YR ARDDELIAD YN ÔL
Chwarae’r Diawl (Bara Caws) Sgript: Mair Gruffydd; Cyfarwyddwraig: Sian Summers
Does ryfedd fod ofergoeliaeth yn dal i wau ei swyn am hyd yn oed y mwyaf rhesymol yn ein plith ar nosweithiau hirlwm y gaeaf, lle mae cysgodion y corneli yn cynnig mwy o ddrama yn aml nag aflafaredd y set deledu.
Dyna obaith cynhyrchiad diweddaraf Bara Caws, mae’n debyg, wrth lwyfannu drama Mair Gruffydd am arferion rhamanta calan gaea’ ail hanner y ganrif ddiwethaf, yn ystod y mis ‘dim byd’ hwn cyn i’r Dolig ddechrau gafael o ddifri’. Yr oedd Neuadd JP, Bangor yn llawn, beth bynnag.
Roedd y daflen hysbysebu yn cynnig rhywbeth gwahanol iawn i’r arlwy wleidyddol gyfoes a gynigwyd yn ddiweddar. Dyma ddrama wedi ei lleoli mewn oes wahanol iawn i’n hoes ni, drama yn ymwneud â chredoau cefn gwlad sydd wedi diflannu i bob pwrpas, drama oedd yn seiliedig ar arferion anghyfarwydd.
Yn dilyn yr ymateb anffafriol braidd a gafodd Lawr y Lôn, ai peth doeth oedd i’r cwmni fentro i’r tir yma? Mae cyflwyno gwybodaeth yn gallu bod yn gymaint o lyffethair mewn dram hanesyddol. Ac wedyn dyna’r ansicrwydd ychwanegol o geisio mynd i’r afael â phwnc haniaethol fel y goruwchnaturiol drwy gyfrwng sydd mor goncrid a daearol ei bosibiliadau â’r llwyfan. Mae cynulleidfa fodern wedi cael ei magu ar effeithiau technegol arbennig y sinema, ac yn ei chael hi’n anodd cyfaddawdu. Dipyn o her i’r cwmni, felly!
Ond bod yn fentrus a beiddgar yw’r hyn sy’n nodweddu Bara Caws. A thrwy gyfuno sgript safonol, cyfarwyddo goleuedig ac actio graenus, bu’r ymgais arbennig yma yn llwyddiant diamheuol yn fy llyfra’ i.
Yn gyntaf, mae yma stori afaelgar: mam ifanc wedi ei hesgymuno o’i chymdeithas, yn ‘troi o gwmpas’ y fynwent galan gaea’ er mwyn cael gweld wyneb ei gwir gariad. Gobaith Ann Huws (Catherine Ann) yw gweld mai Now Wilias yw’r dyn sydd wedi ei dynghedu iddi, ond ‘g_r bonheddig’ go wahanol sy’n croesi ei llwybr yn y fynwent fin nos. Mae yma forwyn laeth ddiniwed (yn nhraddodiad ‘Tessof the D’Urbevilles’ mae’n si_r!) sy’n agored iawn i gael ei siglo gan ddylanwadau cnawdol ac ysbrydol. Mae Now Wilias, y g_r bonheddig a’r hen Garadog (Maldwyn John sy’n chwarae’r amryfal weddau ar y Diafol) yn defnyddio ei diniweidrwydd i’w pwrpas eu hunain. Mae trasiedi ar droed. A dweud y gwir, mae hon yn gymaint drama am bwer dros unigolion ar lefel ddynol ag ydi hi ar lefel ysbrydol, gosmig. Tanlinellir elfennau cignoeth cefn gwlad, i roi hygrdedd pellach i’r awgrym o’r goruwchnaturiol. Mae’r ddrama yn gweithio ar lefel seicolegol hefyd, heb orfod disgyn i felodrama dangos yr ysbrydol ar lwyfan. Oes, mae modd goresgyn cyfyngiadau pob cyfrwng!
Mae cymeriadau Chwarae’r Diawl yn argyhoeddi. Nid oes unrhyw gymeriad yn syrthio i fagl ystrydeb. Nid yw Catrin y forwyn laeth (Manon Prysor) yn ddilychwin. Mae Ann Huws yn bortread o ferch unig sydd angen sylw dyn i’w chynnal, waeth pa mor llac yw llinyn ei blwmar! Buan mae rhywun yn sylwi mai cnawdoliad arall o’r Diafol yw’r hen Garadog drewllyd, ond mae yma elfennau andros o hoffus yn ei gymeriad yntau. Er fod Now Wilias (Merfyn Jones) yn gallach ac yn fwy rhesymol na neb, gwelwn ei fod yn hunanol, ac yn gwbl ddidrugaredd wrth edrych ar ôl ei fuddiannau ei hun. A, Duw a’m gwaredo, mae’r g_r bonheddig / dyn drwg ei hun yn gallu dweud gwirionedd mawr am ragrith y meidrolion hunangyfiawn sy’n cymryd arnynt eu bod yn ffieiddio pwerau’r Fall. Y Diafol sy’n cael y gair olaf am y tro, mai ‘Duw cariad yw. Ond cythrel o beth ydi cariad’.
Rhaid canmol safon y sgript. Mae cael sgript raenus fel chwa o awyr iach y dyddiau yma, pan fo cymaint o’r ddeialog a welwn ar lwyfan ac ar sgrin deledu yn fratiaith ddiflas. Llwyddodd Mair Gruffydd i greu naws y cyfnod i’r dim, sgwrsio cymeriadau yn perfio gydag ymadroddion oedd wedi eu plannu’n ddwfn yn ofergoeliaeth cefn gwlad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r dywediadau weithiau’n angor iddynt mewn byd tywyll nad ydynt yn ei ddeall, dro arall yn arf gymdeithasol, yn fodd i fygwth eraill a’u cadw mewn trafn. Hercia’r ddeialog yn annifyr ond hynod lwyddiannus rhwng arswyd a choegni, yn rhoi cyfle gwych i actor fel Maldwyn John gael cyflwyno deuoliaeth sinistr y syniad o ddiafol.
Ddywedwn i mai grym y geiriau sy’n gwneud y ddrama yn wirioneddol frawychus ar brydiau. Ond yn ogystal, golyga cyfarwyddo Siân Summers fod yr adeiladwaith yn gadarn, a’r tensiwn yn cael ei greu’n gelfydd. Ceir amrywiaeth yn natur a hyd golygfeydd: trafodaeth reit lawn rhwng dau gymeriad, ymson ac yna olygfa cameo sy’n cyfleu cymaint mwy na geiriau weithiau.
Cyfrannodd yr effeithiau arbennig yn helaeth i’r cynhyrchiad yma, gan ddigoni disgwyliadau’r gynulleidfa fodern, ddywedwn i. Er mai set weddol syml sy’n anochel wrth i gynhyrchiad orfod teithio mor helaeth â Chwarae’r Diwal gall goleuo sensitif drawsnewid golygfa yn gyfan gwbl. Manteiswyd ar bod cyfle i ddefnyddio golau i’w lawn botensial. Ar y cyfan, yr oedd yr effeithiau sain yn cydweithio’n dda â’r goleuo, ond teimlais nad oedd techneg y trosleisio yn taro deuddeg bob tro – swniai braidd yn amrwd ac amaturaidd ar brydiau. Ond nid oedd yn ddigon i amharu ar fy mwynhad o’r perfformiad.
‘Lle mae’r arddeliad?’ gofynnodd Dewi R. Jones yn ei adolygiad o Lawr y Lôn yn rhifyn mis Hydref. Wel, mae’r arddeliad yn tasgu o’r cynhyrchiad diwethaf yma. Mae yma ôl ymchwil trylwyr, actio a chyfarwyddo ysbrydoledig. Nid Ffawd neu swyn tylwyth teg sy’n gyfrifol am i Chwarae’r Diawl gyfareddu ar sawl lefel.
awdur:Mared Lewis Roberts
cyfrol:359, Rhagfyr 1992
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com