DRAMATEIDDIO TWYLL
Golff (Cwmni Theatr Gwynedd) William R. Lewis; Cyfarwyddwr: Graham Laker
‘Celwydd, celwydd...’ dyfarnodd Gerallt Lloyd Owen mewn Talwrn rhyw dro, ‘ond celwydd a fynegwyd yn odidog’. Go brin bod yr un genedl yn unman sy’n ymhyfrydu’n fwy na’r Cymry yn y pleser syml o wrando ar s_n ei hiaith yn cael ei siarad, gan ddotio mor ddwys ar y ‘dweud da’. Petai neb am weld enghraifft nodweddiadol o’r genedl mewn llawn hwyl yngl_n ag un o’i hoff bleserau, byddai cynulleidfa Golff yn Theatr Gwynedd yn gweddu i’r dim, wrth iddi ymollwng i fwynhau’r Gymraeg ar ei gorau yn neialog feistrolgar yr awdur, William R. Lewis.
Nid celwydd, fel y cyfryw, yw prif sylwedd y ddrama, ond ystryw a dichell hen fwli o ddyn – Morris (J.O Roberts) – sy’n benderfynol o sicrhau caniatâd cynllunio i droi ei fferm yn gwrs golff, ar draul pob teimlad, traddodiad a threftadaeth. Ei wraig wael, Gwyneth (Valmai Jones), sy’n teimlo colled arfaethedig y fferm fwyaf: a hithau mewn cadair olwyn, a chanddi flwyddyn i fyw, mae chwalu’r fferm, hanes ei bywyd a’i hotgofion, yn cyfateb i golli’r bywyd sy’n prysur lithro o’i gafael. Mae pob perthynas sydd gan Morris yn ddefnyddiol iddo mewn rhyw ffordd: mae’n caru ar y slei efo nyrs ei wraig, Joyce (Siân James); ei ffrind Arwyn (Trefor Selway) yn gysylltiad a dylanwad pwysig iddo ar y Pwyllgor Cynllunio; a thad cariad ei ferch Ceridwen yw ei bartner busnes yn y ‘datblygiad’. Draenen fechan yn ei ystlys yw Gruff (Dewi Rhys), ei was dioglyd sydd hefyd â’i lygad ar Joyce; ond mae hwnnw hefyd dan ei fawd, gan i Morris ei hun, wrth, oedd y cariad cudd.
Ond dechreua popeth fynd ar chwâl pan ddaw Ceridwen 9Karen Wynne) adref o’r coleg a chariad newydd i’w chanlyn. Nid yn unig y mae Euros (Robin Eiddior), fel ysgolhaig ac ysgrifennwr, yn cynrychioli’r diwylliant y mae Morris yn ei ddirmygu;l y mae’n waeth nag annefnyddiol iddo, yn tanseilio a pheryglu pob agwedd ar ei gynlluniau. Fesul un, mae pob cymeriad yn dechrau dianc o grafangau Morris, a daw llygedyn o obaith. Ond gan ddefnyddio holl driciau ac ystrywiau hyll ei fyd, mae’n cael y gorau ar bob un ohonynt ac yn cael ei ffordd greulon ei hun.
Trasiedi’r sefyllfa wrth gwrs yw nad yw’r twyll a’r celwydd a ddarlunir yn y ddrama ond yn rhy real, yn rhy wir, yn y Gymru go-iawn. Eto i gyd, yng ngodidowgrwydd y mynegiant, llwyddwyd i greu comedi amheuthum, gyda llawer o sbort i’w gael ar gefn cynghorwyr pwdr, a iaith lafar gyhyrog Môn a Maldwyn yn foeth i’r glust. Anffodus o brin yw dramau llwyfan William R Lewis, ond mae’n aelod sefydlog o dîm sgriptio Pobl y Cwm; gallasem felly ddisgwyl bod safon i’r ddeialog. Cafwyd mwy na hynny; heb sôn am yr hiwmor a godai o’r dweud ei hun, tystiai pawb fod cyfoeth y ddeialog yn wir yn orchest.
Ond, yn eironig, yn yr union orchest honno y gorweddai gwendid y ddrama fel cyfanwaith. Nid dim ond deialog yw drama, a phwyslais rhai o anghenion eraill y cyfrwng yn brin yn y glorian. Ar adegau, yn lle symud ymlaen, byddai’r ddrama (a ninnau) yn tin-droi yn ein hunfan, dan gyfaredd prydferthwch iaith. Er mor hyfryd a hwyliog y ddeialog, byddem yn gwrando gormod arni i ddim ond er ei mwyn ei hun.
Roedd hyn yn rhan o broblem ehangach a ddaeth i’r amlwg tuag at y diwedd, pan welwyd bod anghydbwysedd difrifol yn holl adeiladwaith y ddrama: y ddwy act gyntaf yn rhy hir o lawer, a’r drydedd yn hynod o fyr. Clymwyd y penllinynnau yn un rhibidires, heb densiwn nac uchafbwynt iddynt, a chlywyd siom y gynulleidfa’n syth wedi’r diweddglo ffwr-bwt, Gwenlyn Parry-aidd, gyda ffôn yn canu. O’u cymharu â noethni clinigol yr act olaf, gwelwyd cymaint o afradu geiriau a fu yn y ddwy gyntaf, a hynny’n ddi-gynllun. Clywsom gymaint am ‘biso mewn bedyddfaen’ nes colli ergyd ei arwyddocâd, pan ddaw i’r amlwg mai gofal cadwriaaethwyr am eglwys hynafol ar derfyn y fferm yw’r maen tramgwydd – ac felly’r gobaith – olaf a all rwystro Morris rhag rheibio’r dreftadaeth. Aeth nifer o themâu a chymhellion pwysig ar goll fel pinynnau yng ngharped dwfn y ddeialog foethus gynnar; a chwythwyd yr ‘esboniadau’ cynnil ymaith ar draws moelni’r diweddglo, eu hystyr yn ddirgelwch byth.
Wrth gwrs, gellid rhoi’r bai am lawer o’r gwndidau hyn ar gynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd dan gyfarwyddyd Graham Laker. Tra bu iddo lwyddo i greu noson am amheuthum o gomedi gyda thriniaeth fywiog, ffwrdd-â-hi i’r cyfan, gellid bod wedi creu drama fwy effeithiol trwy sicrhau bod pwyslais priodol i’r elfennau pwysig ynghanol y bwrlwm. Anelwyd yn ormodol am y chwerthin bol; taniwyd gormod o’r actio, a’r llinellau , tuag at y gynulleidfa, fel petaem mewn panto. Aeth neb yn ddwfn iawn dan groen ei gymeriad; tueddai pawb i lefaru’n ystyrlon yn hytrach na chymeriadu mewn rhagor nag un dimensiwn. Roedd mân anghysondebau – fel rhoi Iwerddon ac Eryri yn yr un ‘cyfeiriad’ oaddi ar y llwyfan – yn tanseilio’n credinedd a rhoi’r argraff gyffredinol y gellid bod wedi cymryd ychydig mwy o amser a gofal dros bethau.
Wrth resynu na fyddai’r awdur wedi treulio mwy o amser yn chwynnu a chaboli adeiladwaith y ddrama, gellir rhannu’r gwendidau’n deg ar y ddwy ochr. Ond os am rannu bai, rhaid pwysleisio eu bod hefyd i rannu clod anghyffredin am noson o adloniant a theatr penigamp. Fel gyda Gwaed Oer Michael Povey, byddai’n dda gweld cyhoeddi Golff, dim ond ei thacluso. Ac ar y clawr, byddai llun o set John Jenkins, mor syml, mor drawiadol,mor gofiadwy: un goeden fawr, yn wyrdd ac anferth yn ei henaint. Ac oddianti, ugeiniau o beli golff cochion, coll, fel cnwd o ffrwythau a anfwytadwy wedi disgyn o’i changhennau mud.
awdur:Rhiannon Tomos
cyfrol:362, Mawrth 1993
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com