Nid Dyma’r Ffordd
Mae drafft Cyngor y Celfyddydau o strategaeth ddrama ar gyfer Cymru yn argymell newidiadau mwy radical nag oedd neb yn eu disgwyl. Ond mae GRAHAM LAKER yn rhybuddio mai arwain at ddirywiad pellach mewn theatr sydd eisioes mewn gwendid a wnaiff y cynllunia
Yn ei Bapur Gregynog, Cyflwr y Celfyddydau, a gyhoeddwyd y llynedd gan y sefydliad Materion Cymreig, dyma sydd gan David Clarke i’w ddweud am sefyllfa’r theatr yng Nghymru ar ddiwedd y mileniwm:
Yn ein theatr ac yng ngwaith y cwmnïau theatr a chanolfannau perfformio Cymru y gellir gweld arwyddion anffodus anawsterau’n bywyd diwylliannol yn fwyaf eglur. Dros y deuddeng mlynedd diwethaf pan fûm yn gwylio theatr Cymru, nid yw’r uchelfannau yng ngwaith rhai cwmnïau penodol wedi llwyddo i guddio’r dirywiad cyson a sylfaenol mewn gweithgaredd cynaliadwy. Un o’r materion yn ymwneud â’i bywyd diwylliannol y mae’n rhaid i wlad fach bryderu amdano yw ei bod yn bosib caniatáu i ymarfer ddirywio tu hwnt i lefel cynaliadwy – a chyrraedd yn y diwedd fan lle nad oes unrhyw ymarfer o gwbl, heblaw yn ysbeidiol ac anghyson. Rwy’n ofni fod y theatr yng Nghymru yn aros at y llinell hon. Rwy’n gofidio ein bod efallai eisioes ar yr ochr anghywir iddi.
Mae David Clark wedi rhoi ei fys ar rywbeth sy’n beryg gwirioneddol: sef fod y theatr broffesiynol yng Nghymru wedi dirywio i’r fath raddau nes ei bod yn nid yn unig wedi peidio â bod yn ffurf ddiwylliannol o bwys, ond ei bod hefyd wedi diflannu’n llwyr o ymwybyddiaeth y cyhoedd. Fe allai rhywun ddweud nad yw theatr Gymraeg prin yn dod i’n sylw o gwbl heblaw unwaith y flwyddyn, efallai, yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn y deng mlynedd diwethaf, wrth i nawdd gan y llywodraeth ganolog leihau, swm a sylwedd gwaith Cyngor y Celfyddydau, a’r Byrddau a’r Paneli Drama yn arbennig, fu gwneud y gorau o’r gwaethaf. Efallai eu bod yn ceisio lliwio’r gwirionedd – ‘Wrth galon y mam yr ydym am ei gyrraedd y mae theatr broffesiynol i Gymru o’r safon uchaf a chyda’r uchelgais mwyaf posibl, sy’n cyrraedd mwy o bobl yng Nghymru a thrwy ei phoblogrwydd yn ennill cryfder economaidd a’r hyder i amrywio ei gwaith’ – ond mae’n anodd rhagweld dim, yn y dyfodol agos, heblaw dirywiad pellach mewn gweithgaredd theatr. Dyma’r cyd-destun mae’n rhaid ei gadw mewn cof wrth ddarllen Papur Ymgynghorol diweddaraf y Cyngor.
Y prif argymhelliad strategol yw symud i ffwrdd oddi wrth gefnogaeth refeniw i gwmnïau theatr tuag at sybsideiddio rhyddfreintiau tymor penodol a phrosiectau byr, unigol. Caiff y nifer o sefydliadau sy’n derbyn nawdd refeniw (h.y. y rheiny a all ddisgwyl grantiau blynyddol rheolaidd) ei dorri o ugain i ddeg neu unarddeg. O blith y cwmnïau Cymraeg, dim ond Cwmni Theatr Gwynedd, mewn rhyw fath o uniad gyda Bara Caws a argymhellir, sy’n debygol o gael statws refeniw fel Cwmni Celfyddydau Perfformio Cenedlaethol Cymru, sef enw’r Cyngor ar y sefydliad newydd a gâi ei greu trwy hynny. Ni warantir unrhyw ddyfodol i’r cwmnïau eraill – Dalier Sylw, Arad Goch, Theatr Gorllewin Morgannwg, Cwmni’r Frân Wen, Brith Gof – y tu hwnt i’r hydref eleni. Mae’n sicr y bydd rhai ohonynt yn gwneud cais am ryddfraint gyfnod penodol i ddarparu Theatr ar gyfer Pobl Ifanc neu i ddatblygu ysgrifennu newydd, ond ni fydd yna mwyach unrhyw sicrwydd tymor hir, na fawr o gyfle i gynllunio y tu hwnt i dair blynedd.
Yn yr hen ddyddiau, gêm tîm oedd theatr. Byddai cnewyllyn sefydlog o bobl yn gyfrifol am greu’r gwaith, a byddai gan gyfarwyddwyr, gweinyddwyr, technegwyr ac actorion i gyd ran mewn datblygu polisi ac arfer y cwmni. Yn y fframwaith newydd, bydd mwy a mwy o theatr yn ffrwyth ymrwymiad nifer o unigolion ar wahân, pobl a fydd yn ddigon amyneddgar i dreulio’r rhan fwyaf o’u hamser nid yn cynhyrchu’r gwaith, ond yn gwneud un cais am grant ar ôl y llall i nifer cynyddod o fân fynonellau ariannu. Dyma’r realiti eisioes i nifer o weithwyr theatr yng Nghymru: Ian Rowlands (Theatr y Byd), Sera Moore Williams (Y Gymraes), Firenza Guidi (Elan, Wales), i enwi dim ond tri. Hyn, yn awr, fydd y norm. A pheidied neb â thwyllo’i hun yngl_n â’r amser, yr ymdrech a’r gost sydd ynghlwm wrth baratoi cais am grant ar adeg pan mae’r amodau sy’n cael eu gosod gan gyrff ariannu yw fwy caeth nag erioed. Mae’n wir fod Cyngor y Celfyddydau, trwy’r arbeidion a wneir wrth leihau cefnogaeth refeniw, yn bwriadu dyblu’r arian sydd ar gael ar gyfer prosiectau yn 2000-2001, ond bydd y nifer o brosiectau a fydd yn dwyn ffrwyth yn dal yn fychan iawn: er enghraifft, un flwyddyn, pan oeddwn i’n aelod o banel asesu prosiectau’r Bwrdd Drama, roedd yr arian nawdd y gwneid cais amdano bron i ddengwaith gymaint â’r arian a oedd ar gael. Siaradwch â phobl yn y theatr sy’n dibynnu ar arian prosiect, ac mae’n rhwystredigaeth a’r dicter yn amlwg.
Nid dyma’r ffordd i sicrhau dyfodol iach i’r theatr. Pwrpas gwreiddiol grantiau prosiect oedd rhoi cyfle i newydd-ddyfodiad ddangos beth y gallent ei wneud, a sicrhau trallwysiad cyson o waed newydd i’r proffesiwn. Unwaith yr oedd cyfarwyddwr neu gwmni newydd wedi profi bod angen artistig go iawn yn cael ei ateb, disgwylid y câi’r gwaith ei annog a’i ddatblygu trwy nawdd a gâi ei adnewyddu, nid o angenrheidrwydd ar sail barhaol, ond o leiaf dros gyfnod o rai blynyddoedd neu gyfres o brosiectau. Mae hyn yn dra gwahanol i’r senario newydd lle mae pawb, ‘waeth pa brofiad sydd ganddynt na pha mor llwyddianus fu eu gwaith yn y gorffennol, yn gorfod dechrau o’r dechrau ar sail prosiect wrth brosiect. Mae’n sicr o arwain at anniddigrwydd: bydd y rhai a fyddai, mewn dyddiau gwell, wedi bod yn arloeswr artistig, ac yn arwain y gad ym myd y theatr, yn cael digon ac yn troi cefn.
A fydd unrhyw un yn elwa os caiff y strategaeth newydd hon ei gweithredu? Ar yr wyneb, y rhai a fydd ar eu hennill fydd y ddau Gwmni Celfyddydau Perfformio Cenedlaethol: Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug (dim syndod yn y fan yna) a chonsortiwm Cymraeg yng Ngwynedd. Efallai y bydd yn achos boddhad, yn arbennig i’r Gogs yn ein plith, fod y ddau gwmni yma wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru ar adeg pan mae mwy a mwy o weithgaredd cymdeithasol a diwylliannol yn troi o gwmpas Caerdydd, ond mae darlleniad manylach o’r ddogfen yn peri pryder. Y peth mwyaf arwyddocaol yw’r datganiad na ddylai’r cwmni Cymraeg ddisgwyl cael yr un arian â’r cwmni Saesneg. Mae yna addewid o dros filiwn o bunnau’r flwyddyn i Theatr Clwyd; ni ddywedir faint fydd y chwaer-gwmni Cymraeg yn ei dderbyn, er fod sïon diweddar – ffynhonnell arferol pob gwyddoniaeth am drafodaethau Cyngor y Celfyddydau – yn awgrymu ffigwr sy’n hanner y swm hwnnw. Fel yr wyf wedi dweud mewn man arall, peth gweddol ddiweddar yw’r anghyfartaledd dybryd hwn rhwng y nawdd i’r theatr Saesneg a’r nawdd i’r theatr Gymraeg. Mae yna eisioes drafodaeth fywiog iawn, os nad chwerw, am bron bopeth sydd yn y Papur Ymgynghorol. Ymhlith yr holl faterion eraill, rwy’n mawr obeithio y bydd y Cyngor, pan gyhoeddir y ddogfen derfynol, yn barod i gyfiawnhau’n gyhoeddus pam y dylai’r theatr Saesneg dderbyn dwywaith gymaint o arian â’r theatr gyfatebol Gymraeg. Ond mae’n debyg mai ofer yw fy ngobaith: mae’n amheus gen i a oes gan y Cyngor ateb.
awdur:Graham Laker
cyfrol:424, Mawrth 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com