Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Pinter a Iaith dan Ormes

Ddechrau Hydref roedd y dramodydd Harold Pinter yng Nghaerdydd, yn darllen ac yn trafod ei ddrama Mountain Language, syn ymdrin gormes ieithyddol. Roedd EMYR EDWARDS yno.

Ar nos Wener, Hydref 7fed, yr oedd Harold Pinter yng Ngwestyr Royal yng Nghaerdydd, yn cynnal sesiwn dan nawdd Amnesty International fel rhan o _yl Lenyddol Caerdydd. Darlleniad oedd ganddo oi ddramodig Mountain Language, yntaun cymryd rhan yr holl gymeriadau, ac yna drafodaeth gydar gynulleidfa fawr oedd yno ar natur y sgript. Lledodd y drafodaeth i gynnwys yr haen wleidyddol sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ei waith dros y blynyddoedd, ac yn arbennig yn y ddramodig uniongyrchol wleidyddol hon.

Fe dyfodd y syniad ar gyfer Mountain Language o ymweliad y dramodydd Thwrci, lle bun trafod gydar Cwrdiaid ormes y Twrciaid sydd yn graddol geisio eu dilyn oddi ar fap y byd. Rhan or gormes yma ywr ymgais i ddileu iaith y Cwrdiaid. Dangos y modd y mae militariaeth yn gweithredur fath ormes y mae Mountain Language. Nid yw wedii lleoli yn Nhwrci nac yn sn am y Cwrdiaid, ond maen ymdrin sefyllfa syn berthnasol i unrhyw fan yn y byd lle mae dynion yn gormesu ei gyd-ddyn, am ba bynnag reswm. Maen ddramodig fach ysgytwol.

Ar ddechraur ddrama y mae gwerinwragedd wedi aros am oriau y tu allan i garchar er mwyn gweld eu dynion syn gaeth y tu mewn. Mae milwyr yn cadw golwg ar y gwragedd. Mae un hen werinwraig yn disgwyl i gael gweld ei mab. Cafodd hi ei chnoi gan gir milwyr. Mae gwraig ifanc hyddysg yno hefyd, hithaun disgwyl i weld ei g_r. Mae hin herior milwyr yngl_n chyflwr yr hen wraig, ac maent hwyn ei gwawdio hi, gan arddangos ochr anifeilaidd a chras iw cymeriadau. Yn yr ail olygfa, maer hen werinwraig yn ceisio siarad i mab yn eu hiaith eu hunain, iaith y bryniau, ond yn cael eu hatal. Yn y drydedd olygfa, y maer wraig hyddysg yn gorfod wynebu ei g_r sydd wedi ei arteithio. Yn y bedwaredd olygfa, y mae mab y werinwraig yntau erbyn hyn wedi ei arteithio, yn ceisio siarad i fam. Mae milwr, or diwedd, yn dod r wybodaeth y gall y gwerinwyr siarad eu hiaith oherwydd newid yn y rheolau. Maer fam ar mab yn awr yn cael siarad iaith y bryniau. Ond maer fam wedi ei thrywanun fud gan holl erchylltrar sefyllfa. Mae ei mudandod hithau yn siarad cyfrolau ar derfyn y ddrama hon.

Yn y sgript wreiddiol yn Saesneg, ac mewn fersiwn ohoni yn y Gymraeg, nid oes gwahaniaeth iaith yn neialog y gormeswyr ar sawl sydd yn cael eu gormesu. Canolbwyntio ar y syniad ar weithred o ormesu a wneir, yn hytrach na chyflwyno un iaith yn gormesur llall.

Rydw i wedi cael y profiad o gynhyrchu Mountain Language mewn tair gwahanol ffurf gyda myfyrwyr, sef yn y Saesneg gwreiddiol, mewn cyfieithiad Cymraeg, ac yna yn y Saesneg ond gan adael ir mab ai fam, sydd yn cael eu gwahardd rhag siarad eu mamiaith, lefaru yr ychydig ddeialog sydd ganddynt hwy yn y Gymraeg.

Yn y ddwy fersiwn gyntaf yn y Saesneg wreiddiol ac yn y Gymraeg, canolbwynt y ddrama oedd y trais geiriol a chorfforol, ar gormes meddyliol. Ond wrth berfformior ddrama yn y ddwy iaith, gan adael ir Saesneg fod yn iaith y gormeswyr, ar Gymraeg fod yn iaith y sawl a ormesir, y mae canolbwynt y ddrama yn newid yn llwyr, wrth ir gormes ieithyddol gael y flaenoriaeth.

Soniais wrth Pinter am hyn, gan ofyn iddo beth oedd ei adwaith at y fath driniaeth oi ddrama. Atebodd y buasai wedi hoffi gweld y cynhyrchiad dwyieithog. Gofynnodd wedyn a oedd y gormes yman nodweddiadol o sefyllfar iaith yng Nghymru. Ymatebodd rhai yn y gynulleidfa drwy gyfeirio at y Welsh Not yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tra soniodd eraill am enghreifftiau or Gymraeg yn cael ei sathru heddiw hefyd, ym myd masnach a busnes.

Nid oedd Pinter, maen amlwg, yn ymwybodol o gwbl or sefyllfa ieithyddol yng Nghymru. Y mae gormes, fodd bynnag, yn rhan oi brofiad fel Iddew ac yntau, pan oedd yn llanc yn ystod y rhyfel yn Llundain, wedi cael ei fygwth gan gangiau o blant Ffasgaidd ar y strydoedd. Y mae gormes a thrais yn trydar ac yn sisial o dan yr wyneb, ac ar brydiaun ffrwydro i fywydaur cymeriadau yn ei ddramun gyffredinol. Mountain Language, meddai Pinter yn ystod y drafodaeth yng Nghaerdydd, yw ei waith mwyaf uniongyrchol wleidyddol hyd yn hyn.

Mewn fersiwn ddwyieithog y maer ddrama yn sicr yn magu arwyddocd syn berthnasol iawn in hamgylchiadau an hir brofiad ni yng Nghymru.

awdur:Emyr Edwards
cyfrol:383, Tachwedd 1994

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk