Trin Geiriau Heb Greu Theatr
Aeth SÊRA MOORE WILLIAMS i gynhadledd dramodwyr benywaidd yn Awstralia gan ddisgwyl cael ei hysbrydoli. Ond cafodd fod yno fwy o ideoleg nag o theatr gyffrous, arbrofol.
Yn Awstralia,Ewrop, a’r Unol Daleithiau, mae rhwng 60% a 80% o gynulleidfa theatr yn ferched. Yn ein systemau Prifysgol mae 80% o’r rhai sy’n astudio theatr yn ferched. Serch hynny, mae llai na 10% o’r dramâu sy’n cael eu llwyfannu wedi’u sgrifennu gan ferched, a llai byth yn cael eu cyfarwyddo gan ferched.
Yn ystod mis Gorffennaf eleni bûm yn ddigon ffodus i allu teithio, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Cyngor Prydeinig, i Adelaide, Awstralia, ar gyfer y drydedd gynhadledd ryngwladol i ddramodwyr benywaidd. Roedd yno ddramodwyr a phobl theatr o bedwar ban byd a minnau’n teimlo’n ddi-nod iawn ymysg pobl fel Joan Littlewood o Loegr, Peggy Phelan, academydd theatr blaengar o Efrog Newydd, Fatima Dyke, un o brif ddramodwyr gwleidyddol De Affrica, Kim Kum Hwa, shaman o Korea, a Robyn Archer o Awstralia.
Roedd rhaglen y gynhadledd wedi’i chynllunio i fod yn llawer ehangach na chyfres o drafodaethau yngl_n â chydraddoldeb a rhagfarn, ond serch hynny dyna’r is-destun a wthiai’r agenda, yn anorfod mae’n si_r, tuag at fod yn un wleidyddol, er braidd yn ystrydebol ar adegau.
Yn ôl pob tebyg bu’r gynhadledd gyntaf, yn Buffalo yn 1988, yn gyfle i ferched ledled y byd drafod anawsterau sgrifennu dramâu mewn byd llawn rhagfarn rywiol amlwg. Bu’n rhyddhad i lawer sylweddoli fod pawb yn yr un cwch i ryddhau helaeth, ond fod merched yn mynnu ac yn llwyddo i barhau gyda’r gwaith er gwaethaf sefyllfaoedd anodd. Roedd yn gynhadledd o rannu profiadau, o longyfarch, ac o ddathlu’r goroesi.
Roedd yn ail gynhadledd, yn Toronto, yn 1991, yn hollol wahanol. Gyda charfan gryf o chwiorydd ‘gwleidyddol gywir’ yn bresennol, prif ddadl y sesiynau, ymddengys, oedd mai merched oedd yr unig ddeunydd addas ar gyfer gwaith dramodwyr benywaidd; mai profiad merched oedd yr hyn ddylai fod yn cael ei wyntyllu, ac mai estheteg a llais benywaidd oedd yr hyn roeddent am ei ddarganfod. Yn wir, roedd awgrym cryf fod unrhyw un na ddilynai yr ideoleg hon yn bradychu’r achos.
Eleni y bwriad oedd cymryd y syniad o fodolaeth llais a phrofiad unigryw fenywaidd yn ganiataol, ac ystyried dylanwad traddodiadol ar y gwaith yn ogystal â dylanwad rhyw a rhywioldeb. Serch hynny fe fynnodd rhai gorddi’r dyfroedd eto fyth trwy feiddio crybwyll fod rhyw dramodydd yn amherthnasol. Crefft oedd yr elfen hanfodol, meddai rhai, beth bynnag oedd rhyw’r dramodydd.
Yn anffodus, prin oedd y drafodaeth am unrhyw elfen o grefft ynghanol y dadlau ideolegol, a go elfennol oedd y gosodiadau a gafodd eu gwneud. Wrth greu cymeriad ar gyfer y theatr, boed ferch, dyn neu fochyn, y peth hanfodol yw creu cymeriad cymhleth, meddai Deborah Levy, o Loegr. Diolch Lloegr ...
Er bod yr ystod o brofiad bywyd a phrofiad sgrifennu yn y gynhadledd yn aruthrol o eang, roedd y trafodaethau yn tueddu i droedio hen dir, a phrin iawn, hyd y gwelwn i, oedd y bobl hynny oedd wedi ystyried y posibiliad o ddelio gyda phroblemau ideolegol yn nhermau ffurf corfforol darn o theatr yn hytrach na thrwy themâu neu ddeialog. Fe fyddai techneg syml Brith Gof, yn Cusanu Esgyrn – gwahanu’r ddau ryw, a gosod y ddau grwp mewn gwahanol berthynas gorfforol â’r perfformiad er mwyn rhoi gwahanol brofiad o thema, sef rhyfel , i’r dynion a’r merched yn y gynulleidfa – wedi bod y syniad hollol chwyldroadol i’r rhan fwyaf o’r dramodwyr oedd yn bresennol. Trueni nad oedd modd i waith o Gymru gael ei arddangos yn yr _yl.
Ar adegau roedd ffurfiau theatr cyfarwydd, megis rifiw, yn cael eu defnyddio gan grwpiau fel Sistreno Jamaica, a Spider Woman o ganolbarth America, gyda’r egni a’r arddeliad sy’n tyfu allan o angen gwirioneddol, tyngedfennol mewn rhai achosion efallai, i gyfathrebu gyda grwp neilltuol o bobl. Ar adegau felly roeddwn yn cael fy atgoffa o wir nerth a phwrpas theatr, a phwysigrwydd y cyfrwng mewn gwlad fel Cymru.
Ar y cyfan, fodd bynnag, roedd yr arlwy theatrig, yn enwedig felly’r toreth o waith o Ganada, yr Unol Daleithiau ac Awstralia, yn ymddangos yn ddigyfeiriad a dirym gyda’r eithriadau prin o waith wedi’i ddatblygu o ffurfiau traddodiadolo theatr, gan frodorion y wlad gan amlaf. Heb os roedd pobl yn y gynhadledd oedd yn gallu trin geiriau, ond welais i, yn bersonol, ddim llawer o dystiolaeth o’r gallu i greu theatr.
Cefais fy synnu, yn Adelaide, i ddarganfod, trwy gymhariaeth, fod theatr arbrofol trwy gyfrwng y Gymraeg yn fyw ac yn iach. Credaf ein bod, yn ferched ac yn ddynion sy’n rhan o’r arbrofi, ar y cyfan yn gyfoethog o ran profiad a gweledigaeth o’i gymharu â ... wel, gweddill y byd! Roeddwn yn disgwyl cael fy ysbrydoli gan waith pobl eraill yn Adelaide, ac yn hynny o beth fe ges i fy siomi, ond fe ddois i yn ôl yn sylweddoli cymaint ryden ni’n ei wybod, ac roedd hynny’n wers annisgwyl ond calonogol iawn.
Mae Sêra Moore Williams yn sgrifennu ac yn cyfarwyddo dramâu ac newydd gael ei phenodi’n diwtor gwaith ymarferol Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Cymru Aberystwyth.
awdur:Sera Moore Williams
cyfrol:383, Tachwedd 1994
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com