Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Actio i Agor Drysau

Cynildeb, nid egluro nawddoglyd, dyfeisgarwch, nid twyll. Dyna syn nodweddu theatr pobl ifanc ar ei gorau, meddai SIN SUMMERS ar l mynychu gwyl yn Aberystwyth

Nid ar ddamwain y bathwyd Agor Drysau fel teitl ir _yl Theatr i Gynulleidfaoedd Ifanc a drefnwyd gan Arad Goch, yn Aberystwyth ddiwedd Mawrth. Tipyn o gaedig ddr ydr maes hyd yn oed i selogion y theatr, Er, synnwn i ddim fod ganddoch chi, ddarllenwyr goleuedig Barn, ambell argrtaff or ddarpariaeth i bobl ifanc... Rhesi o bengliniau sgathredeig a wynebau cegrwth yn syllu ar rith hudol o ddiogelwch mat ar lawr efallai? Neu bregeth ar ffurf cyflwyniad llawn ystadegau am beryglon alcohol a chyffuriau? Neu ynteu arddangosfa o destunau gosod TGAU a nodweddir gan ansawdd braur gwallt gosod a sanau lliw mwstard crychlyd y prif gymeriad? Canu cloch? Wel, feu gwelais (a chymryd rhan) mewn sawl cynhyrchiad tebyg. Roedd yna elfennau yn bresennol mewn sioeau yn yr _yl. Ond mi welais hefyd theatr i chwalur ystrydebau hynny. Gwaith o brydferthwch a soffistigeddrwydd oedd ymron yn ddigon i wneud i chi ddyheu am goridoraur ysgol. Bron, ond ddim cweit...

Tyfodd y syniad am yr _yl o gynhadledd flynyddol a gynhelir er cryn amser i weithwyr yn y maes yng Nghymru. Ond pam, meddech chi, fod angen cynhadledd na g_yl o gwbl? Beth sydd yna iw drafod? Mae ymgasglu fel hyn yn gyfle prin i artistiaid theatr, gweinyddwyr ac addysgwyr fwrwr boliau, cymharu gwaith eu gilydd, dadlau ac ati. Yn anad dim, maen gyfle i ateb rhai o ofynion penodol ond mwyaf tringar creu i blant. Wedir cyfan, maer math o sensitifrwydd a gofal sydd ei angen wrth greu theatr ar gyfer meddwl syn prifio ac yn rhwydd ei fowldio, yn gofyn cryn gyfrifoldeb ac ailgloriannu. (Nid dadlau dros gyfyngu dilysu or fath i waith cynulleidfaoedd ifanc yn unig yr ydw i ychwaith. Yn wir, mi fentrwn ddweud bod yna angen tebyg ar y ddarpariaeth gyffredinol yn enwedig ers diflaniad gwyliau Hwyl a Fflag a Made in Wales.) Mae yna werth mawr i gynadleddau a gwyliau fel Agor Drysau, nid dim ond fel sbloet o sioeau ond fel fforwm i ailystyried cangen or theatr a anwyd i ddechrau o brotest ac adweithio yn erbyn confensiwn haearnaidd. Esblygiad rhesymegol, os dewr, ar ran Arad Goch felly oedd ymestyn y drafodiaeth i arena ryngwladol. Gobeithio, os agorwn dipyn o gil y drws ar beth o ddarpariaeth yr _yl y daw hin gliriach fod natur ddatblygiedig llawer or gwaith yn deillio or ystyriaeth a roddir i anghenion a chyrhaeddiad y gynulleidfa ifanc.

Un peth y maer gofynion yman esgor arno ydir dyfeisgarwch syn nodweddur gwaith drwyddo draw. Nid brolio rhyw athrylith gyffredinol syn treiddio trwy bob cwmni syn creu i blant yr ydw i, ond dwyn sylw at rywbeth syn deillio o ffactorau cwbl ymarferol. Dyna arian, yn gyntaf. Tuedda nawdd i fod yn llai nag ir sioeau prif ffrwd. Or herwydd, maen gofyn i actorion, dylunwyr, awduron a chyfarwyddwyr feddwl yn argraffiadol yn hytrach nag yn naturiolaidd wrth greu. Mae teithio parhaus yn gosod cyfyngiadau tebyg. Ond nid yw hynnyn anfantais bob tro. Yn wir, bydd defnydd celfydd o orfod a phrops syml yn aml yn rhyddhau dychymyg y plentyn i weithion galetach. Llwyddodd Bag Dancing gan Theatr Iolo er enghraifft, i oresgyn y broblem o geisio darlunio atgofion dau berson h_n tros ddegawdau lawer. Trwy gyfrwng dim mwy na rheilen ddillad a llond bag bin o ddillad, crewyd lluniau syml a thrawiadol a i at graidd pwrpas addysgol y prosiect sef tynnu sylw disgyblion 9-11 oed at anawsterau heneiddio, salwch meddwl ar duedd anarchaidd honno, yng ngeiriaur Sais, to grow old disgracefully!

Ar ei gorau, mae theatr i bobl ifanc yn cynnig her ir sefydliad ar farn gydnabyddedig: teimlad sawl cwmni yw mai rhan anhepgor ou cyfrifoldeb at eu cynulleidfa yw peidio bod yn nawddoglyd a gwyngalchu sefyllfa rhag peri loes. Dewisodd Theatr Powys y sefyllfa argyfyngus yn Bosnia ar gyfer eu harchwyliad o ryfel yn My Old Jumper. Maen waith dyrys, dros ddwyawr o hyd, syn gofyn canolbwyntio caled gan blentyn deuddeg oed. Trwy gyfrwng caethiwed tri oedolyn a phlentyn mewn byncyr tanddaearol yn y wlad maen edrych ar wraidd dynol, domestig cyflafan yn hytrach na chynnig gwers hanes neu wleidyddiaeth. Nodwedd arall a amlygir, ac un syn codin aml wrth drafod gwerth ieuenctid, ydir portread o blentyn gan actor. Yn yr achos yma, mae diniwedrwydd y plentyn yn wyneb hiliaeth a chasineb yr oedolion yn rhinwedd iw drysori yn hytrach na bod yn rhwystr rhag ymddyrchafu i rengoedd c_l yr arddegau.

Rhyfel hefyd sydd wrth wraidd drama Lucy Gough, Rushes (Arad Goch) ond o ran arddull a chyflwyniad maen wahanol iawn.O dargedu disgyblion 14-18 oed, mae bwriadau a lefel addysgol y gwaith yn newid ac yn Rushes maer awdur ar cwmnin ceisio ailasesu hanes yr Holocost drwy gyfrwng stori llanc a merch ynghlo mewn caban ar set ffilm syn ymdrin r erchylltra. Yn addysgol, ceisiar prosiect ennyn gwrthrychedd disgyblion ynghylch ffeithiau or gorffenol a dderbyniwn fel hanes, ac maen codi cwestiynau am hawl y celfyddydau i droi dioddefaint a dinistr or fath yn adloniant. Maer rhain yn bynciau cymhleth a gynigia destun addas i golofnau golygyddol y papurau trymion. Ond trwy theatr yu cyflwynir ac o fewn rhaglen Theatr Mewn Addysg, maen hollbwysig gwarchod yr elfen greadigol honno ac ymatal rhag traethun ffeithiol. Y cyfrwng syn ildior neges felly. Yn sicr, creodd yr awdur yma sefyllfa theatrig a oedd yn cwmpasur drafodaeth fel delwedd yn hytrach na chynnig esgyrn y ddadl foel ar lwyfan yn unig.

Pan ystyriwn ni gymaint o elfennau sydd yna iw cydlynu wrth greu theatr i ieuenctid hwyrach ei bod hin haws gwerthfawrogir crefft gweithwyr syn arbenigo yn y maes. Cynigia gwaith Graffiti Theatr o Gorc enghraifft ddilys. Yn The Riddle Keeper dioeddefa merch ifanc o salwch difrifol a thrwyr ddrama dilynwn ei thaith tuag at gadernid mewnol. Ond nid math ar lyfr hunangymorth ir llwyfan ydyw; yn hytrach cawn yma daith lythrennol i fyd ffantasi syn dechrau a gorffen o dan y gwely. Cafwyd cynllun llwyfan llachar a breuddwydiol, cymeriadu tylwyth-tegaidd a llawer iawn o ffraethineb di-lol. Gellid dadlau bod ambell gyffyrddiad yn bwydo ystradebau Celtaidd cyfrinol ond dyma gwmni syn wynebur her o gyflwyno themu trymion yn fyw ac adloniadol.

Maer ddadl dros adloniant pur heb neges ddyrys yn un atyniadol ym maes theatr i bobl ifanc fel mewn theatr yn gyffredinol. Dyma gafwyd ym mroliant Els Aquilinos Teatre o Gatalunia. Syrcas hen-ffasiwn a addawyd ac fe gafwyd digon o hwyl a chlyfrwch yn y defnydd o fodel bach o syrcas llawn ffigurau o acrobatiaid a oedd yn troi ar amrantiad yn actorion ar lwyfan. Roedden ni yng ngwlad y Panto ac atgof cyntaf sawl un ohonom o theatr fyw. Hwr, meddech chi, gan estyn eich pwrs yn feddyliol i brynu Cornetto... Ond yn anffodus, enghraifft o beryglon diffyg adnabyddiaeth o gynulleidfa, a diffyg parvh tuag ati, oedd gwaith y cwmni. Plant bach iawn a ddewiswyd i ddod ir llwyfan i helpu gyda thriciau amrywiol ond prin oedd y gofal wrth eu trin. Byddaf yn hir cyn anghofio profiad un ferch a ymddangosair un faint mawd i or fan lle roeddwn in eistedd. Gofynnwyd iddi danio model o belen dn ddynol a phan atseiniodd y glec o amgylch y theatr maen wyrth na heglodd hi oddi ynon crio. Bu ond y dim i mi wneud.

Eithriad oedd gwaith y cwmni hwn ond un pwysig hefyd syn dangos maglau y gellir syrthio iddynt dim ond wrth greu sioe syml, hwyliog. Yr un oedd problemau Ar Vro Bagan o Lydaw a gyflwynodd hanes y Brenin March mewn arddull llawn asbri ond mwy treisiol na sawl oedd yn trafod trais fel thema. Er gwaetha peryglon bod yna rhy bropor, onid oes lle i sensoriaeth pan ddefnyddir trais neu regi heb ystyriaeth?

Mae sicrhaur stori ac arddull neilltuol i gyflwyno thema felly yn ffactor bwysig wrth greu i plant. Wedir cyfan, os mai dysgu trwy brofiad ywr nod rhaid saernor profiad theatrig syn adlewyrchur deunydd orau. Yn achos sioe Cwmnir Frn Wen, sef Yr Aur Gwyn, er enghraifft, tynnir y gynulleidfan syth i mewn i fyd arall wrth i giw mynediad droin giw rheolaeth passport mewn awyr yn Lesotho ble lleolir y sioe. Yn ddiweddarach, gofynnir i aelodaur gynulleidfa ddal a throelli rhuban syn cynrychiolir d_r drudfawr yno. Chwelir rith y bedwaredd wal yn aml nid i wasanaethu rhyw gysyniad marweddog ond oherwydd fod yr angen i gyffwrdd disgyblion yn y modd mwyaf byw ac uniongyrchol yn mynnu hynny.

Angen hefyd, ac nid fformat cynhadledd yn unig, a ysgogodd ddau brynhawn o drafodaethau. Ymysg y themu roedd ymdriniaeth theatr pobl ifanc rhyfel a sut roedd portreadu trais yn gyfrifol. Pwnc trafod arall oedd systemau o bwysau a mesur a dilysu gwaith cydweithwyr. Fem trawodd y byddain anodd dychmygur fath drafod agored a gonest mewn sawl cylch theatr arall. Nid ffug-wyleidd-dra ar ran yr artistiaid oedd hyn. Bwriad clir y gwaith fel arf i addysgu am hunaniaeth a chymdeithas syn pennur agenda. Hunaniaeth ddiwyllianol oedd byrdwn trafodaeth arall a hynnyn arbennig o addas gydag Aberystwyth yn berwi o bobl o bob rhan or byd. Braf o beth oedd teimlo, wrth wylior arlwy ryngwladol, bod ymwybyddiaeth y cwmnau Cymreig ou diwylliant au hamcanion theatraidd yn glir, hyderus a gwr. Hwyrach mai cryfder pennaf Taliesin (Arad Goch) oedd ei fod yn dathlu arddull Gymreig o berfformio gydag egni a lluniau llwyfan trawiadol. Bid si_r, mae yna ddiwylliant cyfoes ehangach syn gymaint rhan on cynhysgaeth, ond does bosib mai rhan o bwrpas theatr yw defnyddio ein harddulliau cynhenid fel modd o ddathlu ein hunaniaeth?

Cyn cloi, rhaid sn am berfformiad Guandaline Sagliocco sef The Story of the Fallen Hero. Dyma hunaniaeth gymysg os buodd un erioed. Gwraig o Ffrainc yn byw yn Norwy, yn creu sioe un person am fytholeg y Groegiaid a hynny yn yr iaith fain. Cawdel, ac eto nid cybolfa. Trwy lygaid diniwed morwyn y duwiau darluniwyd cynfas epig chwedlau Groeg yn gynnil a digrif. Llithrodd yr actores o un portread ir llall wrth newid ei hosgo neu ddiosg ei gwallt yn unig. A phrin bod angen iddi wneud hynny gan gymaint ei disgyblaeth gorfforol. Stori syml oedd yma, i apelio at bob oedran, medd y broliant. Yr uchafbwynt oedd hanes trasig Medean lladd ei phlant. Yn y dwylo anghywir, gallasair hanes gwaedlyd hwn am gariad yn drafod a cholled chwerw fod yn anaddas i drawsdoriad mor eang o oedrannau ond yma roedd symlder a glendid y darlun, gyda Medea fel pyped yn llawr forwyn, yn goresgyn hynny. Roedd y ddelwedd o euogrwydd a phoen yn ddirddynol o eglur.

Rhyfedd o beth efallai yw cyfeirion olaf at berfformiad a ragorai heb geisio cyfyngu apl at oedran neu thema arbennig. Croesddywediad hyd yn oed? Nid o anghenrhaid, oherwydd daw gwaith or fath o drin cynulleidfa ifanc gyda pharch haeddiannol. Oherwydd ffrwyth y parch yna, bron yn ddieithriad, yw gwaith syn finiog-amlwg wrth gyfathrebu, yn seicolegol gymhleth ac yn loyw o ddelweddau. Nid theatr syn meddwl drosoch chi, ond un syn mynnu bod rhaid magu meddwl annibynnol.

Tran cynnig rhyw elfen i sawl oedran targed felly, roedd yna rywbeth i bawb yn The Story of the Fallen Hero, ac felna y dylai hi fod. Sioe oedd yn hudo oherwydd mai cynildeb ac nid egluro nawddoglyd a geid, dyfeisgarwch ac nid twyll, delweddaeth ac nid athroniaeth dywyll. Theatr i gynulleidfaoedd ifanc ar ei gorau, oherwydd ei bod yn theatr i bawb. Ar drysau ar agor led y pen.

awdur:Sian Summers
cyfrol:401, Mehefin 1996

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk