Moliére a’r meddygon
Am y tro cyntaf ers dros ugain mlynedd, caiff cynulleidfaoedd ledled Cymru gyfle y mis hwn i fwynhau noson o hwyl hen-ffasiwn yn gwylio dwy gomedi o law Molière, crëwr a meistr comedi fel y syniwn ni amdani heddiw. Mae Cwmni Theatr Gwynedd ar daith yn cyf
Gwelwyd Y Claf Diglefyd am y tro cyntaf yn Theatr Fach Llangefni yn 1969, a bu Cwmni Theatr Cymru â hi ar daith lwyddiannus iawn yn 1971, pryd y gwelwyd hi gan ryw 36,000 o wylwyr i gyd. Mae’n weddol gyfarwydd felly i un to o fynychwyr y theatr, ac fe’i cyhoeddwyd yn 1972. Bydd yr ail gomedi’n llai cyfarwydd: cyfieithwyd hi gan Saunders Lewis dan y teitl Doctor er ei waethaf yn 1924, mewn Cymraeg clogyrnaidd a sensoredig, anaddas iawn i’r llwyfan. Nid oes flewyn ar dafod Annes Gruffydd yn ei fersiwn afieithus, newydd sbon danlli hi.
Mae cynhyrchiad gwreiddiol a dyfeisgar Graham Laker a Ferenza Guidi yn torri tir newydd. Yn sylfaenol, yr un cocyn hitio sydd yn y ddwy gomedi, yr un rhai a ddychenir yn ddidrugaredd; sef, meddygon, meddygaeth, a’r rhai sy’n ddigon hurt a hygoelus i gredu ynddynt yn hollol gibddall. Bu’r thema gyffredin hon yn fodd i’r cynhyrchydd asio’r ddwy gomedi’n ddeheuig, gyda diweddglo’r Claf Diglefyd yn arwain yn ddigon naturiol i’r Doctor Di-glem.
G_r obsesiynol, monomaniad, yw Argan, arwr comig Y Claf Diglefyd. Fe gred ei fod yn ddifrifol wael, ac mewn perygl o farw, ac o’r herwydd mae’n talu ffortiwn i feddygon siarlatanaidd megis y Doctor Diafoirus a’i dwpsyn fab Thomas. Mae’n llyncu puls a ffisig yn ddi-baid, yn mynnu cael ei waedu’n aml ac yn cael sawl enema. Rhaid bod hyn oll yn angenrheidiol ac yn effeithiol, gan ei fod, mewn gwirionedd, mewn iechyd perffaith. Ond ni thalai iechyd perffaith ddim i Diafoirus a’i fab. Daliant i ddychryn yn hen Argan hygoelus gyda’u jargon, eu fformiwlâu Lladin a’u mymbo-jymbo. Oni fyddai’n rhatach cael meddyg yn y teulu, fel mab yng nghyfraith, fel g_r i’w ferch Angelique? Byddai Thomas Diafoirus yn gwneud y tro i’r dim. Nid yw o bwys ei bod hi’n caru llanc arall, Cléante, nad yw’n feddyg. Cymaint yw obsesiwn Argan nes anwybyddu lles a chariad ei ferch, nes methu gweld trwy ffiloreg y meddygon, nes methu gweld bod ei ail wraig, y genawes Béline, yn ei dwyllo o’i arian: mae ganddi hi ei rhesymau ei hun dros wrthwynebu dymuniadau ei llysferch. Yn ffodus, nid yw pawb yn y t_ hwn yn hurt neu’n ddrygionus, ac fe gefnogir Angelique gan ei hewythr, Béralde, a chan y forwyn Toinette. Talp o synnwyr cyffredin cryf yw Béralde, sy’n ceisio dal pen rheswm â’i frawd. Fe ddadleua na ddylid credu’n ddall mewn meddygaeth a meddygon: natur yw’r meddyg gorau. Mae Toinette yn llai diplomatig. Morwyn gegog, ddigywilydd yw hi, heb flewyn ar dafod, nad oes arni ofn dweud beth yw beth wrth Argan. Dywed wrtho’n blwmp ac yn blaen ei fod yn hurt yn ceisio gorfodi priodas ar ei ferch, a’r golygfeydd rhyngddi hi a’i meistr yw’r rhai mwyaf doniol a ffarsaidd. Yn y diwedd, perswadir Argan i wneud rhywbeth mwy llesol iddo na llyncu ffisig, sef gwylio comedi dda gan Moliére: sef Doctor Di-glem.
Yn hon, fe wêl Argan adlewyrchiad megis o’i sefyllfa ei hun. Unwaith eto, gwelir teyrn o dad, Géronte, sy’n nadu i’w ferch Lucinde briodi ei chariad anghenus Léandre. Mewn gwrthryfel, mae hithau’n smalio colli ei lleferydd. Gan na all ei thad ddisgwyl y bydd ar neb eisiau priodi mudan, dyma Géronte yn anfon ei was Valère i chwilio am feddyg i’w hiacháu. Daw ar draws Sganarelle, gwladwr di-ddysg a di-glem, a chymryd (ar air gwraig ddialgar hwnnw) ei fod yn feddyg tan gamp. Gorfodir ef i dderbyn yr her, ac fe gaiff arian mawr gan Géronte trwy baldaruo jargon meddygol annealladwy; daw Léandre gydag ef fel apothecari; nid rhyfedd i’r doctor di-glem hwn lwyddo’n rhyfeddol – yn rhy dda efallai! Ceir diweddglo dedwydd, wrth gwrs, a ‘does ond gobeithio y bydd y gwyliwr Argan yn dysgu ei wers o’r hyn a welodd.
Ceir dychan ar feddygon a meddygaeth mewn comedïau eraill gan Molière: yn ei Dom Juan (1665) ceir Sganarelle yn smalio bod yn ddoctor ac yn clywed ei feistr yn dweud wrtho nad yw fymryn yn waeth na meddygon ‘go iawn’. Yr oedd meddygon, gyda’u gwisg neilltuol ryfedd a’u haraith yn frith o jargon ac o ymadroddion Lladin annealladwy, yn destun sbort dibynadwy i bob dychanwr. Yng nghyd-destun ei oes, roedd dychan Molière arnynt yn ddealladwy. Ceid gradd mewn meddygaeth yn y Brifysgol, trwy ddysgu ar dafodleferydd dalpiau Lladin o lyfrau Aristotlys, Hippocrates a Galen – awdurdodau a oedd yn ganrifoedd ar ei hôl hi. Gwrthwynebid pob darganfyddiad newydd, megis cylchrediad y gwaed, yn ddi-ildio. Ceidwadaeth oedd piau hi. Nid oedd sail arbrofol na gwyddonol i feddygaeth: ni fyddai darpar-feddygon yn astudio’r corff dynol ar y bwrdd difynio, nac yn cynnal arbrofion, nac ychwaith yn gwneud llawdriniaethau o fath yn y byd – gadewid hynny i’r llwafeddygon a ddirmygid ganddynt. Yr oedd gallu tynnu horosgop yn rhan hanfodol o grefft y meddyg. Defnyddid cyffuriau megis opiwm, heb syniad sut yr oeddynt yn gweithio. Y prif driniaethau oedd gwaedu’r claf, ac oni wellhâi, ei waedu drachefn: yr oedd hyn yn aml yn farwol, wrth gwrs, ond anwybyddid y ffaith annifyr hon. Triniaethau cyffredin eraill oedd rhoi enema a ffisig i weithio’r corff yn aml.
Heddiw mae meddygon a meddygaeth yn uwch eu parch a’u bri nag erioed. Credwn yn ein meddygon fel y credem yn ein offeiriaid gynt; wedi’r cwbl, heddiw mae sail wyddonol i fedygaeth. Eithr nid anffaeledig mohoni (cofier am y cyffur erchyll thalidomid) ac mae’n ffydd ninnau yn y moddion a lyncwn heddiw yr un mor gibddall ag eiddo Argan. Ar ôl tair canrif, ni ddyddiodd neges Molière yn llwyr.
Y tu hwnt i’r dychan ar feddygon, gellir synhwyro cocyn hitio arall. Gyda’i wisg neilltuol, ei addysg prifysgol, ei fformiwlâu Lladin a’i fymbo-jymbo, ei drahauster a’i dra-arglwyddiaeth ar y teulu, onid yw’r meddyg yn rhyfeddol o debyg i’r offeiriad? Yr un oedd y sail i’w grym: yr apêl at draddodiad ac at hen destunau cysgredig na feiddid mo’u hamau. Ni feiddiasai Molière ddychanu’r Eglwys na’i hoffeiriad wrth gwrs: ond eisioes yn 1663 yr oedd ei Êcole des Femmes (Ysgol y Gwragedd) wedi creu helynt trwy roi’r argraff o fod yn gableddus; gwaharddwyd ei Le Tartuffe (Y Rhagrithiwr) (1664) am i’r gomedi awgrymu bod pawb a ymddygai’n grefyddol, naill ai’n rhagrithiwr neu’n bendafad hurt; a bu i’w Dom Juan (1665) gryfhau’r argraff fod Molière yn gwatwar crefydd. Mae lle i dybio mai yn y bôn, sgeptig oedd Molière, amheuwr pob ideoleg drahaus a godai ofn ar bobl a cheisio tra-arglwyddiaethu arnynt.
Yn gymysg â’r slapstic, y cega, y ffraeo, y colbio a’r cicio penolau, yr oedd comedïau Molière yn cynnwys dychan ar ffolinebau dynion ac ar ffasiynau’r oes. Heddiw, cymerwn yn ganiataol mai dyna a wna comedi ar ei gorau. Ond yn ei ddydd, bu Molière yn arloeswr: efe a greodd gomedi fel y syniwn ni amdani heddiw. Chwaraeid ‘comedïau’ cyn ei gyfnod ef, wrth gwrs, ond gan amlaf nid peri chwerthin oedd eu bwriad. Dramâu ysgafn oeddynt, yn dangos hanes carwriaeth yn datblygu er gwaethaf camddealltwriaethau a rhwystrau, hyd at ddiweddglo dedwydd. Nid oedd ynddynt ddychan gymdeithasol, na thrafodaeth ar syniadau (fel a geir rhwng Argan a Béralde) ac ni cheid un cymeriad mawr comig yn ganolbwynt. Ceid ambell olygfa ysmala rhwng gwas a morwyn, efallai, ond dyna’r cwbl. Un feirniadaeth (ymhlith eraill) a anelwyd at Molière ar gychwyn ei fri, oedd iddo ‘wneud hwyl am ben pobl barchus’ ac iddo ‘ddifetha comedi wirioneddol’. Er nad ystyrid Molière yn ystod ei oes yn llenor o fath yn y byd – ni fu erioed sôn am ei ethol yn aelod o’r Académie Française, er enghraifft – eto wedi ei farw yn 1673 (ar ddiwedd pedwerydd perfformiad Y Claf Diglefyd), gwelwyd maint y golled. Molière o hyd yw’r dramodydd Ffrengig a berfformir amlaf. Nid oedd machlud ar ei theatr, ef yw prif atyniad y Comédie Française, theatr genedlaethol Ffrainc, ac ni phaid dramodwyr ag addef eu dyled iddo ac i’w cyhoeddi eu hunain yn etifeddion iddo. Yn Lloegr, yr Eidal, yr Almaen, Denmarc ac yn agos pob gwlad arall yng Ngorllewin Ewrop, comedïau Molière a gymerwyd yn fodelau ac yn sail i gomedi yn y gwledydd hynny. Anodd enwi comedïwr arall a enillodd y fath glod ac a gafodd yr un dylanwad y tu allan i’w famwlad ei hun. Bellach daeth cyfle i ninnau yng Nghymru ddod i fwynhau ei ddawn a’i ddoniolwch.
awdur:Bruce Griffiths
cyfrol:383, Tachwedd 1994
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com