r genod o’r weithred rywiol, a’u gwisgoedd, yr un mor galed.
Onid dyna a wnaeth masnacheiddiaeth yr wythdegau – dod â phopeth i lawr i’w werth ariannol, yn cynnwys cariad a rhyw a chwant a serch. Dyma gyfnod o ddisensiteiddio dychrynllyd – doedd dim yn cyfri ond y pres, neu’r plastig yn ein poced. Dyna oedd yn mesur gwerth dyn. Ac o ddod i nabod ein gwerth, yr ydan ni’n dechrau disgwyl cael ein talu yn ôl ein gwerth. O leiaf roedd y puteiniaid yn nrama Siôn Eirian yn gwbl glir yngl_n â hynny. Roedden nhw’n gwybod eu gwerth ac yn codi yn ôl yr awr.
Roedd y landlord, Mr Scoot, hefyd yn gwybod ei werth, ac yn gwybod gwerth y t_ lle’r oedd y puteiniaid yn gweithio. Ac am y rhan fwyaf o’r ddrama, fo oedd yn dal yr awenau, yn bygwth y genod, yn eu dilorni fel gwehilion cymdeithas, yn ceisio sicrhau nad oedd neb o’i gyfeillion parchus yn sylweddoli pa weithgaredd oed yn digwydd ym mharlwr cefn y parchus Mr Scoot, a ddyfynnai benillion gwerinol yn y clwb cinio. Yna, un Nadolig, canfu Mary fan gwan Mr Scoot, ac am ennyd roedd y grym yn ei dwylo hi, yn llythrennol felly, a Scoot yn gwingo dan ormes ei ofnau a’i gymhlethdodau rhywiol.
Roedd hon yn ddrama ddewr a phwerus a chwbl nodweddiadol o waith Siôn Eirian yn chwilio corneli tywyll y profiad o fyw yng Nghymru yn niwedd yr ugeinfed ganrif. Roedd yma ddychanu deifiol ar fath arbennig o ddyn busnes o Gymro – yn rhamantu’r hen ddiwylliant ac ethos siop y gornel, tra yn gwbl ddiegwyddor ei hun (cyn belled â’i fod yn gwneud rhyw gyfraniad bach blynyddol i’r anffodusion yn Rwanda). Roedd perfformiad Steffan Rhodri yn ddoniol ac yn ddeifiol, yn rhyw groes rhwng Bobs Pritchard a Gwyn Jones (WDA gynt).
Ac roedd portreadau Siân Rivers, Maria Pride a Medi Evans hefyd yn argyhoeddi’n llwyr, y butain brofiadol â chalon fawr, y ferch a gafodd ei chamdrin ac a oedd yn byw mewn byd ffantasïol, yn dyheu am Rwsiad a’i carodd unwaith, ar’ myfyriwr oedd angen arian i gyflawni ei huchelgais. O dan ormes eu sefyllfa yr hyn oedd yn cael ei aberthu oedd eu dynoliaeth, er bod eu hymlyniad a’u teyrngarwch i’w gilydd, ac i’w chwiorydd ar y stryd, yn torri drwodd fel enfys drwy’r gawod yn awr ac yn y man.
Roeddwn i’n credu bod yr act gyntaf yn gryfach o ran y cymeriadu na’r ail, ac fe aeth hanes y darlithydd ar goll yn rhywle. Fe fyddai datblygu yr elfen honno wedi ychwanegu dimensiwn arall i’r stori yn yr ail act. Doedd dim llawer o oleuni yn aros ar ddiwedd y ddrama – creaduriaid digon ciaidd a hunanol oedd y rhan fwyaf o’r cymeriadau – ein troi ni i gyd, trwy ddefnyddio diweithdra a grymoedd y farchnad, yn bobl llai dynol, mwy hunanol. Gan nad oedd hi ei hun yn credu bod ffasiwn beth â chymdeithas, fe wnaeth ei gorau glas i ddileu am byth.
Eto yr oedd yna gymdeithas rhwng y merched hyn yn treiddio trwy’r tywyllwch, ac yr oedd yna ddynoliaeth fawr hefyd – yn arbennig yn hanes ingol y bachgen thalidomide. Y frwydr fawr rhwng y natur ddynol a grymoedd y farchnad oedd yn cael ei hymladd ym mywydau’r cymeriadau hyn – ac fel yn holl waith Siôn Eirian, er gwaethaf ei weledigaeth dywyll, fe _yr fod yn y natur ddynol ‘ddewrder sy’n dynerwch’.
awdur:Iwan Llwyd
cyfrol:383, Tachwedd 1994
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com